xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2015 Rhif 2020 (Cy. 308)

Amaethyddiaeth, Cymru

Dŵr, Cymru

Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) (Diwygio) 2015

Gwnaed

11 Rhagfyr 2015

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

14 Rhagfyr 2015

Yn dod i rym

8 Ionawr 2016

Mae Gweinidogion Cymru wedi’u dynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas â materion sy’n ymwneud â diogelu dyfroedd rhag llygredd a achosir gan nitradau o ffynonellau amaethyddol a chadwraeth cynefinoedd gwyllt a fflora a ffawna ac maent yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran honno.

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) (Diwygio) 2015, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 8 Ionawr 2016.

Diwygio Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2013

2.  Diwygir Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2013(3) yn unol â rheoliadau 3 i 7.

Diwygio rheoliad 6 (dehongli)

3.—(1Yn rheoliad 6 (dehongli), yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder——

“ystyr “daliad a randdirymwyd” (“derogated holding”) yw daliad y mae gan randdirymiad effaith drosto;

ystyr “rhanddirymiad” (“derogation”) yw rhanddirymiad a roddir o dan Ran 3A o derfyn y cyfanswm o nitrogen mewn tail da byw y gellir ei ddodi ar dir bob blwyddyn yn unol â pharagraff 2(b) o Atodiad III o Gyfarwyddeb y Cyngor 91/676/EEC a Phenderfyniad y Comisiwn 2013/781/EU(4)

ystyr “cais i randdirymu” (“derogation application”) yw cais am randdirymiad;

(2yn y diffiniad “cynllun gwrteithio” ar ôl y geiriau “reoliad 14(1)(c)” mewnosoder—

“neu gynlluniau eraill cyffelyb sy’n ofynnol o dan Atodlen 5..

Diwygio rheoliad 12 (dodi tail da byw – y terfyn mewn perthynas â chyfanswm y nitrogen ar gyfer yr holl ddaliad)

4.  Ar ddechrau paragraff (1) o reoliad 12 (dodi tail da byw – y terfyn mewn perthynas â chyfanswm y nitrogen ar gyfer yr holl ddaliad) mewnosoder “Ac eithrio pan fo’r meddiannydd wedi cael rhanddirymiad,”.

Mewnosod Rhan 3A newydd

5.  Ar ôl Rhan 3 (Cyfyngu ar ddodi tail organig), mewnosoder—

RHAN 3ARhanddirymu

Cais i randdirymu

13A.(1) (1)Caiff meddiannydd unrhyw ddaliad neu unrhyw berson ar ran y meddiannydd (“y ceisydd”) wneud cais i Gorff Adnoddau Naturiol Cymru am randdirymiad pan cafodd 80% neu fwy o’r ardal amaethyddol ei hau â phorfa.

(2) Mae’n rhaid i gais o dan y rheoliad hwn gynnwys gydag ef ddatganiad ysgrifenedig yn datgan y bydd y meddiannydd yn bodloni’r amodau a nodir yn Atodiad 5.

(3) Rhaid i gais i randdirymu gael ei gyflwyno erbyn 31 Rhagfyr yn y flwyddyn galendr o flaen honno y gwneir y cais ar ei chyfer.

(4) Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r dull a’r ffurf y mae’n rhaid i’r cais gael ei wneud ynddynt.

(5) Rhaid i Gorff Adnoddau Naturiol Cymru ganiatáu neu wrthod cais i randdirymu cyn gynted ag y bo’n ymarferol a hysbysu’r ceisydd o’r penderfyniad yn ysgrifenedig ac, os bydd Corff Adnoddau Naturiol Cymru yn gwrthod cais i randdirymu, rhaid iddo ar yr un pryd roi rhesymau dros wrthod.

(6) Rhaid i Gorff Adnoddau Naturiol Cymru wrthod cais i randdirymu pan fo o’r farn y byddai caniatáu rhanddirymiad yn cael effaith andwyol ar gyfanrwydd—

(a)safle Ewropeaidd; neu

(b)safle morol alltraeth Ewropeaidd,

pan fo’r safleoedd hynny wedi bod yn ddarostyngedig i asesiad priodol o dan reoliad 61 o Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010(5).

(7) Pan fo Corff Adnoddau Naturiol Cymru wedi gwrthod caniatáu’r cais i randdirymu, caiff y ceisydd apelio yn unol â’r weithdrefn a nodir yn rheoliad 13B.

