xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 13Atodol

PENNOD 1Talu pensiynau

Talu addasiad mynegai ymddeol yn hwyr

174.  Nid oes dim yn y Rheoliadau hyn sy’n ei gwneud yn ofynnol talu unrhyw ran o bensiwn sy’n briodoladwy i addasiad mynegai ymddeol cyn diwedd y flwyddyn gynllun actif olaf.

Adennill gordaliad o fuddion

175.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn cysylltiad â blwyddyn ariannol y pennir gostyngiad canran ar ei chyfer mewn gorchymyn a wneir o dan adran 9 o Ddeddf 2013(1).

(2Rhaid i’r rheolwr cynllun adennill unrhyw ordaliad o fuddion a ddigwyddodd o ganlyniad i gymhwyso’r addasiad mynegai ymddeol ar gyfer y flwyddyn honno.

(3Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, rhaid i’r rheolwr cynllun hysbysu’r aelod mewn ysgrifen yr adenillir y gordaliad drwy leihau swm pob rhandaliad o bensiwn hyd nes bo swm y gordaliad wedi ei adennill, neu drwy hepgor talu unrhyw gynnydd yn swm unrhyw bensiwn sy’n ddyladwy hyd nes bo swm y gordaliad wedi ei adennill.

Lleiafswm pensiwn gwarantedig

176.—(1Os oes gan aelod leiafswm gwarantedig mewn perthynas â buddion o dan y cynllun hwn—

(a)nid oes dim yn y Rheoliadau hyn sy’n caniatáu nac yn ei gwneud yn ofynnol unrhyw beth a fyddai’n peri nad yw gofynion a wnaed gan neu o dan DCauP 1993, mewn perthynas ag aelod o’r fath a hawliau aelod o’r fath o dan y cynllun hwn, yn cael eu bodloni yn achos yr aelod;

(b)nid oes dim yn y Rheoliadau hyn sy’n rhwystro unrhyw beth rhag cael ei wneud, sy’n angenrheidiol neu’n hwylus at ddibenion bodloni gofynion o’r fath yn achos yr aelod; ac

(c)mae’r darpariaethau canlynol yn ddarostyngedig i gyffredinolrwydd y paragraff hwn.

(2Os, oni bai am y rheoliad hwn—

(a)na fyddai pensiwn yn daladwy i’r aelod o dan y cynllun hwn; neu

(b)byddai cyfradd wythnosol y pensiynau sy’n daladwy yn llai na’r lleiafswm gwarantedig,

bydd pensiwn ar gyfradd wythnosol sy’n hafal i’r lleiafswm gwarantedig yn daladwy i’r aelod am ei oes o’r dyddiad pan fo’r aelod yn cyrraedd oedran LlPG neu, yn ôl fel y digwydd, bydd pensiynau sydd â’u cyfradd wythnosol gyfanredol yn hafal i’r lleiafswm gwarantedig yn daladwy felly.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4)—

(a)os yw’r aelod, pan fo’n cyrraedd oedran LlPG yn dal i barhau mewn cyflogaeth (pa un ai yn gyflogaeth gynllun ai peidio); a

(b)pan nad yw’r gyflogaeth yn gyflogaeth gynllun, os yw’r aelod yn cydsynio i ohirio hawlogaeth yr aelod o dan baragraff (2),

nid yw paragraff (2) yn gymwys hyd nes bo’r aelod yn gadael cyflogaeth.

(4Os yw’r aelod yn parhau mewn cyflogaeth am gyfnod pellach o bum mlynedd ar ôl cyrraedd oedran LlPG ac nad yw’n gadael cyflogaeth bryd hynny, bydd gan yr aelod, o ddiwedd y cyfnod hwnnw ymlaen, yr hawl i gael cymaint o bensiwn yr aelod o dan Ran 5 (buddion ymddeol) a Rhan 7 (buddion ar gyfer aelodau â chredyd pensiwn) ag sy’n hafal i leiafswm gwarantedig yr aelod (neu, yn ôl fel y digwydd, cymaint o bensiynau’r aelod o dan Ran 5 a Rhan 7 ag sydd, ar y cyd, â chyfradd wythnosol sy’n hafal i leiafswm gwarantedig yr aelod), oni fydd yr aelod yn cydsynio i ohiriad pellach o’r hawlogaeth.

(5Yn yr amgylchiadau y darperir ar eu cyfer ym mharagraff (3) neu (4), cynyddir swm y lleiafswm gwarantedig y mae hawl gan yr aelod i’w gael o dan y rheoliad hwn yn unol ag adran 15 (cynyddu lleiafswm gwarantedig pan fo cychwyn lleiafswm pensiwn gwarantedig wedi ei ohirio) o DCauP 1993.

(6Os—

(a)yw’r aelod, cyn cyrraedd 65 mlwydd oed, yn cael yr hawl i daliad o bensiwn ar unwaith; a

(b)bod lleiafswm gwarantedig gan yr aelod hwnnw mewn perthynas â’r cyfan neu ran o bensiwn, o ganlyniad i’r cynllun hwn dderbyn taliad trosglwyddo oddi wrth gynllun pensiwn arall yr oedd gan yr aelod leiafswm gwarantedig o’r fath mewn cysylltiad ag ef,

rhaid i gyfradd wythnosol y pensiwn, i’r graddau y mae’n briodoladwy i’r gwasanaeth hwnnw, beidio â bod yn llai na’r lleiafswm gwarantedig, wedi ei luosi â pha bynnag ffactor a ddynodir mewn tablau a gynhwysir mewn canllawiau actiwaraidd ar gyfer person o’r un oedran a rhyw â’r aelod ar y dyddiad pan ddaw’r pensiwn yn daladwy.

