xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2014.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ionawr 2015 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu’n wahanol—

ystyr “buddiolwr” (“beneficiary”) yw person y mae cymorth ariannol wedi’i roi iddo neu berson sydd wedi ymgymryd ag ymrwymiadau person o’r fath;

ystyr “y Comisiwn” (“the Commission”) yw Comisiwn yr Undeb Ewropeaidd;

ystyr “cymorth ariannol” (“financial assistance”) yw swm a dalwyd neu sy’n daladwy o dan y Rheoliadau hyn;

ystyr “cymorth yr UE” (“EU assistance”) yw cymorth o Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a roddwyd yn unol â deddfwriaeth yr UE;

ystyr “deddfwriaeth yr UE” (“the EU legislation”) yw’r offerynnau a restrir yn yr Atodlen;

mae i “gweithrediad” yr ystyr a roddir i “operation” yn Rheoliad (EU) Rhif 1303/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 17 Rhagfyr 2013 sy’n gosod darpariaethau cyffredin ar Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Cronfa Gymdeithasol Ewrop, y Gronfa Gydlyniant, Cronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Chronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop ac yn gosod darpariaethau cyffredinol ar Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Cronfa Gymdeithasol Ewrop, y Gronfa Gydlyniant a Chronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop ac yn diddymu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1083/2006(1);

ystyr “gweithrediad a gymeradwywyd” (“approved operation”) yw gweithrediad a gymeradwywyd mewn ysgrifen gan Weinidogion Cymru i dderbyn cymorth ariannol, ac mae “cymeradwyo” (“approve”) a “cymeradwyaeth” (“approval”) i’w dehongli’n unol â hynny;

mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw dir, adeilad, sied, corlan neu gerbyd o unrhyw ddisgrifiad;

ystyr “person awdurdodedig” (“authorised person”) yw person a awdurdodwyd gan Weinidogion Cymru at ddibenion y Rheoliadau hyn, ac mae’n cynnwys unrhyw swyddog y Comisiwn a benodwyd yn briodol ac sy’n dod gyda’r person awdurdodedig hwnnw.

(2Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at offeryn UE yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.

Cymorth ariannol

3.—(1Caiff Gweinidogion Cymru dalu cymorth ariannol i fuddiolwr mewn cysylltiad â gweithrediad a gymeradwywyd.

(2Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud taliadau o gymorth ariannol, cânt wneud y cyfryw daliadau—

(a)ar y cyfryw adeg, neu yn y cyfryw randaliadau fesul pa bynnag gyfnod neu ar ba bynnag adegau y tybiant yn briodol, a

(b)yn ddarostyngedig i ba bynnag amodau ynglŷn â thalu a benderfynir ganddynt.

Cymeradwyo gweithrediadau

4.—(1Rhaid i gais am gymeradwyo gweithrediad—

(a)cael ei wneud yn y cyfryw ffurf ac ar y cyfryw amser, a

(b)cynnwys y cyfryw wybodaeth,

sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru.

(2Caiff Gweinidogion Cymru, ar yr amod eu bod yn fodlon bod gweithrediad y mae’r cais yn ymwneud ag ef yn gymwys i gael cymorth yr UE, gymeradwyo’r gweithrediad hwnnw.

(3Caiff Gweinidogion Cymru amrywio cymeradwyaeth drwy amrywio unrhyw amod y mae’n ddarostyngedig iddo, neu osod amodau.

(4Cyn amrywio cymeradwyaeth o dan baragraff (2), rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)rhoi i’r buddiolwr hysbysiad ysgrifenedig eu bod yn bwriadu gwneud hynny ynghyd â datganiad o’r rhesymau;

(b)rhoi cyfle i’r buddiolwr gyflwyno sylwadau ysgrifenedig o fewn y cyfryw amser a ystyrir yn rhesymol gan Weinidogion Cymru; ac

(c)ystyried y sylwadau hynny.

Hawliadau

5.  Rhaid gwneud unrhyw hawliad am daliad o gymorth ariannol ar y cyfryw amser, yn y cyfryw ffurf ac ynghyd â’r cyfryw wybodaeth sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru.

Darparu gwybodaeth

6.—(1Rhaid i fuddiolwr ddarparu i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth am weithrediad a gymeradwywyd, sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru.

(2Pan fo Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparu gwybodaeth o dan baragraff (1), rhaid i’r buddiolwr ddarparu’r wybodaeth honno o fewn pa bynnag gyfnod a bennir gan Weinidogion Cymru.

Pwerau mynediad

7.—(1Caiff person awdurdodedig, ar bob adeg resymol ac ar ôl dangos ei awdurdod i wneud hynny, os gofynnir iddo, fynd i mewn i unrhyw fangre, ac eithrio mangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd breifat—

(a)y mae gweithrediad a gymeradwywyd yn ymwneud â hi, neu

(b)y mae ganddo sail resymol dros gredu bod dogfennau sy’n ymwneud â gweithrediad a gymeradwywyd yn cael eu cadw ynddi,

at unrhyw un o’r dibenion a grybwyllir ym mharagraff (2).

(2Y dibenion hynny yw—

(a)gwirio cywirdeb unrhyw wybodaeth a ddarparwyd gan fuddiolwr ynglŷn â’r gweithrediad a gymeradwywyd;

(b)canfod a oes unrhyw gymorth ariannol yn daladwy neu y gellir ei adennill, neu ganfod pa swm o gymorth ariannol o’r fath sy’n daladwy neu y gellir ei adennill;

(c)canfod a oes trosedd o dan y Rheoliadau hyn wedi’i gyflawni neu’n cael ei gyflawni;

(d)canfod rywfodd arall a yw cymorth yr UE yn cael ei ddefnyddio’n effeithlon ac yn gywir;

(e)darparu adroddiad rheoli yn unol ag Erthygl 54(1) o Reoliad (EU) Rhif 1306/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 17 Rhagfyr 2013(2); ac

(f)penderfynu a ddigwyddodd unrhyw fethiant i gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn neu ddeddfwriaeth yr UE.

(3Nid yw paragraff (1) yn effeithio ar unrhyw hawl mynediad a roddir gan warant a ddyroddwyd yn unol â pharagraff (4).

(4Caiff ynad heddwch, drwy warant lofnodedig, roi caniatâd i berson awdurdodedig fynd i mewn i unrhyw fangre (gan gynnwys mangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd breifat) a hynny, pan fo angen, gan ddefnyddio grym rhesymol, os bodlonir yr ynad, ar sail tystiolaeth ysgrifenedig a roddwyd ar lw—

(a)bod sail resymol i berson awdurdodedig fynd i mewn i’r fangre at unrhyw ddiben a grybwyllir ym mharagraff (2); a

(b)y bodlonir un o’r amodau ym mharagraff (5).

(5Yr amodau yw—

(a)bod mynediad i’r fangre wedi ei wrthod, neu’n debygol o gael ei wrthod heb warant, ac

(i)hysbysiad o’r bwriad i wneud cais am warant wedi ei gyflwyno i’r meddiannydd, neu

(ii)na chyflwynwyd hysbysiad o’r fath i’r meddiannydd oherwydd byddai cyflwyno hysbysiad o’r fath yn tanseilio diben neu effeithiolrwydd y mynediad;

(b)bod gofyn mynd i mewn ar frys; neu

(c)bod y fangre’n wag, neu’r meddiannydd yn absennol dros dro.

(6Mae gwarant yn ddilys am dri mis.

(7Caiff person awdurdodedig sy’n mynd i mewn i unrhyw fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn fynd â pha bynnag bersonau eraill gydag ef, a ystyrir gan y person awdurdodedig yn angenrheidiol at unrhyw ddiben a grybwyllir ym mharagraff (2).

(8Rhaid i berson awdurdodedig sy’n mynd i mewn i unrhyw fangre wag adael y fangre honno wedi ei diogelu mor effeithiol ag yr oedd cyn iddo fynd i mewn iddi.

Pwerau person awdurdodedig

8.—(1Caiff person awdurdodedig sydd wedi mynd i mewn i unrhyw fangre yn rhinwedd rheoliad 7—

(a)arolygu’r fangre ac unrhyw ddogfen, cofnod neu gyfarpar sydd ynddi ac y byddai’n rhesymol i’r person hwnnw gredu ei bod, neu ei fod, yn ymwneud â’r gweithrediad;

(b)ei gwneud yn ofynnol fod y buddiolwr, neu unrhyw gyflogai, gwas neu asiant i’r buddiolwr, yn dangos unrhyw ddogfen neu gofnod, neu’n darparu unrhyw wybodaeth ychwanegol, sydd ym meddiant y person hwnnw neu o dan ei reolaeth ac sy’n ymwneud â’r gweithrediad;

(c)pan gedwir unrhyw ddogfen, cofnod neu wybodaeth y cyfeirir ati neu ato yn is-baragraff (b) drwy gyfrwng cyfrifiadur, mynd at ac arolygu unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw offer neu ddeunydd cysylltiedig a ddefnyddir neu a ddefnyddiwyd mewn cysylltiad â’r ddogfen neu’r wybodaeth honno neu â’r cofnod hwnnw;

(d)ei gwneud yn ofynnol dangos iddo unrhyw ddogfen neu ran o ddogfen, cofnod neu wybodaeth sy’n ymwneud â’r gweithrediad;

(e)cymryd, a chadw am gyfnod rhesymol, unrhyw ddogfen, cofnod neu wybodaeth sy’n ymwneud â’r gweithrediad pan fo gan y person awdurdodedig reswm dros gredu y gallai fod angen y ddogfen neu’r wybodaeth honno, neu’r cofnod hwnnw, fel tystiolaeth mewn achos cyfreithiol o dan y Rheoliadau hyn ac, os cedwir unrhyw ddogfen o’r fath drwy gyfrwng cyfrifiadur, ei gwneud yn ofynnol ei chynhyrchu mewn ffurf sydd yn caniatáu ei chludo ymaith ac yn ei gwneud yn weladwy a darllenadwy;

(f)os oes angen, at ddibenion rheoliad 7(2)—

(i)arolygu a chyfrif da byw sydd yn y fangre, a

(ii)ei gwneud yn ofynnol fod y buddiolwr, neu unrhyw gyflogai, gwas neu asiant y cyfryw fuddiolwr, yn trefnu i gasglu, corlannu a diogelu da byw o’r fath.

(2Rhaid i fuddiolwr, neu unrhyw gyflogai, gwas neu asiant buddiolwr, roi pob cymorth rhesymol i berson awdurdodedig ynglŷn â’r materion a grybwyllir yn y rheoliad hwn.

(3Mae paragraffau (1) a (4) yn gymwys mewn perthynas â pherson y cyfeirir ato yn rheoliad 7(7) pan fo’r person hwnnw yn gweithredu o dan gyfarwyddyd person awdurdodedig, fel pe bai’r person hwnnw yn berson awdurdodedig.

(4Ni fydd person awdurdodedig yn atebol mewn unrhyw achos cyfreithiol am unrhyw weithred a wneir drwy arfer honedig o’r pwerau a roddwyd i’r person awdurdodedig yn rhinwedd rheoliadau 7 ac 8, os bodlonir y llys fod y weithred wedi’i gwneud yn ddidwyll, bod sail resymol dros ei gwneud a’i bod wedi ei gwneud gyda medrusrwydd a gofal rhesymol.

(5Yn y rheoliad hwn, ystyr “y gweithrediad” (“the operation”) yw’r gweithrediad a gymeradwywyd y ceisiwyd mynediad i’r fangre yn ei gylch yn unol â rheoliad 7.

Cadw cofnodion

9.—(1Ac eithrio fel y darperir ym mharagraffau (2) a (3), rhaid i fuddiolwr gadw unrhyw anfoneb, cyfrif neu ddogfen arall ynglŷn â gweithrediad a gymeradwywyd tan ddiwedd chwe blynedd ar ôl y taliad diwethaf o gymorth ariannol a wneir iddo yn unol â’r Rheoliadau hyn mewn perthynas â gweithrediad a gymeradwywyd.

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw ddogfen a gymerir ymaith gan unrhyw berson a awdurdodwyd yn gyfreithlon i’w chymryd ymaith.

(3Pan fo buddiolwr, yng nghwrs arferol busnes, yn trosglwyddo’r fersiwn wreiddiol o unrhyw ddogfen y cyfeirir ati ym mharagraff (1) i berson arall, rhaid i’r buddiolwr gadw copi o’r ddogfen honno tan ddiwedd y cyfnod a bennir ym mharagraff (1).

Pwerau adennill etc.

10.—(1Caiff Gweinidogion Cymru arfer y pwerau a bennir ym mharagraff (2) os bodlonir hwy, o ran gweithrediad a gymeradwywyd—

(a)na chydymffurfiwyd, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, ag unrhyw amod y cyfeirir ato yn rheoliad 3 neu 4;

(b)nad oedd y cais a gymeradwywyd felly o dan reoliad 4 (neu unrhyw ran ohono) yn gais (neu’n rhan) yr oedd y buddiolwr yn gymwys i’w wneud;

(c)bod y buddiolwr, neu gyflogai, gwas neu asiant y buddiolwr, wedi—

(i)methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad o dan reoliad 6, rheoliad 8(1)(b), rheoliad 8(1)(d) neu reoliad 8(2);

(ii)rhoi gwybodaeth, am unrhyw fater ynglŷn â rhoi’r gymeradwyaeth, sy’n anwir neu’n gamarweiniol mewn modd perthnasol;

(d)bod y gweithrediad a gymeradwywyd wedi ei ddechrau cyn y dyddiad y rhoes Gweinidogion Cymru ganiatâd ysgrifenedig i hynny ddigwydd;

(e)na chydymffurfiwyd ag unrhyw ymgymeriadau a roddwyd gan y buddiolwr o dan reoliad 15;

(f)bod y buddiolwr wedi methu â chydymffurfio â rheoliad 9;

(g)bod natur, graddfa, costau neu amseriad y gweithrediad a gymeradwywyd wedi newid mewn modd perthnasol;

(h)nad oedd neu nad yw’r gweithrediad a gymeradwywyd yn cael ei gyflawni’n briodol;

(i)bod y gweithrediad a gymeradwywyd wedi cael ei ohirio, neu yn cael ei ohirio, yn afresymol, neu’n annhebygol o gael ei gwblhau;

(j)bod y cymorth ariannol yn dyblygu neu y byddai’n dyblygu cymorth a roddwyd neu sydd i’w roi o arian a roddwyd ar gael gan—

(i)yr Undeb Ewropeaidd,

(ii)Gweinidogion Cymru, neu

(iii)corff sy’n arfer swyddogaethau cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig;

(k)bod y buddiolwr wedi torri unrhyw ofyniad y mae’r buddiolwr yn ddarostyngedig iddo o dan y Rheoliadau hyn neu o dan ddeddfwriaeth yr UE; neu

(l)bod y gweithrediad a gymeradwywyd yn ddarostyngedig i gosbau sy’n gymwys o dan ddeddfwriaeth yr UE.

(2Mae’r pwerau a roddwyd gan baragraff (1) yn bwerau i wneud y canlynol—

(a)dirymu’r gymeradwyaeth o’r gweithrediad yn gyfan gwbl neu’n rhannol;

(b)lleihau neu atal unrhyw gymorth ariannol mewn perthynas â’r gweithrediad a gymeradwywyd;

(c)adennill, ar archiad, y cyfan neu unrhyw ran o unrhyw gymorth ariannol a dalwyd eisoes i’r buddiolwr.

(3Pan fo’r Comisiwn wedi penderfynu lleihau neu atal cymorth dros dro, caiff Gweinidogion Cymru arfer y pwerau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2).

(4At ddibenion paragraff (1)(j), mae swm yn dyblygu cymorth ariannol os telir ef, neu os byddai’n cael ei dalu, at unrhyw un o’r un dibenion.

Adennill llog

11.—(1Pan fo Gweinidogion Cymru yn arfer y pwerau a roddir gan reoliad 10(2)(c), cânt hefyd, ar archiad, adennill llog ar y swm sydd i’w adennill, yn ôl y gyfradd o 1 pwynt canran uwchlaw LIBOR, am y cyfnod o’r diwrnod y rhoddwyd y cymorth ariannol tan y diwrnod yr adenillir y swm gan Weinidogion Cymru.

(2At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr LIBOR yw cyfradd sterling dri-misol Llundain a gynigir rhwng banciau ac a oedd mewn grym yn ystod y cyfnod rhwng y dyddiad y gwnaeth Gweinidogion Cymru y taliad sydd i’w adennill a’r dyddiad yr adenillir y taliad gan Weinidogion Cymru.

(3Mewn unrhyw achos cyfreithiol ynglŷn â’r rheoliad hwn, bernir bod tystysgrif gan Weinidogion Cymru, sy’n datgan y gyfradd LIBOR a oedd yn gymwys yn ystod cyfnod a bennir yn y dystysgrif, yn dystiolaeth derfynol o’r gyfradd a oedd yn gymwys yn y cyfnod penodedig os yw’r dystysgrif hefyd yn datgan bod Banc Lloegr wedi hysbysu Gweinidogion Cymru o’r gyfradd honno.

Symiau sy’n daladwy i Weinidogion Cymru yn adenilladwy fel dyled

12.  Mewn unrhyw achos pan fo swm i gael ei dalu i Weinidogion Cymru yn rhinwedd y Rheoliadau hyn (neu yn rhinwedd camau a gymerir o dan y Rheoliadau hyn), mae’r swm hwnnw yn adenilladwy fel dyled.

Troseddau a chosbau

13.—(1Mae person yn euog o drosedd—

(a)os yw’r person hwnnw yn gwneud datganiad sy’n anwir neu’n gamarweiniol mewn manylyn perthnasol gan wybod hynny, neu’n ddi-hid, er mwyn cael cymorth ariannol o dan y Rheoliadau hyn iddo’i hun neu i unrhyw berson arall;

(b)os yw’r person hwnnw yn gwneud datganiad sy’n anwir neu’n gamarweiniol mewn manylyn perthnasol gan wybod hynny, neu’n ddi-hid, mewn perthynas ag arfer, gan Weinidogion Cymru, y pwerau a bennir yn rheoliad 10(2);

(c)os yw’r person hwnnw yn methu, heb esgus rhesymol, â chydymffurfio â gofyniad a osodir gan neu o dan reoliad 8(1)(b), rheoliad 8(1)(d) neu gan reoliad 9; neu

(d)os yw’r person hwnnw yn rhwystro’n fwriadol berson awdurdodedig (neu berson sydd yng nghwmni person awdurdodedig ac yn gweithredu o dan ei gyfarwyddyd) sy’n gweithredu i roi’r Rheoliadau hyn ar waith.

(2Mae person sy’n euog o drosedd o dan baragraff (1)(a) a (b) yn agored—

(a)o’i gollfarnu’n ddiannod, i ddirwy nad yw’n fwy na’r uchafswm statudol, neu i’w garcharu am gyfnod na fydd yn hwy na thri mis, neu’r ddau; neu

(b)o’i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy, neu i’w garcharu am gyfnod na fydd yn hwy na dwy flynedd, neu’r ddau.

(3Mae person sy’n euog o drosedd o dan baragraff (1)(c) neu (d) yn agored, o’i gollfarnu’n ddiannod, i ddirwy nad yw’n fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (5), caniateir cychwyn achos cyfreithiol am drosedd o dan baragraff (1)(c) neu (d) o fewn y cyfnod o chwe mis o’r dyddiad y bydd tystiolaeth, sy’n ddigonol ym marn yr erlynydd i gyfiawnhau’r achos cyfreithiol, yn dod yn hysbys i’r erlynydd.

(5Ni chaniateir cychwyn unrhyw achos cyfreithiol am drosedd o dan baragraff (1)(c) neu (d) fwy na thair blynedd ar ôl cyflawni’r drosedd.

(6At ddibenion paragraff (4), pan ddygir yr achos cyfreithiol gan Weinidogion Cymru neu’r Cwnsler Cyffredinol—

(a)bydd tystysgrif a lofnodwyd gan neu ar ran yr erlynydd ac yn datgan ar ba ddyddiad y daeth tystiolaeth a oedd yn ddigonol ym marn yr erlynydd i gyfiawnhau dwyn yr achos cyfreithiol, yn hysbys i’r erlynydd, yn dystiolaeth derfynol o’r ffaith honno;

(b)bernir bod tystysgrif, sy’n datgan y mater hwnnw ac yn honni ei bod wedi ei llofnodi felly, wedi ei llofnodi felly, oni phrofir i’r gwrthwyneb.

Troseddau corfforaethol, troseddau partneriaeth a throseddau cymdeithas anghorfforedig

14.—(1Os—

(a)cyflawnir trosedd o dan y Rheoliadau hyn gan gorff corfforaethol neu bartneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig arall; a

(b)profir bod y drosedd wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad, neu’n briodoladwy i unrhyw esgeulustod ar ran, unigolyn perthnasol (gan gynnwys person sy’n honni gweithredu yn rhinwedd swydd unigolyn perthnasol),

mae’r unigolyn perthnasol yn ogystal â’r corff corfforaethol, partneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig, yn euog o’r drosedd ac yn agored i’w erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.

(2Ym mharagraff (1), ystyr “unigolyn perthnasol” (“relevant individual”) yw—

(a)mewn perthynas â chorff corfforaethol—

(i)cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall y corff hwnnw;

(ii)os aelodau’r corff sy’n rheoli ei faterion, aelod;

(b)mewn perthynas â phartneriaeth, partner;

(c)mewn perthynas â chymdeithas anghorfforedig, person sy’n ymwneud â rheolaeth neu reoli’r gymdeithas.

(3Caniateir dwyn achos cyfreithiol am drosedd dan y Rheoliadau hyn, yr honnir iddi gael ei chyflawni gan bartneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig, yn erbyn y bartneriaeth neu’r gymdeithas yn enw’r bartneriaeth neu’r gymdeithas.

(4At ddibenion achosion cyfreithiol yn unol â pharagraff (3), mae’r darpariaethau canlynol yn gymwys fel pe bai’r bartneriaeth neu’r gymdeithas anghorfforedig yn gorff corfforaethol—

(a)rheolau llys sy’n ymwneud â chyflwyno dogfennau;

(b)adran 33 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1925(3); ac

(c)Atodlen 3 i Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980(4).

(5Mae dirwy a osodir ar bartneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig yn dilyn collfarn am drosedd o dan y Rheoliadau hyn i’w thalu allan o gronfeydd y bartneriaeth neu’r gymdeithas anghorfforedig.

Ymgymeriadau

15.  Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol fod buddiolwr yn rhoi pa bynnag ymgymeriadau a ystyrir yn briodol gan Weinidogion Cymru yn yr achos dan sylw.

Trosglwyddo daliadau

16.  At ddibenion Erthygl 8(3)(a) o Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 809/2014 dyddiedig 17 Gorffennaf 2014(5), rhaid i’r trosglwyddai hysbysu Gweinidogion Cymru o’r trosglwyddiad a gwneud cais am daliad o’r cynhorthwy neu’r gefnogaeth, neu’r ddau, o fewn y cyfnod a ganlyn, sef 30 diwrnod gan ddechrau â’r diwrnod cyntaf ar ôl dyddiad y trosglwyddiad.

Rebecca Evans

Y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, o dan awdurdod y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru

8 Rhagfyr 2014