xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2Tystysgrifau, tystysgrifau dros dro a thrwyddedau

PENNOD 1Tystysgrifau a thystysgrifau dros dro

Gofyniad i gael tystysgrif neu dystysgrif dros dro

5.—(1Yn ddarostyngedig i reoliadau 23(2) a 44, ni chaiff neb gyflawni gweithrediad a bennir yn rheoliad 6 ac eithrio o dan dystysgrif a gofrestrwyd gyda’r awdurdod cymwys neu dystysgrif dros dro, a hynny i’r graddau a awdurdodir gan y dystysgrif neu’r dystysgrif dros dro honno.

(2Ni chaiff neb gyflawni gweithrediad a bennir yn rheoliad 6 o dan dystysgrif dros dro onid yw’r person hwnnw yn gweithio ym mhresenoldeb, ac o dan oruchwyliaeth uniongyrchol, person sy’n dal tystysgrif a gofrestrwyd gyda’r awdurdod cymwys mewn perthynas â’r gweithrediad hwnnw.

Gweithrediadau y mae tystysgrif neu dystysgrif dros dro yn ofynnol ar eu cyfer

6.  Y gweithrediadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 5 yw—

(a)unrhyw un o’r gweithrediadau canlynol a gyflawnir mewn lladd-dy—

(i)gweithrediad a bennir mewn unrhyw un o’r is-baragraffau (a) i (g) o Erthygl 7(2); a

(ii)pithio anifail a styniwyd ac asesu effeithiolrwydd pithio; a

(b)goruchwylio lladd anifeiliaid ffwr yn unol ag Erthygl 7(3).

Tystysgrifau

7.  Rhaid i’r awdurdod cymwys roi a chofrestru tystysgrif—

(a)os yw’r ceisydd yn bodloni’r amodau yn rheoliad 8; a

(b)os bodlonir yr awdurdod cymwys fod y ceisydd yn berson addas a phriodol i fod yn ddeiliad tystysgrif.

Amodau ar gyfer tystysgrif

8.  Rhaid i’r ceisydd—

(a)peidio â bod yn iau na 18 mlwydd oed, oni ofynnir am y dystysgrif ar gyfer y gweithrediadau canlynol—

(i)trin a gofalu am anifeiliaid cyn eu ffrwyno; neu

(ii)gefynnu neu godi dofednod byw cyn eu stynio;

(b)yn ddarostyngedig i reoliad 44, cyflwyno tystiolaeth o hyfforddiant ac arholi mewn perthynas â’r gweithrediad, y categori o anifail ac (os yw’n briodol) y math o gyfarpar, y ceisir tystysgrif ar eu cyfer;

(c)cyflwyno datganiad ysgrifenedig yn unol ag Erthygl 21(6);

(d)darparu manylion ysgrifenedig—

(i)os collfarnwyd y ceisydd am unrhyw drosedd sy’n ymwneud â lles anifeiliaid;

(ii)os gwrthodwyd trwydded i’r ceisydd o dan Ddeddf 1967, Deddf 1974, unrhyw reoliadau a wnaed o dan y naill neu’r llall o’r Deddfau hynny neu Reoliadau 1995 mewn perthynas â lladd anifail neu weithrediad cysylltiedig; neu

(iii)os dirymwyd neu os ataliwyd dros dro unrhyw drwydded o’r fath a fu ganddo; ac

(e)talu ffi yn unol â rheoliad 24.

Tystysgrifau dros dro

9.  Rhaid i’r awdurdod cymwys roi tystysgrif dros dro—

(a)os yw’r ceisydd yn bodloni’r amodau yn rheoliad 10; a

(b)os bodlonir yr awdurdod cymwys fod y ceisydd yn berson addas a phriodol i fod yn ddeiliad tystysgrif dros dro.

