xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
4.—(1) Mae awdurdod yn gyfrifol am reoli a gweinyddu’r cynllun hwn, ac unrhyw gynllun statudol sy’n gysylltiedig â’r cynllun hwn(1), mewn perthynas ag unrhyw berson y mae’n awdurdod priodol ar ei gyfer o dan y Rheoliadau hyn.
(2) Yr awdurdod priodol mewn perthynas â pherson—
(a)sydd neu a fu yn aelod o’r cynllun hwn; neu
(b)sydd â hawl i gael unrhyw fudd mewn cysylltiad â pherson sydd neu a fu yn aelod o’r cynllun hwn,
yw’r awdurdod a oedd yn cyflogi’r aelod hwnnw ddiwethaf, tra oedd yn aelod actif o’r cynllun hwn.
(3) Yr awdurdod priodol mewn perthynas ag aelod â chredyd pensiwn yw’r awdurdod a oedd yn gyfrifol am gyfrif pensiwn yr aelod â debyd pensiwn ar ddyddiad effeithiol y gorchymyn rhannu pensiwn.
(4) Yn y cynllun hwn, cyfeirir at yr awdurdod priodol fel y rheolwr cynllun.
5.—(1) Rhaid i bob rheolwr cynllun sefydlu bwrdd pensiynau (“bwrdd pensiynau lleol”) i fod yn gyfrifol am gynorthwyo’r rheolwr cynllun—
(a)i sicrhau y cydymffurfir ag—
(i)y Rheoliadau hyn;
(ii)unrhyw ddeddfwriaeth arall sy’n ymwneud â llywodraethu a gweinyddu’r cynllun hwn ac unrhyw gynllun cysylltiedig, ac â’r ddarpariaeth o fuddion o dan y cynllun hwn;
(iii)unrhyw ofynion a osodir gan y Rheoleiddiwr Pensiynau mewn perthynas â’r cynllun hwn ac unrhyw gynllun cysylltiedig;
(b)i sicrhau y llywodraethir ac y gweinyddir y cynllun hwn ac unrhyw gynllun cysylltiedig yn effeithiol ac effeithlon yn lleol.
(2) Caiff rheolwr cynllun benderfynu pa weithdrefnau fydd yn gymwys i fwrdd pensiynau lleol, gan gynnwys gweithdrefnau ynglŷn â hawliau pleidleisio, sefydlu is-bwyllgorau a thalu treuliau.
(3) Mae gan fwrdd pensiynau lleol y pŵer i wneud unrhyw beth a gynlluniwyd i hwyluso, neu sy’n ffafrio neu’n gysylltiedig â chyflawni unrhyw un o’i swyddogaethau.
6.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3) rhaid i bob rheolwr cynllun benderfynu ar—
(a)aelodaeth y bwrdd pensiynau lleol;
(b)y modd y caniateir penodi a diswyddo aelodau o’r bwrdd pensiynau lleol;
(c)telerau penodi aelodau o’r bwrdd pensiynau lleol, gan gynnwys parhad eu penodiad.
(2) Rhaid i fwrdd pensiynau lleol gynnwys niferoedd cyfartal, sef dim llai na 4, o gynrychiolwyr cyflogwyr a chynrychiolwyr aelodau(2) ac at y dibenion hyn rhaid i’r rheolwr cynllun fod wedi ei fodloni bod person a benodir—
(a)fel cynrychiolydd cyflogwr, yn berson sydd â’r gallu i gynrychioli cyflogwyr ar y bwrdd pensiynau lleol;
(b)fel cynrychiolydd aelodau, yn berson sydd â’r gallu i gynrychioli aelodau ar y bwrdd pensiynau lleol.
(3) Drwy gydol cyfnod penodiad person a benodwyd yn aelod o fwrdd pensiynau lleol i gynrychioli cyflogwyr neu aelodau, yn ôl fel y digwydd, rhaid i reolwr cynllun fod wedi ei fodloni bod yr aelod yn parhau i feddu’r gallu i gynrychioli cyflogwyr neu aelodau, yn ôl fel y digwydd, ar fwrdd pensiynau lleol.
(4) Rhaid i berson sydd i’w benodi yn aelod o fwrdd pensiynau lleol gan reolwr cynllun i gynrychioli cyflogwyr neu aelodau, yn ôl fel y digwydd, ddarparu i’r rheolwr cynllun pa bynnag wybodaeth y gwneir yn ofynnol yn rhesymol gan reolwr y cynllun at ddibenion paragraff (2).
(5) Rhaid i berson sy’n aelod o fwrdd pensiynau lleol a benodwyd i gynrychioli cyflogwyr neu aelodau, yn ôl fel y digwydd, ddarparu i’r rheolwr cynllun a wnaeth y penodiad, pa bynnag wybodaeth y gwneir yn ofynnol yn rhesymol gan reolwr y cynllun at ddibenion paragraff (3).
(6) Caiff y rheolwr cynllun benodi personau, nad ydynt yn aelodau o’r bwrdd pensiynau lleol, yn aelodau ymgynghorol di-bleidlais o’r bwrdd pensiynau lleol, a chaiff yr aelodau hynny, drwy wahoddiad, fod yn bresennol mewn cyfarfodydd o’r bwrdd pensiynau lleol ac unrhyw is-bwyllgor o’r bwrdd pensiynau lleol.
(7) Rhaid i nifer yr aelodau ymgynghorol di-bleidlais o’r bwrdd pensiynau lleol fod yn llai na nifer y cynrychiolwyr cyflogwyr, ac yn llai hefyd na nifer y cynrychiolwyr aelodau.
(8) Bydd aelod ymgynghorol o’r bwrdd pensiynau lleol yn dal ei swydd ac yn gadael ei swydd yn unol â thelerau penodiad yr aelod hwnnw.
(9) Ni chaiff aelod neu swyddog o awdurdod, sy’n gyfrifol am gyflawni unrhyw swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn, (ac eithrio unrhyw swyddogaeth sy’n ymwneud â bwrdd pensiynau lleol neu Fwrdd Cynghori Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân ar gyfer Cymru) fod yn aelod o fwrdd pensiynau lleol.
7.—(1) Rhaid i bob rheolwr cynllun fod wedi ei fodloni nad oes gan unrhyw berson, sydd i’w benodi yn aelod o fwrdd pensiynau lleol, fuddiannau sy’n gwrthdaro(3).
(2) Rhaid i reolwr cynllun fodloni ei hunan o bryd i’w gilydd nad oes gan yr un o aelodau’r bwrdd pensiynau lleol fuddiannau sy’n gwrthdaro.
(3) Rhaid i berson sydd i’w benodi yn aelod o fwrdd pensiynau lleol gan reolwr cynllun, ddarparu i’r awdurdod hwnnw y cyfryw wybodaeth y gwneir yn ofynnol yn rhesymol gan yr awdurdod at ddibenion paragraff (1).
(4) Rhaid i berson sydd yn aelod o fwrdd pensiynau lleol ddarparu i’r rheolwr cynllun a wnaeth y penodiad, y cyfryw wybodaeth y gwneir yn ofynnol yn rhesymol gan yw awdurdod hwnnw at ddibenion paragraff (2).
8. Rhaid i reolwr cynllun roi sylw i’r canlynol—
(a)canllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â byrddau pensiynau lleol; a
(b)cyngor a roddir gan Fwrdd Cynghori Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân ar gyfer Cymru mewn perthynas â gweinyddu a rheoli’r cynllun yn effeithiol ac effeithlon;
(c)codau ymarfer a ddyroddir gan y Rheoleiddiwr Pensiynau o dan adran 90A (codau ymarfer: cynlluniau pensiynau’r gwasanaethau cyhoeddus) o Ddeddf Pensiynau 2004(4).
9.—(1) Rhaid i reolwr cynllun gyhoeddi’r wybodaeth ganlynol ynglŷn â’i fwrdd pensiynau lleol—
(a)pwy sy’n aelodau o’r bwrdd;
(b)cynrychiolaeth aelodau’r cynllun ar y bwrdd; ac
(c)y materion sy’n dod o fewn cyfrifoldeb y bwrdd.
(2) Rhaid i reolwr cynllun gadw’n gyfredol yr wybodaeth a gyhoeddir o dan baragraff (1).
10.—(1) Bydd bwrdd cynghori ar gyfer y cynllun (“Bwrdd Cynghori Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân ar gyfer Cymru”).
(2) Bwrdd Cynghori Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân ar gyfer Cymru sy’n gyfrifol am ddarparu cyngor, mewn ymateb i gais gan Weinidogion Cymru, ar y materion canlynol—
(a)dymunoldeb gwneud newidiadau i’r cynllun hwn ac unrhyw gynllun cysylltiedig; a
(b)unrhyw fater arall yr ystyria’n berthnasol o ran gweithredu’r cynllun hwn yn effeithiol ac effeithlon.
(3) Bwrdd Cynghori Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân ar gyfer Cymru sy’n gyfrifol hefyd am ddarparu cyngor i reolwyr cynllun a byrddau pensiynau lleol mewn perthynas â gweinyddu a rheoli’r cynllun hwn ac unrhyw gynllun cysylltiedig yn effeithiol ac effeithlon.
(4) Yn ddarostyngedig i’r Rheoliadau hyn, caiff Bwrdd Cynghori Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân ar gyfer Cymru benderfynu ar ei weithdrefnau ei hunan, gan gynnwys gweithdrefnau ynglŷn â hawliau pleidleisio, sefydlu is-bwyllgorau, talu lwfansau mynychu rhesymol ac unrhyw dreuliau rhesymol mewn cysylltiad â chyflawni ei swyddogaethau, fel yr ystyrir yn angenrheidiol ym marn y Bwrdd.
11.—(1) Bydd Bwrdd Cynghori Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân ar gyfer Cymru yn cynnwys cadeirydd ac o leiaf ddau, ond dim mwy na 12 person, sydd i’w penodi gan Weinidogion Cymru.
(2) Wrth benderfynu pa un ai i wneud penodiad o dan baragraff (1), rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i ddymunoldeb cael niferoedd cyfartal o bersonau yn cynrychioli buddiannau cyflogwyr cynllun a phersonau yn cynrychioli buddiannau aelodau.
(3) Bydd aelod o Fwrdd Cynghori Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân ar gyfer Cymru yn dal ac yn gadael ei swydd yn unol â thelerau penodiad yr aelod hwnnw.
(4) Caiff cadeirydd Bwrdd Cynghori Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân ar gyfer Cymru, gyda chytundeb y Bwrdd, benodi personau nad ydynt yn aelodau o’r Bwrdd yn aelodau ymgynghorol di-bleidlais o’r Bwrdd, a chaiff yr aelodau hynny, drwy wahoddiad, fod yn bresennol mewn cyfarfodydd o’r Bwrdd ac unrhyw is-bwyllgor o’r Bwrdd.
(5) Bydd aelod ymgynghorol o Fwrdd Cynghori Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân ar gyfer Cymru yn dal ac yn gadael ei swydd yn unol â thelerau penodiad yr aelod hwnnw.
(6) Caiff cadeirydd Bwrdd Cynghori Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân ar gyfer Cymru, gyda chytundeb y Bwrdd, benodi personau nad ydynt yn aelodau o’r Bwrdd i fod yn aelodau o is-bwyllgorau o’r Bwrdd.
(7) Bydd aelod o is-bwyllgor o Fwrdd Cynghori Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân ar gyfer Cymru yn dal ac yn gadael ei swydd yn unol â thelerau penodiad yr aelod hwnnw.
12.—(1) Cyn penodi unrhyw berson i fod yn aelod o Fwrdd Cynghori Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân ar gyfer Cymru, rhaid i Weinidogion Cymru fod wedi eu bodloni nad oes gan y person hwnnw fuddiannau sy’n gwrthdaro(5).
(2) Rhaid i Weinidogion Cymru fodloni eu hunain o bryd i’w gilydd nad oes gan yr un o aelodau Bwrdd Cynghori Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân ar gyfer Cymru fuddiannau sy’n gwrthdaro.
(3) Rhaid i berson sydd i’w benodi yn aelod o Fwrdd Cynghori Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân ar gyfer Cymru ddarparu i Weinidogion Cymru ba bynnag wybodaeth y gofynnant amdani yn rhesymol at ddibenion paragraff (1).
(4) Rhaid i berson sydd yn aelod o Fwrdd Cynghori Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân ar gyfer Cymru ddarparu i Weinidogion Cymru ba bynnag wybodaeth y gwneir yn ofynnol yn rhesymol gan Weinidogion Cymru at ddibenion paragraff (2).
13. Rhaid i Fwrdd Cynghori Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân ar gyfer Cymru roi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas ag arfer gan y Bwrdd ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn.
14.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru ddirprwyo unrhyw swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn, gan gynnwys y pŵer hwn i ddirprwyo.
(2) Caiff y rheolwr cynllun ddirprwyo unrhyw swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn, gan gynnwys y pŵer hwn i ddirprwyo, i’r cyfryw bersonau neu gyflogeion y cyfryw berson a awdurdodir yn y cyswllt hwnnw gan y rheolwr cynllun.
Gweler adran 4(6) o Ddeddf 2013 sy’n nodi o dan ba amgylchiadau yr ystyrir bod cynlluniau pensiwn statudol yn “connected”.
Gweler adran 5(6) o Ddeddf Pensiynau’r Gwasanaethau Cyhoeddus 2013 am ddiffiniadau o’r termau hyn.
Gweler adran 5(5) o Ddeddf Pensiynau’r Gwasanaethau Cyhoeddus 2013 ar gyfer ystyr “conflict of interest”.
2004 p. 35. Mewnosodwyd adran 90A gan baragraff 14 o Atodlen 4 i Ddeddf Pensiynau’r Gwasanaethau Cyhoeddus 2013.
Gweler adran 7(5) o Ddeddf Pensiynau’r Gwasanaethau Cyhoeddus 2013 ar gyfer ystyr “conflict of interest”.