(8) Rhaid i Gorff Adnoddau Naturiol Cymru (yn ddarostyngedig i baragraff (8)) wrthod y cais os canfu bod y meddiannydd wedi torri amodau’r rhanddirymiad yn ystod y flwyddyn galendr o flaen honno y mae’r cais yn berthnasol iddi.

(9) Os canfu bod y meddiannydd wedi torri amodau’r rhanddirymiad ar ôl dyddiad y cais ond cyn i benderfyniad gael ei wneud (a chyn y flwyddyn galendr y mae’r cais yn berthnasol iddi), caiff Corff Adnoddau Naturiol Cymru, gan ystyried difrifoldeb y drosedd, ddewis caniatáu neu wrthod y cais.

(10) Os canfu bod y meddiannydd wedi torri amodau’r rhanddirymiad ar ôl i’r cais gael ei ganiatáu (ond cyn y flwyddyn galendr y mae’r cais yn berthnasol iddi), caiff Corff Adnoddau Naturiol Cymru, gan ystyried difrifoldeb y drosedd, ddirymu’r rhanddirymiad drwy anfon hysbysiad ysgrifenedig at y ceisydd cyn y flwyddyn galendr y caniatawyd y cais ar ei chyfer.

(11) Pan fo Corff Adnoddau Naturiol Cymru yn caniatáu cais mewn achos yn unol â pharagraff (8) neu’n penderfynu peidio â dirymu rhanddirymiad mewn achos yn unol â pharagraff (9), rhaid iddo wrthod y cais nesaf a wneir o dan reoliad 13A gan neu ar ran y meddiannydd.

(12) At ddibenion y rheoliad hwn, ystyrir bod person wedi torri amodau’r rhanddirymiad os—

(a)yw’r person wedi ei gollfarnu o drosedd o dan reoliad 49 sy’n deillio o dorri’r amodau hynny ac naill ai na chaiff apêl pellach ei gwneud yn erbyn y gollfarn, neu lle gwnaed apêl, aeth y penderfyniad yn erbyn y person;

(b)yw’r person wedi derbyn rhybudd syml am drosedd o’r fath.

(13) Pan fo Corff Adnoddau Naturiol Cymru wedi caniatáu’r cais i randdirymu, rhaid i Gorff Adnoddau Naturiol Cymru ddynodi’r daliad y mae’r rhanddirymiad yn gymwys ar ei gyfer yn ddaliad a randdirymwyd am y flwyddyn galendr y gwnaed y cais ar ei chyfer.

(14) Rhaid i’r meddiannydd gadw cofnod o’r cais i randdirymu a’r penderfyniad.

(15) Yn y rheoliad hwn—

(a)ystyr “safle morol alltraeth Ewropeaidd” yw safle morol alltraeth Ewropeaidd o fewn ystyr rheoliad 15 (ystyr safle morol alltraeth Ewropeaidd) o Reoliadau Cadwraeth Forol Alltraeth (Cynefinoedd Naturiol, &c.) 2007(6); a

(b)ystyr “safle Ewropeaidd” yw safle Ewropeaidd o fewn ystyr rheoliad 8 o Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010.

Apelio yn erbyn gwrthod cais i randdirymu

13B.(1) Pan fo Corff Adnoddau Naturiol Cymru wedi gwrthod cais i randdirymu, caiff y ceisydd drwy hysbysiad apelio yn erbyn y penderfyniad i banel annibynnol a benodwyd gan Weinidogion Cymru at ddibenion y Rheoliadau hyn.

(2) Rhaid i apêl o dan y rheoliad hwn gael ei chyflwyno o fewn 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau drannoeth dyddiad y gwrthod.

(3) Rhaid i apêl o dan y rheoliad hwn gael ei gwneud yn y dull a’r ffurf a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru.

(4) Rhaid i’r panel a gaiff ei benodi o dan y rheoliad hwn gynnwys odrif o bersonau (a rhaid iddo gynnwys o leiaf dri pherson).

(5) Mae penderfyniad gan y panel i’w wneud drwy fwyafrif syml.

