xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Pwerau mynediad

7.—(1Caiff person awdurdodedig, ar bob adeg resymol ac ar ôl dangos ei awdurdod i wneud hynny, os gofynnir iddo, fynd i mewn i unrhyw fangre, ac eithrio mangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd breifat—

(a)y mae gweithrediad a gymeradwywyd yn ymwneud â hi, neu

(b)y mae ganddo sail resymol dros gredu bod dogfennau sy’n ymwneud â gweithrediad a gymeradwywyd yn cael eu cadw ynddi,

at unrhyw un o’r dibenion a grybwyllir ym mharagraff (2).

(2Y dibenion hynny yw—

(a)gwirio cywirdeb unrhyw wybodaeth a ddarparwyd gan fuddiolwr ynglŷn â’r gweithrediad a gymeradwywyd;

(b)canfod a oes unrhyw gymorth ariannol yn daladwy neu y gellir ei adennill, neu ganfod pa swm o gymorth ariannol o’r fath sy’n daladwy neu y gellir ei adennill;

(c)canfod a oes trosedd o dan y Rheoliadau hyn wedi’i gyflawni neu’n cael ei gyflawni;

(d)canfod rywfodd arall a yw cymorth yr UE yn cael ei ddefnyddio’n effeithlon ac yn gywir;

(e)darparu adroddiad rheoli yn unol ag Erthygl 54(1) o Reoliad (EU) Rhif 1306/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 17 Rhagfyr 2013(1); ac

(f)penderfynu a ddigwyddodd unrhyw fethiant i gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn neu ddeddfwriaeth yr UE.

(3Nid yw paragraff (1) yn effeithio ar unrhyw hawl mynediad a roddir gan warant a ddyroddwyd yn unol â pharagraff (4).

(4Caiff ynad heddwch, drwy warant lofnodedig, roi caniatâd i berson awdurdodedig fynd i mewn i unrhyw fangre (gan gynnwys mangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd breifat) a hynny, pan fo angen, gan ddefnyddio grym rhesymol, os bodlonir yr ynad, ar sail tystiolaeth ysgrifenedig a roddwyd ar lw—

(a)bod sail resymol i berson awdurdodedig fynd i mewn i’r fangre at unrhyw ddiben a grybwyllir ym mharagraff (2); a

(b)y bodlonir un o’r amodau ym mharagraff (5).

(5Yr amodau yw—

(a)bod mynediad i’r fangre wedi ei wrthod, neu’n debygol o gael ei wrthod heb warant, ac

(i)hysbysiad o’r bwriad i wneud cais am warant wedi ei gyflwyno i’r meddiannydd, neu

(ii)na chyflwynwyd hysbysiad o’r fath i’r meddiannydd oherwydd byddai cyflwyno hysbysiad o’r fath yn tanseilio diben neu effeithiolrwydd y mynediad;

(b)bod gofyn mynd i mewn ar frys; neu

(c)bod y fangre’n wag, neu’r meddiannydd yn absennol dros dro.

(6Mae gwarant yn ddilys am dri mis.

(7Caiff person awdurdodedig sy’n mynd i mewn i unrhyw fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn fynd â pha bynnag bersonau eraill gydag ef, a ystyrir gan y person awdurdodedig yn angenrheidiol at unrhyw ddiben a grybwyllir ym mharagraff (2).

(8Rhaid i berson awdurdodedig sy’n mynd i mewn i unrhyw fangre wag adael y fangre honno wedi ei diogelu mor effeithiol ag yr oedd cyn iddo fynd i mewn iddi.

(1)

OJ Rhif L 347, 20.12.2013, t. 549.