(7Mae’r paragraff hwn yn gymwys os yw person wedi peidio â bod mewn cyflogaeth sy’n gyflogaeth a gontractiwyd allan o fewn ystyr Rhan 3 o DCauP 1993 (ardystio cynlluniau pensiwn ac effeithiau ar hawliau a dyletswyddau aelodau o dan gynllun y wladwriaeth) drwy gyfeirio at y cynllun hwn, a naill ai—

(a)taliad trosglwyddo wedi ei wneud mewn cysylltiad â holl hawliau’r person i gael buddion o dan y cynllun hwn, ac eithrio hawliau’r person mewn cysylltiad â’i leiafswm gwarantedig neu ei hawliau o dan adran 9(2B)(gofynion ar gyfer ardystio cynlluniau: cyffredinol) o DCauP 1993(2) (“hawliau’r person o ran contractio allan”); neu

(b)nad oes gan y person hawliau i gael buddion o dan y cynllun hwn ac eithrio hawliau’r person o ran contractio allan.

(8Os yw paragraff (7) yn gymwys—

(a)o’r dyddiad y mae’r person yn cyrraedd oedran LlPG, mae hawl gan y person i gael pensiwn sy’n daladwy am ei oes ar gyfradd wythnosol sy’n hafal i leiafswm gwarantedig y person, os oes un; a

(b)o’r dyddiad y mae’r person yn cyrraedd oedran pensiwn arferol o dan y cynllun hwn mae hawl gan y person i gael cyfandaliad a phensiwn mewn cysylltiad â hawliau’r person hwnnw o dan adran 9(2B) o DCauP 1993,

ond nid yw person sy’n dod o fewn paragraff (7) i’w ystyried yn aelod-bensiynwr at ddibenion Rhan 6 (buddion marwolaeth).

(9Nid yw paragraffau (2) i (8) yn gymwys i bensiwn—

(a)sydd wedi ei fforffedu—

(i)o ganlyniad i gollfarn am frad, neu

(ii)mewn achos pan fo’r drosedd berthnasol o dan reoliad 181 (fforffedu: troseddau a gyflawnir gan aelodau, partneriaid sy’n goroesi neu blant cymwys) yn dod o fewn paragraff (b) o’r diffiniad, yn y rheoliad hwnnw, o “trosedd berthnasol” (troseddau o dan y Deddfau Cyfrinachau Swyddogol);

(b)pan fo’r pensiwn hwnnw wedi ei gymudo o dan reoliad 177 (cymudo pensiynau bach), a phan fo’r amodau yn rheoliad 60 o Reoliadau Cynlluniau Pensiwn Galwedigaethol (Contractio Allan) 1996(3) wedi eu bodloni,

ac os oes unrhyw ddarpariaeth arall o’r cynllun hwn yn anghyson â’r rheoliad hwn, y rheoliad hwn sy’n drech.

(10Yn y rheoliad hwn, mae cyfeiriadau at swm pensiwn yn gyfeiriadau at ei swm ar ôl didynnu swm y cymudiad, os oes un (ond cyn didynnu swm y dyraniad, os oes un).

Cymudo pensiynau bach

177.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys os nad yw hawlogaeth pensiwn aelod o’r cynllun neu hawlogaeth pensiwn buddiolwr aelod yn fwy na’r uchafswm cymudo pensiynau bach.

(2Onid yw’r aelod wedi cyrraedd yr oedran pensiwn gohiriedig, nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys os yw hawlogaeth pensiwn yr aelod neu hawlogaeth pensiwn buddiolwr yr aelod yn hafal i, neu’n fwy na, lleiafswm gwarantedig yr aelod.

(3Caiff y rheolwr cynllun dalu i’r aelod, i bartner sy’n goroesi neu i blentyn cymwys gyfandaliad o swm sy’n cynrychioli gwerth ariannol y pensiwn a gyfrifir yn unol â chanllawiau actiwaraidd os yw—

(a)y person yn cydsynio i dderbyn cyfandaliad mewn cysylltiad â’r pensiwn; a

(b)gofynion y darpariaethau cymudo sy’n gymwys yn yr amgylchiadau wedi eu bodloni.

(4Mae talu cyfandaliad o dan y rheoliad hwn yn lle pensiwn yn rhyddhau o bob rhwymedigaeth o dan y cynllun hwn mewn cysylltiad â’r pensiwn hwnnw.

(5Yn y rheoliad hwn—

ystyr “y darpariaethau cymudo” (“the commutation provisions”) yw’r darpariaethau sy’n caniatáu cymudo pensiynau, a nodir yn—

(a)

rheoliad 2 o Reoliadau Cynlluniau Pensiwn Galwedigaethol (Aseinio, Fforffedu, Methdalu etc.) 1997(4),

(b)

paragraff 7 o Atodlen 29 (cyfandaliadau awdurdodedig – atodol) i DC 2004 (sy’n diffinio cyfandaliad cymudo dibwys at ddibenion Rhan 4 o’r Ddeddf honno)(5) ac, mewn perthynas â phensiwn sy’n daladwy o dan Ran 6 (buddion marwolaeth), paragraff 20 o’r Atodlen honno (sy’n diffinio budd marwolaeth cyfandaliad cymudo dibwys at ddibenion Rhan 4 o’r Ddeddf honno)(6), ac

(c)

rheoliad 3 o Reoliadau Rhannu Pensiynau (Budd Credyd Pensiwn) 2000(7); ac

ystyr “yr uchafswm cymudo pensiynau bach” (“the small pensions commutation maximum”) yw’r swm y caniateir ei gymudo, o ystyried y darpariaethau cymudo sy’n gymwys yn yr amgylchiadau.

