xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
47.—(1) Rhaid sefydlu cyfrif pensiwn ar gyfer pob aelod actif (P) sy’n gwneud dewisiad pensiwn ychwanegol.
(2) Os yw P yn aelod actif mewn perthynas â mwy nag un gyflogaeth gynllun, un cyfrif pensiwn ychwanegol yn unig sydd i’w agor.
(3) At ddibenion y Rheoliadau hyn, gelwir cyfrif a sefydlwyd o dan baragraff (1) yn gyfrif pensiwn ychwanegol.
48.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â phob blwyddyn gynllun pan fo dewisiad pensiwn ychwanegol yn cael effaith.
(2) Rhaid i’r cyfrif pensiwn ychwanegol bennu, mewn perthynas ag unrhyw daliadau pensiwn ychwanegol a wnaed yn y flwyddyn gynllun dan sylw, swm y pensiwn ychwanegol a benderfynwyd gan y rheolwr cynllun o dan baragraff 11 neu o dan baragraff 14 o Atodlen 1 (taliadau ar gyfer pensiwn ychwanegol) sydd i’w credydu mewn cysylltiad â’r flwyddyn gynllun honno.
49.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â phob blwyddyn gynllun pan fo cyfrif pensiwn ychwanegol ar agor, ac eithrio’r flwyddyn gynllun pan sefydlwyd y cyfrif.
(2) Rhaid i’r cyfrif bennu—
(a)y balans agoriadol o bensiwn ychwanegol ar gyfer y flwyddyn gynllun a’r addasiad mynegai DPC ar gyfer y balans agoriadol hwnnw;
(b)os yw’n gymwys, yr ychwanegiad oedran a ddyfarnwyd ar ddechrau’r flwyddyn gynllun.
(3) Ystyr “balans agoriadol” (“opening balance”) o bensiwn ychwanegol yw—
(a)yn achos y flwyddyn gynllun sy’n dilyn yn union ar ôl y flwyddyn gynllun y sefydlwyd y cyfrif pensiwn ychwanegol ynddi, swm y pensiwn ychwanegol fel y’i pennid yn y cyfrif ar ddiwedd y flwyddyn gynllun flaenorol; a
(b)yn achos unrhyw flwyddyn gynllun ddilynol, cyfanswm y symiau canlynol—
(i)balans agoriadol y pensiwn ychwanegol am y flwyddyn gynllun flaenorol,
(ii)yr addasiad mynegai DPC (os oes un) ar gyfer y balans agoriadol hwnnw,
(iii)os yw’n gymwys, yr ychwanegiad oedran a ddyfarnwyd ar ddechrau’r flwyddyn gynllun flaenorol, a
(iv)swm y pensiwn ychwanegol am y flwyddyn gynllun flaenorol fel y’i pennid ar ddiwedd y flwyddyn gynllun flaenorol.
50.—(1) Os oes gan aelod actif (P) gyfrif pensiwn ychwanegol, rhaid i’r cyfrif pensiwn ychwanegol barhau ar agor—
(a)hyd nes bo P wedi hawlio pensiwn ymddeol a swm y pensiwn ychwanegol wedi ei drosglwyddo i’r cyfrif ymddeol neu’r cyfrif aelod gohiriedig; neu
(b)hyd nes gwneir taliad gwerth trosglwyddiad mewn cysylltiad â hawliau P i’r pensiwn ychwanegol cronedig; neu
(c)pan fo trosglwyddiad o gofnodion y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) wedi ei gwblhau.
(2) Pan fo rheolwr cynllun wedi darparu tystysgrif o dan reoliad 155 (gofyniad bod rheolwr cynllun yn darparu tystysgrif) mewn cysylltiad â chyfrif pensiwn ychwanegol, rhaid i’r rheolwr cynllun newydd sefydlu cyfrif pensiwn ychwanegol a throsglwyddo’r cofnodion o’r dystysgrif honno i’r cyfrif hwnnw.
51.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys os yw—
(a)pensiwn ychwanegol yn daladwy gyda dyfarniad afiechyd; a
(b)y dyfarniad afiechyd yn peidio â bod yn daladwy o dan reoliad 78 (canlyniadau adolygu).
(2) Rhaid i’r cyfrif pensiwn ychwanegol gael ei ailsefydlu a’i gredydu â swm hafal i’r gyfradd flynyddol o bensiwn ychwanegol a dalwyd i’r aelod-bensiynwr yn y flwyddyn gynllun olaf cyn peidio â thalu’r dyfarniad afiechyd i’r aelod.