Amodau ar gyfer tystysgrif dros dro

10.  Rhaid i’r ceisydd—

(a)peidio â bod yn iau na 18 mlwydd oed, oni ofynnir am y dystysgrif dros dro ar gyfer y gweithrediadau canlynol—

(i)trin a gofalu am anifeiliaid cyn eu ffrwyno; neu

(ii)gefynnu neu godi dofednod byw cyn eu stynio;

(b)cyflwyno tystiolaeth o gofrestru ar gwrs o hyfforddiant mewn perthynas â’r gweithrediad, y categori o anifail ac (os yw’n briodol) y math o gyfarpar, y ceisir tystysgrif dros dro ar eu cyfer;

(c)cyflwyno datganiad ysgrifenedig yn unol ag Erthygl 21(5)(d) a (6);

(d)darparu manylion ysgrifenedig—

(i)os collfarnwyd y ceisydd am unrhyw drosedd sy’n ymwneud â lles anifeiliaid;

(ii)os gwrthodwyd trwydded i’r ceisydd o dan Ddeddf 1967, Deddf 1974, unrhyw reoliadau a wnaed o dan y naill neu’r llall o’r Deddfau hynny neu Reoliadau 1995 mewn perthynas â lladd anifail neu weithrediad cysylltiedig; neu

(iii)os dirymwyd neu os ataliwyd dros dro unrhyw drwydded o’r fath a fu ganddo.

Rhoi tystysgrifau a thystysgrifau dros dro

11.—(1Rhaid i dystysgrif neu dystysgrif dros dro bennu’r gweithrediad, y categori o anifail ac (os yw’n briodol) y math o gyfarpar, y’i rhoddwyd ar eu cyfer.

(2Ni chaniateir rhoi tystysgrif neu dystysgrif dros dro mewn perthynas â gweithrediad, categori o anifail ac (os yw’n briodol) math o gyfarpar onid yw—

(a)yn achos tystysgrif, y dystiolaeth o hyfforddiant ac arholi a gyflwynwyd gyda’r cais am y dystysgrif yn ymwneud â’r gweithrediad hwnnw, y categori hwnnw o anifail a’r math hwnnw o gyfarpar; neu

(b)yn achos tystysgrif dros dro, y cwrs hyfforddi y cofrestrodd y ceisydd arno yn darparu hyfforddiant sy’n ymwneud â’r gweithrediad hwnnw, y categori hwnnw o anifail a’r math hwnnw o gyfarpar.

(3Bydd tystysgrifau neu dystysgrifau dros dro a roddir yn Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon neu Aelod-wladwriaeth arall o’r Undeb Ewropeaidd, ar gyfer gweithrediadau y mae tystysgrif neu dystysgrif dros dro yn ofynnol ar eu cyfer yng Nghymru o dan y Rheoliadau hyn, yn cael effaith yng Nghymru fel pe baent yn dystysgrifau neu dystysgrifau dros dro a roddwyd o dan y Rheoliadau hyn.

PENNOD 2Trwyddedau

Gofyniad i gael trwydded

12.  Yn ddarostyngedig i reoliadau 14 a 23(2), ni chaiff neb gyflawni gweithrediad a bennir yn rheoliad 13 ac eithrio o dan drwydded a gofrestrwyd gyda’r awdurdod cymwys, a hynny i’r graddau a awdurdodir gan y drwydded honno.

Gweithrediadau y mae trwydded yn ofynnol ar eu cyfer

13.  Y gweithrediadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 12 yw unrhyw rai o’r gweithrediadau canlynol a gyflawnir yn rhywle ac eithrio mewn lladd-dy—

(a)gweithrediad a bennir yn unrhyw un o is-baragraffau (b) i (f) o Erthygl 7(2), a gyflawnir at y dibenion a bennir yn Erthygl 10 (bwyta gartref yn breifat), gan berson ac eithrio perchennog yr anifail;

(b)gweithrediad a bennir yn unrhyw un o is-baragraffau (b) i (f) o Erthygl 7(2), a gyflawnir at y dibenion a bennir yn Erthygl 11 (cyflenwi yn uniongyrchol feintiau bach o ddofednod, cwningod ac ysgyfarnogod);

(c)mewn perthynas â lladd anifeiliaid carngaled, cilgnowyr, moch, cwningod, dofednod neu ratidau ac eithrio ar gyfer eu bwyta gan bobl—

(i)ffrwyno anifeiliaid at y diben o’u stynio;

(ii)stynio anifeiliaid;

(iii)asesu effeithiolrwydd stynio;

(iv)gefynnu neu godi anifeiliaid a styniwyd, ac eithrio dofednod;

(v)gwaedu anifeiliaid byw; a

(d)pithio anifail a styniwyd ac asesu effeithiolrwydd pithio.