(6) Rhaid i’r panel seilio ei benderfyniad ar—

(a)dogfennau a gyflwynwyd iddo gan yr apelydd;

(b)dogfennau a gyflwynwyd iddo gan Gorff Adnoddau Naturiol Cymru; ac

(c)unrhyw wybodaeth ychwanegol gan yr apelydd neu Gorff Adnoddau Naturiol Cymru y mae’n ei hystyried sy’n angenrheidiol.

(7) At ddibenion paragraff (6)(c), caiff y panel—

(a)gofyn i’r apelydd neu i Gorff Adnoddau Naturiol Cymru ddarparu’r wybodaeth ychwanegol; neu

(b)mewn amgylchiadau eithriadol, gynnal gwrandawiad llafar lle caiff yr apelydd a Chorff Adnoddau Naturiol Cymru ymddangos.

(8) Os bydd y panel yn caniatáu apêl o dan y rheoliad hwn, rhaid i Gorff Adnoddau Naturiol Cymru ddynodi’r daliad dan sylw fel daliad a randdirymwyd am y flwyddyn galendr y gwnaed y cais ar ei chyfer.

(9) Ar ôl penderfynu ar apêl o dan y rheoliad hwn, rhaid i’r panel—

(a)cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, hysbysu Corff Adnoddau Naturiol Cymru, yr apelydd a Gweinidogion Cymru o’i benderfyniad yn ysgrifenedig; a

(b)pan fo’n gwrthod yr apêl, rhoi’r rhesymau dros wrthod.

(10) (Rhaid i bob parti mewn apêl o dan y rheoliad hwn ysgwyddo ei gostau ei hun.

Daliadau a randdirymwyd

13C.  Mae Atodlen 5 yn cael effaith mewn perthynas â daliadau a randdirymwyd..

Mewnosod Atodlen 5 newydd

6.  Ar ôl Atodlen 4 (Y cnydau a ganiateir am y cyfnod gwaharddedig), mewnosoder gynnwys yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.

Diwygio Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010

7.—(1Yn rheoliad 101(1)(b) o Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010(7) yn lle “2008” rhodder “2013”.

Rebecca Evans

Y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, un o Weinidogion Cymru

11 Rhagfyr 2015

Rheoliad 6

YR ATODLEN

Rheoliad 13C

ATODLEN 5Daliadau a randdirymwyd

1.  Mae’r gofynion ychwanegol a ganlyn yn gymwys i ddaliadau a randdirymwyd.

Cyflwyniad

2.  Yn yr Atodlen hon ystyr “y meddiannydd” yw “meddiannydd daliad a randdirymwyd”

Rhanddirymiad oddi wrth y mesurau sy’n llywodraethu’r terfyn ar ddodi tail da byw

3.  Rhaid i feddiannydd daliad a randdirymwyd sicrhau yn unrhyw flwyddyn galendr y rhoddwyd rhanddirymiad ynglŷn â hi bod—

lle—

  • A yw ardal y daliad a randdirymwyd (hectarau), fel y mae ar 1 Ionawr ar gyfer y flwyddyn galendr honno;

  • Ngl yw cyfanswm y nitrogen (cilogramau) mewn tail da byw gan dda byw sy’n pori, p’un a ddodir ef yn uniongyrchol gan anifail neu wrth ei daenu;

  • Nngl yw cyfanswm y nitrogen (cilogramau) mewn tail da byw gan dda byw nad ydynt yn pori, p’un a ddodir ef yn uniongyrchol gan anifail neu wrth ei daenu.

Cynllunio’r modd y mae gwrtaith ffosffad yn cael ei daenu

4.(1) Yn ychwanegol at lunio cynlluniau ynghylch taenu nitrogen o dan reoliad 14 (cynllunio’r modd y mae gwrtaith nitrogen yn cael ei daenu) rhaid i’r meddiannydd—

(a)asesu faint o ffosfforws yn y pridd sy’n debygol o fod ar gael i’w amsugno gan y cnwd yn ystod y tymor tyfu (“y cyflenwad ffosfforws yn y pridd”);

(b)cyfrifo’r maint gorau posibl o wrtaith ffosffad y dylid ei daenu ar y cnwd, gan gymryd i ystyriaeth faint o ffosfforws sydd ar gael o’r cyflenwad ffosfforws yn y pridd; ac

(c)llunio cynllun ar gyfer taenu gwrtaith ffosffad ar gyfer y tymor tyfu hwnnw.

