xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
181.—(1) Os caiff aelod, partner sy’n goroesi neu blentyn cymwys ei gollfarnu am drosedd berthnasol, caiff y rheolwr cynllun, i’r cyfryw raddau ac am y cyfryw gyfnod a ystyria’n briodol, gadw’n ôl bensiynau sy’n daladwy o dan y cynllun hwn i—
(a)yr aelod;
(b)unrhyw berson mewn cysylltiad â’r aelod;
(c)partner sy’n goroesi; neu
(d)plentyn cymwys.
(2) Os yw pensiwn partner sy’n goroesi neu bensiwn plentyn cymwys o dan Ran 6 (buddion marwolaeth) i gael ei gadw’n ôl o dan baragraff (1), o ganlyniad i drosedd berthnasol sy’n dod o fewn is-baragraff (a) neu (b) o’r diffiniad o’r ymadrodd hwnnw ym mharagraff (5), rhaid i’r drosedd fod wedi ei chyflawni ar ôl y farwolaeth a oedd yn peri bod y person yn cael yr hawl i bensiwn partner sy’n goroesi neu bensiwn plentyn cymwys, yn ôl fel y digwydd.
(3) Ni chaiff y rheolwr cynllun gadw’n ôl ddim mwy na’r rhan honno o bensiwn person sydd dros ben unrhyw leiafswm gwarantedig y mae hawl gan y person i’w gael o dan—
(a)adran 14 o DCauP 1993 (lleiafswm gwarantedig enillydd); neu
(b)adran 17 (lleiafswm pensiynau ar gyfer gwragedd a gwŷr gweddw)(1) o’r Ddeddf honno.
(4) Caiff y rheolwr cynllun, ar unrhyw adeg ac i’r cyfryw raddau ac am y cyfryw gyfnod a ystyria’n briodol—
(a)defnyddio er budd unrhyw ddibynnydd yr aelod; neu
(b)adfer i’r aelod,
gymaint o unrhyw bensiwn ag a gadwyd yn ôl o dan y rheoliad hwn.
(5) Yn y rheoliad hwn—
ystyr “trosedd berthnasol” (“relevant offence”) yw—
trosedd o frad,
trosedd o dan y Deddfau Cyfrinachau Swyddogol 1911 i 1989(2) y dedfrydwyd yr aelod amdani ar yr un achlysur—
i gyfnod o garchar am o leiaf 10 mlynedd, neu
i ddau neu ragor o gyfnodau olynol o garchar sydd â’u hyd cyfanredol yn 10 mlynedd o leiaf, neu
trosedd—
a gyflawnwyd mewn cysylltiad â chyflogaeth gynllun yr aelod; a
y dyroddwyd tystysgrif fforffedu mewn cysylltiad â hi gan Weinidogion Cymru;
ystyr “tystysgrif fforffedu” (“forfeiture certificate”) yw tystysgrif sy’n datgan bod Gweinidogion Cymru o’r farn bod y drosedd—
wedi peri niwed difrifol i fuddiannau’r Wladwriaeth, neu
yn debygol o arwain at golled hyder ddifrifol yn y gwasanaeth cyhoeddus.
182.—(1) Os collfernir person (“P”) o lofruddiaeth aelod, rhaid i’r rheolwr cynllun gadw’n ôl y cyfan o unrhyw bensiwn partner sy’n goroesi neu bensiwn plentyn cymwys a fyddai, fel arall, yn daladwy i P mewn cysylltiad â’r aelod o dan Ran 6 (buddion marwolaeth).
(2) Os collfernir P o drosedd berthnasol, caiff y rheolwr cynllun, i’r cyfryw raddau yr ystyria’n briodol, gadw’n ôl unrhyw bensiwn partner sy’n goroesi neu bensiwn plentyn cymwys sy’n daladwy i P mewn cysylltiad ag aelod o dan Ran 6 (buddion marwolaeth).
(3) Os yw paragraff (1) yn gymwys, mae Rhan 6 (buddion marwolaeth) yn gymwys fel pe buasai farw P cyn yr aelod.
(4) O dan baragraff (2), ni chaiff y rheolwr cynllun gadw’n ôl ddim mwy na’r rhan o bensiwn P sydd dros ben unrhyw leiafswm gwarantedig y mae hawl gan P i’w gael o dan adran 17 o DCauP 1993(3).
(5) Os collfernir P o lofruddiaeth aelod a diddymir y gollfarn yn ddiweddarach yn dilyn apêl, mae unrhyw bensiwn partner sy’n goroesi neu bensiwn plentyn cymwys a gadwyd yn ôl yn daladwy o’r diwrnod ar ôl y diwrnod y bu farw’r aelod, a rhaid i’r rheolwr cynllun, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diddymu’r gollfarn, dalu’r ôl-ddyled gronedig o bensiwn.
(6) Os collfernir P o drosedd berthnasol a diddymir y gollfarn yn ddiweddarach yn dilyn apêl, mae unrhyw benderfyniad o dan baragraff (2) i’w drin fel pe bai wedi ei ddirymu a rhaid i’r rheolwr cynllun, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diddymu’r gollfarn, dalu’r ôl-ddyled gronedig o bensiwn o’r diwrnod ar ôl y diwrnod y bu farw’r aelod.
(7) Ni chaiff dim sydd ym mharagraffau (5) neu (6) effeithio ar gymhwyso paragraffau (1) neu (2) os yw’r person y diddymwyd ei gollfarn yn cael ei gollfarnu yn ddiweddarach o lofruddiaeth yr aelod, neu o drosedd berthnasol.
(8) Yn y rheoliad hwn, ystyr “trosedd berthnasol” (“relevant offence”) yw—
(a)dynladdiad yr aelod; neu
(b)unrhyw drosedd arall, ac eithrio llofruddiaeth, y mae lladd yr aelod yn anghyfreithlon yn elfen ynddi.
183.—(1) Os collfernir person o drosedd berthnasol, rhaid i’r rheolwr cynllun gadw’n ôl y cyfan o unrhyw gyfandaliad budd marwolaeth sy’n daladwy i’r person hwnnw mewn cysylltiad ag aelod o dan Bennod 4 o Ran 6 (buddion marwolaeth).
(2) yn y rheoliad hwn, ystyr “trosedd berthnasol” (“relevant offence”) yw—
(a)llofruddiaeth yr aelod;
(b)dynladdiad yr aelod; neu
(c)unrhyw drosedd arall y mae lladd yr aelod yn anghyfreithlon yn elfen ynddi.
(3) Os yw paragraff (1) yn gymwys a’r rheolwr cynllun yn cadw’n ôl yr holl fuddion, mae Rhan 6 (buddion marwolaeth) yn gymwys fel pe buasai’r person hwnnw farw cyn yr aelod.
(4) Os collfernir person o drosedd berthnasol a diddymir y gollfarn yn ddiweddarach yn dilyn apêl, caiff y rheolwr cynllun, i’r cyfryw raddau ac am y cyfryw gyfnod yr ystyria’n briodol, adfer i’r person hwnnw gymaint o unrhyw fudd ag a gadwyd yn ôl o dan y rheoliad hwn.
(5) Ni chaiff dim sydd ym mharagraff (4) effeithio ar gymhwyso paragraff (1) os yw’r person y diddymwyd ei gollfarn yn cael ei gollfarnu yn ddiweddarach o drosedd berthnasol.
184.—(1) Os oes gan aelod (P) rwymedigaeth ariannol berthnasol neu os yw wedi achosi colled ariannol berthnasol, caiff y rheolwr cynllun, i’r cyfryw raddau ac am y cyfryw gyfnod yr ystyria’n briodol, gadw’n ôl buddion sy’n daladwy i P o dan y cynllun hwn.
(2) Caiff y rheolwr cynllun gadw’n ôl fuddion i’r graddau yr ystyria’r rheolwr cynllun yn briodol, ond ni chaiff gadw’n ôl ddim mwy na’r rhan honno o bensiwn P sydd dros ben unrhyw leiafswm gwarantedig y mae hawl gan P i’w gael o dan adran 14 o DCauP 1993.
