Rheoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Cymru) 2014

Atal dros dro neu ddirymu tystysgrif, tystysgrif dros dro neu drwyddedLL+C

19.—(1Caiff yr awdurdod cymwys, drwy hysbysiad ysgrifenedig, atal dros dro neu ddirymu tystysgrif, tystysgrif dros dro F1... neu drwydded os bodlonir ef—

(a)bod deiliad y dystysgrif, y dystysgrif dros dro neu’r drwydded wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ddarpariaeth o’r Rheoliad UE neu’r Rheoliadau hyn;

(b)nad yw’r deiliad bellach yn berson addas a phriodol i ddal y dystysgrif, y dystysgrif dros dro neu’r drwydded;

(c)nad yw’r deiliad yn gymwys, neu nad yw bellach yn gymwys, i gyflawni’r gweithrediadau a awdurdodir gan y dystysgrif, y dystysgrif dros dro neu’r drwydded; neu

(d)bod deiliad y dystysgrif, y dystysgrif dros dro neu’r drwydded wedi ei gollfarnu am drosedd sy’n ymwneud â lles anifeiliaid.

(2Rhaid i’r hysbysiad—

(a)rhoi rhesymau am yr ataliad dros dro neu’r dirymiad;

(b)datgan pa bryd y mae’r ataliad dros dro neu’r dirymiad yn cael effaith ac, yn achos ataliad dros dro, datgan ar ba ddyddiad neu ddigwyddiad y bydd yn peidio â chael effaith; ac

(c)rhoi manylion am yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad.

(3Rhaid i unrhyw berson, yr ataliwyd dros dro neu y dirymwyd ei dystysgrif, ei dystysgrif dros dro neu’i drwydded, boed yr ataliad dros dro neu’r dirymiad hwnnw yn destun apêl yn unol â rheoliad 22 ai peidio, ildio’r dystysgrif, tystysgrif dros dro neu’r drwydded honno i’r awdurdod cymwys o fewn 14 diwrnod ar ôl cael yr hysbysiad sy’n rhoi gwybod i’r person hwnnw am yr ataliad dros dro neu’r dirymiad.

Diwygiadau Testunol

F1Geiriau yn rhl. 19(1) wedi eu hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Iechyd a Lles Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/684), rhlau. 1(2), 5(5); 2020 p. 1, Atod. 5 para. 1(1)

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 19 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)