- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
2.—(1) Pan fo awdurdod lleol yn arfer ei ddisgresiwn i wneud yn ofynnol bod person yn talu ffi, rhaid iddo wneud hynny yn unol â gofynion y Rheoliadau hyn.
(2) Mae rheoliadau 2 i 15 yn gymwys mewn perthynas â phersonau y caniateir codi ffi arnynt yn rhinwedd adran 60(2), 60(4)(a) a 60(5)(a) o’r Ddeddf.
3. Ni chaiff awdurdod lleol osod ffi am ofal a chymorth a ddarperir neu a drefnir—
(a)i ddiwallu anghenion plentyn;
(b)ar gyfer person sy’n dioddef o unrhyw ffurf o glefyd Creutzfeldt-Jakob pan fo diagnosis clinigol o’r clefyd hwnnw wedi ei roi gan ymarferydd meddygol cofrestredig(1);
(c)ar gyfer person y cynigiwyd iddo, neu sy’n cael, gwasanaeth a ddarperir fel rhan o becyn o wasanaethau ôl-ofal yn unol ag adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983(2) (ôl-ofal).
4. Ni chaiff awdurdod lleol osod ffi am—
(a)gofal a chymorth ar ffurf darparu cludiant i fynychu gwasanaeth dydd, pan ddarperir y cludiant gan awdurdod lleol a phan fo presenoldeb yn y gwasanaeth dydd a’r ddarpariaeth o gludiant i alluogi presenoldeb yn angenrheidiol er mwyn diwallu anghenion asesedig y person;
(b)darparu datganiad sy’n nodi dyfarniad yr awdurdod yn unol â rheoliad 14;
(c)gofal a chymorth ailalluogi am y 6 wythnos gyntaf o’r cyfnod penodedig neu, pan fo’r cyfnod penodedig yn llai na 6 wythnos, am y cyfnod hwnnw;
(d)gwasanaethau eiriolaeth a ddarperir wrth gyflawni swyddogaethau’r awdurdod o dan Ran 4 o’r Ddeddf.
5. Pan fo awdurdod lleol yn tybio y byddai’n gosod ffi o dan adran 59 o’r Ddeddf ac wedi cynnal asesiad ariannol o A yn unol â gofynion y Rheoliadau Asesiad Ariannol, rhaid iddo wneud dyfarniad ynglŷn â pha swm, os oes unrhyw swm, y mae’n rhesymol ymarferol i A ei dalu yn unol â gofynion y Rheoliadau hyn.
6. Nid oes angen i awdurdod lleol wneud dyfarniad o dan y Rheoliadau hyn os yr unig wasanaethau a ddarperir yw naill ai gwasanaethau y codir ffi unffurf amdanynt neu wasanaethau na chodir unrhyw ffi amdanynt.
7.—(1) Ac eithrio pan fo’r gofal a chymorth a ddarperir, neu sydd i’w ddarparu, yn ddarpariaeth o ofal a llety mewn cartref gofal, ni chaiff awdurdod lleol ddyfarnu ei bod yn rhesymol ymarferol i A dalu cyfanswm ffi o fwy na £60 yr wythnos am y gofal a chymorth.
(2) Ond rhaid i awdurdod lleol, wrth gyfrifo cyfanswm y ffi am y gofal a chymorth y mae’r person yn ei gael at ddiben cymhwyso’r uchafswm ffi wythnosol ym mharagraff (1), eithrio unrhyw ffioedd mewn perthynas â gofal a chymorth y mae’n gosod ffi unffurf amdanynt fel bod unrhyw ffioedd unffurf yn cael eu cadw ar wahân i’r ffioedd am ofal a chymorth y mae’r uchafswm ffi wythnosol yn gymwys iddynt.
8.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â’r ffioedd am ddarpariaeth o ofal a chymorth nad yw’n ddarpariaeth o lety mewn cartref gofal.
(2) Wrth gyfrifo’r swm y caniateir ei gwneud yn ofynnol bod A yn ei dalu, rhaid i awdurdod lleol ddilyn y weithdrefn a nodir ym mharagraff (3).