(3) Ni chaiff y rheolwr cynllun gadw’n ôl ddim mwy na’r lleiaf o’r canlynol—
(a)swm y rhwymedigaeth ariannol berthnasol neu’r golled ariannol berthnasol; a
(b)gwerth hawlogaeth P i gael buddion.
(4) Ni chaiff y rheolwr cynllun gadw buddion yn ôl ac eithrio—
(a)os oes anghytundeb ynglŷn â swm y rhwymedigaeth ariannol berthnasol neu’r golled ariannol berthnasol; neu
(b)os yw’r rhwymedigaeth ariannol berthnasol neu’r golled ariannol berthnasol yn orfodadwy fel a ganlyn—
(i)o dan orchymyn gan lys cymwys, neu
(ii)o ganlyniad i ddyfarniad gan gymrodeddwr.
(5) Yn y rheoliad hwn—
ystyr “colled ariannol berthnasol” (“relevant monetary loss”) yw colled ariannol—
a achoswyd i’r cynllun hwn, a
a oedd yn tarddu o weithred neu anwaith droseddol, esgeulus neu dwyllodrus gan P; ac
ystyr “rhwymedigaeth ariannol berthnasol” (“relevant monetary obligation”) yw rhwymedigaeth ariannol—
a achoswyd i gyflogwr P,
a achoswyd wedi i P ddod yn aelod actif o’r cynllun hwn,
a oedd yn tarddu o weithred neu anwaith droseddol, esgeulus neu dwyllodrus gan P, a
a oedd yn tarddu o, neu’n gysylltiedig â gwasanaeth yn y gyflogaeth gynllun y mae P yn aelod o’r cynllun hwn mewn cysylltiad â hi.
185.—(1) Caiff y rheolwr cynllun wrthgyfrif rhwymedigaeth ariannol berthnasol yn erbyn hawlogaeth aelod i gael buddion o dan y cynllun hwn.
(2) Yn y rheoliad hwn, ystyr “rhwymedigaeth ariannol berthnasol” (“relevant monetary obligation”) yw rhwymedigaeth ariannol sy’n ddyledus gan aelod (P) ac sy’n bodloni’r amodau ym mharagraffau (3), (4) neu (5).
(3) Yr amodau yn y paragraff hwn yw fod y rhwymedigaeth ariannol—
(a)wedi ei hachosi i gyflogwr P;
(b)wedi ei hachosi ar ôl i P ddod yn aelod actif o’r cynllun hwn;
(c)yn tarddu o, neu’n gysylltiedig â’r gyflogaeth gynllun y mae P yn aelod o’r cynllun hwn mewn cysylltiad â hi; a
(d)yn tarddu o weithred neu anwaith droseddol, esgeulus neu dwyllodrus gan P.
(4) Yr amodau yn y paragraff hwn yw fod y rhwymedigaeth ariannol—
(a)wedi ei hachosi i’r cynllun hwn; a
(b)yn tarddu o weithred neu anwaith droseddol, esgeulus neu dwyllodrus gan P.
(5) Yr amodau yn y paragraff hwn yw fod y rhwymedigaeth ariannol—
(a)wedi ei hachosi i’r cynllun hwn; a
(b)yn tarddu o daliad a wnaed i P mewn camgymeriad gan y rheolwr cynllun.
(6) Mae paragraff (7) yn gymwys os bwriedir gweithredu gwrthgyfrif o ganlyniad i rwymedigaeth ariannol berthnasol sy’n ddyledus gan P ac yn bodloni’r amodau ym mharagraff (3).
(7) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, ni chaiff y rheolwr cynllun wrthgyfrif yn erbyn y rhan honno o hawlogaeth P i gael buddion sy’n cynrychioli credydau trosglwyddo, yn yr ystyr a roddir i “transfer credits” yn adran 124(1) (dehongli Rhan 1) o Ddeddf Pensiynau 1995(4), ac eithrio credydau trosglwyddo rhagnodedig at ddibenion adran 91(5)(d) (eithrio o anaralladwyedd pensiynau galwedigaethol) o’r Ddeddf honno(5).
