xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3Trin a chyfrifo incwm

Incwm tybiannol

17.—(1Rhaid trin A fel pe bai’n meddu unrhyw incwm y mae A wedi amddifadu ei hunan ohono at y diben o leihau’r swm y mae A yn atebol i’w dalu, neu y gallai fod yn atebol i’w dalu tuag at y gost o ddiwallu, neu sicrhau darpariaeth o ofal a chymorth ar gyfer diwallu, anghenion A.

(2Rhaid trin A fel pe bai’n meddu unrhyw incwm y byddid yn ei drin fel incwm a feddid gan hawlydd cymhorthdal incwm o dan reoliad 42(2) i (4A) o’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (incwm tybiannol).

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid trin A fel pe bai’n meddu unrhyw incwm a delir neu sy’n ddyladwy i awdurdod lleol gan drydydd parti yn unol â chytundeb rhwng yr awdurdod lleol a’r trydydd parti, a wnaed mewn cysylltiad ag atebolrwydd A i dalu, cyfrannu neu wneud ad-daliadau i’r awdurdod lleol tuag at gost llety a ddarperir neu a sicrheir ar gyfer A o dan y Ddeddf.

(4Rhaid peidio â thrin A fel pe bai’n meddu unrhyw daliad gwirfoddol o incwm a wneir gan drydydd parti i awdurdod lleol at y diben o dalu unrhyw ôl-ddyledion o’r taliadau, cyfraniadau neu ad-daliadau y gofynnodd yr awdurdod lleol amdanynt gan A am lety a ddarparwyd neu a sicrhawyd yn unol â’r Ddeddf.