- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
87.—(1) Os yw—
(a)awdurdod lleol cynnal ffederasiwn awdurdod lleol yn penderfynu y dylid diddymu’r ffederasiwn; neu
(b)awdurdod lleol cynnal ffederasiwn awdurdod lleol yn penderfynu y dylai un o’r unig ddwy ysgol ffederal adael y ffederasiwn,
rhaid i’r awdurdod lleol roi hysbysiad o’r ffaith ac o’r dyddiad diddymu arfaethedig i’r personau a grybwyllir ym mharagraff (2) o fewn pedwar ar ddeg o ddiwrnodau gwaith clir ar ôl gwneud y penderfyniad hwnnw.
(2) Y personau sydd i’w hysbysu yw—
(a)pob awdurdod lleol perthnasol;
(b)pennaeth y ffederasiwn neu (os nad oes pennaeth i’r ffederasiwn) pob pennaeth ysgol ffederal;
(c)pob aelod o’r staff y telir iddo am weithio yn y ffederasiwn neu mewn ysgol ffederal;
(d)pob person y gŵyr y corff llywodraethu ei fod yn rhiant disgybl cofrestredig mewn ysgol ffederal;
(e)pan fo ysgol ffederal yn ysgol sefydledig neu wirfoddol sydd â sefydliad crefyddol, y llywodraethwyr sefydledig, unrhyw ymddiriedolwyr ymddiriedolaeth sy’n ymwneud â’r ysgol ffederal ac, yn achos ysgol yr Eglwys yng Nghymru neu’r Eglwys Gatholig Rufeinig, yr awdurdod esgobaethol priodol, neu’r corff crefyddol priodol yn achos pob ysgol arall o’r fath;
(f)corff sydd â’r hawl i benodi llywodraethwyr sefydledig i gorff llywodraethu’r ffederasiwn;
(g)ymddiriedolwyr ymddiriedolaeth unrhyw un o ysgolion ffederal y ffederasiwn;
(h)pob undeb llafur y gwyddant fod ganddo aelodau y telir iddynt am weithio mewn unrhyw un o’r ysgolion; ac
(i)pa bersonau eraill bynnag a ystyrir yn briodol gan yr awdurdod lleol.
(3) Ddim llai na phedwar ar ddeg o ddiwrnodau gwaith clir ar ôl i’r awdurdod lleol roi hysbysiad o’r penderfyniad yn unol â pharagraff (2), rhaid i’r awdurdod lleol ystyried y penderfyniad a phob ymateb a ddaw i law gan y personau yr anfonwyd hysbysiad o’r penderfyniad atynt a rhaid iddo benderfynu—
(a)p’un a ddylid diddymu’r ffederasiwn ac, os felly, ar ba ddyddiad;
(b)p’un a ddylai un o’r unig ddwy ysgol ffederal adael y ffederasiwn, ac os felly, ar ba ddyddiad; neu
(c)p’un a ddylai’r ffederasiwn beidio â chael ei ddiddymu.
(4) Rhaid i’r awdurdod lleol roi hysbysiad ysgrifenedig o’i benderfyniad o dan baragraff (2) o fewn pum niwrnod gwaith clir i’r personau hynny y cyfeirir atynt ym mharagraff (4).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys