xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Erthygl 3

ATODLEN 2Diwygio Atodlen 1 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007

Diwygio Rhan 1 (enwi a dehongli)

1.  Yn Rhan 1, yn rheol 2(1) (dehongli)—

(a)yn y mannau priodol, mewnosoder—

mae i “aelod cofrestredig dros dro” (“provisionally enrolled member)” yr ystyr a roddir yn rheol 1(11) o Ran 2;;

ystyr “aelod diogelwch llawn o’r Cynllun hwn” (“full protection member of this Scheme”) yw person sy’n aelod diogelwch llawn o’r Cynllun hwn yn rhinwedd paragraff 9 o Atodlen 2 i Reoliadau 2015;;

ystyr “aelod diogelwch taprog o’r Cynllun hwn” (“tapered protection member of this Scheme”) yw person sy’n aelod diogelwch taprog o’r Cynllun hwn yn rhinwedd paragraff 15 o Atodlen 2 i Reoliadau 2015;;

ystyr “Rheoliadau 2015” (“the 2015 Regulations”) yw Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2015(1) a sefydlodd Gynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2015;;

(b)yn lle’r diffiniad o “cyfnod cyfyngedig” rhodder—

ystyr “cyfnod cyfyngedig” (“limited period”) yw’r cyfnod sy’n cychwyn ar 1 Gorffennaf 2000 neu, os yw’n ddiweddarach, ar y dyddiad sy’n digwydd cyn 6 Ebrill 2006 pan gyflogwyd y person gyntaf fel diffoddwr tân wrth gefn, ac sy’n diweddu ar—

(a)

y cynharaf o—

(i)

y dyddiad yr ymunodd y person hwnnw â’r Cynllun hwn fel aelod arbennig neu fel aelod safonol mewn cysylltiad â gwasanaeth y gallai’r aelod, fel arall, ei gyfrif fel gwasanaeth pensiynadwy arbennig, a

(ii)

y dyddiad, os yw’n gymwys, pan ddaeth cyflogaeth y person fel diffoddwr tân wrth gefn neu ddiffoddwr tân rheolaidd i ben;

(b)

yn achos person sy’n ymuno â’r Cynllun hwn fel aelod cofrestredig dros dro ar 31 Mawrth 2015 ac yna, ar neu ar ôl 1 Ebrill 2015—

(i)

nad yw’n dod yn aelod diogelwch llawn o’r Cynllun hwn neu’n aelod diogelwch taprog o’r Cynllun hwn, 31 Mawrth 2015,

(ii)

sy’n dod yn aelod diogelwch llawn o’r Cynllun hwn, y dyddiad y mae’r person hwnnw’n ymuno â’r Cynllun hwn fel aelod arbennig,

(iii)

sy’n dod yn aelod diogelwch taprog o’r Cynllun hwn, y cynharaf o’r dyddiad y mae’r person yn ymuno â’r Cynllun hwn fel aelod arbennig a dyddiad cau diogelwch taprog yr aelod, o fewn yr ystyr a roddir ym mharagraff 3 o Atodlen 2 i Reoliadau 2015;;

(c)yn y diffiniad o “aelod gohiriedig arbennig”, yn lle “1A(5) i (8)” rhodder “1A(6) i (9)”;

(d)yn y diffiniad o “amodau cymhwyster arbennig”, yn lle “mae i “amodau cymhwyster arbennig” (“special eligibility conditions”) yr ystyr a roddir” rhodder “ystyr “amodau cymhwyster arbennig” (“special eligibility conditions”) yw’r amodau a bennir”;

(e)yn y diffiniad o “aelod-ddiffoddwr tân arbennig”, yn lle “1A(1) i (4)” rhodder “1A(1) i (5)”;

(f)yn y diffiniad o “aelod-bensiynwr arbennig”, yn lle “1A(9) i (13)” rhodder “1A(10) i (14)”.

Diwygio Rhan 2 (aelodaeth o’r cynllun, diweddu ac ymddeol)

2.—(1Mae Rhan 2 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheol 1 (aelodaeth o’r cynllun), ar ôl paragraff (10) mewnosoder—

(11) Mae person yn aelod cofrestredig dros dro o’r Cynllun hwn os yw’r person—

(a)yn bodloni’r amodau yn rheol 6C(2) o Ran 11; a

(b)nad yw’n gymwys i ddod yn aelod cofrestredig dros dro yn unol â rheol 6C(3) o Ran 11.

(3Yn rheol 2A(2) (amodau cymhwyster arbennig), ar ôl “(dyfarndal ôl-weithredol yn sgil ymddeol oherwydd afiechyd)” mewnosoder “o Ran 3”.

Diwygio Rhan 11 (tâl pensiynadwy, cyfraniadau pensiwn a phrynu gwasanaeth ychwanegol)

3.—(1Mae Rhan 11 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheol 6A (dewis prynu gwasanaeth yn ystod y cyfnod cyfyngedig)—

(a)ym mharagraff (2) o’r testun Saesneg, o flaen “which they are” mewnosoder “to”; a

(b)ar ôl paragraff (13) mewnosoder—

(14) Mewn cysylltiad â’r cyfraniadau pensiwn y cyfeirir atynt ym mharagraff (12), mae llog yn daladwy mewn cysylltiad â chyfraniadau sy’n daladwy o 6 Ebrill 2006 ymlaen, a chan gynnwys y dyddiad hwnnw, tan y dyddiad y mae’r person yn ymuno â’r Cynllun hwn fel aelod safonol (“y cyfnod safonol tybiedig”).

(15) Mae llog yn daladwy mewn cysylltiad â’r cyfraniad pensiwn sy’n ofynnol i’w dalu mewn cysylltiad â gwasanaeth aelod arbennig yn ystod y cyfnod safonol tybiedig, fel a ganlyn—

(a)at ddibenion cyfrifo’r llog o dan y paragraff hwn, rhaid rhagdybio mewn cysylltiad â’r cyfnod safonol tybiedig fod cyfraniadau pensiwn yn daladwy drwy gyfraniadau cyfnodol misol, o’r dyddiad y byddai cyfraniad misol safonol cyntaf yr aelod wedi ei dalu;

(b)mae llog yn dechrau cronni o’r dyddiad y byddai’r cyfraniad misol cyntaf wedi ei dalu yn unol ag is-baragraff (a) ac mae’n peidio â chronni ar y dyddiad y mae’r cyfraniad ar ffurf cyfandaliad neu’r cyfraniad cyfnodol terfynol yn cael ei dalu yn unol â pharagraffau (2), (4), (5) ac (8) o’r rheol hon;

(c)mewn perthynas â chyfraniadau pensiwn cyfnod safonol tybiedig a delir drwy gyfraniad ar ffurf cyfandaliad, rhaid cyfrifo’r llog drwy gymhwyso’r gyfradd llog gynt i’r cyfraniad sy’n daladwy yn unol â rheol 3(1) o Ran 11, gyda’r adlog misol rhwng y mis y byddai pob cyfraniad wedi ei wneud yn unol ag is-baragraff (a), hyd y dyddiad cyfrifo;

(ch)mewn perthynas â chyfraniadau pensiwn cyfnod safonol tybiedig a delir drwy gyfraniad cyfnodol—

(i)rhaid cyfrifo’r llog yn yr un modd ag ar gyfer cyfraniad ar ffurf cyfandaliad o dan is-baragraff (c);

(ii)rhaid addasu swm y llog sy’n daladwy wedyn yn unol â thablau a ddarperir gan Actiwari’r Cynllun er mwyn caniatáu ar gyfer llog ar gyfradd llog y dyfodol, mewn perthynas â’r cyfnod o’r dyddiad cyfrifo hyd at y dyddiad y telir y cyfraniad, er mwyn diwallu atebolrwydd dros gyfnod o ddeng mlynedd;

(d)at ddibenion y rheol hon—

ystyr “cyfradd llog y dyfodol” (“future interest rate”) yw cyfradd sy’n gyfwerth ag 1.5% plws mynegai arenillion Gilt 10 mlynedd y DU Actiwariaid FTSE llai cyfartaledd mynegai Gilt 5 i 15 mlynedd cysylltiedig â Mynegai y DU Actiwiariaid FTSE gyda chyfraddau chwyddiant tybiedig o 0% a 5%;

ystyr “cyfradd llog gynt” (“past interest rate”) yw cyfradd sy’n gyfwerth â’r llog a oedd ar gael ar y dyroddiad diweddaraf o’r tystysgrifau cynilo llog sefydlog pum mlynedd gan y Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol, sydd ar gael ar y 15fed diwrnod o bob mis, a fyddai wedi bod yn gymwys i’r cyfnod dan sylw;

ystyr “cyfraniadau pensiwn cyfnod safonol tybiedig” (“assumed standard period pension contributions”) yw’r cyfraniad pensiwn sy’n daladwy mewn cysylltiad â gwasanaeth aelod arbennig yn ystod y cyfnod safonol tybiedig o dan reol 6A o Ran 11;

ystyr “dyddiad cyfrifo” (“calculation date”) yw—

(a)

yn achos cyfraniad ar ffurf cyfandaliad, y dyddiad y telir y cyfandaliad; a

(b)

yn achos talu’r cyfraniad pensiwn cyfnod safonol tybiedig drwy gyfraniad cyfnodol, y dyddiad pan ymunodd yr aelod â’r Cynllun hwn fel aelod arbennig.

(3Yn rheol 6B (dewis prynu gwasanaeth yn ystod y cyfnod cyfyngedig: darpariaeth atodol), ar ddiwedd paragraff (12) mewnosoder “ac eithrio pan wneir dewisiad gan aelod cofrestredig dros dro, ac mewn achos o’r fath ni chaiff y dewisiad gymryd effaith ar ôl 29 Chwefror 2016”.

(4Ar ôl rheol 6B mewnosoder—

Dewis prynu gwasanaeth: cofrestru dros dro

6C.(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae person sy’n bodloni’r amodau ym mharagraff (2) o’r rheol hon yn ymuno â’r Cynllun hwn fel aelod cofrestredig dros dro ar 31 Mawrth 2015.

(2) Yr amodau yw—

(a)ar neu cyn 31 Mawrth 2015—

(i)bod y person wedi ei hysbysu gan yr awdurdod y gallai fod hawl ganddo i ymuno â’r Cynllun hwn fel aelod arbennig, yn unol â rheol 5A(4) o’r Rhan hon; neu

(ii)bod yr awdurdod, y cyfeirir ato yn rheol 5A(4) o’r Rhan hon, wedi cael gan y person gais am ddatganiad o wasanaeth, yn unol â rheol 5A(5) o’r Rhan hon.

(3) Ni chaiff person ddod yn aelod cofrestredig dros dro os yw’r person, ar neu cyn 31 Mawrth 2015—

(a)wedi dod yn aelod arbennig o’r Cynllun hwn;

(b)wedi hysbysu’r awdurdod nad yw’n dymuno gwneud dewisiad i ymuno â’r Cynllun hwn fel aelod arbennig; neu

(c)wedi ei hysbysu gan yr awdurdod nad yw bellach yn gymwys i ymuno â’r Cynllun hwn fel aelod arbennig.

(4) Ar neu cyn 31 Mai 2015 rhaid i’r awdurdod roi i aelod cofrestredig dros dro hysbysiad fel y cyfeirir ato o dan reol 5A(13) o’r Rhan hon, onid yw’r awdurdod eisoes wedi darparu hysbysiad o’r fath i’r person hwnnw.

(5) Yn ddarostyngedig i reol 6B(12) o’r Rhan hon—

(a)os yw aelod cofrestredig dros dro yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r awdurdod o’i ddewisiad i dalu cyfraniadau pensiwn cyfnod arbennig gorfodol mewn cysylltiad â’i wasanaeth yn ystod y cyfnod arbennig gorfodol o dan reol 6A o’r Rhan hon, bydd y dewisiad yn cymryd effaith ar y diwrnod y mae’r awdurdod yn cael yr hysbysiad o’r dewisiad, a bydd y person yn peidio â bod yn aelod cofrestredig dros dro o’r Cynllun hwn ac yn dod yn aelod arbennig o’r Cynllun hwn;

(b)os nad yw aelod cofrestredig dros dro yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r awdurdod ar neu cyn 29 Chwefror 2016 o’i ddewisiad i dalu cyfraniadau pensiwn cyfnod arbennig gorfodol mewn cysylltiad â’i wasanaeth yn ystod y cyfnod arbennig gorfodol o dan reol 6A o’r Rhan hon, mae’r person yn peidio â bod yn aelod cofrestredig dros dro o’r Cynllun hwn.