(2) Rhaid i’r meddiannydd wneud hyn —

(a)yn achos unrhyw gnwd ac eithrio glaswelltir parhaol, cyn taenu unrhyw wrtaith ffosffad am y tro cyntaf at ddibenion gwrteithio cnwd a blannwyd neu y bwriedir ei blannu; a

(b)yn achos glaswelltir parhaol, bob blwyddyn gan ddechrau ar 1 Ionawr cyn taenu gwrtaith ffosffad.

Gofynion eraill ar gyfer y cynlluniau gwrteithio

5.(1) Rhaid i’r cynllun gwrteithio ar gyfer y daliad a randdirymwyd—

(a)cynnwys bras-gynllun sy’n dynodi lleoliad y caeau mae’r cynllun yn berthnasol iddynt; a

(b)datgan yn glir mewn perthynas ag unrhyw gae y cyfeirir ato yn y cynllun natur y gwrtaith i’w ddefnyddio.

(2) Rhaid i’r cynllun gwrteithio gofnodi—

(a)y cyflenwad ffosfforws yn y pridd a’r dull a ddefnyddir i gadarnhau’r ffigur hwn;

(b)y maint gorau posibl o wrtaith ffosffad y dylid ei daenu ar y cnwd, gan gymryd i ystyriaeth faint o ffosfforws sydd ar gael o’r cyflenwad ffosfforws yn y pridd;

(c)faint o nitrogen sy’n debygol o fod ar gael i’w amsugno gan y cnwd o unrhyw dail organig y bwriedir ei daenu i’w amsugno gan y cnwd yn y tymor tyfu yn ystod y flwyddyn galendr y taenir ef ynddi;

(d)faint o ffosffad sy’n debygol o gael ei gyflenwi i fodloni gofyniad y cnwd o unrhyw dail organig a daenir neu y bwriedir ei daenu yn ystod y flwyddyn galendr;

(e)faint o wrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd sydd ei angen (hynny yw, y maint gorau posibl o nitrogen y mae ei angen ar y cnwd gan ddidynnu faint o nitrogen a fydd ar gael i’r cnwd ei amsugno o unrhyw dail organig a daenir yn ystod y flwyddyn galendr honno); ac

(f)faint o wrtaith ffosffad a weithgynhyrchwyd sydd ei angen (hynny yw, y maint gorau posibl o ffosffad y mae ei angen ar y cnwd gan ddidynnu faint o ffosffad a gyflenwir i’r cnwd ei amsugno o unrhyw dail organig a daenir at ddibenion gwrteithio’r cnwd yn ystod y flwyddyn galendr honno).

Samplu a dadansoddi pridd

6.(1) Bob pedair blynedd o leiaf rhaid i’r meddiannydd ymgymryd â samplu a dadansoddi pridd ar gyfer cyflenwad o ffosfforws o bob pum hectar o leiaf o ardal amaethyddol y daliad a randdirymwyd sydd o dan yr un drefn gnydio a math o bridd.

(2) Caiff meddiannydd ddibynnu ar ganlyniadau blaenorol samplu a dadansoddi pridd ffosfforws o ardal amaethyddol y daliad a randdirymwyd sydd o dan yr un drefn gnydio a math o bridd at ddibenion is-baragraff (1), ar yr amod y cyflawnwyd y samplu a’r dadansoddi hwnnw o fewn pedair blynedd cyn y rhanddirymiad.

(3) Pan na chyflawnwyd samplu a dadansoddi pridd ffosfforws o ardal amaethyddol y daliad a randdirymwyd sydd o dan yr un drefn gnydio a math o bridd o fewn pedair blynedd i’r rhanddirymiad gael ei ganiatáu, rhaid cyflawni’r samplu a dadansoddi hwnnw fel a ganlyn—

(a)75% o’r ardal amaethyddol heb fod yn hwyrach na 12 mis ar ôl caniatáu’r rhanddirymiad; a

(b)100% o’r ardal amaethyddol heb fod yn hwyrach na 12 mis ar ôl y dyddiad y rhoddir y caniatâd nesaf am y rhanddirymiad i’r meddiannydd.

