xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
40.—(1) Pan fo A yn cael credyd cynilion fel person heb bartner a chydag incwm cymhwyso nad yw’n fwy na’r gwarant isafswm safonol—
(a)swm y credyd cynilion hwnnw pan fo’r swm a geir yn £5.75 neu’n llai; neu
(b)£5.75 o’r credyd cynilion hwnnw pan fo’r swm a geir yn fwy na £5.75.
(2) Pan fo A—
(a)heb bartner;
(b)wedi cyrraedd 65 oed; ac
(c)gydag incwm cymhwyso sy’n fwy na’r gwarant isafswm safonol,
swm o £5.75.
(3) Pan fo A yn cael credyd cynilion fel person sydd â phartner ac incwm cymhwyso nad yw’n fwy na’r gwarant isafswm safonol—
(a)swm y credyd cynilion hwnnw pan fo’r swm a geir yn £8.60 neu’n llai; neu
(b)£8.60 o’r credyd cynilion hwnnw pan fo’r swm a geir yn fwy nag £8.60.
(4) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (5), pan fo A—
(a)gyda phartner;
(b)wedi—
(i)cyrraedd 65 oed; neu
(ii)wedi cyrraedd oedran credyd pensiwn a phartner A wedi cyrraedd 65 oed; ac
(c)gydag incwm cymhwyso sy’n fwy na’r gwarant isafswm safonol,
swm o £8.60.
(5) Pan fo—
(a)y swm y cyfeirir ato yn is-baragraff (4) wedi ei ddiystyru wrth asesu incwm partner A o dan y Rheoliadau hyn; neu
(b)partner A yn derbyn credyd cynilion,
nid yw is-baragraff (4) yn gymwys i A.
(6) At ddibenion y paragraff hwn—
(a)mae gan A bartner os ystyrid bod gan A bartner at ddibenion y Rheoliadau Credyd Pensiwn;
(b)mae “incwm cymhwyso” i’w ddehongli yn unol â’r ystyr a roddir i “qualifying income” yn rheoliad 9 o’r Rheoliadau Credyd Pensiwn, ac at ddibenion is-baragraffau (3) a (4) mae incwm cymhwyso A yn cynnwys unrhyw incwm cymhwyso sydd gan bartner A;
(c)ystyr “gwarant isafswm safonol” (“standard minimum guarantee”) yw, at ddibenion—
(i)is-baragraffau (1) a (2), y swm a ragnodir gan reoliad 6(1)(b) o’r Rheoliadau Credyd Pensiwn; a
(ii)is-baragraffau (3) a (4), y swm a ragnodir gan reoliad 6(1)(a) o’r Rheoliadau Credyd Pensiwn.