xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2014 Rhif 1514 (Cy. 155)

Llywodraeth Leol, Cymru

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) (Diwygio) 2014

Gwnaed

9 Mehefin 2014

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

10 Mehefin 2014

Yn dod i rym

1 Gorffennaf 2014

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 8, 20 a 190 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989(1) ac a freiniwyd bellach yng Ngweinidogion Cymru i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru(2).

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) (Diwygio) 2014.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Gorffennaf 2014.

(3Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 2006” (“the 2006 Regulations”) yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006.

Diwygiadau i Reoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006

2.  Mae Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

3.  Yn rheoliad 2 (dehongli)—

(a)hepgorer y diffiniad o “trefniadau amgen” (“alternative arrangements”);

(b)hepgorer y diffiniad o “rheolwr cyngor” (“council manager”);

(c)hepgorer “ac” ar ôl y diffiniad o “swyddog monitro” (“monitoring officer”); a

(d)yn y mannau priodol mewnosoder—

(i)“ystyr “pennaeth gwasanaethau democrataidd” (“head of democratic services”) yw’r swyddog a ddynodwyd o dan adran 8 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (pennaeth gwasanaethau democrataidd)(4);”; a

(ii)“mae i “cydnabyddiaeth ariannol” yr un ystyr â “remuneration” yn adran 43(3) o Ddeddf Lleoliaeth 2011(5);”.

4.  Yn rheoliad 5 (trefniadau gweithredol – rheolau sefydlog yn ymwneud â staff)—

(a)hepgorer paragraff (1)(c);

(b)ym mharagraff (1)(ch) yn lle “(a), (b) ac (c)” rhodder “(a) a (b)”; ac

(c)ym mharagraff (2) yn lle “(a), (b), (c) neu (d)” rhodder “(a), (b) neu (ch)”.

5.  Hepgorer rheoliad 6 (trefniadau amgen – rheolau sefydlog yn ymwneud â staff).

6.  Yn lle rheoliad 7 (rheolau sefydlog yn ymwneud â staff) rhodder—

Rheolau sefydlog yn ymwneud â staff

7.(1) Lle bo gan awdurdod perthnasol reolau sefydlog yn ymgorffori darpariaethau’r Rheoliadau hyn a grybwyllir ym mharagraff (2), rhaid i’r swyddogaethau y cyfeirir atynt yn y paragraff hwnnw gael eu harfer gan yr awdurdod ei hun ac yn unol â hynny ni fydd adran 101 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau gan awdurdodau lleol)(6) yn gymwys i arfer y swyddogaethau hynny.

(2) Y darpariaethau yw—

(a)paragraff 4(1) o Ran 1 o Atodlen 3 a pharagraff 4(1) o Ran 2 o Atodlen 3 yn ymwneud â’r swyddogaeth o gymeradwyo penodi neu ddiswyddo pennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod; a

(b)paragraff 6 o Ran 1 o Atodlen 3 a pharagraff 6 o Ran 2 o Atodlen 3 yn ymwneud â’r swyddogaeth o bennu lefel y gydnabyddiaeth ariannol sydd i’w thalu i brif swyddog, ac unrhyw newid i’r lefel honno.

7.—(1Daw testun presennol rheoliad 8 (rheolau sefydlog o ran camau disgyblu) yn rheoliad 8(1).

(2Yn rheoliad 8(1), yn lle “neu ei brif swyddog cyllid” rhodder “, ei brif swyddog cyllid, ei bennaeth gwasanaethau democrataidd neu unrhyw swyddog y cyfeirir ato ym mharagraff (2)”.

(3Ar ôl rheoliad 8(1) mewnosoder—

(2) Swyddog y bwriedir cymryd camau disgyblu mewn perthynas ag ef—

(a)pan oedd y swyddog yn swyddog y cyfeirir ato ym mharagraff (1), ond nad yw bellach, ar adeg y camau disgyblu arfaethedig, yn swyddog o’r fath; a

(b)pan fo’r camymddwyn honedig neu, yn ôl y digwydd, y rheswm dros y cynnig o ddiswyddo, wedi digwydd yn ystod y cyfnod yr oedd y swyddog yn swyddog y cyfeirir ato ym mharagraff (1).

