xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 2LL+CGOFYNION YCHWANEGOL AR GYFER LLADD ANIFEILIAID AC EITHRIO MEWN LLADD-DAI

RHAN 3LL+CGweithrediadau trin

Gofynion cyffredinolLL+C

11.  Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â symud anifeiliaid neu ddarparu gwalfeydd iddynt sicrhau—

(a)y dadlwythir pob anifail cyn gynted ag y bo modd wedi iddo gyrraedd;

(b)y diogelir pob anifail rhag effeithiau amodau tywydd garw ac y darperir awyru digonol ar ei gyfer;

(c)os yw anifail wedi dioddef tymheredd uchel mewn tywydd llaith, y defnyddir dull priodol i’w oeri;

(d)tra’n aros i ladd anifail sy’n sâl neu’n anabl, y cedwir yr anifail hwnnw ar wahân i unrhyw anifail nad yw’n sâl neu’n anabl; ac

(e)nad oes neb yn llusgo anifail sydd wedi ei stynio neu’i ladd dros unrhyw anifail arall nad yw wedi ei stynio neu’i ladd.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 para. 11 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

Arolygu anifeiliaidLL+C

12.  Rhaid i weithredwr y busnes sicrhau yr arolygir cyflwr pob anifail a stad ei iechyd, o leiaf bob bore a min nos, gan weithredwr y busnes neu gan berson cymwys sy’n gweithredu ar ran gweithredwr y busnes.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 2 para. 12 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

Anifeiliaid sydd wedi profi poen neu ddioddefaint ac anifeiliaid nas diddyfnwydLL+C

13.  Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â symud anifeiliaid neu ddarparu gwalfeydd iddynt sicrhau bod anifeiliaid fel a ganlyn yn cael eu lladd ar unwaith—

(a)anifeiliaid sydd wedi profi poen neu ddioddefaint wrth eu cludo neu ar ôl cyrraedd; a

(b)anifeiliaid sy’n rhy ifanc i gymryd bwyd anifeiliaid solet.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 2 para. 13 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

Lladd mewn argyfwngLL+C

14.  Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â symud neu ddarparu gwalfeydd i anifeiliaid sicrhau na chaiff anifail sy’n analluog i gerdded ei lusgo i’r man lle y’i lleddir, ond yn hytrach—

(a)y’i lleddir yn y man lle mae’n gorwedd; neu

(b)os yw’n bosibl ac os na fyddai gwneud hynny yn achosi unrhyw boen neu ddioddefaint diangen i’r anifail, ei gludo ar droli neu lwyfan symudol i fan ar gyfer lladd mewn argyfwng, a’i ladd ar unwaith yno.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 2 para. 14 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

Anifeiliaid a ddanfonir ac eithrio mewn cynwysyddionLL+C

15.  Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â symud neu ddarparu gwalfeydd i anifeiliaid a ddanfonir ac eithrio mewn cynhwysydd sicrhau—

(a)y cymerir gofal i beidio â dychryn, cynhyrfu na cham-drin anifail;

(b)na chaiff unrhyw anifail ei droi ben i waered;

(c)os na leddir anifail ar unwaith wedi iddo gyrraedd, y darperir gwalfa iddo; ac

(d)nad eir ag unrhyw anifail i’r man lladd oni ellir ei ladd heb oedi.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 2 para. 15 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

Codi neu lusgo anifeiliaidLL+C

16.  Ni chaiff neb godi na llusgo anifail gerfydd ei ben, ei gyrn, ei glustiau, ei draed, ei gynffon, ei gnu neu unrhyw ran arall o’i gorff mewn ffordd a fydd yn achosi poen neu ddioddefaint diangen i’r anifail.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 2 para. 16 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

Gyrru anifeiliaidLL+C

17.  Ni chaiff neb arwain na gyrru anifail dros dir neu lawr y mae ei natur neu’i gyflwr yn debygol o beri i’r anifail lithro neu syrthio.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 2 para. 17 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

Symud anifeiliaid â gofalLL+C

18.  Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â symud anifeiliaid sicrhau bod pob anifail yn cael ei symud â gofal, a phan fo angen, bod anifeiliaid yn cael eu harwain fesul un.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 2 para. 18 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

Offerynnau ar gyfer arwain anifeiliaidLL+C

19.  Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â symud anifeiliaid sicrhau bod unrhyw offeryn a fwriedir ar gyfer arwain anifail yn cael ei ddefnyddio at y diben hwnnw’n unig, a hynny am gyfnodau byr yn unig, ac ar anifeiliaid unigol.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 2 para. 19 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

Offerynnau ar gyfer gwneud i anifeiliaid symudLL+C

20.  Ni chaiff neb ddefnyddio offeryn sy’n rhoi sioc drydanol er mwyn gwneud i anifail symud, ac eithrio y caniateir defnyddio offeryn o’r fath, a ddyluniwyd at y diben o wneud i anifail symud, ar anifeiliaid buchol llawn-dwf a moch llawn-dwf sy’n gwrthod symud, ar yr amod—