(3) Rhaid i awdurdod lleol—
(a)cyfrifo swm y ffi safonol am y gofal a chymorth a ddarperir neu sydd i’w ddarparu i’r person;
(b)diystyru unrhyw ffioedd yn y cyfanswm hwnnw sy’n ffioedd unffurf;
(c)cymhwyso’r uchafswm ffi wythnosol ar gyfer gofal a chymorth amhreswyl, os byddai’r swm canlyniadol, fel arall, yn fwy na’r uchafswm;
(d)mewn perthynas â’r swm a gyfrifwyd yn unol â’r rheoliad hwn, dyfarnu’r hyn y byddai’n rhesymol ymarferol i’r person ei dalu yn unol â rheoliadau 11 (terfyn cyfalaf) a 12 (isafswm incwm ar gyfer person y darperir gofal a chymorth amhreswyl iddo).
9.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â’r ffioedd am ofal a chymorth amhreswyl.
(2) Wrth gyfrifo’r swm a delir gan A neu y caniateir ei gwneud yn ofynnol bod A yn ei dalu, rhaid i awdurdod lleol ddilyn y weithdrefn ganlynol—
(a)cyfrifo swm y ffi safonol am y gofal a chymorth y mae A yn eu cael, neu a gynigir i A;
(b)mewn perthynas â’r swm a gyfrifwyd yn unol â’r rheoliad hwn, dyfarnu’r hyn y byddai’n rhesymol ymarferol i A ei dalu yn unol â rheoliadau 11 (terfyn cyfalaf) a 13 (isafswm incwm ar gyfer person y darperir llety iddo mewn cartref gofal).
(3) Pan fo awdurdod lleol yn tybio y byddai’n gosod ffi mewn perthynas ag A pan fo A yn breswylydd byrdymor, rhaid iddo drin A fel pe bai A yn cael gofal a chymorth amhreswyl a dilyn y weithdrefn yn rheoliad 8 gan wneud dyfarniad yn unol â rheoliadau 11 a 12.
10. Pan fo rheoliad 7(1)(b) neu (c) o’r Rheoliadau Asesiad Ariannol yn gymwys (amgylchiadau pan nad oes dyletswydd i gynnal asesiad ariannol) rhaid i awdurdod lleol ddyfarnu ei bod yn rhesymol ymarferol i A dalu’r ffi safonol, yn ddarostyngedig i’r uchafswm ffi wythnosol mewn perthynas â gofal a chymorth amhreswyl.
11.—(1) Pan fo gan A gyfalaf uwchlaw’r terfyn cyfalaf, rhaid i awdurdod lleol ddyfarnu ei bod yn rhesymol ymarferol i A dalu’r ffi safonol, yn ddarostyngedig i’r uchafswm ffi wythnosol mewn perthynas â gofal a chymorth amhreswyl.
(2) Y terfyn cyfalaf yw £24,000 a hwn hefyd yw’r terfyn ariannol at ddibenion adran 66(5) o’r Ddeddf.
(3) Pan fo’r cyfalaf sydd gan A ar y terfyn cyfalaf neu islaw iddo, rhaid i awdurdod lleol ddyfarnu nad yw’n rhesymol ymarferol i A dalu’r ffi safonol nac unrhyw swm llai allan o gyfalaf.
12.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo awdurdod lleol yn diwallu anghenion A am ofal a chymorth, neu’n cynnig eu diwallu, rywfodd ac eithrio drwy ddarpariaeth o lety mewn cartref gofal.
(2) Rhaid i awdurdod lleol ddyfarnu na fyddai’n rhesymol ymarferol i A dalu unrhyw swm y byddai ei dalu yn gostwng incwm wythnosol net A islaw’r isafswm incwm a nodir yn y rheoliad hwn.
(3) Pan fo A yn cael budd-dal perthnasol, yr isafswm incwm yw—
(a)yr hawlogaeth wythnosol sylfaenol i’r budd-dal perthnasol y mae A yn ei gael (“yr hawlogaeth sylfaenol”);
(b)swm o ddim llai na 35% o’r hawlogaeth honno (“y glustog”);
(c)swm ychwanegol i ddigolledu A am wariant cysylltiedig ag anabledd, sef dim llai na 10% o’r hawlogaeth sylfaenol; a
(d)swm wythnosol cyfwerth ag unrhyw ffioedd unffurf a delir, neu sydd i’w talu, gan A, pa un ai am wasanaethau a ddarperir o dan Ran 4 o’r Ddeddf, neu am wasanaethau a ddarperir o dan adran 15 neu am gynhorthwy a ddarperir o dan adran 17 o’r Ddeddf.
