xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN >1Cyffredinol

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “A” (“A”) yw oedolyn—

(a)

y mae ei adnoddau ariannol i’w hasesu yn unol â rheoliad 6 neu reoliad 8, neu

(b)

sy’n dod o fewn yr amgylchiadau a bennir yn rheoliad 7;

mae i “budd-dal plant” yr ystyr a roddir i “child benefit” o dan Ddeddf >1992;

mae i “credyd cynilion” yr ystyr a roddir i “savings credit” o dan >Ddeddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002;

mae i “credyd treth gwaith” yr ystyr a roddir i “working tax credit” o dan Ddeddf Credydau Treth 2002;

mae i “credyd treth plant” yr ystyr a roddir i “child tax credit” >o dan Ddeddf Credydau Treth 2002(1);

ystyr “cyfleuster ymweld â’r cartref” (“home visiting facility”) yw ymweliad (neu ymweliadau) a wneir gan swyddog priodol awdurdod lleol â phreswylfa gyfredol person neu pa bynnag fan cyfarfod arall y gofynnir amdano yn rhesymol gan y person, at y diben o gasglu gwybodaeth i’w defnyddio yn yr asesiad ariannol ar gyfer y person hwnnw, a darparu gwybodaeth a chynnig cynhorthwy mewn perthynas â’r broses honno;

mae i “cymhorthdal incwm” yr ystyr a roddir i “income support” o dan Ddeddf 1992;

mae i “cynllun pensiwn personol” yr un ystyr ag a roddir i “personal pension scheme” yn y Rheoliadau Cymhorthdal Incwm;

ystyr “darpar breswylydd” (“prospective resident”) yw person y bwriedir darparu llety mewn cartref gofal(2) iddo o dan y Ddeddf;

ystyr “Deddf 1992” (“the 1992 Act”) yw Deddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(3);

ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw unrhyw ddiwrnod ac eithrio—

(a)

dydd Sadwrn neu ddydd Sul,

(b)

dydd Nadolig neu ddydd Gwener y Groglith, neu

(c)

gŵyl banc yng Nghymru a Lloegr o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(4);

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;

mae “enillydd cyflogedig” i’w ddehongli yn unol â’r ystyr a roddir i “employed earner” yn adran 2(1)(a) o Ddeddf 1992(5);

mae “enillydd hunangyflogedig” i’w ddehongli yn unol â’r ystyr a roddir i “self-employed earner” yn adran 2(1)(b) o Ddeddf 1992;

ystyr “ffi unffurf” (“flat-rate charge”) yw ffi sefydlog a osodir gan awdurdod lleol heb ystyried modd y person sy’n atebol i dalu am—

(a)

gofal a chymorth a drefnir neu a ddarperir gan awdurdod lleol o dan Ran 4 o’r Ddeddf (diwallu anghenion); neu

(b)

gwasanaethau a ddarperir o dan adran 15 (gwasanaethau ataliol) neu am gynhorthwy a ddarperir o dan adran 17 (darparu gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy) o’r Ddeddf;

ystyr “gofal a chymorth ailalluogi” (“reablement”) yw gofal a chymorth—

(a)

a ddarperir neu a drefnir gan awdurdod lleol ar gyfer A o dan Ran 2 neu 4 o’r Ddeddf; neu

(b)

a sicrheir neu a drefnir gan A, pan fo A neu pan fydd A yn cael taliadau uniongyrchol a wneir yn unol ag adran 50 neu 52 o’r Ddeddf; ac

(c)

sydd—

(i)

yn cynnwys rhaglen o ofal a chymorth,

(ii)

am gyfnod penodedig(6) o amser (“y cyfnod penodedig”), a

(iii)

â’r diben o ddarparu cynhorthwy i A er mwyn galluogi A i barhau i allu byw’n annibynnol yn unig gartref neu brif gartref A neu i allu gwneud hynny eto;

mae i “lwfans byw i’r anabl” yr ystyr a roddir i “disability living allowance” >o dan Ddeddf 1992;

mae i “lwfans galwedigaethol anabledd difrifol” yr ystyr a roddir i “severe disablement occupational allowance” a delir o dan erthygl 10 o Orchymyn Pensiynau Lluoedd Arfog y Llynges, y Fyddin a’r Llu Awyr etc. (Anabledd a Marwolaeth) 2006(7) neu o dan erthygl 16 o Gynllun Anafiadau Personol (Sifiliaid) 1983(8);

mae i “lwfans gwarcheidwad” yr ystyr a roddir i “guardian’s allowance” o dan Ddeddf 1992;

mae i “lwfans gweini” yr un ystyr ag a roddir i “attendance allowance” yn y Rheoliadau Cymhorthdal Incwm;

ystyr “oedran credyd pensiwn” (“pension credit age”) yw’r oedran cymhwyso ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth yn yr ystyr a roddir i “the qualifying age” yn adran 1(6) o Ddeddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002(9);

mae i “partner” yr un ystyr ag a roddir i “partner” yn y Rheoliadau Cymhorthdal Incwm;

ystyr “preswylydd” (“resident”) >yw person y darperir llety mewn cartref gofal iddo o dan y Ddeddf;

ystyr “preswylydd byrdymor” (“short-term resident”) yw person y darperir llety mewn cartref gofal iddo o dan y Ddeddf am gyfnod nad yw’n hwy nag 8 wythnos;

ystyr “preswylydd dros dro” (“temporary resident”) >yw preswylydd y mae ei arhosiad—