Taliadau ar gyfer personau sy’n analluog i reoli eu busnes eu hunain

178.  Os yw’n ymddangos i’r rheolwr cynllun fod hawl gan berson ac eithrio plentyn cymwys i gael taliad o fuddion o dan y cynllun hwn, ond bod y person hwnnw, oherwydd anallu meddyliol neu rywfodd arall, yn analluog i reoli ei fusnes ei hunan—

(a)caiff y rheolwr cynllun dalu’r buddion, neu unrhyw ran ohonynt i berson sy’n gofalu am y person sydd â hawlogaeth, neu i unrhyw berson arall y penderfynir arno gan y rheolwr cynllun, i’w defnyddio er budd y person sydd â hawlogaeth; ac

(b)i’r graddau nad yw’r rheolwr cynllun yn talu’r buddion yn y modd hwnnw, caiff y rheolwr cynllun ddefnyddio’r buddion mewn modd a benderfynir gan y rheolwr cynllun, er budd y person sydd â hawlogaeth, neu unrhyw fuddiolwyr y person sydd â hawlogaeth.

Taliadau sy’n ddyledus mewn cysylltiad â phersonau a fu farw

179.—(1Mae paragraff (2) yn gymwys os, ar farwolaeth person, nad yw’r cyfanswm sy’n ddyladwy o dan y cynllun hwn i gynrychiolwyr personol y person hwnnw (gan gynnwys unrhyw beth a oedd yn ddyladwy ar farwolaeth y person hwnnw) yn fwy na’r swm a bennir mewn unrhyw orchymyn sydd mewn grym am y tro o dan adran 6 o Ddeddf Gweinyddu Ystadau (Taliadau Bach) 1965(8) ac sy’n gymwys mewn perthynas â marwolaeth y person hwnnw.

(2Caiff rheolwr cynllun dalu’r cyfan neu ran o’r swm dyladwy i—

(a)cynrychiolwyr personol y person; neu

(b)unrhyw berson neu bersonau y mae’n ymddangos i’r rheolwr cynllun sydd â hawlogaeth fel buddiolwyr yr ystad,

heb ddangos profiant na llythyrau gweinyddu ystad y person.

Cyfyngiad ar aseinio buddion

180.  Mae aseiniad o ddyfarniad o dan y Rheoliadau hyn yn ddi-rym i’r graddau y’i gwneir er budd person ac eithrio dibynnydd y person sydd â hawl i gael y dyfarniad.

PENNOD 2Fforffedu

Fforffedu: troseddau a gyflawnir gan aelodau, partneriaid sy’n goroesi neu blant cymwys

181.—(1Os caiff aelod, partner sy’n goroesi neu blentyn cymwys ei gollfarnu am drosedd berthnasol, caiff y rheolwr cynllun, i’r cyfryw raddau ac am y cyfryw gyfnod a ystyria’n briodol, gadw’n ôl bensiynau sy’n daladwy o dan y cynllun hwn i—

(a)yr aelod;

(b)unrhyw berson mewn cysylltiad â’r aelod;

(c)partner sy’n goroesi; neu

(d)plentyn cymwys.

(2Os yw pensiwn partner sy’n goroesi neu bensiwn plentyn cymwys o dan Ran 6 (buddion marwolaeth) i gael ei gadw’n ôl o dan baragraff (1), o ganlyniad i drosedd berthnasol sy’n dod o fewn is-baragraff (a) neu (b) o’r diffiniad o’r ymadrodd hwnnw ym mharagraff (5), rhaid i’r drosedd fod wedi ei chyflawni ar ôl y farwolaeth a oedd yn peri bod y person yn cael yr hawl i bensiwn partner sy’n goroesi neu bensiwn plentyn cymwys, yn ôl fel y digwydd.

(3Ni chaiff y rheolwr cynllun gadw’n ôl ddim mwy na’r rhan honno o bensiwn person sydd dros ben unrhyw leiafswm gwarantedig y mae hawl gan y person i’w gael o dan—

(a)adran 14 o DCauP 1993 (lleiafswm gwarantedig enillydd); neu

(b)adran 17 (lleiafswm pensiynau ar gyfer gwragedd a gwŷr gweddw)(9) o’r Ddeddf honno.

(4Caiff y rheolwr cynllun, ar unrhyw adeg ac i’r cyfryw raddau ac am y cyfryw gyfnod a ystyria’n briodol—

(a)defnyddio er budd unrhyw ddibynnydd yr aelod; neu

(b)adfer i’r aelod,

gymaint o unrhyw bensiwn ag a gadwyd yn ôl o dan y rheoliad hwn.

(5Yn y rheoliad hwn—

ystyr “trosedd berthnasol” (“relevant offence”) yw—

(a)

trosedd o frad,

(b)

trosedd o dan y Deddfau Cyfrinachau Swyddogol 1911 i 1989(10) y dedfrydwyd yr aelod amdani ar yr un achlysur—

(i)

i gyfnod o garchar am o leiaf 10 mlynedd, neu

(ii)

i ddau neu ragor o gyfnodau olynol o garchar sydd â’u hyd cyfanredol yn 10 mlynedd o leiaf, neu

(c)

trosedd—

(i)

a gyflawnwyd mewn cysylltiad â chyflogaeth gynllun yr aelod; a

(ii)

y dyroddwyd tystysgrif fforffedu mewn cysylltiad â hi gan Weinidogion Cymru;

ystyr “tystysgrif fforffedu” (“forfeiture certificate”) yw tystysgrif sy’n datgan bod Gweinidogion Cymru o’r farn bod y drosedd—

(a)

wedi peri niwed difrifol i fuddiannau’r Wladwriaeth, neu

(b)

yn debygol o arwain at golled hyder ddifrifol yn y gwasanaeth cyhoeddus.

Fforffedu pensiynau: troseddau a gyflawnir gan bersonau eraill

182.—(1Os collfernir person (“P”) o lofruddiaeth aelod, rhaid i’r rheolwr cynllun gadw’n ôl y cyfan o unrhyw bensiwn partner sy’n goroesi neu bensiwn plentyn cymwys a fyddai, fel arall, yn daladwy i P mewn cysylltiad â’r aelod o dan Ran 6 (buddion marwolaeth).

(2Os collfernir P o drosedd berthnasol, caiff y rheolwr cynllun, i’r cyfryw raddau yr ystyria’n briodol, gadw’n ôl unrhyw bensiwn partner sy’n goroesi neu bensiwn plentyn cymwys sy’n daladwy i P mewn cysylltiad ag aelod o dan Ran 6 (buddion marwolaeth).

(3Os yw paragraff (1) yn gymwys, mae Rhan 6 (buddion marwolaeth) yn gymwys fel pe buasai farw P cyn yr aelod.

(4O dan baragraff (2), ni chaiff y rheolwr cynllun gadw’n ôl ddim mwy na’r rhan o bensiwn P sydd dros ben unrhyw leiafswm gwarantedig y mae hawl gan P i’w gael o dan adran 17 o DCauP 1993(11).

(5Os collfernir P o lofruddiaeth aelod a diddymir y gollfarn yn ddiweddarach yn dilyn apêl, mae unrhyw bensiwn partner sy’n goroesi neu bensiwn plentyn cymwys a gadwyd yn ôl yn daladwy o’r diwrnod ar ôl y diwrnod y bu farw’r aelod, a rhaid i’r rheolwr cynllun, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diddymu’r gollfarn, dalu’r ôl-ddyled gronedig o bensiwn.

(6Os collfernir P o drosedd berthnasol a diddymir y gollfarn yn ddiweddarach yn dilyn apêl, mae unrhyw benderfyniad o dan baragraff (2) i’w drin fel pe bai wedi ei ddirymu a rhaid i’r rheolwr cynllun, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diddymu’r gollfarn, dalu’r ôl-ddyled gronedig o bensiwn o’r diwrnod ar ôl y diwrnod y bu farw’r aelod.

(7Ni chaiff dim sydd ym mharagraffau (5) neu (6) effeithio ar gymhwyso paragraffau (1) neu (2) os yw’r person y diddymwyd ei gollfarn yn cael ei gollfarnu yn ddiweddarach o lofruddiaeth yr aelod, neu o drosedd berthnasol.

(8Yn y rheoliad hwn, ystyr “trosedd berthnasol” (“relevant offence”) yw—

(a)dynladdiad yr aelod; neu

(b)unrhyw drosedd arall, ac eithrio llofruddiaeth, y mae lladd yr aelod yn anghyfreithlon yn elfen ynddi.

Fforffedu cyfandaliad budd marwolaeth: troseddau a gyflawnir gan bersonau eraill

183.—(1Os collfernir person o drosedd berthnasol, rhaid i’r rheolwr cynllun gadw’n ôl y cyfan o unrhyw gyfandaliad budd marwolaeth sy’n daladwy i’r person hwnnw mewn cysylltiad ag aelod o dan Bennod 4 o Ran 6 (buddion marwolaeth).

(2yn y rheoliad hwn, ystyr “trosedd berthnasol” (“relevant offence”) yw—

(a)llofruddiaeth yr aelod;

(b)dynladdiad yr aelod; neu

(c)unrhyw drosedd arall y mae lladd yr aelod yn anghyfreithlon yn elfen ynddi.

(3Os yw paragraff (1) yn gymwys a’r rheolwr cynllun yn cadw’n ôl yr holl fuddion, mae Rhan 6 (buddion marwolaeth) yn gymwys fel pe buasai’r person hwnnw farw cyn yr aelod.

(4Os collfernir person o drosedd berthnasol a diddymir y gollfarn yn ddiweddarach yn dilyn apêl, caiff y rheolwr cynllun, i’r cyfryw raddau ac am y cyfryw gyfnod yr ystyria’n briodol, adfer i’r person hwnnw gymaint o unrhyw fudd ag a gadwyd yn ôl o dan y rheoliad hwn.

(5Ni chaiff dim sydd ym mharagraff (4) effeithio ar gymhwyso paragraff (1) os yw’r person y diddymwyd ei gollfarn yn cael ei gollfarnu yn ddiweddarach o drosedd berthnasol.

Fforffedu: rhwymedigaethau ariannol perthnasol a cholledion ariannol perthnasol

184.—(1Os oes gan aelod (P) rwymedigaeth ariannol berthnasol neu os yw wedi achosi colled ariannol berthnasol, caiff y rheolwr cynllun, i’r cyfryw raddau ac am y cyfryw gyfnod yr ystyria’n briodol, gadw’n ôl buddion sy’n daladwy i P o dan y cynllun hwn.

(2Caiff y rheolwr cynllun gadw’n ôl fuddion i’r graddau yr ystyria’r rheolwr cynllun yn briodol, ond ni chaiff gadw’n ôl ddim mwy na’r rhan honno o bensiwn P sydd dros ben unrhyw leiafswm gwarantedig y mae hawl gan P i’w gael o dan adran 14 o DCauP 1993.