8.  Yn rheoliad 9 (ymchwilio i gamymddwyn honedig)—

(a)yn lle paragraff (1) rhodder—

(1) Ar ôl i awdurdod perthnasol ymgorffori darpariaethau yn y rheolau sefydlog yn unol â rheoliad 8, os yw’n ymddangos i’r awdurdod perthnasol bod honiad o gamymddwyn a all arwain at gamau disgyblu wedi cael ei wneud yn erbyn swyddog perthnasol, rhaid i’r awdurdod perthnasol benodi pwyllgor (“pwyllgor ymchwilio”) i ystyried y camymddwyn honedig.

(1A) At ddibenion y rheoliad hwn ystyr “swyddog perthnasol” (“relevant officer”) yw—

(a)pennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod;

(b)ei swyddog monitro;

(c)ei brif swyddog cyllid;

(ch)ei bennaeth gwasanaethau democrataidd; neu

(d)swyddog a oedd yn swyddog y cyfeirir ato yn is-baragraffau (a) i (ch), ond nad yw bellach, ar adeg penodi’r pwyllgor ymchwilio, yn swyddog o’r fath, pan fo’r camymddwyn honedig wedi digwydd yn ystod y cyfnod pan oedd y swyddog yn swyddog y cyfeirir ato yn yr is-baragraffau hynny.;

(b)ym mharagraff (5)(b) yn lle “Gynulliad Cenedlaethol Cymru” rhodder “Weinidogion Cymru”; ac

(c)hepgorer paragraff (11).

9.—(1Yn Atodlen 1, yn Rhan 1—

(a)yn lle paragraff 1 rhodder—

1.(1) Rhaid i awdurdod perthnasol gymryd y camau a nodir yn is-baragraff (2) pan fo—

(a)yr awdurdod perthnasol yn bwriadu penodi prif swyddog (o fewn ystyr Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006); a

(b)y gydnabyddiaeth ariannol y mae’r awdurdod perthnasol yn bwriadu ei thalu i’r prif swyddog yn £100,000 y flwyddyn neu’n fwy.

(2) Y camau yw—

(a)llunio datganiad yn manylu—

(i)dyletswyddau’r swyddog dan sylw, a

(ii)unrhyw gymwysterau neu nodweddion y ceisir eu cael yn y person a benodir;

(b)trefnu i’r swydd gael ei hysbysebu’n gyhoeddus yn y fath fodd fel y bydd yn debygol o ddod i sylw personau sy’n gymwys i ymgeisio amdani; ac

(c)trefnu i gopi o’r datganiad a grybwyllir ym mharagraff (a) gael ei anfon at unrhyw berson sy’n gwneud cais.

(3) Pan fo is-baragraff (1) yn gymwys nid yw’n ofynnol i’r awdurdod perthnasol gymryd y cam a nodir yn is-baragraff (2)(b) os yw’n bwriadu penodi’r prif swyddog am gyfnod o ddim mwy na 12 mis.

(b)ym mharagraff 2(1) yn lle “1(b)” rhodder “1(2)(b)”; ac

(c)ym mharagraff 2(2) yn lle “1(b)” rhodder “1(2)(b)”.

(2Yn Atodlen 1, yn Rhan 2, ym mharagraff 3 hepgorer is-baragraff (a).

10.—(1Yn Atodlen 3, yn Rhan 1—

(a)daw testun presennol paragraff 3 yn baragraff 3(1);

(b)ym mharagraff 3(1), ar ôl paragraff (e) mewnosoder—

(f)y swyddog a ddynodwyd yn swyddog monitro’r awdurdod; neu

(ff)y swyddog a ddynodwyd yn bennaeth gwasanaethau democrataidd yr awdurdod.;

(c)ar ôl paragraff 3(1) mewnosoder—

(2) Nid yw paragraff 2 yn gymwys i ddiswyddo, na chymryd camau disgyblu yn erbyn, swyddog y bwriedir cymryd camau disgyblu mewn perthynas ag ef,—

(a)a oedd yn swyddog y cyfeirir ato ym mharagraff 3(1)(a) i (ff), ond nad yw bellach, ar adeg y camau disgyblu arfaethedig, yn swyddog o’r fath; a

(b)pan fo’r camymddwyn honedig neu, yn ôl y digwydd, y rheswm dros y cynnig o ddiswyddo, wedi digwydd yn ystod y cyfnod pan oedd y swyddog yn swyddog y cyfeirir ato ym mharagraff 3(1)(a) i (ff).;

(d)ym mharagraff 4(2) yn lle “neu (ch) o baragraff 3” rhodder “, (ch), (f), neu (ff) o baragraff 3(1) neu’r swyddogaeth o ddiswyddo unrhyw swyddog y cyfeirir ato ym mharagraff 3(2)”; ac

(e)ar ôl paragraff 5 mewnosoder—

6.  Rhaid i’r awdurdod perthnasol bennu lefel y gydnabyddiaeth ariannol, ac unrhyw newid yn lefel y gydnabyddiaeth ariannol, a delir i brif swyddog.

(2Yn Atodlen 3, yn Rhan 2—

(a)daw testun presennol paragraff 3 yn baragraff 3(1);

(b)ym mharagraff 3(1), ar ôl paragraff (dd) mewnosoder—

(e)y swyddog a ddynodwyd yn swyddog monitro’r awdurdod;

(f)y swyddog a ddynodwyd yn bennaeth gwasanaethau democrataidd yr awdurdod.;

(c)ar ôl paragraff 3(1) mewnosoder—

(2) Nid yw paragraff 2 yn gymwys i ddiswyddo, na chymryd camau disgyblu yn erbyn, swyddog y bwriedir cymryd camau disgyblu mewn perthynas ag ef,—

(a)a oedd yn swyddog y cyfeirir ato ym mharagraff 3(1)(a) i (f), ond nad yw bellach, ar adeg y camau disgyblu arfaethedig, yn swyddog o’r fath; a

(b)pan fo’r camymddwyn honedig neu, yn ôl y digwydd, y rheswm dros y cynnig o ddiswyddo, wedi digwydd yn ystod y cyfnod pan oedd y swyddog yn swyddog y cyfeirir ato ym mharagraff 3(1)(a) i (f).;

(d)ym mharagraff 4(2) yn lle “neu (ch) o baragraff 3” rhodder “, (ch), (e), neu (f) o baragraff 3(1) neu’r swyddogaeth o ddiswyddo unrhyw swyddog y cyfeirir ato ym mharagraff 3(2)”; ac

(e)ar ôl paragraff 5 mewnosoder—

6.  Rhaid i’r awdurdod perthnasol bennu lefel y gydnabyddiaeth ariannol, ac unrhyw newid yn lefel y gydnabyddiaeth ariannol, a delir i brif swyddog.

(3Yn Atodlen 3, hepgorer Rhannau 3 a 4.

11.—(1Yn Atodlen 4, ym mharagraff 1—

(a)hepgorer ““rheolwr cyngor” (“council manager”),”; a

(b)yn lle “a “swyddog monitro” (“monitoring officer”)” rhodder “, “swyddog monitro” (“monitoring officer”) a “pennaeth gwasanaethau democrataidd” (“head of democratic services”)”.

(2Yn Atodlen 4—

(a)daw testun presennol paragraff 2 yn baragraff 2(1) o’r paragraff hwnnw;

(b)ym mharagraff 2(1)—

(i)hepgorer “(oni fo pennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod hefyd yn rheolwr cyngor yr awdurdod)”; a

(ii)yn lle “neu ei brif swyddog cyllid” rhodder “, ei brif swyddog cyllid, ei bennaeth gwasanaethau democrataidd neu unrhyw swyddog y cyfeirir ato yn is-baragraff (2)”;

(c)ar ôl paragraff 2(1) mewnosoder—

(2) Swyddog y bwriedir cymryd camau disgyblu mewn perthynas ag ef—

(a)pan oedd y swyddog yn swyddog y cyfeirir ato yn is-baragraff (1), ond nad yw bellach, ar adeg y camau disgyblu arfaethedig, yn swyddog o’r fath; a

(b)pan fo’r camymddwyn honedig neu, yn ôl y digwydd, y rheswm dros y cynnig o ddiswyddo, wedi digwydd yn ystod y cyfnod yr oedd y swyddog yn swyddog y cyfeirir ato yn is-baragraff (1).

Darpariaethau trosiannol

12.  O ran unrhyw beth a wnaed gan swyddog, iddo neu mewn perthynas ag ef, cyn y dyddiad y mae’r awdurdod perthnasol yn ymgorffori rheolau sefydlog yn unol â’r Rheoliadau hyn, yn unol â—

(a)rheoliad 9 o Reoliadau 2006; neu

(b)y darpariaethau a nodir yn Atodlen 4 i Reoliadau 2006 (neu ddarpariaethau sy’n cael yr un effaith) a ymgorfforir yn rheolau sefydlog yr awdurdod perthnasol,

caniateir parhau i’w wneud ar ôl y dyddiad hwnnw gan y swyddog hwnnw, iddo neu mewn perthynas ag ef yn unol â’r darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (a) neu (b), yn ôl y digwydd.

Gweithredu

13.  Rhaid i awdurdod perthnasol adolygu ei reolau sefydlog presennol i’r graddau y bo’n angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â’r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn ddim hwyrach na’r dyddiad sydd ddeng wythnos ar ôl i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.

Lesley Griffiths

Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, un o Weinidogion Cymru

9 Mehefin 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006 (O.S. 2006/1275) (Cy. 121) (“Rheoliadau 2006”).

Mae Rheoliadau 2006 yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdodau perthnasol (cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol yng Nghymru) ymgorffori darpariaethau penodol yn ymwneud â’u staff, eu cyfarfodydd a’u trafodion yn eu rheolau sefydlog. Mae’n ofynnol i’r awdurdodau perthnasol wneud neu addasu rheolau sefydlog fel eu bod yn cynnwys y darpariaethau a nodir yn Rheoliadau 2006 neu ddarpariaethau sy’n cael yr un effaith.

Yn rhannol, mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2006 er mwyn adlewyrchu’r darpariaethau ym Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (mccc 4) (“y Mesur”).

Roedd adran 8 o’r Mesur yn gwneud darpariaeth i gynghorau bwrdeistrefi sirol neu gynghorau sir yng Nghymru ddynodi un o’u swyddogion yn bennaeth gwasanaethau democrataidd.

Cafodd yr opsiwn maer etholedig a rheolwr cyngor o’r trefniadau gweithrediaeth sydd ar gael yng Nghymru ei ddileu gan adran 34 o’r Mesur. Roedd adran 35 o’r Mesur yn darparu bod yn rhaid i gynghorau bwrdeistrefi sirol neu gynghorau sir yng Nghymru sy’n gweithredu trefniadau amgen symud i weithredu un o’r trefniadau gweithrediaeth a ddisgrifir yn adran 11 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.

Mae rheoliad 3 yn mewnosod yn Rheoliadau 2006 ddiffiniadau o’r “pennaeth gwasanaethau democrataidd” a “cydnabyddiaeth ariannol”.

Mae rheoliadau 3 i 5 yn dileu’r cyfeiriadau yn Rheoliadau 2006 at “trefniadau amgen” a “rheolwr y cyngor”.

Mae rheoliad 6 yn diwygio rheoliad 7 o Reoliadau 2006 er mwyn ei gwneud yn ofynnol i’r holl benderfyniadau ar gydnabyddiaeth ariannol i brif swyddogion gael eu gwneud drwy benderfyniad yr awdurdod ei hun.

Mae rheoliadau 7 ac 8 yn gwneud darpariaeth i unrhyw ymchwiliad i gamymddwyn honedig gan bennaeth gwasanaethau democrataidd neu gan unrhyw swyddog a oedd yn swyddog y cyfeirir ato yn rheoliad 8(1) o Reoliadau 2006, ond nad yw bellach, ar adeg penodi’r pwyllgor ymchwilio, yn swyddog o’r fath, ddilyn y gweithdrefnau sy’n gymwys i bennaeth gwasanaeth taledig, swyddog monitro neu brif swyddog cyllid, pan fo’r camymddwyn honedig neu, yn ôl y digwydd, y rheswm dros y cynnig o ddiswyddo, wedi digwydd yn ystod y cyfnod yr oedd y swyddog dan sylw yn swyddog y cyfeirir ato yn y rheoliad hwnnw. Gwneir mân ddiwygiad hefyd i reoliad 9 o Reoliadau 2006.