Diwygio Atodiad ZA (cyfran gymudedig: aelodau arbennig)

4.  Yn Atodiad ZA, yn lle’r Tabl, rhodder—

Blyny-ddoeddOedran mewn blynyddoedd a misoedd cyflawn ar ddiwrnod cychwyn y pensiwn
01234567891011

Islaw

50

23.4
5022.422.322.322.322.322.222.222.222.222.122.122.1
5122.122.022.022.022.021.921.921.921.921.821.821.8
5221.821.721.721.721.721.621.621.621.621.521.521.5
5321.521.421.421.421.321.321.321.321.221.221.221.1
5421.121.121.121.021.021.021.020.920.920.920.920.8
5520.820.820.820.720.720.720.620.620.620.520.520.5
5620.420.420.420.420.320.320.320.220.220.220.120.1
5720.120.020.020.019.919.919.919.819.819.819.719.7
5819.719.619.619.619.519.519.519.419.419.419.319.3
5919.319.219.219.219.119.119.119.019.019.018.918.9
6018.918.818.818.718.718.718.618.618.618.518.518.5
6118.418.418.418.318.318.218.218.218.118.118.118.0
6218.018.017.917.917.817.817.817.717.717.717.617.6
6317.517.517.517.417.417.417.317.317.217.217.217.1
6417.117.117.017.016.916.916.916.816.816.816.716.7
6516.6.

Diwygio Atodiad A1 (cyfraniadau pensiwn)

5.  Yn lle’r Tabl ym mharagraff 5 o Atodiad A1 rhodder y Tabl canlynol—

Tâl pensiynadwyCyfradd gyfrannu o 1 Ebrill 2015 i 31 Mawrth 2016 (canran o’r tâl pensiynadwy)
Hyd at a chan gynnwys £15,1508.5%
Dros £15,150 a hyd at a chan gynnwys £21,2109.4%
Dros £21,210 a hyd at a chan gynnwys £30,30010.4%
Dros £30,300 a hyd at a chan gynnwys £40,40010.9%
Dros £40,400 a hyd at a chan gynnwys £50,50011.2%
Dros £50,500 a hyd at a chan gynnwys £60,60011.3%
Dros £60,600 a hyd at a chan gynnwys £101,00011.7%
Dros £101,000 a hyd at a chan gynnwys £121,20012.1%
Dros £121,20012.5%
Tâl pensiynadwyCyfradd gyfrannu o 1 Ebrill 2016 i 31 Mawrth 2017 (canran o’r tâl pensiynadwy)
Hyd at a chan gynnwys £15,3018.5%
Dros £15,301 a hyd at a chan gynnwys £21,4229.4%
Dros £21,422 a hyd at a chan gynnwys £30,60310.4%
Dros £30,603 a hyd at a chan gynnwys £40,80410.9%
Dros £40,804 a hyd at a chan gynnwys £51,00511.2%
Dros £51,005 a hyd at a chan gynnwys £61,20611.3%
Dros £61,206 a hyd at a chan gynnwys £102,01011.7%
Dros £102,010 a hyd at a chan gynnwys £122,41212.1%
Dros £122,41212.5%
Tâl pensiynadwyCyfradd gyfrannu o 1 Ebrill 2017 i 31 Mawrth 2018 (canran o’r tâl pensiynadwy)
Hyd at a chan gynnwys £15,4548.5%
Dros £15,454 a hyd at a chan gynnwys £21,6369.4%
Dros £21,636 a hyd at a chan gynnwys £30,90910.4%
Dros £30,909 a hyd at a chan gynnwys £41,21210.9%
Dros £41,212 a hyd at a chan gynnwys £51,51511.2%
Dros £51,515 a hyd at a chan gynnwys £61,81811.3%
Dros £61,818 a hyd at a chan gynnwys £103,03011.7%
Dros £103,030 a hyd at a chan gynnwys £123,63612.1%
Dros £123,63612.5%
Tâl pensiynadwyCyfradd gyfrannu o 1 Ebrill 2018 (canran o’r tâl pensiynadwy)
Hyd at a chan gynnwys £15,6098.5%
Dros £15,609 a hyd at a chan gynnwys £21,8529.4%
Dros £21,852 a hyd at a chan gynnwys £31,21810.4%
Dros £31,218 a hyd at a chan gynnwys £41,62410.9%
Dros £41,624 a hyd at a chan gynnwys £52,03011.2%
Dros £52,030 a hyd at a chan gynnwys £62,43611.3%
Dros £62,436 a hyd at a chan gynnwys £104,06011.7%
Dros £104,060 a hyd at a chan gynnwys £124,87212.1%
Dros £124,87212.5%.

Diwygio Atodiad AB1 (cyfraniadau pensiwn ar gyfer aelodau arbennig)

6.—(1Yn y Tabl ym mharagraff 6 o Atodiad AB1, ym mhennawd y bedwaredd golofn, ar ôl “2014” mewnosoder “i 31 Mawrth 2015”.

(2Ar ôl y Tabl ym mharagraff 6 o Atodiad AB1 mewnosoder—

Tâl pensiynadwyCyfradd gyfrannu o 1 Ebrill 2015 i 31 Mawrth 2016 (canran o’r tâl pensiynadwy)
Hyd at a chan gynnwys £15,15011.0%
Dros £15,150 a hyd at a chan gynnwys £21,21012.2%
Dros £21,210 a hyd at a chan gynnwys £30,30014.2%
Dros £30,300 a hyd at a chan gynnwys £40,40014.7%
Dros £40,400 a hyd at a chan gynnwys £50,50015.2%
Dros £50,500 a hyd at a chan gynnwys £60,60015.5%
Dros £60,600 a hyd at a chan gynnwys £101,00016.0%
Dros £101,000 a hyd at a chan gynnwys £121,20016.5%
Dros £121,20017.0%
Tâl pensiynadwyCyfradd gyfrannu o 1 Ebrill 2016 i 31 Mawrth 2017 (canran o’r tâl pensiynadwy)
Hyd at a chan gynnwys £15,30111.0%
Dros £15,301 a hyd at a chan gynnwys £21,42212.2%
Dros £21,422 a hyd at a chan gynnwys £30,60314.2%
Dros £30,603 a hyd at a chan gynnwys £40,80414.7%
Dros £40,804 a hyd at a chan gynnwys £51,00515.2%
Dros £51,005 a hyd at a chan gynnwys £61,20615.5%
Dros £61,206 a hyd at a chan gynnwys £102,01016.0%
Dros £102,010 a hyd at a chan gynnwys £122,41216.5%
Dros £122,41217.0%
Tâl pensiynadwyCyfradd gyfrannu o 1 Ebrill 2017 i 31 Mawrth 2018 (canran o’r tâl pensiynadwy)
Hyd at a chan gynnwys £15,45411.0%
Dros £15,454 a hyd at a chan gynnwys £21,63612.2%
Dros £21,636 a hyd at a chan gynnwys £30,90914.2%
Dros £30,909 a hyd at a chan gynnwys £41,21214.7%
Dros £41,212 a hyd at a chan gynnwys £51,51515.2%
Dros £51,515 a hyd at a chan gynnwys £61,81815.5%
Dros £61,818 a hyd at a chan gynnwys £103,03016.0%
Dros £103,030 a hyd at a chan gynnwys £123,63616.5%
Dros £123,63617.0%
Tâl pensiynadwyCyfradd gyfrannu o 1 Ebrill 2018 (canran o’r tâl pensiynadwy)
Hyd at a chan gynnwys £15,60911.0%
Dros £15,609 a hyd at a chan gynnwys £21,85212.2%
Dros £21,852 a hyd at a chan gynnwys £31,21814.2%
Dros £31,218 a hyd at a chan gynnwys £41,62414.7%
Dros £41,624 a hyd at a chan gynnwys £52,03015.2%
Dros £52,030 a hyd at a chan gynnwys £62,43615.5%
Dros £62,436 a hyd at a chan gynnwys £104,06016.0%
Dros £104,060 a hyd at a chan gynnwys £124,87216.5%
Dros £124,87217.0%.