xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3Aelodaeth o’r cynllun

PENNOD 1Cymhwystra ar gyfer aelodaeth actif

Cyflogaeth gynllun

15.—(1At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae person mewn cyflogaeth gynllun os yw’r person hwnnw yn gyflogedig fel diffoddwr tân gan awdurdod ac yn bodloni’r gofyniad ym mharagraff (2) neu baragraff (3).

(2Mae person a ddaeth yn gyflogedig ar neu ar ôl 1 Ebrill 2015 yn bodloni’r gofyniad yn y paragraff hwn os yw rôl y person hwnnw pan yw’n ymgymryd â’r gyflogaeth yn cynnwys—

(a)datrys digwyddiadau gweithredol; neu

(b)arwain a chefnogi eraill i ddatrys digwyddiadau gweithredol.

(3Mae person sy’n aelod trosiannol yn bodloni’r gofyniad yn y paragraff hwn.

(4Yn y Rheoliadau hyn, cyfeirir at gyflogwr person sydd mewn cyflogaeth gynllun fel y “cyflogwr cynllun”.

Personau cymwys

16.—(1At ddibenion y Rhan hon, person cymwys yw person sy’n gymwys i fod yn aelod actif o’r cynllun hwn.

(2Mae person (P) sy’n gwasanaethu mewn cyflogaeth gynllun yn berson cymwys mewn perthynas â’r gyflogaeth honno, onid yw P, mewn perthynas â gwasanaeth yn y gyflogaeth honno—

(a)yn aelod a ddiogelir o Gynllun 1992 neu’r CPNDT; neu

(b)yn aelod o unrhyw gynllun pensiwn arall a’r awdurdod sy’n cyflogi P yn talu cyfraniadau i’r cynllun hwnnw mewn cysylltiad â P.

(3Mae P yn berson cymwys tra bo ar absenoldeb gwasanaeth lluoedd wrth gefn.

Gwasanaeth mewn dwy neu ragor o gyflogaethau cynllun

17.  Os yw person yn gwasanaethu mewn dwy neu ragor o gyflogaethau cynllun, mae rheoliad 16 (personau cymwys) yn gymwys ar wahân mewn perthynas â phob cyflogaeth (pa un ai yw’r gyflogaeth gyda’r un awdurdod ai peidio).

PENNOD 2Gwasanaeth pensiynadwy

Cymhwyso’r Bennod

18.—(1Mae’r Bennod hon yn gymwys mewn perthynas â chyfnod di-dor o wasanaeth mewn cyflogaeth gynllun.

(2Os yw person yn gwasanaethu mewn dwy neu ragor o gyflogaethau cynllun yr un pryd, mae’r Bennod hon yn gymwys ar wahân mewn perthynas â phob un o’r cyflogaethau (pa un ai yw’r gyflogaeth gyda’r un awdurdod ai peidio).

Dehongli’r Bennod

19.  Yn y Bennod hon—

ystyr “cyfnod di-dor o wasanaeth” (“continuous period of service”), mewn perthynas â chyflogaeth gynllun, yw cyfnod o wasanaeth mewn cyflogaeth gynllun gan ddiystyru unrhyw fwlch mewn gwasanaeth nad yw’n hwy na phum mlynedd;

ystyr “diwrnod cymwys cyntaf o wasanaeth” (“first eligible day of service”) yw’r diwrnod pan fo person yn dod yn berson cymwys mewn perthynas â’r gwasanaeth hwnnw;

ystyr “dyddiad ailgofrestru awtomatig” (“automatic re-enrolment date”), mewn perthynas â pherson sy’n gwasanaethu mewn cyflogaeth gynllun, yw dyddiad a benderfynir o dan reoliad 12 o Reoliadau Cynlluniau Pensiwn Galwedigaethol a Phersonol (Cofrestru Awtomatig) 2010(1).

Cofrestru awtomatig

20.—(1Pan fo person (P) sydd mewn gwasanaeth pensiynadwy(2) o dan y cynllun yn symud oddi wrth un cyflogwr cynllun at un arall ond yn aros mewn cyflogaeth gynllun, mae P yn parhau mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun.

(2Mae person (P), nad yw mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun yn union cyn diwrnod cymwys cyntaf o wasanaeth P mewn cyflogaeth gynllun, yn dechrau gwasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwn ar y diwrnod cymwys cyntaf o wasanaeth P yn y gyflogaeth honno, onid yw—

(a)rheoliad 24 (optio allan cyn diwedd y tri mis cyntaf) yn gymwys; neu

(b)P yn aelod trosiannol gyda pharhad gwasanaeth a pharagraff (3) yn gymwys.

(3Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)os y diwrnod cymwys cyntaf o wasanaeth P mewn cyflogaeth gynllun yw’r diwrnod ar ôl dyddiad cau P; a

(b)os ar ddyddiad cau P—

(i)yr oedd P yn gwasanaethu yn yr un gyflogaeth, a

(ii)yr oedd P wedi optio allan o Gynllun 1992 neu’r CPNDT, yn ôl fel y digwydd, mewn perthynas â’r gwasanaeth hwnnw.

Optio i mewn i’r cynllun hwn

21.—(1Caiff person (P) sydd, mewn perthynas â chyflogaeth gynllun, yn berson cymwys ond nid mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwn, arfer yr opsiwn i ddod yn aelod actif o’r cynllun hwn mewn perthynas â gwasanaeth yn y gyflogaeth honno.

(2Ni chaniateir arfer yr opsiwn o dan y rheoliad hwn ac eithrio drwy hysbysiad i’r rheolwr cynllun, yn y ffurf sy’n ofynnol gan y rheolwr cynllun (“hysbysiad optio i mewn”).

(3Mae opsiwn a arferir gan berson o dan y rheoliad hwn, i optio i mewn i’r cynllun hwn mewn perthynas â gwasanaeth mewn cyflogaeth gynllun, yn cael effaith mewn perthynas â gwasanaeth yn y gyflogaeth honno o’r dyddiad y mae’r rheolwr cynllun yn cael yr hysbysiad optio i mewn.

(4Ystyrir bod yr opsiwn o dan y rheoliad hwn yn cael ei arfer ar y dyddiad hwnnw.

(5Os yw P yn optio i mewn i’r cynllun hwn mewn perthynas â chyflogaeth, mae P yn dod yn aelod actif o’r cynllun hwn mewn perthynas â’r gyflogaeth honno ar ddechrau’r cyfnod tâl cyntaf sy’n dechrau ar ôl y dyddiad yr arferir yr opsiwn, neu ar ba bynnag adeg arall a ystyrir yn briodol gan y rheolwr cynllun.

Ailgofrestru awtomatig

22.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys yn achos person cymwys (P) mewn perthynas â gwasanaeth mewn cyflogaeth gynllun, os nad yw P, ar y dyddiad ailgofrestru awtomatig, mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwn mewn perthynas â gwasanaeth yn y gyflogaeth honno.

(2Ar y dyddiad ailgofrestru awtomatig, rhaid i’r rheolwr cynllun gofrestru P yn y cynllun hwn mewn perthynas â gwasanaeth yn y gyflogaeth honno os yw’n ofynnol o dan adran 5 o Ddeddf Pensiynau 2008(3) (ailgofrestru awtomatig) bod y cyflogwr yn gwneud trefniadau i P fod yn aelod actif o gynllun pensiwn.

Optio allan o’r cynllun hwn

23.—(1Mae person (P) yn optio allan o’r cynllun hwn mewn perthynas â gwasanaeth mewn cyflogaeth gynllun os yw P yn dewis peidio â bod yn aelod actif o’r cynllun hwn mewn perthynas â’r gwasanaeth hwnnw.

(2Ni chaiff P arfer yr opsiwn hwn ac eithrio drwy roi hysbysiad i’r rheolwr cynllun ym mha bynnag ffurf sy’n ofynnol gan y rheolwr cynllun (“hysbysiad optio allan”).

(3Ystyrir bod yr opsiwn wedi ei arfer ar y dyddiad y bydd y rheolwr cynllun yn cael yr hysbysiad optio allan.

Optio allan cyn diwedd y tri mis cyntaf

24.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys os yw person (P) yn optio allan o’r cynllun hwn mewn perthynas â chyfnod di-dor o wasanaeth mewn cyflogaeth gynllun cyn diwedd tri mis—

(a)ar ôl y diwrnod cyntaf o gyfnod o wasanaeth di-dor P mewn cyflogaeth gynllun; neu

(b)ar ôl y dyddiad ailgofrestru awtomatig.

(2Os yw paragraff (1)(a) yn gymwys, ystyrir na fu P erioed mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwn mewn perthynas â’r cyfnod di-dor hwnnw o wasanaeth mewn cyflogaeth gynllun.

(3Os yw paragraff (1)(b) yn gymwys, ystyrir na fu P mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwn mewn perthynas â’r cyfnod hwnnw o wasanaeth yn ystod y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(b).

(4Nid yw’r rheoliad hwn yn ei gwneud yn ofynnol bod y rheolwr cynllun yn talu i P unrhyw swm ychwanegol a ddaw’n daladwy gan P mewn cysylltiad â chyfraniadau yswiriant gwladol, oherwydd na fu P, wedi’r cwbl, yn aelod actif o’r cynllun hwn yn ystod unrhyw gyfnod.

Optio allan ar ôl y tri mis cyntaf

25.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys os yw person (P) yn optio allan o’r cynllun hwn mewn perthynas â chyfnod di-dor o wasanaeth mewn cyflogaeth gynllun ymhen tri mis neu’n hwy—

(a)ar ôl y diwrnod cyntaf o gyfnod gwasanaeth di-dor P mewn cyflogaeth gynllun; neu

(b)ar ôl dyddiad ailgofrestru awtomatig P.

(2Os yw P yn arfer yr opsiwn o dan baragraff (1)(a) neu (b), mae P yn peidio â bod mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwn mewn perthynas â’r cyfnod di-dor hwnnw o wasanaeth mewn cyflogaeth gynllun—

(a)ar y diwrnod cyntaf o’r cyfnod tâl cyntaf sy’n dechrau ar neu ar ôl y dyddiad yr arferwyd yr opsiwn; neu

(b)os yw’r rheolwr cynllun yn ystyried y diwrnod hwnnw’n amhriodol, ar ddiwrnod cyntaf unrhyw gyfnod tâl diweddarach a ystyrir yn briodol gan y rheolwr cynllun.

PENNOD 3Tâl pensiynadwy

Tâl pensiynadwy

26.—(1At y diben o gyfrifo pensiwn neu fuddion eraill aelod o dan y cynllun hwn, tâl pensiynadwy’r aelod yw—

(a)y tâl a dderbyniodd yr aelod am gyflawni dyletswyddau rôl yr aelod, ac eithrio unrhyw lwfans neu enillion a dalwyd i’r aelod hwnnw ar sail dros dro;

(b)enillion parhaol yr aelod (gan gynnwys, yn achos diffoddwr tân wrth gefn, unrhyw lwfans cadw);

(c)y swm a hepgorwyd pan fo aelod wedi cytuno i ildio’r hawl i gael unrhyw ran o dâl pensiynadwy’r aelod hwnnw, yn gyfnewid am ddarparu unrhyw fudd anariannol gan y cyflogwr; a

(d)y swm a dalwyd i’r aelod ar gyfer datblygu proffesiynol parhaus, ac y penderfynodd y rheolwr cynllun ei fod yn bensiynadwy.

(2Nid yw’r taliadau ym mharagraff (1) yn cynnwys unrhyw daliad a wnaed gan gyflogwr i aelod sydd ar absenoldeb gwasanaeth lluoedd wrth gefn.

Ystyr “tâl pensiynadwy tybiedig”

27.—(1Ar gyfer unrhyw gyfnod pan fo’r amgylchiadau a bennir ym mharagraff (2) yn gymwys i aelod actif o’r cynllun hwn, trinnir yr aelod fel pe bai’n cael tâl pensiynadwy (“tâl pensiynadwy tybiedig”) hafal i’r tâl pensiynadwy y byddai’r aelod yn ei gael pe na bai’r amgylchiadau hynny yn gymwys.

(2Yr amgylchiadau yw fod yr aelod—

(a)ar secondiad i gyflogwr gwahanol o dan drefniant sy’n darparu bod yr aelod i barhau’n aelod actif o’r cynllun hwn mewn cysylltiad â gwasanaeth yr aelod, er mai’r cyflogwr arall sy’n talu i’r aelod am ei wasanaeth;

(b)ar absenoldeb oherwydd salwch neu anaf ac yn cael tâl gostyngedig neu, pan fo’r aelod wedi talu’r cyfraniadau sy’n ofynnol ganreoliad 120(2) (cyfraniadau yn ystod absenoldeb o’r gwaith oherwydd salwch neu anaf), nad yw’n cael tâl;

(c)yn cael tâl neu dâl statudol tra bo ar absenoldeb mabwysiadu, absenoldeb mabwysiadu ychwanegol, absenoldeb mamolaeth ychwanegol, absenoldeb rhiant neu absenoldeb tadolaeth ychwanegol;

(d)ar absenoldeb mabwysiadu arferol, absenoldeb mamolaeth arferol neu absenoldeb tadolaeth;

(e)heb gael tâl na thâl statudol yn ystod rhan neu’r cyfan o’r cyfnod absenoldeb mabwysiadu ychwanegol, absenoldeb mamolaeth ychwanegol neu absenoldeb tadolaeth ychwanegol ac wedi talu cyfraniadau aelod mewn cysylltiad â’r cyfnod hwnnw;

(f)ar absenoldeb di-dâl am gyfnod nad yw’n hwy na phum mlynedd, mewn amgylchiadau y cytunodd y rheolwr cynllun y cânt gyfrif at ddibenion y paragraff hwn, ac wedi talu’r cyfraniadau sy’n ofynnol gan reoliad 120(4) (cyfraniadau yn ystod absenoldeb awdurdodedig o’r gwaith);

(g)ar absenoldeb gwasanaeth lluoedd wrth gefn; neu

(h)yn absennol oherwydd anghydfod undebol ac wedi talu’r cyfraniadau sy’n ofynnol gan reoliad 120(3) (cyfraniadau yn ystod absenoldeb o’r gwaith oherwydd anghydfod undebol).