Mae rheoliad 9 yn diwygio Rhan 1 o Atodlen 1 i Reoliadau 2006 sy’n golygu, pan fo’r awdurdod perthnasol yn bwriadu penodi prif swyddog a bod y gydnabyddiaeth ariannol y mae’n bwriadu ei thalu i’r prif swyddog yn £100,000 y flwyddyn neu’n fwy, bod yn rhaid i’r swydd gael ei hysbysebu yn allanol. Nid yw’r rhwymedigaeth i hysbysebu’n allanol yn gymwys pan fo’r awdurdod yn bwriadu penodi prif swyddog am gyfnod o ddim mwy na 12 mis. Mae rheoliad 9 hefyd yn diwygio Rhan 2 o Atodlen 1 i Reoliadau 2006 i ddileu’r amrywiad awdurdodedig sy’n caniatáu i awdurdodau benderfynu peidio â hysbysebu’n allanol pan fyddant yn bwriadu penodi prif swyddog anstatudol.

Mae rheoliad 10 yn diwygio Rheoliadau 2006 er mwyn atal penodi swyddog monitro neu bennaeth gwasanaethau democrataidd, ei ddiswyddo neu gymryd camau disgyblu yn ei erbyn, rhag cael eu cyflawni gan bennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod neu swyddog a enwebir gan bennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod. Mae’r rheoliad yn diogelu, yn yr un modd, unrhyw swyddog y bwriedir cymryd camau disgyblu mewn perthynas ag ef ac a oedd yn swyddog y cyfeirir ato yn y rheoliad hwnnw, ond nad yw bellach, ar adeg y camau disgyblu arfaethedig, yn swyddog o’r fath, pan fo’r camymddwyn honedig neu, yn ôl y digwydd, y rheswm dros y cynnig o ddiswyddo, wedi digwydd yn ystod y cyfnod yr oedd y swyddog dan sylw yn swyddog y cyfeirir ato yn y rheoliad hwnnw.

Mae rheoliad 10 yn dileu Rhannau 3 a 4 o Atodlen 3 i Reoliadau 2006, sy’n ymwneud â’r trefniadau gweithrediaeth maer a rheolwr cyngor a ddiddymwyd ac â threfniadau amgen.

Mae rheoliad 11 yn diwygio Atodlen 4 i Reoliadau 2006 i fod yn gyson â’r diwygiadau eraill a wneir gan y Rheoliadau hyn.

Mae rheoliad 12 yn cynnwys darpariaethau trosiannol mewn perthynas â rheolau sefydlog presennol ar gyfer camau disgyblu a wnaed o dan Reoliadau 2006.

Mae rheoliad 13 yn darparu bod yn rhaid i awdurdod perthnasol adolygu ei reolau sefydlog presennol i’r graddau ei bod yn angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â’r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn ddim hwyrach na’r dyddiad ddeng wythnos ar ôl i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth y Tîm Craffu, Democratiaeth a Chyfranogi, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

1989 p. 42. Diwygiwyd adran 8 gan adran 1(2)(a) o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth (Datrys Anghydfodau) 1998 (p. 8) ac O.S. 2002/803 (Cy. 88); mae offerynnau diwygio eraill ond nid oes yr un ohonynt yn berthnasol. Diwygiwyd adran 20 gan O.S. 2009/3318.

(2)

Mae’r pwerau o dan adrannau 8, 20 a 190 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 bellach wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru. Yr oeddent wedi eu breinio’n flaenorol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Yn rhinwedd paragraffau 30 a 32 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), trosglwyddwyd hwy i Weinidogion Cymru.

(6)

1972 p. 70. Diwygiwyd adran 101 gan O.S. 2002/803 (Cy. 88), paragraff 3(2) a (3) o Atodlen 3 i Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p. 20), paragraff 1 o Ran 4 o Atodlen 22 i Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (p. 23), paragraff 26(3) o Atodlen 15 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p. 19) ac adrannau 1 a 102 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1985 (p. 51), ac Atodlen 17 iddi. Mae diwygiadau eraill i’r adran honno nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.