Yr wybodaeth ychwanegol sydd i’w chofnodi yn ystod y flwyddyn

7.(1) Yn ychwanegol at yr wybodaeth sydd i’w chofnodi o dan reoliad 15 (yr wybodaeth ychwanegol sydd i’w chofnodi yn ystod y flwyddyn) rhaid i’r meddiannydd, cyn taenu tail organig, gofnodi—

(a)cyfanswm cynnwys ffosffad y tail organig; a

(b)faint o ffosffad sy’n debygol o gael ei gyflenwi o’r tail organig y bwriedir ei daenu at ddibenion gwrteithio’r cnwd yn y tymor tyfu y taenir ef ynddo.

(2) Yn ychwanegol at ofynion is-baragraff (1) rhaid i’r meddiannydd, cyn taenu gwrtaith ffosffad a weithgynhyrchwyd, gofnodi—

(a)faint sydd ei angen (hynny yw, y maint gorau posibl o ffosffad y mae ei angen ar y cnwd gan ddidynnu faint o ffosffad a gyflenwir i’r cnwd ei amsugno o unrhyw dail organig a daenir); a

(b)y dyddiad a drefnwyd ar gyfer taenu (mis).

Mapiau risg

8.(1) Yn ychwanegol at y gofynion o dan reoliad 19 (mapiau risg), rhaid i fap risg—

(a)dangos pob cae wedi’i farcio â rhif cyfeirnod neu rif sy’n galluogi croesgyfeirio at gaeau a gofnodwyd yn y cynlluniau gwrteithio;

(b)cyfateb i ardal amaethyddol y daliad a randdirymwyd; ac

(c)cael ei gwblhau erbyn 1 Mawrth yn y flwyddyn galendr y mae’r rhanddirymiad yn berthnasol iddi.

(2) Pan fo newid mewn amgylchiadau yn effeithio ar fater y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (1), rhaid i’r meddiannydd ddiweddaru’r map risg o fewn mis i’r newid.

Cynnal y daliad a randdirymwyd yn ddaliad glaswelltir

9.  Rhaid i’r meddiannydd gynnal y daliad i sicrhau bod o leiaf 80% o’r ardal amaethyddol yn cael ei hau â phorfa yn ystod y flwyddyn y mae’r rhanddirymiad yn berthnasol iddi.

Cyfnod gwaharddedig ar gyfer aredig porfa ar y daliad a randdirymwyd

10.  Ni chaiff neb—

(a)aredig glaswelltir dros dro ar briddoedd tywodlyd rhwng 1 Gorffennaf a 31 Rhagfyr;

(b)aredig porfa ar briddoedd tywodlyd cyn 16 Ionawr lle y cafodd tail da byw ei daenu ar y borfa honno rhwng 1 Medi a 31 Rhagfyr yn y flwyddyn galendr flaenorol; ac

(c)aredig porfa ar briddoedd nad ydynt yn briddoedd tywodlyd cyn 16 Ionawr lle y cafodd tail da byw ei daenu ar y borfa honno rhwng 15 Hydref yn y flwyddyn galendr flaenorol a 15 Ionawr.

Hadu cnydau ar ôl porfa ar y daliad a randdirymwyd

11.  Pan fo porfa ar y daliad a randdirymwyd yn cael ei haredig, rhaid bod y tir—

(a)wedi’i hau gan gnwd sydd â galw mawr am nitrogen o fewn pedair wythnos sy’n dechrau drannoeth dyddiad aredig y borfa; neu

(b)wedi’i hau gan borfa o fewn chwe wythnos sy’n dechrau drannoeth dyddiad aredig y borfa.

Cylchdro cnydau ar y daliad a randdirymwyd

12.  Rhaid i gylchdro cnydau ar y daliad a randdirymwyd beidio â chynnwys codlysiau neu blanhigion eraill sy’n trosi nitrogen atmosfferig ac eithrio porfa sydd â llai na 50% o feillion, neu unrhyw godlysiau eraill gyda phorfa wedi’i hau oddi tanynt.

Cofnodi maint y daliad a randdirymwyd

13.(1) Rhaid i feddiannydd gofnodi cyfanswm yr ardal amaethyddol a’r ardal o borfa yn y daliad a randdirymwyd erbyn 1 Mawrth yn y flwyddyn galendr y mae’r rhanddirymiad yn berthnasol iddi.