Eithriadau i’r gofyniad am drwydded

14.  Nid yw rheoliad 12 yn gymwys i unrhyw berson—

(a)sy’n dal tystysgrif a gofrestrwyd gyda’r awdurdod cymwys, ar yr amod bod cwmpas y dystysgrif yn cynnwys y gweithrediad a gyflawnir;

(b)sy’n gweithio ym mhresenoldeb, ac o dan oruchwyliaeth uniongyrchol, person sy’n dal tystysgrif neu drwydded a gofrestrwyd gyda’r awdurdod cymwys, ar yr amod bod cwmpas y dystysgrif neu’r drwydded yn cynnwys y gweithrediad a gyflawnir;

(c)sy’n gweithio ym mhresenoldeb, ac o dan oruchwyliaeth uniongyrchol, milfeddyg;

(d)yn ymgymryd â lladd anifail mewn argyfwng;

(e)yn lladd anifail at ddiben ac eithrio diben masnachol;

(f)at ddibenion heblaw bwyta gan bobl, yn lladd anifail yn y maes gan ddefnyddio bwled rydd;

(g)at ddibenion heblaw bwyta gan bobl, yn lladd dofednod drwy ysigo gyddfau (pan nad oes dulliau eraill ar gael ar gyfer stynio) mewn mangre sy’n ffurfio rhan o ddaliad amaethyddol y megir y dofednod ynddi;

(h)yn lladd anifail at y diben o ddiboblogi;

(i)yn lladd cywion neu embryonau dros ben mewn gwastraff deorfa;

(j)sy’n filfeddyg yn gweithredu wrth ymarfer ei broffesiwn; neu

(k)yn lladd anifail mewn amgylchiadau sydd y tu allan i gwmpas y Rheoliad UE yn rhinwedd Erthygl 1(3)(a).

Trwyddedau

15.  Rhaid i’r awdurdod cymwys roi a chofrestru trwydded—

(a)os yw’r ceisydd yn bodloni’r amodau yn rheoliad 16; a

(b)os bodlonir yr awdurdod cymwys fod y ceisydd yn berson addas a phriodol i fod yn ddeiliad trwydded.

Amodau ar gyfer trwydded

16.  Rhaid i’r ceisydd—

(a)peidio â bod yn iau na 18 mlwydd oed;

(b)darparu manylion ysgrifenedig—

(i)os collfarnwyd y ceisydd am unrhyw drosedd sy’n ymwneud â lles anifeiliaid;

(ii)os gwrthodwyd trwydded i’r ceisydd o dan Ddeddf 1967, Deddf 1974, unrhyw reoliadau a wnaed o dan y naill neu’r llall o’r Deddfau hynny neu Reoliadau 1995 mewn perthynas â lladd anifail neu weithrediad cysylltiedig; neu

(iii)os dirymwyd neu os ataliwyd dros dro unrhyw drwydded o’r fath a fu ganddo;

(c)darparu tystiolaeth ysgrifenedig fod milfeddyg awdurdodedig wedi asesu’r ceisydd ac o’r farn bod y ceisydd—

(i)yn gymwys i gyflawni’r gweithrediad mewn perthynas â’r categori o anifail ac (os yw’n briodol) y math o gyfarpar y ceisir trwydded ar eu cyfer heb achosi poen, trallod na dioddefaint diangen i anifail, a

(ii)bod ganddo wybodaeth ddigonol o ddarpariaethau’r holl ddeddfwriaeth a chanllawiau perthnasol sy’n ymwneud â’r gweithrediad, y categori o anifail ac (os yw’n briodol) y math o gyfarpar, y ceisir trwydded ar eu cyfer; a

(d)talu ffi yn unol â rheoliad 24.

Rhoi trwyddedau

17.—(1Rhaid i drwydded bennu’r gweithrediad, y categori o anifail ac (os yw’n briodol) y math o gyfarpar y’i rhoddwyd ar eu cyfer.

