Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2014

Trosglwyddo eiddo

91.—(1Ar y dyddiad diddymu—

(a)mae’r holl dir neu eiddo a ddelid yn union cyn y dyddiad diddymu gan gorff llywodraethu’r ffederasiwn at ddibenion pob ysgol a ddadffedereiddiwyd yn trosglwyddo i gorff llywodraethu newydd pob ysgol a ddadffedereiddiwyd, ac yn rhinwedd y Rheoliadau hyn yn cael ei freinio yn y corff llywodraethu newydd hwnnw a ymgorfforwyd o dan reoliad 88; a

(b)mae’r holl hawliau a rhwymedigaethau a oedd yn bodoli yn union cyn y dyddiad diddymu ac a gaffaelwyd neu yr eir iddynt gan gorff llywodraethu’r ffederasiwn at ddibenion pob ysgol a ddadffedereiddiwyd, yn trosglwyddo i gorff llywodraethu newydd pob ysgol a ddadffedereiddiwyd, ac a ymgorfforwyd o dan reoliad 90.

(2Mae adran 198 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988(1) ac Atodlen 10 i’r Ddeddf honno (sy’n gwneud darpariaeth mewn perthynas â throsglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau) yn gymwys mewn perthynas â throsglwyddiadau a gyflawnir gan y rheoliad hwn fel y maent yn gymwys i drosglwyddiadau y mae’r adran ac Atodlen hynny yn gymwys iddynt.