Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesiad Ariannol) (Cymru) 2015

Gwybodaeth sydd i’w darparu gan awdurdod lleol

3.  Cyn bod awdurdod lleol yn cynnal asesiad ariannol yn unol â’r Rheoliadau hyn, rhaid iddo roi’r canlynol i A—

(a)manylion y gofal a’r cymorth ar gyfer diwallu anghenion A, a gynigir neu a ddarperir i A ac y tybia’r awdurdod lleol y byddai’n gosod ffi mewn cysylltiad â hwy o dan adran 59 o’r Ddeddf;

(b)manylion y gofal a’r cymorth yr aseswyd bod eu hangen ar A ac yr ystyrir, neu y gwneir, taliadau uniongyrchol(1) ar eu cyfer yn unol ag adran 50 neu 52 o’r Ddeddf;

(c)pan fo paragraff (a) yn gymwys, manylion polisi’r awdurdod lleol ar godi ffioedd am ddarparu gofal a chymorth, gan gynnwys—

(i)pa elfennau, os oes rhai, y caniateir codi ffi amdanynt,

(ii)y ffi safonol(2) y caniateir ei gosod mewn perthynas ag unrhyw rai ohonynt,

(iii)unrhyw ofal a chymorth, cynhorthwy neu wasanaeth y gosodir ffi unffurf amdano,

(iv)y ffi wythnosol uchaf(3) y caniateir ei gosod, neu’r ffi wythnosol uchaf a godir gan yr awdurdod lleol pan fo’r ffi honno’n llai;

(d)pan fo paragraff (b) yn gymwys, manylion polisi’r awdurdod lleol ar daliadau uniongyrchol, a rhaid cynnwys y canlynol—

(i)manylion y gofal a chymorth, os oes gofal a chymorth, y caniateir darparu, neu y darperir, taliadau uniongyrchol ar eu cyfer, ac mewn cysylltiad â hwy y caniateir ei gwneud yn ofynnol bod A yn talu tuag at y gost o’u sicrhau,

(ii)manylion y swm safonol y caniateir ei gwneud yn ofynnol bod A yn talu tuag at y gost o sicrhau gofal a chymorth o’r fath,

(iii)unrhyw ofal a chymorth, cynhorthwy neu wasanaeth y gosodir ffi unffurf amdano,

(iv)swm y cyfraniad neu ad-daliad wythnosol uchaf(4) y caniateir ei osod neu swm y cyfraniad neu ad-daliad wythnosol uchaf a godir gan yr awdurdod lleol, pan fo’r swm hwnnw’n llai;

(e)manylion proses asesu ariannol yr awdurdod lleol;

(f)manylion yr wybodaeth ac unrhyw ddogfennau y mae’n ofynnol bod A yn eu darparu i’r awdurdod lleol at ddibenion yr asesiad ariannol, a’r terfyn amser a’r fformat ar gyfer eu darparu;

(g)gwybodaeth am ganlyniadau methiant i ddarparu’r wybodaeth a’r dogfennau o fewn y terfyn amser ac mewn fformat priodol;

(h)gwybodaeth am ganlyniadau peidio â darparu’r wybodaeth neu’r dogfennau sy’n ofynnol at ddibenion yr asesiad, neu wrthod caniatáu i’r awdurdod lleol gynnal asesiad ariannol;

(i)gwybodaeth am y datganiad o ddyfarniad ynghylch gallu A i dalu ffi am ofal a chymorth A, neu i dalu tuag at y gost o sicrhau gofal a chymorth A, y bydd yr awdurdod lleol yn ei ddarparu ar ôl cwblhau’r broses asesu ariannol(5);

(j)manylion y terfyn cyfalaf a bennir yn rheoliad 11 neu reoliad 26 o’r Rheoliadau Gosod Ffioedd a gwybodaeth am ganlyniadau(6) asesu bod A yn meddu ar gyfalaf sy’n fwy na’r terfyn hwnnw;

(k)manylion unrhyw gyfleuster ymweld â’r cartref a ddarperir gan yr awdurdod lleol o fewn ei ardal;

(l)enwau unigolyn neu unigolion o fewn yr awdurdod y caniateir cysylltu â nhw os oes angen rhagor o wybodaeth neu gynhorthwy ar A mewn cysylltiad â’r broses asesu ariannol; ac

(m)gwybodaeth am hawl A i benodi trydydd parti i gynorthwyo neu weithredu ar ran A mewn cysylltiad â’r cyfan neu ran o’r broses asesu ariannol a manylion cyswllt unrhyw sefydliad yn ardal yr awdurdod sy’n darparu’r math hwnnw o gymorth neu gynhorthwy.

(1)

Diffinnir “taliad uniongyrchol” yn adran 50(7) ac adran 52(7) o’r Ddeddf.

(2)

Diffinnir “ffi safonol” yn adran 63(3) o’r Ddeddf, fel “…[y] swm y byddai awdurdod lleol yn ei godi o dan adran 59 pe na châi unrhyw ddyfarniad ei wneud o dan adran 66 ynghylch gallu person i dalu’r swm hwnnw”. Mae adran 59(2) o’r Ddeddf (pŵer i osod ffioedd) yn darparu y caiff ffi a osodir o dan is-adran (1) gwmpasu dim mwy na’r gost y mae’r awdurdod lleol yn ei thynnu wrth ddiwallu’r anghenion y mae’r ffi yn gymwys iddynt.

(3)

Pennir y “ffi wythnosol uchaf” yn rheoliad 7 o’r Rheoliadau Gosod Ffioedd ac mae’n gymwys mewn perthynas â darparu gofal a chymorth i ddiwallu angen asesedig ac eithrio drwy ddarparu llety mewn cartref gofal.

(4)

Pennir “y cyfraniad neu ad-daliad wythnosol uchaf”, ac ar ba sail y caiff awdurdod lleol ei gyfrifo, yn rheoliad 22 o’r Rheoliadau Gosod Ffioedd ac mae’n gymwys mewn perthynas â thaliadau uniongyrchol a wneir i sicrhau darpariaeth o ofal a chymorth er mwyn diwallu angen asesedig rywfodd ac eithrio drwy ddarparu llety mewn cartref gofal.

(5)

Mae’n ofynnol i awdurdod lleol ddarparu datganiad o ddyfarniad yn rheoliad 14 (datganiad o ddyfarniad) neu reoliad 29 (datganiad o ddyfarniad – taliadau uniongyrchol) o’r Rheoliadau Gosod Ffioedd.

(6)

Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau Gosod Ffioedd yn ddiffinio’r “terfyn cyfalaf”. Y terfyn cyfalaf yw’r uchafswm cyfalaf y caniateir i berson feddu arno, ac uwchlaw’r uchafswm hwnnw y bydd yn ofynnol i’r person hwnnw dalu’r ffi safonol neu’r swm safonol yn llawn. Pennir swm y terfyn cyfalaf yn y Rheoliadau Gosod Ffioedd, yn rheoliad 11 (sy’n ymwneud â ffioedd) a rheoliad 26 (sy’n ymwneud â thaliadau uniongyrchol).