Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesiad Ariannol) (Cymru) 2015

Cyfalaf a drinnir fel incwm

16.—(1Rhaid trin fel incwm unrhyw gyfalaf sy’n daladwy i A mewn rhandaliadau sydd heb eu casglu ar y dyddiad y daw A yn atebol gyntaf i dalu am y gofal a chymorth (neu pan fo, neu pan fydd, A yn cael taliadau uniongyrchol, yn atebol gyntaf i gyfrannu neu wneud ad-daliadau tuag at y gost o sicrhau darpariaeth o’r gofal a chymorth), os yw agregiad y rhandaliadau sydd heb eu casglu a swm cyfalaf A fel y’i cyfrifir yn unol â Rhan 4 yn fwy na’r swm a bennir yn rheoliad 41(1) o’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (cyfalaf a drinnir fel incwm).

(2Rhaid trin unrhyw daliad a geir o dan flwydd-dal fel incwm.

(3Rhaid trin unrhyw enillion, i’r graddau nad ydynt yn daliad o incwm, fel incwm.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (5), rhaid trin A fel pe bai’n meddu unrhyw gyfalaf a delir neu sy’n ddyladwy i awdurdod lleol gan drydydd parti yn unol â chytundeb rhwng yr awdurdod lleol a’r trydydd parti, a wnaed mewn cysylltiad ag atebolrwydd A i dalu, cyfrannu neu wneud ad-daliadau i’r awdurdod lleol tuag at gost llety a ddarperir neu a sicrheir ar gyfer A o dan y Ddeddf.

(5Rhaid peidio â thrin A fel pe bai’n meddu unrhyw daliad gwirfoddol o gyfalaf a wneir gan drydydd parti i awdurdod lleol at y diben o dalu unrhyw ôl-ddyledion o’r taliadau, cyfraniadau neu ad-daliadau y gofynnodd yr awdurdod lleol amdanynt gan A am lety a ddarparwyd neu a sicrhawyd o dan y Ddeddf.

(6Pan fo cytundeb neu orchymyn llys yn darparu bod taliadau i’w gwneud i A o ganlyniad i unrhyw anaf personol a achoswyd i A, a bod y cyfryw daliadau i’w gwneud yn gyfan gwbl neu’n rhannol ar ffurf taliadau cyfnodol, rhaid i unrhyw daliadau cyfnodol o’r fath a gaiff A, i’r graddau nad ydynt yn daliad o incwm, gael eu trin fel incwm.