(3Nid yw paragraff (2)(g) yn gymwys mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod o wasanaeth sy’n peri bod yr aelod yn gymwys am fuddion o dan unrhyw gynllun pensiwn galwedigaethol arall mewn cysylltiad â’r gwasanaeth hwnnw.

(4Pan fo’r amgylchiadau ym mharagraff (2) yn gymwys i aelod (P), a gyflogid fel diffoddwr tân wrth gefn neu ddiffoddwr tân gwirfoddol yn union cyn y daeth yr amgylchiadau hynny yn gymwys, a gwasanaeth pensiynadwy P am y cyfnod hwnnw yn 365 diwrnod neu ragor, cyfrifir swm tâl pensiynadwy tybiedig P drwy rannu cyfanswm y tâl pensiynadwy a gafodd P am y gwasanaeth hwnnw yn ystod y cyfnod o 365 diwrnod oedd yn diweddu gyda’r diwrnod olaf o wasanaeth pensiynadwy di-dor cyn y daeth yr amgylchiadau hynny yn gymwys, gyda 365 a lluosi gyda nifer y diwrnodau pan oedd yr amgylchiadau ym mharagraff (2) yn gymwys.

(5Pan fo’r amgylchiadau ym mharagraff (2) yn gymwys i aelod (P), a gyflogid fel diffoddwr tân wrth gefn neu ddiffoddwr tân gwirfoddol yn union cyn y daeth yr amgylchiadau hynny yn gymwys, a gwasanaeth pensiynadwy P am y cyfnod hwnnw yn llai na 365 diwrnod, cyfrifir swm tâl pensiynadwy tybiedig P drwy rannu cyfanswm y tâl pensiynadwy a gafodd P am y gwasanaeth hwnnw yn ystod y cyfnod hwnnw o wasanaeth pensiynadwy di-dor cyn y daeth yr amgylchiadau hynny yn gymwys, gyda nifer y diwrnodau o’r gwasanaeth hwnnw a lluosi gyda nifer y diwrnodau pan oedd yr amgylchiadau ym mharagraff (2) yn gymwys.

PENNOD 4Aelodaeth

Aelodaeth actif

28.  Mae person (P) yn aelod actif o’r cynllun hwn—

(a)os yw P mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwn;

(b)os nad yw P mewn gwasanaeth pensiynadwy tra bo P ar absenoldeb salwch di-dâl neu ar absenoldeb di-dâl cysylltiedig â phlentyn neu ar anghydfod undebol, a P wedi bod yn aelod actif yn union cyn dechrau’r absenoldeb neu’r anghydfod undebol hwnnw;

(c)os yw P ar absenoldeb awdurdodedig di-dâl a’r rheolwr cynllun yn caniatáu trin P fel aelod actif; neu

(d)os yw P ar absenoldeb gwasanaeth lluoedd wrth gefn a P wedi bod yn aelod actif yn union cyn dechrau’r absenoldeb hwnnw.

Aelodaeth ohiriedig

29.  Mae person (P) yn aelod gohiriedig o’r cynllun hwn mewn perthynas â chyfnod di-dor o wasanaeth pensiynadwy—

(a)os yw P yn peidio â bod yn aelod actif o’r cynllun hwn mewn perthynas â’r cyfnod hwnnw o wasanaeth, cyn bo P yn hawlio pensiwn o dan y cynllun hwn mewn cysylltiad â’r cyfnod hwnnw o wasanaeth pensiynadwy;

(b)os nad yw P yn aelod-bensiynwr o’r cynllun hwn mewn perthynas â’r cyfnod hwnnw o wasanaeth; ac

(c)os oes gan P dri mis o leiaf o wasanaeth cymwys neu os oes taliad gwerth trosglwyddiad, ac eithrio taliad o’r fath allan o gynllun pensiwn galwedigaethol arall, wedi ei dderbyn gan y cynllun hwn mewn perthynas â P.

Aelod â chredyd pensiwn

30.  Mae person yn aelod â chredyd pensiwn o’r cynllun hwn os rhoddwyd i’r person hwnnw gredyd pensiwn yn y cynllun o ganlyniad i ddebyd pensiwn a grëwyd o dan adran 29 o DDLlPh 1999 mewn perthynas ag aelod o’r cynllun hwn.

(1)

O.S. 2010/772. Diwygiwyd rheoliad 12 gan O.S. 2012/215.

(2)

Gweler adran 37 o Ddeddf 2013 ar gyfer ystyr “pensionable service”.