(2Ni chaniateir rhoi trwydded mewn perthynas â gweithrediad, categori o anifail ac (os yw’n briodol) math o gyfarpar onid yw’r asesiad y cyfeirir ato yn rheoliad 16(c) yn ymwneud â’r gweithrediad hwnnw, y categori hwnnw o anifail a’r math hwnnw o gyfarpar.

(3Bydd tystysgrifau neu drwyddedau a roddir yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon, ar gyfer gweithrediadau y mae’n rhaid eu trwyddedu yng Nghymru o dan y Rheoliadau hyn, yn cael effaith yng Nghymru fel pe baent yn drwyddedau a roddwyd o dan y Rheoliadau hyn.

PENNOD 3Darpariaethau gweinyddol

Gwrthod rhoi tystysgrif, tystysgrif dros dro neu drwydded

18.—(1Caiff yr awdurdod cymwys, drwy hysbysiad ysgrifenedig, wrthod rhoi tystysgrif, tystysgrif dros dro neu drwydded os bodlonir ef—

(a)bod y ceisydd wedi methu â bodloni unrhyw un o’r amodau yn rheoliadau 8, 10 neu 16 (yn ôl fel y digwydd); neu

(b)nad yw’r ceisydd yn berson addas a phriodol i fod yn ddeiliad tystysgrif, tystysgrif dros dro neu drwydded.

(2Rhaid i’r hysbysiad—

(a)rhoi rhesymau am y gwrthodiad; a

(b)rhoi manylion am yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad.

Atal dros dro neu ddirymu tystysgrif, tystysgrif dros dro neu drwydded

19.—(1Caiff yr awdurdod cymwys, drwy hysbysiad ysgrifenedig, atal dros dro neu ddirymu tystysgrif, tystysgrif dros dro (gan gynnwys tystysgrif neu dystysgrif dros dro a roddwyd mewn Aelod-wladwriaeth arall) neu drwydded os bodlonir ef—

(a)bod deiliad y dystysgrif, y dystysgrif dros dro neu’r drwydded wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ddarpariaeth o’r Rheoliad UE neu’r Rheoliadau hyn;

(b)nad yw’r deiliad bellach yn berson addas a phriodol i ddal y dystysgrif, y dystysgrif dros dro neu’r drwydded;

(c)nad yw’r deiliad yn gymwys, neu nad yw bellach yn gymwys, i gyflawni’r gweithrediadau a awdurdodir gan y dystysgrif, y dystysgrif dros dro neu’r drwydded; neu

(d)bod deiliad y dystysgrif, y dystysgrif dros dro neu’r drwydded wedi ei gollfarnu am drosedd sy’n ymwneud â lles anifeiliaid.

(2Rhaid i’r hysbysiad—

(a)rhoi rhesymau am yr ataliad dros dro neu’r dirymiad;

(b)datgan pa bryd y mae’r ataliad dros dro neu’r dirymiad yn cael effaith ac, yn achos ataliad dros dro, datgan ar ba ddyddiad neu ddigwyddiad y bydd yn peidio â chael effaith; ac

(c)rhoi manylion am yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad.

(3Rhaid i unrhyw berson, yr ataliwyd dros dro neu y dirymwyd ei dystysgrif, ei dystysgrif dros dro neu’i drwydded, boed yr ataliad dros dro neu’r dirymiad hwnnw yn destun apêl yn unol â rheoliad 22 ai peidio, ildio’r dystysgrif, tystysgrif dros dro neu’r drwydded honno i’r awdurdod cymwys o fewn 14 diwrnod ar ôl cael yr hysbysiad sy’n rhoi gwybod i’r person hwnnw am yr ataliad dros dro neu’r dirymiad.

Addasu tystysgrif neu drwydded

20.  Rhaid i’r awdurdod cymwys addasu tystysgrif neu drwydded mewn perthynas â gweithrediad, y categori o anifail neu (pan fo’n briodol) y math o gyfarpar yn unol â chais gan geisydd—

(a)os yw’r ceisydd yn bodloni’r amodau yn rheoliad 8 neu 16 (yn ôl fel y digwydd) mewn perthynas â’r addasiad; a

(b)os bodlonir yr awdurdod cymwys fod y ceisydd yn berson addas a phriodol i fod yn ddeiliad tystysgrif neu drwydded, fel y’i haddesir.

