xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
16.—(1) Pan fo gafr ar ei daliad genedigol ac na chafodd ei hadnabod cyn 1 Ionawr 2016 rhaid i’r ceidwad, os nad yw’r afr wedi ei hadnabod yn unol â Rhan 3, ei hadnabod o fewn y terfynau amser a bennir yn erthygl 9(3), gyda naill ai—
(a)dau dag clust;
(b)tag clust a thag egwyd; neu
(c)tag clust a thatŵ.
(2) Rhaid i’r cod adnabod ar fodd adnabod fod fel a ganlyn—
(a)y llythrennau “UK”; a
(b)rhif 12 digid yn unol â chynllun rhifo a ragnodir gan Weinidogion Cymru;
a rhaid iddo fod yn union yr un fath ar y modd adnabod cyntaf a’r ail fodd adnabod.
17. Caniateir i eifr a adnabuwyd yn unol ag erthygl 16 gael eu hailadnabod yn unol ag erthygl 9.