(3Ni chaiff y rheolwr cynllun gadw’n ôl ddim mwy na’r lleiaf o’r canlynol—

(a)swm y rhwymedigaeth ariannol berthnasol neu’r golled ariannol berthnasol; a

(b)gwerth hawlogaeth P i gael buddion.

(4Ni chaiff y rheolwr cynllun gadw buddion yn ôl ac eithrio—

(a)os oes anghytundeb ynglŷn â swm y rhwymedigaeth ariannol berthnasol neu’r golled ariannol berthnasol; neu

(b)os yw’r rhwymedigaeth ariannol berthnasol neu’r golled ariannol berthnasol yn orfodadwy fel a ganlyn—

(i)o dan orchymyn gan lys cymwys, neu

(ii)o ganlyniad i ddyfarniad gan gymrodeddwr.

(5Yn y rheoliad hwn—

ystyr “colled ariannol berthnasol” (“relevant monetary loss”) yw colled ariannol—

(a)

a achoswyd i’r cynllun hwn, a

(b)

a oedd yn tarddu o weithred neu anwaith droseddol, esgeulus neu dwyllodrus gan P; ac

ystyr “rhwymedigaeth ariannol berthnasol” (“relevant monetary obligation”) yw rhwymedigaeth ariannol—

(a)

a achoswyd i gyflogwr P,

(b)

a achoswyd wedi i P ddod yn aelod actif o’r cynllun hwn,

(c)

a oedd yn tarddu o weithred neu anwaith droseddol, esgeulus neu dwyllodrus gan P, a

(d)

a oedd yn tarddu o, neu’n gysylltiedig â gwasanaeth yn y gyflogaeth gynllun y mae P yn aelod o’r cynllun hwn mewn cysylltiad â hi.

Gwrthgyfrif

185.—(1Caiff y rheolwr cynllun wrthgyfrif rhwymedigaeth ariannol berthnasol yn erbyn hawlogaeth aelod i gael buddion o dan y cynllun hwn.

(2Yn y rheoliad hwn, ystyr “rhwymedigaeth ariannol berthnasol” (“relevant monetary obligation”) yw rhwymedigaeth ariannol sy’n ddyledus gan aelod (P) ac sy’n bodloni’r amodau ym mharagraffau (3), (4) neu (5).

(3Yr amodau yn y paragraff hwn yw fod y rhwymedigaeth ariannol—

(a)wedi ei hachosi i gyflogwr P;

(b)wedi ei hachosi ar ôl i P ddod yn aelod actif o’r cynllun hwn;

(c)yn tarddu o, neu’n gysylltiedig â’r gyflogaeth gynllun y mae P yn aelod o’r cynllun hwn mewn cysylltiad â hi; a

(d)yn tarddu o weithred neu anwaith droseddol, esgeulus neu dwyllodrus gan P.

(4Yr amodau yn y paragraff hwn yw fod y rhwymedigaeth ariannol—

(a)wedi ei hachosi i’r cynllun hwn; a

(b)yn tarddu o weithred neu anwaith droseddol, esgeulus neu dwyllodrus gan P.

(5Yr amodau yn y paragraff hwn yw fod y rhwymedigaeth ariannol—

(a)wedi ei hachosi i’r cynllun hwn; a

(b)yn tarddu o daliad a wnaed i P mewn camgymeriad gan y rheolwr cynllun.

(6Mae paragraff (7) yn gymwys os bwriedir gweithredu gwrthgyfrif o ganlyniad i rwymedigaeth ariannol berthnasol sy’n ddyledus gan P ac yn bodloni’r amodau ym mharagraff (3).

(7Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, ni chaiff y rheolwr cynllun wrthgyfrif yn erbyn y rhan honno o hawlogaeth P i gael buddion sy’n cynrychioli credydau trosglwyddo, yn yr ystyr a roddir i “transfer credits” yn adran 124(1) (dehongli Rhan 1) o Ddeddf Pensiynau 1995(12), ac eithrio credydau trosglwyddo rhagnodedig at ddibenion adran 91(5)(d) (eithrio o anaralladwyedd pensiynau galwedigaethol) o’r Ddeddf honno(13).

(8Ni chaiff y rheolwr cynllun weithredu gwrth gyfrif ac eithrio yn erbyn y rhan honno o bensiwn aelod sydd dros ben unrhyw leiafswm gwarantedig y mae hawl gan yr aelod hwnnw i’w gael o dan adran 14 o DCauP 1993.

(9Ni chaiff gwerth y gwrthgyfrif a weithredir fod yn fwy na’r lleiaf o’r canlynol—

(a)swm y rhwymedigaeth ariannol berthnasol; a

(b)gwerth hawlogaeth P i gael buddion.

(10Ni chaiff y rheolwr cynllun wrthgyfrif rhwymedigaeth ariannol berthnasol yn erbyn hawlogaeth P i gael buddion ac eithrio—

(a)pan nad oes anghytundeb ynglŷn â swm y rhwymedigaeth ariannol berthnasol; neu

(b)pan fo’r rhwymedigaeth ariannol berthnasol yn orfodadwy fel a ganlyn—

(i)o dan orchymyn llys cymwys, neu

(ii)o ganlyniad i ddyfarniad gan gymrodeddwr.