Gwrthod addasu tystysgrif neu drwydded

21.—(1Caiff yr awdurdod cymwys, drwy hysbysiad ysgrifenedig, wrthod addasu tystysgrif neu drwydded os bodlonir ef—

(a)bod y ceisydd wedi methu â bodloni unrhyw un o’r amodau yn rheoliad 8 neu 16 (yn ôl fel y digwydd) mewn perthynas â’r addasiad; neu

(b)nad yw’r ceisydd yn berson addas a phriodol i fod yn ddeiliad tystysgrif neu drwydded, fel y’i haddesid.

(2Rhaid i’r hysbysiad—

(a)rhoi rhesymau am y gwrthodiad; a

(b)rhoi manylion am yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad.

Apelau

22.—(1Caiff person a dramgwyddir gan benderfyniad yr awdurdod cymwys i wrthod, atal dros dro neu ddirymu tystysgrif, tystysgrif dros dro neu drwydded, neu wrthod addasu tystysgrif neu drwydded, apelio yn erbyn y penderfyniad.

(2Mae’r hawl i apelio i Dribiwnlys yr Haen Gyntaf.

(3Ni fydd penderfyniad i atal dros dro neu ddirymu tystysgrif, tystysgrif dros dro neu drwydded yn cael ei atal dros dro tra bo apêl yn yr arfaeth, oni fydd y Tribiwnlys Haen Gyntaf yn gorchymyn yn wahanol.

(4Yn dilyn apêl, caiff y Tribiwnlys Haen Gyntaf naill ai wrthdroi neu gadarnhau’r penderfyniad, gydag addasiadau neu hebddynt.

Trwyddedau LlACL

23.—(1Pan ddaw’r Rheoliadau hyn i rym, bydd trwydded LlACL a oedd yn parhau mewn grym yn union cyn 20 Mai 2014 yn parhau mewn bodolaeth fel cymhwyster cyfwerth â thystysgrif yn unol ag Erthygl 21(7).

(2Caiff deiliad trwydded LlACL gyflawni gweithrediad a bennir yn rheoliad 6 neu 13 heb ddal tystysgrif neu drwydded a gofrestrwyd gyda’r awdurdod cymwys ar yr amod bod y deiliad trwydded LlACL, erbyn 8 Rhagfyr 2015—

(a)yn cofrestru’r drwydded LlACL gyda’r awdurdod cymwys, fel tystysgrif; a

(b)yn talu ffi yn unol â rheoliad 24.

Ffioedd

24.—(1Mewn perthynas â chais o fath a ddisgrifir yng ngholofn 1 o’r Tabl, rhaid i’r ceisydd dalu i’r Asiantaeth Safonau Bwyd y ffi a bennir yng ngholofn 2 mewn perthynas â’r math hwnnw o gais.

Tabl

Colofn 1

Math o gais

Colofn 2

Ffi (£)

Cais am dystysgrif25
Cais am gofrestru trwydded LlACL fel tystysgrif25
Cais am addasu tystysgrif8
Cais am drwydded25
Cais am addasu trwydded8

(2Mewn perthynas ag asesiad o dan reoliad 16(c) gan filfeddyg awdurdodedig sy’n arfer swyddogaethau ar ran Gweinidogion Cymru, rhaid i’r ceisydd dalu ffi a gyfrifir yn unol â pharagraff (3) i Weinidogion Cymru.

(3Y ffi y cyfeirir ati ym mharagraff (2) yw—

(a)£76 am yr hanner awr neu ran o hanner awr cyntaf a dreulir gan filfeddyg awdurdodedig ar asesiad, gan gynnwys amser a dreulir ar y ddogfennaeth gysylltiedig;

(b)£21 am bob hanner awr neu ran o hanner awr ychwanegol a dreulir gan filfeddyg awdurdodedig ar asesiad, gan gynnwys amser a dreulir ar y ddogfennaeth gysylltiedig; ac

(c)gwir gost teithio, llety ac unrhyw dreuliau eraill yr eir iddynt yn rhesymol gan y milfeddyg awdurdodedig.