Cyhoeddi gwybodaeth
12.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), caiff CANC gyhoeddi unrhyw ran o’r wybodaeth a nodir ym mharagraff (2) mewn perthynas â hysbysiad gorfodi neu hysbysiad cosb sifil ar neu ar ôl y diweddaraf o’r canlynol—
(a)y diwrnod ar ôl i’r cyfnod ar gyfer gwneud apêl yn erbyn yr hysbysiad ddod i ben, os na wnaed unrhyw apêl; neu
(b)penderfynu ar yr apêl neu dynnu’r apêl yn ôl, os gwnaed apêl.
(2) Yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1) yw—
(a)hunaniaeth y gweithredwr sy’n ddarostyngedig i’r hysbysiad gorfodi neu’r hysbysiad cosb sifil;
(b)yn achos hysbysiad gorfodi, y camau adfer y mae’n ofynnol eu cymryd er mwyn unioni’r achos o dorri’r ddyletswydd terfyn allyriadau;
(c)yn achos hysbysiad cosb sifil, y swm sy’n daladwy o dan yr hysbysiad cosb sifil; a
(d)os yw’r hysbysiad wedi bod yn destun apêl o dan reoliad 11, canlyniad yr apêl honno.
(3) Rhaid i CANC beidio â chyhoeddi’r wybodaeth a nodir ym mharagraff (2) mewn perthynas â hysbysiad gorfodi neu hysbysiad cosb sifil os—
(a)canfyddir mewn apêl nad yw’r gweithredwr wedi torri’r ddyletswydd terfyn allyriadau; neu
(b)os yw’r hysbysiad gorfodi neu’r hysbysiad cosb sifil wedi ei dynnu’n ôl.