Fforffedu a gwrthgyfrif: gweithdrefn

186.—(1Os yw’r rheolwr cynllun yn bwriadu cadw buddion yn ôl neu weithredu gwrthgyfrif yn erbyn hawlogaeth person i gael buddion, rhaid i’r rheolwr cynllun hysbysu’r person o’i fwriad mewn ysgrifen.

(2Os yw’r rheolwr cynllun yn cadw buddion yn ôl o dan reoliad 184 (fforffedu: rhwymedigaethau ariannol perthnasol a cholledion ariannol perthnasol) neu’n gweithredu gwrthgyfrif yn erbyn hawlogaeth i gael buddion o dan reoliad 185 (gwrthgyfrif), rhaid i’r rheolwr cynllun roi i’r aelod dystysgrif sy’n dangos—

(a)y swm a gedwir yn ôl neu a wrthgyfrifir; a

(b)effaith y cadw’n ôl neu’r gwrthgyfrif ar fuddion yr aelod, partner sy’n goroesi neu blentyn cymwys o dan y cynllun hwn.

PENNOD 3Talu a didynnu treth

Gweinyddwr cynllun at ddibenion Deddf Cyllid 2004

187.  Penodir y rheolwr cynllun i fod yn gyfrifol am yr holl rwymedigaethau a chyfrifoldebau sy’n gysylltiedig â’r swyddogaethau a roddir i, neu a osodir ar, y gweinyddwr cynllun gan neu o dan Ran 4 o DC 2004, ac yr ymgymerir â hwy gan y rheolwr cynllun fel gweinyddwr is-gynllun o dan reoliad 3 o Reoliadau Cynlluniau Pensiwn Cofrestredig (Hollti Cynlluniau) 2006 ac Atodlen 3 i’r Rheoliadau hynny(14).

Talu’r tâl lwfans oes ar ran aelodau

188.—(1Caiff aelod ofyn i weinyddwr y cynllun dalu, ar ran yr aelod, unrhyw swm sy’n daladwy fel tâl lwfans oes o dan adran 214 o DC 2004 pan fo—

(a)digwyddiad sy’n ddigwyddiad crisialu budd a restrir yn y tabl yn adran 216(1) o DC 2004 yn digwydd mewn perthynas â’r aelod; a

(b)yr aelod a’r rheolwr cynllun yn atebol ar y cyd ac yn unigol mewn perthynas â’r digwyddiad hwnnw.

(2Ni chaniateir gwneud cais o’r fath ac eithrio drwy hysbysiad i’r gweinyddwr cynllun ymlaen llaw cyn y digwyddiad.

(3Ni chaiff y rheolwr cynllun gydymffurfio â chais o’r fath onid yw’r aelod—

(a)yn talu’r swm sydd dan sylw iddo ar neu cyn dyddiad y digwyddiad; neu

(b)yn awdurdodi didynnu’r swm sydd dan sylw allan o gyfandaliad sy’n dod yn daladwy i’r aelod o dan y cynllun hwn yr un pryd â’r digwyddiad.

Lleihau buddion pan fo tâl lwfans oes yn daladwy

189.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—

(a)os yw’r digwyddiad sy’n ddigwyddiad crisialu budd a restrir yn y tabl yn adran 216(1) o DC 2004 (“y tabl”) yn digwydd mewn perthynas ag aelod(15);

(b)os yw’r aelod a’r rheolwr cynllun yn atebol ar y cyd ac yn unigol mewn perthynas â’r digwyddiad hwnnw; ac

(c)os na wnaed cais yn briodol o dan reoliad 188 (talu’r tâl lwfans oes ar ran aelodau) mewn perthynas â’r digwyddiad neu, os gwnaed cais o’r fath, rhwystrwyd y rheolwr cynllun rhag cydymffurfio â’r cais hwnnw gan baragraff (3) o’r rheoliad hwnnw.

(2Os yw’r rheoliad hwn yn gymwys—

(a)rhaid i’r rheolwr cynllun dalu’r dreth sy’n daladwy ar y digwyddiad;

(b)os y digwyddiad yw digwyddiad crisialu budd rhif 8 yn y tabl (trosglwyddo i gynllun pensiwn tramor cydnabyddedig cymwys),rhaid lleihau swm neu werth y symiau neu asedau a drosglwyddir; ac

(c)yn achos unrhyw ddigwyddiad arall yn y tabl hwnnw, rhaid lleihau swm neu werth y buddion sy’n daladwy i’r aelod neu mewn cysylltiad â’r aelod.

(3Rhaid i swm neu werth y lleihad—

(a)adlewyrchu swm cyflawn y dreth a dalwyd felly; a

(b)yn achos unrhyw ostyngiad mewn buddion pensiwn, cael ei gyfrifo yn unol â chanllawiau actiwaraidd.

Gwybodaeth ynghylch talu’r tâl lwfans blynyddol

190.—(1Os yw swm mewnbwn cynllun pensiwn aelod ar gyfer y cynllun hwn am gyfnod mewnbwn pensiwn yn fwy na swm y lwfans blynyddol ar gyfer y flwyddyn dreth y mae’r cyfnod mewnbwn pensiwn hwnnw yn diweddu ynddi, mae paragraff (2) yn gymwys mewn cysylltiad â’r aelod ar gyfer y flwyddyn dreth honno.

(2Rhaid i’r rheolwr cynllun, ddim hwyrach na 6 Hydref ar ôl diwedd y flwyddyn dreth, ddarparu i’r aelod y cyfryw wybodaeth a ystyrir yn briodol gan y rheolwr cynllun i gynorthwyo’r aelod i drefnu taliad o’r tâl lwfans blynyddol am y flwyddyn dreth honno, ynghyd â’r wybodaeth sy’n ofynnol gan reoliad 14A o Reoliadau Cynlluniau Pensiwn (Darparu Gwybodaeth) 2006(16).