(2) Os bydd maint y daliad a randdirymwyd neu ardal o borfa oddi mewn iddo yn newid rhaid i’r meddiannydd ddiweddaru’r cofnod o fewn mis sy’n dechrau drannoeth y newid.

Cofnodion ynglŷn â storio tail yn ystod y cyfnod storio

14.  Yn ychwanegol at ofynion rheoliad 37 (cofnodion ynglŷn â storio tail yn ystod y cyfnod storio) rhaid i’r meddiannydd wneud cofnod sy’n disgrifio’r systemau siediau da byw a storio tail ynghyd â faint o le storio tail sydd ar gael ar y daliad erbyn 1 Mawrth yn y flwyddyn galendr y mae’r rhanddirymiad yn berthnasol iddi.

Cofnod o’r nitrogen a’r ffosffad a gynhyrchir gan anifeiliaid

15.(1) Rhaid i’r meddiannydd gofnodi nifer y da byw a ddisgwylir a’r categori (yn unol â’r categorïau yn Nhablau 1 a 2 yn Atodlen 1) i’w cadw ar y daliad yn ystod y flwyddyn galendr y mae’r rhanddirymiad yn berthnasol iddi.

(2) Yn dilyn y gofynion ynghylch cofnodi yn is-baragraff (1), rhaid i’r meddiannydd wedyn gyfrifo a chofnodi faint o nitrogen a ffosffad mewn tail y disgwylir i’r da byw eu cynhyrchu ar y daliad yn ystod y flwyddyn honno gan ddefnyddio Tablau 1 a 2 yn Atodlen 1.

(3) Rhaid i’r cofnodion sydd i’w gwneud yn unol ag is-baragraffau (1) a (2) gael eu gwneud cyn 1 Mawrth yn y flwyddyn galendr dan sylw.

Tail da byw y bwriedir dod ag ef i’r daliad a randdirymwyd neu ei anfon oddi yno

16.(1) Rhaid i’r meddiannydd—

(a)gwneud cofnod o’r math o dail da byw a faint ohono y bwriedir dod ag ef i’r daliad a’i anfon oddi yno yn ystod y flwyddyn galendr y mae’r rhanddirymiad yn berthnasol iddi; a

(b)asesu a chofnodi faint o nitrogen sydd yn y tail da byw a gofnodwyd o dan is-baragraff (1)(a) yn unol â rheoliad 39(4) a Rhannau 1 a 2 o Atodlen 3.

(2) Rhaid i’r cofnodion sydd i’w gwneud o dan is-baragraff (1) gael eu gwneud cyn 1 Mawrth yn ystod y flwyddyn galendr y mae’r rhanddirymiad yn berthnasol iddi.

Cofnodion o’r cnydau a heuwyd

17.  Yn ychwanegol at ofynion rheoliad 42 (cofnodion o’r cnydau a heuwyd) rhaid i feddiannydd sy’n bwriadu taenu gwrtaith ffosffad, o fewn wythnos o hau cnwd gofnodi—

(a)y cnwd a heuwyd; a

(b)y dyddiad hau.

Cofnodion o daenu gwrtaith ffosffad

18.  Yn ychwanegol at ofynion rheoliad 43 (cofnodion o daenu gwrtaith nitrogen) rhaid i feddiannydd gofnodi—

(a)o fewn wythnos o daenu tail organig—

(i)cyfanswm y cynnwys ffosfforws; a

(ii)faint o ffosffad a gyflenwyd i’w amsugno gan y cnwd; a

(b)o fewn wythnos o daenu gwrtaith ffosffad a weithgynhyrchwyd—

(i)y dyddiad taenu; a

(ii)faint o ffosffad a daenwyd.

Cofnodi dyddiad yr aredig

19.  Yn ychwanegol at ofynion rheoliad 44 (cofnodion dilynol) rhaid i feddiannydd gofnodi o fewn wythnos o aredig y daliad a randdirymwyd, ddyddiad yr aredig hwnnw.

Cyfrifon gwrteithio

20.(1) Rhaid i feddiannydd, neu unrhyw berson ar ran y meddiannydd, gyflwyno cyfrifon gwrteithio ar gyfer y flwyddyn galendr i Gorff Adnoddau Naturiol Cymru erbyn 30 Ebrill y flwyddyn ganlynol.

(2) Rhaid i Gorff Adnoddau Naturiol Cymru gyhoeddi’r dull a’r ffurf y mae’n rhaid i gyfrif gwrteithio gael ei wneud ynddynt.