(4) Pan nad yw A yn cael budd-dal perthnasol, yr isafswm incwm wythnosol yw—
(a)swm wythnosol yr hyn a asesir yn rhesymol gan yr awdurdod lleol fyddai hawlogaeth sylfaenol A i fudd-daliadau, gan ystyried oedran, amgylchiadau a lefel anabledd A (“yr amcangyfrif o’r hawlogaeth sylfaenol”);
(b)swm o ddim llai na 35% o’r amcangyfrif o’r hawlogaeth sylfaenol (“y glustog”);
(c)swm i ddigolledu A am wariant cysylltiedig ag anabledd, sef dim llai na 10% o’r amcangyfrif o’r hawlogaeth sylfaenol; a
(d)swm wythnosol cyfwerth ag unrhyw ffioedd unffurf a delir, neu sydd i’w talu, gan A, pa un ai am wasanaethau a ddarperir o dan Ran 4 o’r Ddeddf, neu am wasanaethau a ddarperir o dan adran 15 neu am gynhorthwy a ddarperir o dan adran 17 o’r Ddeddf.
(5) Nid oes dim yn y rheoliad hwn sy’n effeithio ar ddisgresiwn awdurdod lleol i gynyddu canran y glustog neu’r swm i ddigolledu am wariant cysylltiedig ag anabledd wrth gyfrifo’r isafswm incwm.
13. Pan fo awdurdod lleol yn diwallu, neu’n cynnig diwallu, anghenion A am ofal a chymorth drwy ddarpariaeth o lety mewn cartref gofal, rhaid i’r awdurdod lleol ddyfarnu na fyddai’n rhesymol ymarferol i A dalu unrhyw swm y byddai ei dalu yn gostwng incwm wythnosol net A islaw £26.50.
14.—(1) Pan fo awdurdod lleol yn gwneud dyfarniad yn unol â’r Rheoliadau hyn ynglŷn â’r swm y mae’n rhesymol ymarferol i A ei dalu am ofal a chymorth—
(a)a gynigir i A am y tro cyntaf; neu
(b)sy’n cael ei ddarparu i A eisoes ond y gosodir ffi amdano am y tro cyntaf,
rhaid i’r awdurdod lleol ddarparu datganiad i A, sy’n nodi’r taliad y mae’n rhaid i A ei wneud.
(2) Ni chaiff awdurdod lleol ei gwneud yn ofynnol bod ffi yn cael ei thalu tan y dyddiad yr anfonir y datganiad at A.
(3) Ond unwaith y bydd datganiad wedi ei ddyroddi caiff awdurdod lleol ei gwneud yn ofynnol bod A yn talu ffi am ofal a chymorth a ddarparwyd neu a drefnwyd cyn dyddiad y datganiad(3).
15.—(1) Caiff awdurdod lleol wneud dyfarniad newydd—
(a)pan fo’n tybio bod newid wedi digwydd yng nghyfalaf neu incwm A;
(b)pan fo’n tybio bod newid wedi digwydd yn y ffi safonol am y gwasanaeth (gan gynnwys newid o ganlyniad i wahaniaeth yn lefel y gofal a chymorth a ddarperir, neu yn y graddau y darperir y gofal a chymorth);
(c)pan fo’r awdurdod lleol wedi newid ei bolisi ynglŷn ag arfer y disgresiwn i godi ffi o dan adran 59 o’r Ddeddf;
(d)pan fo’n tybio bod camgymeriad wedi ei wneud wrth asesu cyfalaf neu incwm A, neu wrth wneud y dyfarniad; neu
(e)pan fo A yn gofyn am ddyfarniad newydd.
(2) Pan fo awdurdod lleol yn gwneud dyfarniad pellach o allu A i dalu ffi yn unol â’r rheoliad hwn, ni chaiff wneud taliad diwygiedig yn ofynnol tan y dyddiad y darperir datganiad pellach sy’n nodi’r ffi newydd, a bydd y datganiad blaenorol yn parhau i gael effaith tan y dyddiad hwnnw.
Mae “registered medical practitioner” wedi ei ddiffinio yn Atodlen 1 i Ddeddf Dehongli 1978.
Mae adran 66(9) o’r Ddeddf yn darparu’r pŵer i reoliadau ddarparu bod dyfarniad yn cael effaith o ddyddiad cyn y dyddiad pan gafodd ei wneud.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys