xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
6.—(1) Rhaid i fuddiolwr ddarparu i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth am weithrediad a gymeradwywyd, sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru.
(2) Pan fo Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparu gwybodaeth o dan baragraff (1), rhaid i’r buddiolwr ddarparu’r wybodaeth honno o fewn pa bynnag gyfnod a bennir gan Weinidogion Cymru.