Gorchymyn Cynllun Digolledu a Chynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Diwygio) 2015

Diwygio Rhan 1 (enwi a dehongli)

1.  Yn Rhan 1, yn rheol 2(1) (dehongli)—

(a)yn y mannau priodol, mewnosoder—

mae i “aelod cofrestredig dros dro” (“provisionally enrolled member)” yr ystyr a roddir yn rheol 1(11) o Ran 2;;

ystyr “aelod diogelwch llawn o’r Cynllun hwn” (“full protection member of this Scheme”) yw person sy’n aelod diogelwch llawn o’r Cynllun hwn yn rhinwedd paragraff 9 o Atodlen 2 i Reoliadau 2015;;

ystyr “aelod diogelwch taprog o’r Cynllun hwn” (“tapered protection member of this Scheme”) yw person sy’n aelod diogelwch taprog o’r Cynllun hwn yn rhinwedd paragraff 15 o Atodlen 2 i Reoliadau 2015;;

ystyr “Rheoliadau 2015” (“the 2015 Regulations”) yw Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2015(1) a sefydlodd Gynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2015;;

(b)yn lle’r diffiniad o “cyfnod cyfyngedig” rhodder—

ystyr “cyfnod cyfyngedig” (“limited period”) yw’r cyfnod sy’n cychwyn ar 1 Gorffennaf 2000 neu, os yw’n ddiweddarach, ar y dyddiad sy’n digwydd cyn 6 Ebrill 2006 pan gyflogwyd y person gyntaf fel diffoddwr tân wrth gefn, ac sy’n diweddu ar—

(a)

y cynharaf o—

(i)

y dyddiad yr ymunodd y person hwnnw â’r Cynllun hwn fel aelod arbennig neu fel aelod safonol mewn cysylltiad â gwasanaeth y gallai’r aelod, fel arall, ei gyfrif fel gwasanaeth pensiynadwy arbennig, a

(ii)

y dyddiad, os yw’n gymwys, pan ddaeth cyflogaeth y person fel diffoddwr tân wrth gefn neu ddiffoddwr tân rheolaidd i ben;

(b)

yn achos person sy’n ymuno â’r Cynllun hwn fel aelod cofrestredig dros dro ar 31 Mawrth 2015 ac yna, ar neu ar ôl 1 Ebrill 2015—

(i)

nad yw’n dod yn aelod diogelwch llawn o’r Cynllun hwn neu’n aelod diogelwch taprog o’r Cynllun hwn, 31 Mawrth 2015,

(ii)

sy’n dod yn aelod diogelwch llawn o’r Cynllun hwn, y dyddiad y mae’r person hwnnw’n ymuno â’r Cynllun hwn fel aelod arbennig,

(iii)

sy’n dod yn aelod diogelwch taprog o’r Cynllun hwn, y cynharaf o’r dyddiad y mae’r person yn ymuno â’r Cynllun hwn fel aelod arbennig a dyddiad cau diogelwch taprog yr aelod, o fewn yr ystyr a roddir ym mharagraff 3 o Atodlen 2 i Reoliadau 2015;;

(c)yn y diffiniad o “aelod gohiriedig arbennig”, yn lle “1A(5) i (8)” rhodder “1A(6) i (9)”;

(d)yn y diffiniad o “amodau cymhwyster arbennig”, yn lle “mae i “amodau cymhwyster arbennig” (“special eligibility conditions”) yr ystyr a roddir” rhodder “ystyr “amodau cymhwyster arbennig” (“special eligibility conditions”) yw’r amodau a bennir”;

(e)yn y diffiniad o “aelod-ddiffoddwr tân arbennig”, yn lle “1A(1) i (4)” rhodder “1A(1) i (5)”;

(f)yn y diffiniad o “aelod-bensiynwr arbennig”, yn lle “1A(9) i (13)” rhodder “1A(10) i (14)”.