xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Rheoliad 16

ATODLEN 1Meini prawf ynglŷn â chyfansoddiad

1.  Cynnwys y mêl yn ei hanfod yw gwahanol siwgrau, sef ffrwctos a glwcos yn bennaf, yn ogystal â sylweddau eraill megis asidau organig, ensymau a gronynnau solet sy’n deillio o waith casglu mêl.

2.  Mae’r lliw yn amrywio o fod bron yn ddi-liw i frown tywyll.

3.  Gall y dwyster fod yn hylifol, yn ludiog neu’n rhannol neu’n gyfan gwbl risialog.

4.  Mae’r blas a’r aroglau’n amrywio ond maent yn deillio o darddiad y planhigyn.

5.  Nid oes cynhwysyn bwyd wedi ei ychwanegu, gan gynnwys unrhyw ychwanegyn bwyd.

6.  Nid oes ychwanegiadau eraill wedi eu gosod yn y mêl ac eithrio mêl arall.

7.  Rhaid iddo fod, cyn belled ag y bo modd, yn rhydd rhag deunyddiau organig neu anorganig sy’n estron i’w gyfansoddiad.

8.  Rhaid iddo beidio—

(a)â chynnwys unrhyw flas neu aroglau estron;

(b)â bod wedi dechrau eplesu;

(c)â bod ag asidedd a newidiwyd yn artiffisial;

(d)â bod wedi ei gynhesu yn y fath fodd fel bod yr ensymau naturiol naill ai wedi eu dinistrio neu wedi eu gwneud yn sylweddol anweithgar.

9.  Nid yw paragraff 8 yn gymwys i fêl pobydd.

10.  Ni chaniateir tynnu ohono baill neu gyfansoddyn sy’n neilltuol i fêl ac eithrio lle na ellir osgoi hyn wrth dynnu ohono ddeunydd anorganig neu organig estron.

11.  Nid yw paragraff 10 yn gymwys i fêl wedi ei hidlo.

12.  Mae’r meini prawf ansawdd ychwanegol a nodir yn y tabl a ganlyn yn gymwys—

Meini prawfSwm
Cynnwys siwgr

1.—(1Cynnwys ffrwctos a glwcos (cyfanswm y ddau)—

(a)

mêl blodau

dim llai na 60g/100g
(b)

mêl melwlith a chyfuniad o fêl melwlith â mêl blodau

dim llai na 45g/100g

(2Cynnwys swcros—

(a)

pob mêl ac eithrio mêl a bennir ym mharagraff (b) neu (c)

dim mwy na 5g/100g
(b)

mêl pren locust ffug (Robinia pseudoacacia), mêl alffalffa (Medicago sativa), mêl Banksia Menzies (Banksia menziesii), mêl gwyddfid Ffrainc (Hedysarum), mêl gwm coch (Eucalyptus camadulensis), mêl lledrwydden (Eucryphia lucida, Eucryphia milliganii), mêl Citrus spp.

dim mwy na 10g/100g
(c)

mêl lafant (Lavandula spp.), mêl tafod y fuwch (Borago officinalis)

dim mwy na 15g/100g
Cynnwys lleithder

2.  Cynnwys lleithder—

(a)

pob mêl ac eithrio mêl a bennir ym mharagraff (b), (c) neu (d)

dim mwy nag 20%
(b)

mêl o rug (Calluna)

dim mwy na 23%
(c)

mêl pobydd ac eithrio mêl pobydd o rug (Calluna)

dim mwy na 23%
(d)

mêl pobydd o rug (Calluna)

dim mwy na 25%
Cynnwys annhoddadwy mewn dŵr

3.  Cynnwys annhoddadwy mewn dŵr—

(a)

pob mêl ac eithrio mêl wedi ei wasgu

dim mwy na 0.1g/100g
(b)

mêl wedi ei wasgu

dim mwy na 0.5g/100g
Dargludedd trydanol

4.  Dargludedd trydanol—

(a)

pob mêl ac eithrio mêl grug clochog (Erica), mêl castan, mêl coeden ewcalyptws, mêl melwlith, mêl pisgwydden (Tilia spp.), mêl grug (Calluna vulgaris), mêl llwyn manwca neu jelly bush (Leptospermum), mêl mefusbren (Arbutus unedo) a mêl coeden de (Melaleuca spp.)

dim mwy na 0.8mS/cm
(b)

cyfuniadau o felau y mae paragraff (a) yn gymwys iddynt

dim mwy na 0.8mS/cm
(c)

mêl melwlith

dim llai na 0.8mS/cm
(d)

cyfuniadau o fêl melwlith ac eithrio cyfuniadau o’r mêl hwnnw â mêl grug clochog (Erica), mêl coeden ewcalyptws, mêl pisgwydden (Tilia spp.), mêl grug (Calluna vulgaris), mêl llwyn manwca neu jellybush (Leptospermum), mêl mefusbren (Arbutus unedo) a mêl coeden de (Melaleuca spp.)

dim llai na 0.8mS/cm
(e)

mêl castan

dim llai na 0.8mS/cm
(f)

cyfuniadau o fêl castan ac eithrio cyfuniadau o’r mêl hwnnw â mêl grug clochog (Erica), mêl coeden ewcalyptws, mêl pisgwydden (Tilia spp.), mêl grug (Calluna vulgaris), mêl llwyn manwca neu jellybush (Leptospermum), mêl mefusbren (Arbutus unedo) a mêl coeden de (Melaleuca spp.)

dim llai na 0.8mS/cm
Asid rhydd

5.  Asid rhydd—

(a)

pob mêl ac eithrio mêl pobydd

dim mwy na 50 mili-cyfwerthydd o asid am bob kg
(b)

mêl pobydd

dim mwy na 80 mili-cyfwerthydd o asid am bob kg
Gweithgarwch diastas a chynnwys hydroxymethylfurfural

6.  Gweithgarwch diastas a chynnwys hydroxymethylfurfural (HMF) a bennir ar ôl prosesu a chyfuno—

(a)

gweithgarwch diastas (graddfa Schade) —

(i)

pob mêl ac eithrio mêl pobydd a mêl a bennir yn is-baragraff (ii)

dim llai nag 8
(ii)

mêl sydd â chynnwys ensym naturiol isel (e.e. mêl sitrws) a chynnwys HMF o ddim mwy na 15mg/kg

dim llai na 3
(b)

HMF—

(i)

pob mêl ac eithrio mêl pobydd a mêl a bennir yn is-baragraff (ii)

dim mwy na 40mg/kg
(ii)

mêl o darddiad a ddatganwyd o ranbarth sydd â hinsawdd drofannol a chyfuniadau o’r melau hyn

dim mwy na 80mg/kg