(3Yn y rheoliad hwn—

mae i “cyfnod mewnbwn pensiwn” (“pension input period”) yr ystyr a roddir yn adran 238 (cyfnod mewnbwn pensiwn) o DC 2004(17);

mae i “swm mewnbwn cynllun pensiwn” (“pension scheme input amount”) yr ystyr a roddir yn adran 237B(2) (atebolrwydd gweinyddwr cynllun) o DC 2004(18).

Lleihau buddion pan fo tâl lwfans blynyddol wedi ei dalu gan reolwr cynllun

191.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo—

(a)aelod wedi rhoi hysbysiad dilys i’r rheolwr cynllun o’u hatebolrwydd ar y cyd ac yn unigol am dâl lwfans blynyddol o dan adran 237B(3) o DC 2004; a

(b)y rheolwr cynllun yn bodloni’r atebolrwydd a bennir yn yr hysbysiad.

(2Rhaid i reolwr cynllun leihau swm neu werth y buddion sy’n daladwy i’r aelod, neu mewn cysylltiad â’r aelod, ar gyfer y flwyddyn dreth y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi, yn unol â pharagraff (3).

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i swm neu werth y gostyngiad mewn buddion—

(a)adlewyrchu’r swm cyflawn a dalwyd gan y rheolwr cynllun; a

(b)cael ei benderfynu yn unol â chanllawiau actiwaraidd.

(4Ni chaniateir lleihau buddion o dan y rheoliad hwn ac eithrio i’r graddau na fyddai’r lleihad yn peri colli unrhyw ran o leiafswm pensiwn gwarantedig y mae hawl gan y person i’w gael.

PENNOD 4Cyffredinol

Cyfrifo cyfnodau o aelodaeth a gwasanaeth

192.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (3), at ddibenion y cynllun hwn rhaid mynegi cyfnodau o aelodaeth a gwasanaeth yn gyntaf oll mewn blynyddoedd cyfan a diwrnodau neu ffracsiynau o ddiwrnod, a rhaid cydgrynhoi’r cyfnodau ar y dechrau y mae’n ofynnol eu cydgrynhoi drwy gyfeirio at gyfnodau a fynegir felly.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ar ôl cydgrynhoi yr holl gyfnodau o aelodaeth neu o wasanaeth y mae’n ofynnol eu cydgrynhoi, os oes rhan o ddiwrnod dros ben y nifer o ddiwrnodau llawn, rhaid talgrynnu’r rhan dros ben honno i fyny, i wneud diwrnod llawn.

(3Os cyfeirir at aelodaeth neu wasanaeth yn y Rheoliadau hyn fel aelodaeth neu wasanaeth mewn blynyddoedd, rhaid trosi’r canlynol yn flynyddoedd—

(a)y diwrnodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1), a

(b)y diwrnodau llawn y cyfeirir atynt ym mharagraff (2),

drwy rannu nifer y diwrnodau sydd dros ben y cyfnod o flynyddoedd llawn gyda 365, a defnyddio’r canlyniad i bedwar lle degol.

(4Os yw cyfnod o aelodaeth neu wasanaeth yn llai nag un flwyddyn, mae’r rheoliad hwn yn gymwys fel pe bai’r geiriau “blynyddoedd cyfan a” wedi eu hepgor o baragraff (1) a’r geiriau “sydd dros ben y cyfnod o flynyddoedd llawn” wedi eu hepgor o baragraff (3).

Datganiadau blynyddol o wybodaeth am fuddion

193.—(1Rhaid i’r rheolwr cynllun ddarparu datganiad blynyddol o wybodaeth am fuddion i bob un o’i aelodau nad ydynt yn aelod-bensiynwyr, mewn cysylltiad â’r cyfrif pensiwn y darperir y datganiad ar ei gyfer.

(2Rhaid darparu’r datganiadau cyntaf o’r fath ar neu cyn 31 Awst 2016.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid darparu datganiadau dilynol o leiaf unwaith y flwyddyn ar neu cyn 31 Awst ym mhob blwyddyn ddilynol.

(4Os digwydd i aelod wneud cais mewn ysgrifen am ddarparu datganiad iddo ar ôl diwedd blwyddyn gynllun, ond cyn 31 Awst yn y flwyddyn gynllun ddilynol, rhaid i’r rheolwr cynllun ddarparu datganiad blynyddol o wybodaeth am fuddion yn unol â chais yr aelod cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, ac eithrio pan nad yw’r data perthnasol ar gael i’w alluogi i wneud hynny.

(5Rhaid i’r datganiad a ddarperir i aelodau actif o’r cynllun hwn fod yn unol ag adran 14 o Ddeddf 2013 (gwybodaeth am fuddion).

Tystiolaeth o hawlogaeth

194.—(1Caiff rheolwr cynllun, drwy hysbysiad ysgrifenedig, ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson sy’n cael pensiwn, neu a allai fod â hawlogaeth i gael pensiwn neu gyfandaliad o dan y cynllun hwn, yn darparu pa bynnag dystiolaeth ategol y gofynnir amdani’n rhesymol gan y rheolwr cynllun er mwyn cadarnhau—

(a)enw’r person hwnnw; a

(b)hawl y person hwnnw, sy’n parhau neu yn y dyfodol i gael taliad o unrhyw swm o dan y cynllun hwn.

(2Rhaid i hysbysiad o dan baragraff (1) bennu erbyn pa ddyddiad y mae’n rhaid darparu’r wybodaeth.

