- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
70.—(1) Rhaid i’r corff llywodraethu benodi clerc i bob pwyllgor a sefydlir yn unol â rheoliadau 67 i 69 a chaiff benodi clerc i unrhyw bwyllgor arall a sefydlir ganddo.
(2) Ni chaniateir penodi pennaeth y ffederasiwn neu ysgol ffederal na disgybl-lywodraethwr cyswllt yn glerc o dan baragraff (1).
(3) Er gwaethaf paragraff (1) caiff y pwyllgor, os metha’r clerc â bod yn bresennol mewn un o’u cyfarfodydd, benodi unrhyw un o’u plith (ond nid pennaeth y ffederasiwn neu ysgol ffederal) i weithredu fel clerc at ddibenion y cyfarfod hwnnw.
(4) Caiff y corff llywodraethu ddiswyddo unrhyw glerc a benodir i unrhyw bwyllgor o’i eiddo ar unrhyw adeg.
(5) Rhaid i glerc a benodir i bwyllgor y corff llywodraethu—
(a)cynnull cyfarfodydd y pwyllgor;
(b)bod yn bresennol yng nghyfarfodydd y pwyllgor a sicrhau y llunnir cofnodion o’r trafodion; ac
(c)cyflawni pa swyddogaethau eraill bynnag mewn cysylltiad â’r pwyllgor hwnnw a benderfynir gan y corff llywodraethu o bryd i’w gilydd.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys