xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Rheoliad 28

ATODLEN 4LLADD ANIFEILIAID AC EITHRIO’R RHAI Y MAE’R RHEOLIAD UE YN GYMWYS IDDYNT

Dehongli

1.  Yn yr Atodlen hon—

(a)ystyr “anifail” (“animal”) yw—

(i)ymlusgiaid ac amffibiaid;

(ii)infertebratau; neu

(iii)dofednod, cwningod neu ysgyfarnogod a leddir yn rhywle heblaw mewn lladd-dy, gan eu perchennog ar gyfer eu bwyta gartref yn breifat gan y perchennog; a

(b)mae i’r termau “lladd”, dofednod”, “ffrwyno” a “stynio”, yn eu trefn, yr un ystyron a roddir i’r termau “killing”, “poultry”, “restraint” a “stunning” yn y Rheoliad UE.

Cwmpas

2.  Yn ddarostyngedig i baragraff 3, mae’r Atodlen hon yn gymwys i ladd anifeiliaid sy’n cael eu bridio neu’u cadw i gynhyrchu cig, crwyn neu gynhyrchion eraill.

Esemptiadau

3.  Nid yw’r Atodlen hon yn gymwys i anifeiliaid a leddir—

(a)o ganlyniad i unrhyw weithred a wneir yn gyfreithlon o dan Ddeddf Anifeiliaid (Gweithdrefnau Gwyddonol) 1986. ;

(b)yn ystod gweithgareddau hela neu bysgota hamdden; neu

(c)yn ystod digwyddiadau chwaraeon.

Lladd heb beri dioddefaint diangen

4.—(1Ni chaiff neb sy’n ymwneud â ffrwyno, stynio neu ladd anifail—

(a)achosi unrhyw boen, trallod neu ddioddefaint diangen i’r anifail hwnnw; neu

(b)caniatáu i’r anifail hwnnw brofi unrhyw boen, trallod neu ddioddefaint diangen.

(2Ni chaiff neb ymwneud â ffrwyno, stynio neu ladd anifail onid oes gan y person hwnnw’r wybodaeth a’r medrusrwydd angenrheidiol i gyflawni’r gweithrediadau hynny heb beri dioddefaint diangen ac yn effeithlon.

Gwaedu dofednod, cwningod neu ysgyfarnogod ar gyfer eu bwyta gartref yn breifat

5.  Rhaid i ddofednod, cwningod neu ysgyfarnogod a waedir gan eu perchennog y tu allan i ladd-dy, ar gyfer eu bwyta gartref yn breifat gan y perchennog—

(a)cael eu stynio cyn eu gwaedu yn unol â’r dulliau a’r gofynion penodol ym Mhenodau I a II o Atodiad I, a phan fo’n briodol, Rhan 5 o Atodlen 2; a

(b)cael eu gwaedu yn ddi-oed ar ôl eu stynio.