Rheoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2014

Pwerau person awdurdodedig

8.—(1Caiff person awdurdodedig sydd wedi mynd i mewn i unrhyw fangre yn rhinwedd rheoliad 7—

(a)arolygu’r fangre ac unrhyw ddogfen, cofnod neu gyfarpar sydd ynddi ac y byddai’n rhesymol i’r person hwnnw gredu ei bod, neu ei fod, yn ymwneud â’r gweithrediad;

(b)ei gwneud yn ofynnol fod y buddiolwr, neu unrhyw gyflogai, gwas neu asiant i’r buddiolwr, yn dangos unrhyw ddogfen neu gofnod, neu’n darparu unrhyw wybodaeth ychwanegol, sydd ym meddiant y person hwnnw neu o dan ei reolaeth ac sy’n ymwneud â’r gweithrediad;

(c)pan gedwir unrhyw ddogfen, cofnod neu wybodaeth y cyfeirir ati neu ato yn is-baragraff (b) drwy gyfrwng cyfrifiadur, mynd at ac arolygu unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw offer neu ddeunydd cysylltiedig a ddefnyddir neu a ddefnyddiwyd mewn cysylltiad â’r ddogfen neu’r wybodaeth honno neu â’r cofnod hwnnw;

(d)ei gwneud yn ofynnol dangos iddo unrhyw ddogfen neu ran o ddogfen, cofnod neu wybodaeth sy’n ymwneud â’r gweithrediad;

(e)cymryd, a chadw am gyfnod rhesymol, unrhyw ddogfen, cofnod neu wybodaeth sy’n ymwneud â’r gweithrediad pan fo gan y person awdurdodedig reswm dros gredu y gallai fod angen y ddogfen neu’r wybodaeth honno, neu’r cofnod hwnnw, fel tystiolaeth mewn achos cyfreithiol o dan y Rheoliadau hyn ac, os cedwir unrhyw ddogfen o’r fath drwy gyfrwng cyfrifiadur, ei gwneud yn ofynnol ei chynhyrchu mewn ffurf sydd yn caniatáu ei chludo ymaith ac yn ei gwneud yn weladwy a darllenadwy;

(f)os oes angen, at ddibenion rheoliad 7(2)—

(i)arolygu a chyfrif da byw sydd yn y fangre, a

(ii)ei gwneud yn ofynnol fod y buddiolwr, neu unrhyw gyflogai, gwas neu asiant y cyfryw fuddiolwr, yn trefnu i gasglu, corlannu a diogelu da byw o’r fath.

(2Rhaid i fuddiolwr, neu unrhyw gyflogai, gwas neu asiant buddiolwr, roi pob cymorth rhesymol i berson awdurdodedig ynglŷn â’r materion a grybwyllir yn y rheoliad hwn.

(3Mae paragraffau (1) a (4) yn gymwys mewn perthynas â pherson y cyfeirir ato yn rheoliad 7(7) pan fo’r person hwnnw yn gweithredu o dan gyfarwyddyd person awdurdodedig, fel pe bai’r person hwnnw yn berson awdurdodedig.

(4Ni fydd person awdurdodedig yn atebol mewn unrhyw achos cyfreithiol am unrhyw weithred a wneir drwy arfer honedig o’r pwerau a roddwyd i’r person awdurdodedig yn rhinwedd rheoliadau 7 ac 8, os bodlonir y llys fod y weithred wedi’i gwneud yn ddidwyll, bod sail resymol dros ei gwneud a’i bod wedi ei gwneud gyda medrusrwydd a gofal rhesymol.

(5Yn y rheoliad hwn, ystyr “y gweithrediad” (“the operation”) yw’r gweithrediad a gymeradwywyd y ceisiwyd mynediad i’r fangre yn ei gylch yn unol â rheoliad 7.