xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
29.—(1) Rhaid i weithredwr marchnad sicrhau bod yr holl anifeiliaid yn cael eu rhannu’n lotiau o un neu fwy o anifeiliaid yn union ar ôl iddynt gyrraedd y farchnad ac y dyrennir rhif lot i bob un o’r lotiau.
(2) Ni chaiff neb brynu anifail mewn marchnad onid yw’n prynu’r holl anifeiliaid eraill yn y lot y mae’r anifail yn perthyn iddi ac yn symud y lot gyfan o’r farchnad i’r un daliad.
(3) Ni chaiff neb werthu anifail mewn marchnad onid yw’n gwerthu’r holl anifeiliaid eraill yn y lot i’r un prynwr.
(4) Ni chaiff gweithredwr marchnad dderbyn anifail i farchnad oni bai—
(a)bod yr anifail wedi ei adnabod yn unol â’r Gorchymyn hwn; a
(b)bod dogfen symud yn dod ynghyd â’r anifail, a’r ddogfen honno wedi ei llenwi yn unol â Rhan 8.
30.—(1) Nid yw gofynion yn y Gorchymyn hwn o ran amnewid marc adnabod yn gymwys i weithredwr marchnad nac i weithredwr lladd-dy.
(2) Os tynnir ymaith neu os collir marc adnabod neu os canfyddir ei fod yn annarllenadwy tra bo’r anifail mewn marchnad, rhaid i’r ceidwad sy’n prynu’r anifail yn y farchnad osod farc adnabod amnewid arno yn unol â’r Gorchymyn hwn.
31.—(1) Caiff awdurdodau lleol esemptio gweithredwyr pwyntiau cofnodi canolog rhag yr angen i gofnodi’r canlynol yn electronig—
(a)rhif unigryw anifail ar ddogfen symud;
(b)rhif unigryw anifail yng nghofrestr daliad; neu
(c)y niferoedd o anifeiliaid mewn unrhyw lwyth sy’n dwyn nod diadell neu nod geifre penodol,
pan fo cynllun wrth gefn wedi ei gytuno rhwng yr awdurdod lleol a gweithredwr y pwynt cofnodi canolog.
(2) Caiff awdurdod lleol dynnu unrhyw esemptiad o’r fath yn ôl os nad yw’n fodlon mwyach ar delerau’r cynllun wrth gefn neu ar y modd y rhoddir y cynllun ar waith.
(3) Rhaid i gynllun wrth gefn y cytunir arno o dan baragraff (1) nodi’r amodau y mae’n rhaid i weithredwr y pwynt cofnodi canolog eu bodloni, ac o dan ba amgylchiadau y bydd yr esemptiadau ym mharagraff (1), cyhyd ag y bodlonir yr amodau hynny, yn gymwys. Rhaid i’r amodau hynny gynnwys gofyniad bod gweithredwr y pwynt cofnodi canolog yn hysbysu gweithredwr y gronfa ddata ganolog ynghylch symudiadau i mewn ac allan o’i fangre, mewn unrhyw fodd a ganiateir gan Weinidogion Cymru, o fewn 3 diwrnod ar ôl y symudiad o anifeiliaid.
(4) Rhaid i weithredwr pwynt cofnodi canolog ofyn am gydsyniad yr awdurdod lleol ymlaen llaw ar bob achlysur pan yw’n dymuno cymhwyso’r esemptiadau ym mharagraff (1) a rhaid iddo beidio â derbyn anifeiliaid heb gofnodi’r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1) os gwrthodir y cydsyniad hwnnw.
(5) Pan fo anifeiliaid yn cyrraedd pwynt cofnodi canolog sy’n cymhwyso’r esemptiadau ym mharagraff (1) ar ôl cael cydsyniad yr awdurdod lleol ymlaen llaw, rhaid i weithredwr y pwynt cofnodi canolog—
(a)hysbysu gweithredwr y gronfa ddata ganolog ynghylch manylion adnabod yr anifeiliaid hynny a gofnodwyd ar y ddogfen symud sy’n dod ynghyd â’r anifeiliaid, o fewn 3 diwrnod ar ôl cael yr anifeiliaid; neu
(b)os nad yw manylion adnabod yr anifeiliaid hynny wedi eu cofnodi ar ddogfen symud sy’n dod ynghyd â’r anifeiliaid, yn unol ag erthygl 24(9), rhaid i weithredwr y pwynt cofnodi canolog ddarparu cadarnhad ysgrifenedig, i’r ceidwad yn y daliad y cyrhaeddodd yr anifeiliaid ohono, fod y methiant i ddarparu manylion adnabod yr anifeiliaid unigol i’r ceidwad wedi ei gymeradwyo gan yr awdurdod lleol.