Cymhwyso Deddf 2015 yn dilyn tynnu dynodiad yn ôl
6.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo dynodiad o dan adran 3(1) o Ddeddf 2015 wedi ei dynnu’n ôl.
(2) Mae darparwr addysg uwch i barhau i gael ei drin fel pe bai’n sefydliad at ddibenion adrannau 10 i 12, 13, 14 a 26 o Ddeddf 2015.