(a)

yn annhebygol o fod yn hwy na 52 o wythnosau; neu

(b)

mewn amgylchiadau eithriadol, yn annhebygol o fod yn sylweddol hwy na’r cyfnod hwnnw;

ystyr “preswylydd parhaol” (“permanent resident”) yw preswylydd nad yw’n breswylydd dros dro nac yn breswylydd byrdymor;

ystyr “y Rheoliadau Credyd Pensiwn” (“the Pension Credit Regulations”) yw Rheoliadau Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002(10);

ystyr “y Rheoliadau Cymhorthdal Incwm” (“the Income Support Regulations”) yw Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987(11);

ystyr “y Rheoliadau Gosod Ffioedd” (“the Charging Regulations”) yw Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) 2015(12);

ystyr “swm safonol” (“standard amount”) yw’r swm y byddai’n ofynnol i berson ei dalu yn rhinwedd adran 50 neu 52 o’r Ddeddf tuag at sicrhau y ddarpariaeth o ofal a chymorth yr ystyrir neu y gwneir taliadau uniongyrchol mewn cysylltiad â hi, pe na bai asesiad ariannol yn cael ei gynnal yn unol â’r Rheoliadau hyn, neu ddyfarniad ynghylch gallu A i dalu swm yn cael ei wneud yn unol â’r Rheoliadau Gosod Ffioedd;

mae i “taliad annibyniaeth bersonol” yr ystyr a roddir i “personal independence payment” o dan Ran 4 o Ddeddf Diwygio Lles 2012(13);

ystyr “taliad annibyniaeth y lluoedd arfog” (“armed forces independence payment”) yw taliad annibyniaeth y lluoedd arfog o dan Orchymyn y Lluoedd Arfog a’r Lluoedd wrth Gefn (Cynllun Digolledu) 2011(14);

mae i “taliad uniongyrchol” (“direct payment”) yr ystyr a roddir yn adrannau 50(7) a 52(7) o’r Ddeddf;

mae “treth gyngor” i’w ddehongli yn unol â’r ystyr a roddir i “council tax” yn adran 1(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992(15);

mae i “unig riant” yr un ystyr ag a roddir i “lone parent” yn y Rheoliadau Cymhorthdal Incwm.

(2Pan gyfeirir yn y Rheoliadau hyn at gymhwyso darpariaeth o’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm, rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y ddarpariaeth o’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm at “claimant” fel pe bai’n gyfeiriad at A.

(3Yn y Rheoliadau hyn, rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad at lety preswylydd mewn cartref gofal, neu at lety a ddarperir ar gyfer preswylydd mewn cartref gofal, yn achos preswylydd sy’n ddarpar breswylydd, fel cyfeiriad at lety sydd i’w ddarparu ar gyfer y preswylydd hwnnw o dan adran 35, 36, 40 neu 45 o’r Ddeddf, neu pan fo’r darpar breswylydd yn cael taliadau uniongyrchol, fel cyfeiriad at lety a sicrheir yn rhinwedd adrannau 50 neu 52 o’r Ddeddf.

(4Yn y Rheoliadau hyn, yn achos gofalwr, rhaid darllen cyfeiriadau at ddarparu neu sicrhau gofal a chymorth fel pe baent yn gyfeiriadau at ddarparu neu sicrhau cymorth.

(2)

Gweler adran 197(1) o’r Ddeddf am ystyr “cartref gofal”.

(5)

Diwygiwyd adran 2(1)(a) gan baragraffau 169 a 171 o Atodlen 6 i Ddeddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p. 1) ac adran 15(1) o Ddeddf Cyfraniadau Yswiriant Gwladol 2014 (p. 7).

(6)

Bydd awdurdod lleol yn pennu hyd y cyfnod gofal a chymorth ailalluogi y mae ei angen ar A yn seiliedig ar anghenion asesedig A.

(7)

O.S. 2006/606; diwygiwyd erthygl 10 gan O.S. 2008/679 a 2013/630.

(8)

O.S. 1983/686; diwygiwyd erthygl 16 gan O.S. 1984/1675 a 2001/420.

(13)

2012 p. 5.