(3Pan fo person yn methu â chydymffurfio â gofynion hysbysiad a roddir yn unol â pharagraff (1), caiff y rheolwr cynllun gadw’n ôl y cyfan neu ran o unrhyw swm y byddai’r rheolwr cynllun, fel arall, yn ei ystyried yn daladwy o dan y cynllun hwn.

Gwybodaeth sydd i’w darparu i aelod cyn absenoldeb gwasanaeth lluoedd wrth gefn

195.  Rhaid i’r rheolwr cynllun roi i aelod sydd ar fin cychwyn cyfnod o absenoldeb gwasanaeth lluoedd wrth gefn ddatganiad sy’n nodi—

(a)tâl pensiynadwy tybiedig yr aelod hwnnw tra bo ar absenoldeb gwasanaeth lluoedd wrth gefn;

(b)y gyfradd cyfraniadau aelod a fydd yn gymwys yn ystod y cyfnod hwnnw;

(c)manylion unrhyw daliadau sydd i’w talu gan y cyflogwr i’r aelod tra bo ar absenoldeb gwasanaeth lluoedd wrth gefn; a

(d)y cyfraniad cyflogwr a fydd yn gymwys yn ystod y cyfnod hwnnw.

Darpariaethau trosiannol

196.  Mae Atodlen 2 yn cael effaith.

Dyletswydd i roi sylw i ganllawiau

197.  Rhaid i reolwr cynllun roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru at ddibenion y Rhan hon.

(1)

O dan adran 9 o Ddeddf 2013 y newid mewn enillion sydd i’w wneud mewn cyfnod yw y cynnydd neu ostyngiad canran a bennir gan orchymyn Trysorlys o dan yr adran honno mewn perthynas â’r cyfnod hwnnw.

(2)

Mewnosodwyd is-adran (2B) gan Ddeddf Pensiynau 1995 (p. 26), adran 136(3) ac fe’i diwygiwyd gan Ddeddf Cyfraniadau Nawdd Cymdeithasol (Trosglwyddo Swyddogaethau etc.) 1999 (p. 2), Atodlen 1, paragraff 35.

(3)

O.S. 1996/1172. Amnewidiwyd rheoliad 60 gan O.S. 2006/744 ac fe’i diwygiwyd gan 2006/1337, 2009/2930 a 2010/499.

(4)

O.S. 1997/785. diwygiwyd rheoliad 2 gan O.S. 2002/681, 2005/706, 2006/744, 2006/778 a 2009/2930.

(5)

Diwygiwyd paragraff 7 gan Ddeddf Cyllid 2011 (p. 11), Atodlen 16, paragraffau 23 a 29 ac Atodlen 18, paragraffau 1, 3, a 4; a chan Ddeddf Cyllid 2014 (p. 26), adran 42(1); a chan O.S.2006/572.

(6)

Diwygiwyd paragraff 20 gan Ddeddf Cyllid 2011 (p. 11), Atodlen 16, paragraffau 32 a 39 ac Atodlen 18, paragraffau 1, 3 a 6.

(7)

O.S. 2000/1054. Diwygiwyd rheoliad 3 gan O.S. 2009/2930.

(8)

1965 p. 32; gwnaed diwygiadau i adran 6, nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.

(10)

1989 p. 6; gweler adran 16(2) ar gyfer ystyr “Official Secrets Acts 1911 to 1989”.

(12)

Diwygiwyd adran 124(1) gan Ddeddf Diwygio Lles a Phensiynau 1999 (p. 30), Atodlen 12, paragraffau 43 a 61; gan Ddeddf Cymorth Plant, Pensiynau a Nawdd Cymdeithasol 2000 (p. 19), Atodlen 5, paragraff 8; gan Ddeddf Pensiynau 2004 (p. 35), adran 7(2), Atodlen 12, paragraffau 34, 43 a 69 ac Atodlen 13, Rhan 1; a chan O.S. 2005/2053, 2006/745 a 2014/560.

(13)

Diwygiwyd adran 91(5)(d) gan Ddeddf Diwygio Lles a Phensiynau 1999 (p. 30), Atodlen 12, paragraffau 43 a 57. Gweler O.S. 1997/785 sy’n rhagnodi’r credydau trosglwyddo.

(14)

O.S. 2006/569; diwygiwyd gan O.S. 2013/1114.

(15)

Diwygiwyd adran 216(1) gan Ddeddf Cyllid 2005 (p. 7), Atodlen 10, paragraffau 31 a 42; Deddf Cyllid 2006 (p. 25), Atodlen 23, paragraff 30; Deddf Cyllid 2008 (p. 9), Atodlen 29, paragraffau 1(3) a 5; a Deddf Cyllid 2011 (p. 11), Atodlen 16, paragraffau 43 a 73(2).

(16)

O.S. 2006/567; mewnosodwyd rheoliad 14A gan reoliadau 2 ac 8 o O.S. 2011/1797. Fe’i diwygiwyd gan Ddeddf Trethu Pensiynau 2014 (p. 30), adran 1 ac Atodlen 1, paragraff 88.

(17)

Diwygiwyd adran 238 gan ddeddf Cyllid 2011 (p. 11), Atodlen 17, paragraff 16.

(18)

2004 p. 12; mewnosodwyd adran 237B gan Ddeddf Cyllid 2011 (p. 11), Atodlen 17, paragraff 15 ac fe’i diwygiwyd gan Ddeddf Cyllid 2013 (p. 29), Atodlen 46, paragraffau 119 a 129.