Rheoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Pwyllgorau Rheoli etc.) (Cymru) 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn, a ddaw i rym ar 31 Hydref 2014, yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol sefydlu pwyllgorau rheoli i redeg unedau cyfeirio disgyblion (UCDau) yn eu hardal, ac yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyfansoddiad a gweithdrefnau pwyllgorau o’r fath.

Mae Rhan 2 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol sefydlu pwyllgor mewn perthynas â phob UCD yn ei ardal, gyda’r amod y caiff pwyllgor redeg mwy nag un UCD. O ran yr UCDau a agorir cyn 31 Hydref 2014, rhaid sefydlu pwyllgor erbyn 23 Chwefror 2015. O ran yr UCDau a agorir ar neu ar ôl 31 Hydref 2014, rhaid sefydlu pwyllgor (neu rhaid gwneud trefniadau i bwyllgor presennol reoli’r UCD) heb fod yn hwyrach na’r diwrnod cyntaf y mae ar agor i ddisgyblion (rheoliadau 3 a 4). Rhaid i’r awdurdod lleol wneud offeryn llywodraethu mewn cysylltiad â phob uned (neu grŵp o unedau) a phenodi’r aelodau cyntaf (ac eithrio’r rheini y mae’n ofynnol iddynt gael eu hethol) (rheoliad 5).

Mae Rhan 3 yn rhagnodi’r categorïau o aelodau. Mae Rhan 4 yn rhagnodi cyfansoddiad y pwyllgorau. Mae Rhan 5 yn rhagnodi cymhwyster a deiliadaeth swydd aelodau.

Mae Rhan 6 yn gwneud darpariaeth ar gyfer gweithdrefnau pwyllgorau drwy gymhwyso Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005 i bwyllgorau, gydag addasiadau penodol (rheoliad 21 ac Atodlen 3).

Mae rheoliadau 22 a 23 yn Rhan 7, a ddaw i rym ar 23 Chwefror 2015, yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddirprwyo swyddogaethau penodol, yn bennaf y swyddogaeth o gynnal yr uned, i’r pwyllgor ac yn ei gwneud yn ofynnol i ddatganiad polisi ysgrifenedig mewn perthynas â’r cwricwlwm ar gyfer yr uned gael ei wneud a’i adolygu o bryd i’w gilydd.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Cymorth i Ddysgwyr, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.