Dyletswydd i gynnal asesiad ariannol
6.—(1) Pan fo awdurdod lleol yn tybio—
(a)y byddai’n gosod ffi o dan adran 59 o’r Ddeddf (pŵer i osod ffioedd), pe bai’n diwallu anghenion A am ofal a chymorth;
(b)pe bai’n gwneud taliadau tuag at y gost o ddiwallu anghenion A am ofal a chymorth drwy wneud taliadau uniongyrchol yn rhinwedd adran 50 neu 52 o’r Ddeddf(1), y byddai’n ei gwneud yn ofynnol bod A yn talu drwy wneud ad-daliad(2) (yn achos taliad gros) neu gyfraniad (yn achos taliad net) tuag at y gost o sicrhau’r ddarpariaeth honno o ofal a chymorth,
rhaid i’r awdurdod lleol gynnal asesiad o adnoddau ariannol A yn unol â’r Rheoliadau hyn.
(2) Nid yw’r ddyletswydd ym mharagraff (1) yn gymwys pan fo A yn dod o fewn unrhyw un o’r amgylchiadau a bennir yn rheoliad 7.
Mae adran 53(3) o’r Ddeddf (taliadau uniongyrchol: darpariaeth bellach) yn darparu y caiff rheoliadau a wneir yn unol ag adrannau 50, 51 neu 52 o’r Ddeddf wneud darpariaeth mewn perthynas â thaliadau uniongyrchol sy’n cyfateb i’r ddarpariaeth a wneir, neu y caniateir ei gwneud, o dan adrannau 59 i 67 neu adran 73 o’r Ddeddf.
Diffinnir “ad-daliad”, “taliad gros”, “cyfraniad” a “taliad net” yn adran 53(2) o’r Ddeddf.