xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2015 rHIF 604 (Cy. 49)

Gwasanaethau Tân Ac Achub, Cymru

Gorchymyn Awdurdodau Tân ac Achub (Dangosyddion Perfformiad) (Cymru) 2015

Gwnaed

9 Mawrth 2015

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol

10 Mawrth 2015

Yn dod i rym

1 Ebrill 2015

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 8(1)(a) o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009(1), ac ar ôl ymgynghori â’r personau hynny y mae’n ofynnol iddynt ymgynghori â hwy, o dan adran 8(3) o’r Mesur hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Enwi, cychwyn, a chymhwyso

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdodau Tân ac Achub (Dangosyddion Perfformiad) (Cymru) 2015.

(2Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran awdurdodau tân ac achub Cymreig(2) a daw i rym ar 1 Ebrill 2015.

Dangosyddion perfformiad

2.—(1Pennir y dangosyddion perfformiad yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn at ddiben adran 8(1)(a) o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009.

(2Mae’r dangosyddion perfformiad a bennir yn yr Atodlen yn gymwys i flynyddoedd ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2015 ac ar ôl hynny.

Dirymu

3.  Mae Gorchymyn Awdurdodau Tân ac Achub (Dangosyddion Perfformiad) (Cymru) 2011(3) wedi ei ddirymu.

Leighton Andrews

Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru

9 Mawrth 2015

Erthgyl 2

YR ATODLEN

Lleihau Risgiau a Diogelwch Cymunedol

CyfeirnodDangosydd
FRS/RRC/S/001Cyfanswm:
(i) y tanau yr aethpwyd iddynt am bob 10,000 o’r boblogaeth;
(ii) y galwadau ffug yr aethpwyd iddynt am bob 10,000 o’r boblogaeth;
(iii) y gwrthdrawiadau traffig ffyrdd yr aethpwyd iddynt am bob 10,000 o’r boblogaeth;
(iv) y digwyddiadau eraill yr aethpwyd iddynt am bob 10,000 o’r boblogaeth.
FRS/RRC/S/002Cyfanswm:
(i) y marwolaethau a’r anafiadau a ddeilliodd o’r holl danau am bob 100,000 o’r boblogaeth;
(ii) y marwolaethau a’r anafiadau a ddeilliodd o danau damweiniol am bob 100,000 o’r boblogaeth.

Ymateb Effeithiol

CyfeirnodDangosydd
FRS/EFR/S/003(i) Canran y tanau mewn anheddau a gyfyngwyd o fewn yr ystafell lle cychwynnodd y tanau.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn dirymu Gorchymyn Awdurdodau Tân ac Achub (Dangosyddion Perfformiad) (Cymru) 2011 (O.S. 2011/558 (Cy. 80)) ac yn pennu, o ran Cymru, set newydd o ddangosyddion perfformiad statudol y bydd perfformiad awdurdodau tân ac achub, wrth iddynt arfer eu swyddogaethau, yn cael eu mesur yn eu herbyn. Bydd y Gorchymyn yn cael effaith o 1 Ebrill 2015.

Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn pennu bod y dangosyddion perfformiad wedi eu nodi yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.

(2)

O dan adran 1 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009, awdurdod tân ac achub Cymreig yw awdurdod yng Nghymru a gyfansoddwyd drwy gynllun o dan adran 2 o Ddeddf Gwasasnaethau Tân ac Achub 2004 (p. 21) neu gynllun y mae adran 4 o’r Ddeddf honno yn gymwys iddo.