- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
86.—(1) Os yw—
(a)corff llywodraethu ffederasiwn awdurdod lleol yn penderfynu y dylid diddymu’r ffederasiwn; neu
(b)corff llywodraethu ffederasiwn awdurdod lleol yn penderfynu y dylai un o’r unig ddwy ysgol ffederal adael y ffederasiwn,
rhaid i’r corff llywodraethu geisio cydsyniad unrhyw awdurdod lleol cynnal i ddiddymu’r ffederasiwn.
(2) Os rhoddir cydsyniad o dan baragraff (1), rhaid i’r corff llywodraethu roi hysbysiad o’i benderfyniad ac o’r dyddiad diddymu arfaethedig i’r personau a grybwyllir ym mharagraff (3) o fewn pedwar ar ddeg o ddiwrnodau gwaith clir ar ôl i’r cydsyniad gael ei roi.
(3) Y personau sydd i’w hysbysu yw—
(a)pob awdurdod lleol perthnasol;
(b)pennaeth y ffederasiwn neu (os nad oes pennaeth i’r ffederasiwn) pob pennaeth ysgol ffederal;
(c)pob aelod o’r staff y telir iddo am weithio yn y ffederasiwn neu mewn ysgol ffederal;
(d)pob person y gŵyr y corff llywodraethu ei fod yn rhiant disgybl cofrestredig mewn ysgol ffederal;
(e)pan fo ysgol ffederal yn ysgol sefydledig neu wirfoddol sydd â sefydliad crefyddol, y llywodraethwyr sefydledig, unrhyw ymddiriedolwyr ymddiriedolaeth sy’n ymwneud â’r ysgol ffederal ac, yn achos ysgol yr Eglwys yng Nghymru neu’r Eglwys Gatholig Rufeinig, yr awdurdod esgobaethol priodol, neu’r corff crefyddol priodol yn achos pob ysgol arall o’r fath;
(f)pob undeb llafur y gwyddant fod ganddo aelodau y telir iddynt am weithio mewn unrhyw un o’r ysgolion; ac
(g)pa bersonau eraill bynnag a ystyrir yn briodol gan gorff llywodraethu’r ffederasiwn.
(4) Rhaid i’r dyddiad diddymu arfaethedig a bennir gan y corff llywodraethu beidio â bod yn llai na 125 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod y rhoddir hysbysiad o dan baragraff (2).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys