45. Nid yw paragraff 14 yn gymwys i unrhyw daliad a wneir neu sy’n daladwy—
(a)gan A ar gyfer cynnal unrhyw aelod o deulu A neu gynnal partner blaenorol A neu gynnal plant A; neu
(b)gan drydydd parti yn unol â chytundeb rhwng yr awdurdod lleol a’r trydydd parti hwnnw mewn cysylltiad ag atebolrwydd A i dalu, cyfrannu neu wneud ad-daliadau i’r awdurdod lleol am lety A, neu mewn cysylltiad â llety A.