(8) Ni chaiff y rheolwr cynllun weithredu gwrth gyfrif ac eithrio yn erbyn y rhan honno o bensiwn aelod sydd dros ben unrhyw leiafswm gwarantedig y mae hawl gan yr aelod hwnnw i’w gael o dan adran 14 o DCauP 1993.
(9) Ni chaiff gwerth y gwrthgyfrif a weithredir fod yn fwy na’r lleiaf o’r canlynol—
(a)swm y rhwymedigaeth ariannol berthnasol; a
(b)gwerth hawlogaeth P i gael buddion.
(10) Ni chaiff y rheolwr cynllun wrthgyfrif rhwymedigaeth ariannol berthnasol yn erbyn hawlogaeth P i gael buddion ac eithrio—
(a)pan nad oes anghytundeb ynglŷn â swm y rhwymedigaeth ariannol berthnasol; neu
(b)pan fo’r rhwymedigaeth ariannol berthnasol yn orfodadwy fel a ganlyn—
(i)o dan orchymyn llys cymwys, neu
(ii)o ganlyniad i ddyfarniad gan gymrodeddwr.
186.—(1) Os yw’r rheolwr cynllun yn bwriadu cadw buddion yn ôl neu weithredu gwrthgyfrif yn erbyn hawlogaeth person i gael buddion, rhaid i’r rheolwr cynllun hysbysu’r person o’i fwriad mewn ysgrifen.
(2) Os yw’r rheolwr cynllun yn cadw buddion yn ôl o dan reoliad 184 (fforffedu: rhwymedigaethau ariannol perthnasol a cholledion ariannol perthnasol) neu’n gweithredu gwrthgyfrif yn erbyn hawlogaeth i gael buddion o dan reoliad 185 (gwrthgyfrif), rhaid i’r rheolwr cynllun roi i’r aelod dystysgrif sy’n dangos—
(a)y swm a gedwir yn ôl neu a wrthgyfrifir; a
(b)effaith y cadw’n ôl neu’r gwrthgyfrif ar fuddion yr aelod, partner sy’n goroesi neu blentyn cymwys o dan y cynllun hwn.
Diwygiwyd adran 17 gan Ddeddf Cyfraniadau Nawdd Cymdeithasol (Trosglwyddo Swyddogaethau, etc.) 1999 (p. 2), Atodlen 1, paragraff 39; Deddf Cymorth Plant, Pensiynau a Nawdd Cymdeithasol 2000 (p. 19), Atodlen 5, paragraff 1 ac Atodlen 9, Rhan 3; Deddf Pensiynau 2004 (p. 35), adran 284(2); Deddf Pensiynau 2007 (p.22), adran 14(2); Deddf Priodasau (Cyplau o’r Un Rhyw) 2013 (p. 30), Atodlen 4, paragraffau 18 ac 20; ac O.S. 2005/2050 a 2014/560.
1989 p. 6; gweler adran 16(2) ar gyfer ystyr “Official Secrets Acts 1911 to 1989”.
Diwygiwyd adran 124(1) gan Ddeddf Diwygio Lles a Phensiynau 1999 (p. 30), Atodlen 12, paragraffau 43 a 61; gan Ddeddf Cymorth Plant, Pensiynau a Nawdd Cymdeithasol 2000 (p. 19), Atodlen 5, paragraff 8; gan Ddeddf Pensiynau 2004 (p. 35), adran 7(2), Atodlen 12, paragraffau 34, 43 a 69 ac Atodlen 13, Rhan 1; a chan O.S. 2005/2053, 2006/745 a 2014/560.
Diwygiwyd adran 91(5)(d) gan Ddeddf Diwygio Lles a Phensiynau 1999 (p. 30), Atodlen 12, paragraffau 43 a 57. Gweler O.S. 1997/785 sy’n rhagnodi’r credydau trosglwyddo.