(3) (Rhaid i’r cyfrif gwrteithio gofnodi—

(a)cyfanswm ardal amaethyddol y daliad a randdirymwyd;

(b)yr ardal o’r daliad a randdirymwyd a orchuddiwyd gan—

(i)gwenith gaeaf;

(ii)gwenith gwanwyn;

(iii)haidd gaeaf;

(iv)haidd gwanwyn;

(v)rêp had olew gaeaf;

(vi)betys siwgr;

(vii)tatws;

(viii)indrawn porthi;

(ix)porfa; a

(x)cnydau eraill;

(c)nifer a chategori’r anifeiliaid a gadwyd ar y daliad a randdirymwyd yn ystod y flwyddyn galendr flaenorol yn unol â’r categorïau a ddisgrifir yn Nhablau 1 a 2 yn Atodlen 1;

(d)faint o nitrogen a ffosffad oedd yn y tail a gynhyrchwyd gan yr anifeiliaid ar y daliad a randdirymwyd yn ystod y flwyddyn galendr flaenorol gan ddefnyddio Tablau 1 a 2 yn Atodlen 1;

(e)faint o dail da byw, ei nodweddion a pha fath a ddygwyd i’r daliad a randdirymwyd neu ei anfon oddi yno yn ystod y flwyddyn galendr y mae’r rhanddirymiad yn berthnasol iddi;

(f)faint o nitrogen a ffosffad oedd yn y tail a gofnodwyd o dan is-baragraff (3)(e) a gyfrifwyd yn unol â pharagraff 14(2);

(g)pwysau (tunelli) a chynnwys nitrogen yr holl stociau gwrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd a gadwyd ar y daliad a randdirymwyd rhwng 1 Ionawr a 31 Rhagfyr yn ystod y flwyddyn galendr y mae’r rhanddirymiad yn berthnasol iddi; a

(h)pwysau (tunelli) a chynnwys nitrogen yr holl wrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd a ddygwyd i’r daliad a randdirymwyd a’i anfon oddi yno rhwng 1 Ionawr a 31 Rhagfyr yn ystod y flwyddyn galendr y mae’r rhanddirymiad yn berthnasol iddi.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2013 (O.S. 2013/2506 (Cy. 245)) (“y Rheoliadau Nitradau”) a Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010 (O.S. 2010/490) (“y Rheoliadau Cynefinoedd”).

Maent yn rhoi ar waith yng Nghymru Benderfyniad y Comisiwn 2013/781/EC (OJ Rhif L 346, 20.12.13, t65) sy’n caniatáu rhanddirymiad yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 91/676/EEC ynghylch diogelu dyfroedd rhag llygredd gan nitradau sy’n dod o ffynonellau amaethyddol (OJ Rhif L 375, 31.12.91, t1, a ddiwygiwyd gan OJ Rhif L 284, 31.10.03, t1, OJ Rhif L 311, 21.11.08, t1).

Mae rheoliad 3 yn diwygio rheoliad 6 (Dehongli) y Rheoliadau Nitradau. Mae rheoliad 5 yn mewnosod Rhan 3A newydd yn y Rheoliadau Nitradau sy’n cyflwyno gweithdrefn y mae’n rhaid i gais am randdirymiad gael ei wneud drwyddi ac mae’n sefydlu gweithdrefn apelio yn erbyn gwrthod cais am randdirymiad.

Mae rheoliad 6 yn mewnosod Atodlen 5 newydd yn y Rheoliadau Nitradau sy’n nodi gofynion ychwanegol y mae meddiannydd daliad a randdirymwyd i’w bodloni.

Mae rheoliad 7 yn gwneud diwygiadau canlyniadol i’r Rheoliadau Cynefinoedd.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal asesiadau effaith rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, nid oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

Rhoddodd O.S. 2001/2555 ac O.S. 2002/248 bwerau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Yn rhinwedd adran 59 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 28(1) o Atodlen 11 iddi, mae’r dynodiad hwnnw bellach wedi breinio yng Ngweinidogion Cymru.

(4)

OJ Rhif L 346, 20.12.2013, t 65.

(5)

O.S. 2010/490. Cafodd diwygiadau perthnasol eu gwneud gan O.S. 2012/1927.