(a)yr osgoir defnyddio offeryn o’r fath i’r graddau mwyaf posibl;

(b)na fydd y siociau’n parhau am fwy nag un eiliad ar y tro, y bydd bylchau digonol rhyngddynt ac na chânt eu defnyddio droeon yn olynol os nad yw’r anifail yn ymateb;

(c)bod digon o le o flaen yr anifail, i’r anifail symud iddo; a

(d)mai ar gyhyrau’r bedrain yn unig y rhoddir siociau o’r fath.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. 2 para. 20 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

Trin anifeiliaidLL+C

21.  Ni chaiff neb—

(a)taro, na rhoi pwysau ar, unrhyw ran o gorff anifail sy’n arbennig o sensitif;

(b)gwasgu, troi neu dorri cynffon anifail, neu gydio yn llygad anifail; neu

(c)taro neu gicio anifail.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 2 para. 21 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

Gwalfeydd ar gyfer anifeiliaidLL+C

22.  Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â darparu gwalfeydd i anifeiliaid sicrhau—

(a)y darperir cyflenwad digonol o ddeunydd gorwedd addas ar gyfer pob anifail a gedwir mewn gwalfa dros nos, oni bai bod gan y walfa lawr slatiog neu rwyllog;

(b)bod dŵr yfed ar gael o gyfleusterau priodol drwy gydol yr amser i anifail a gedwir mewn gwalfa;

(c)y darperir swmp digonol o fwyd iachus i anifail wrth iddo gyrraedd y walfa a dwywaith y dydd wedi hynny, ac eithrio na fydd angen bwydo unrhyw anifail o fewn 12 awr i’r adeg pan leddir yr anifail;

(d)y darperir y bwyd mewn ffordd a fydd yn caniatáu i’r anifeiliaid fwydo heb darfu arnynt yn ddiangen;

(e)y gall anifail a gedwir mewn gwalfa heb ei rwymo orwedd, sefyll a throi rownd yn ddidrafferth; ac

(f)y gall anifail a gedwir wedi ei rwymo mewn gwalfa orwedd a sefyll yn ddidrafferth.

Gwybodaeth Cychwyn

I12Atod. 2 para. 22 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

Trin anifeiliaid a ddanfonir mewn cynwysyddionLL+C

23.  Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â symud anifeiliaid a ddanfonir mewn cynwysyddion sicrhau—

(a)bod unrhyw gynhwysydd y cludir anifail ynddo yn cael ei drin â gofal ac na chaiff ei daflu, ei ollwng na’i daro drosodd;

(b)pan fo modd, y llwythir ac y dadlwythir y cynhwysydd yn llorweddol ac yn fecanyddol;

(c)bod unrhyw anifail a ddanfonir mewn cynhwysydd sydd â gwaelod trydyllog neu hyblyg iddo yn cael ei ddadlwytho â gofal arbennig er mwyn osgoi unrhyw anaf; a

(d)pan fo’n briodol, y dadlwythir anifeiliaid o gynwysyddion fesul un.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 2 para. 23 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

Lladd anifeiliaid a ddanfonir mewn cynwysyddionLL+C

24.  Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â symud neu drin anifeiliaid a ddanfonir mewn cynwysyddion sicrhau—

(a)bod anifeiliaid a gludwyd mewn cynwysyddion yn cael eu lladd cyn gynted ag y bo modd; ac

(b)os digwydd unrhyw oedi cyn eu lladd ac os bydd angen—

(i)bod dŵr yfed ar gael i’r anifeiliaid o gyfleusterau addas drwy gydol yr amser; a

(ii)y darperir swmp digonol o fwyd iachus i anifail wrth iddo gyrraedd y walfa a dwywaith y dydd wedi hynny, ac eithrio na fydd angen bwydo unrhyw anifail o fewn 12 awr i’r adeg pan leddir yr anifail.

Gwybodaeth Cychwyn

I14Atod. 2 para. 24 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

Dofednod sy’n aros i’w lladd yn y man lle’u prynirLL+C

25.  Rhaid i weithredwr y busnes, neu berson sydd â gofal o unrhyw fangre lle y cynigir dofednod ar werth, neu y dangosir dofednod ar gyfer eu gwerthu cyn eu lladd yn y fangre honno, sicrhau bod y dofednod, yn ddi-oed pan gyrhaeddant y fangre—

(a)yn cael eu rhoi mewn llety lle y gallant sefyll, troi rownd ac estyn eu hadenydd yn ddidrafferth; a

(b)y darperir cyflenwad digonol o fwyd iachus a dŵr yfed glân iddynt.

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 2 para. 25 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)