Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2014

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Rheoliad 35

ATODLEN 7Cymwysiadau ac anghymwysiadau

Cyffredinol

1.  Ac eithrio yn achos disgybl-lywodraethwyr cyswllt, nid yw unrhyw berson yn gymwys i fod yn llywodraethwr onid yw’r person hwnnw yn 18 oed neu’n hŷn ar ddyddiad ethol neu benodi’r person hwnnw.

2.  Ni chaiff unrhyw berson ar unrhyw adeg ddal mwy nag un swydd llywodraethwr yn yr un ysgol.

3.  Ac eithrio fel y darperir fel arall yn y Rheoliadau hyn, nid yw’r ffaith bod person yn gymwys i’w ethol neu ei benodi’n llywodraethwr o gategori penodol mewn ffederasiwn yn anghymhwyso’r person hwnnw rhag cael ei ethol neu ei benodi neu rhag parhau’n llywodraethwr o unrhyw gategori arall yn y ffederasiwn hwnnw.

Anhwylder meddyliol

4.  Anghymhwysir person rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd fel llywodraethwr mewn ffederasiwn ar unrhyw adeg pan fo’r person hwnnw yn agored i gael ei gadw’n gaeth o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983(1) neu o dan unrhyw ailddeddfiad neu addasiad statudol o’r Ddeddf honno a fydd mewn grym o bryd i’w gilydd.

Methiant i fod yn bresennol mewn cyfarfodydd

5.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw lywodraethwr nad yw’n llywodraethwr yn rhinwedd swydd y person hwnnw.

(2Os bydd llywodraethwr heb gydsyniad y corff llywodraethu, yn methu â bod yn bresennol yng nghyfarfodydd y corff am gyfnod di-dor o chwe mis, sy’n dechrau ar ddyddiad y cyfarfod cyntaf o’r fath lle y methodd y person hwnnw â bod yn bresennol, bydd y llywodraethwr hwnnw, pan ddaw’r cyfnod hwnnw i ben, wedi ei anghymhwyso rhag parhau i ddal swydd llywodraethwr yn y ffederasiwn hwnnw.

(3Pan fo llywodraethwr wedi anfon ymddiheuriad at glerc y corff llywodraethu cyn cyfarfod nad yw’r person hwnnw yn bwriadu bod yn bresennol ynddo, rhaid i gofnodion y cyfarfod gofnodi a oedd y corff llywodraethu wedi cydsynio i’r absenoldeb ai peidio, a rhaid anfon copi o’r cofnodion at y llywodraethwr o dan sylw i breswylfa arferol y person hwnnw.

(4Nid yw llywodraethwr a anghymhwyswyd rhag bod yn llywodraethwr ffederasiwn o dan is-baragraff (2) yn gymwys i’w ethol, i’w enwebu, nac i’w benodi yn llywodraethwr o unrhyw gategori yn y ffederasiwn hwnnw yn ystod y deuddeng mis yn union ar ôl anghymhwyso’r person hwnnw o dan is-baragraff (2).

Methdaliad

6.  Anghymhwysir person rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd llywodraethwr mewn ffederasiwn—

(a)os yw’r person hwnnw wedi ei ddyfarnu’n fethdalwr neu os yw ystad y person hwnnw wedi ei hatafaelu ac yntau (yn y naill achos neu’r llall) heb ei ryddhau o fethdaliad ac os nad yw’r gorchymyn methdalu wedi ei ddirymu neu ei ddadwneud neu os oes cyfnod moratoriwm o dan orchymyn rhyddhau o ddyled yn gymwys mewn perthynas â’r person hwnnw; neu

(b)os yw’r person hwnnw wedi gwneud compownd neu drefniant â chredydwyr y person hwnnw, neu wedi rhoi gweithred ymddiriedolaeth i gredydwyr y person hwnnw, ac yntau heb ei ryddhau mewn cysylltiad â hynny.

Anghymhwyso cyfarwyddwyr cwmnïau

7.  Anghymhwysir person rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd llywodraethwr ffederasiwn ar unrhyw adeg pan fo’r person hwnnw yn destun—

(a)gorchymyn anghymhwyso neu ymgymeriad anghymhwyso o dan Ddeddf Anghymhwyso Cyfarwyddwyr Cwmnïau 1986(2);

(b)gorchymyn anghymhwyso o dan Ran 2 o Orchymyn Cwmnïau (Gogledd Iwerddon) 1989(3);

(c)ymgymeriad anghymhwyso a dderbyniwyd o dan Orchymyn Anghymhwyso Cyfarwyddwyr Cwmnïau (Gogledd Iwerddon) 2002(4); neu

(d)gorchymyn a wnaed o dan adran 429(2)(b) o Ddeddf Methdaliad 1986(5) (methu â thalu o dan orchymyn gweinyddu llys sirol).

Anghymhwyso ymddiriedolwyr elusennau

8.  Anghymhwysir person rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd llywodraethwr ffederasiwn os yw’r person hwnnw—

(a)wedi ei ddiswyddo fel ymddiriedolwr elusen drwy orchymyn a wnaed gan y Comisiynwyr Elusennau neu’r Uchel Lys ar sail unrhyw gamymddygiad neu gamreoli yr oedd y person hwnnw yn gyfrifol amdano neu’n ymwybodol ohono wrth weinyddu’r elusen, neu y cyfrannodd y person hwnnw ato neu a hwylusodd y person hwnnw drwy ymddygiad y person hwnnw; neu

(b)wedi ei ddiswyddo, o dan adran 34 o Ddeddf Elusennau a Buddsoddi gan Ymddiriedolwyr (Yr Alban) 2005(6) (pwerau’r Llys Sesiwn i ymdrin â rheoli elusennau), rhag ymwneud â rheoli neu reolaeth ar unrhyw gorff.

Personau y gwaherddir eu cyflogi neu y cyfyngir ar eu cyflogi

9.  Anghymhwysir person rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd llywodraethwr mewn ffederasiwn ar unrhyw adeg pan fo’r person hwnnw—

(a)wedi ei gynnwys yn y rhestr o athrawon a rhai fu’n gweithio gyda phlant neu bersonau ifanc y gwaherddir eu cyflogi neu y cyfyngir arnynt o dan adran 1 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999(7);

(b)yn destun cyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 142 o Ddeddf 2002(8);

(c)wedi ei anghymhwyso rhag gweithio gyda phlant o dan adrannau 28, 29 neu 29A o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llysoedd 2000(9);

(d)wedi ei anghymhwyso rhag cofrestru o dan Ran XA o Ddeddf Plant 1989(10) ar gyfer gwarchod plant neu ddarparu gofal dydd;

(e)wedi ei anghymhwyso rhag cofrestru o dan Ran 3 o Ddeddf Gofal Plant 2006(11);

(f)wedi ei wahardd o weithgaredd a reoleiddir sy’n ymwneud â phlant yn unol ag adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(12);

(g)yn destun cyfarwyddyd gan yr awdurdod priodol o dan adran 167A o Ddeddf 2002(13);

(h)wedi ei anghymhwyso, yn rhinwedd gorchymyn a wnaed o dan adran 470 neu adran 471 o Ddeddf 1996(14), rhag bod yn berchennog unrhyw ysgol annibynnol neu rhag bod yn athro neu athrawes neu gyflogai arall mewn unrhyw ysgol; neu

(i)wedi ei anghymhwyso rhag cofrestru o dan Ran 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010(15).

Collfarnau troseddol

10.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (5), anghymhwysir person rhag dal swydd, neu barhau i ddal swydd fel llywodraethwr ffederasiwn pan fo unrhyw un o is-baragraffau (2) i (4) neu (6) yn gymwys i’r person hwnnw.

(2Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i berson os yw’r person hwnnw—

(a)o fewn cyfnod o bum mlynedd a ddaw i ben ar y dyddiad yn union cyn y dyddiad y byddai penodi neu ethol y person hwnnw yn llywodraethwr fel arall wedi cymryd effaith neu, yn ôl y digwydd, y byddai’r person hwnnw fel arall wedi dod yn llywodraethwr yn rhinwedd swydd y person hwnnw; neu

(b)ers penodi neu ethol y person hwnnw yn llywodraethwr neu, yn ôl y digwydd, ers i’r person hwnnw ddod yn llywodraethwr yn rhinwedd swydd y person hwnnw;

wedi ei gael yn euog, yn y Deyrnas Unedig neu yn rhywle arall, o unrhyw drosedd ac wedi ei ddedfrydu i garchar (p’un a yw’r ddedfryd yn ataliedig ai peidio) am gyfnod nad yw’n llai na thri mis heb y dewis o dalu dirwy.

(3Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i berson os cafwyd y person hwnnw, o fewn cyfnod o 20 mlynedd a ddaw i ben ar y dyddiad yn union cyn y dyddiad y byddai penodi neu ethol y person hwnnw yn llywodraethwr fel arall wedi cymryd effaith neu, yn ôl y digwydd, y dyddiad y byddai’r person hwnnw fel arall wedi dod yn llywodraethwr yn rhinwedd swydd y person hwnnw, yn euog fel y disgrifiwyd uchod o unrhyw drosedd a’i ddedfrydu i garchar am gyfnod nad yw’n llai na dwy flynedd a hanner.

(4Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i berson os yw’r person hwnnw ar unrhyw adeg wedi ei gael yn euog fel y disgrifiwyd uchod o unrhyw drosedd a bod y person hwnnw wedi ei ddedfrydu i garchar am gyfnod nad yw’n llai na phum mlynedd.

(5At ddibenion is-baragraffau (2) i (4), rhaid diystyru unrhyw gollfarn gan lys y tu allan i’r Deyrnas Unedig neu gerbron llys o’r fath, am drosedd na fyddai, pe bai’r ffeithiau a oedd wedi arwain at y drosedd wedi digwydd yn unrhyw ran o’r Deyrnas Unedig, wedi ei hystyried yn drosedd yn y rhan honno o’r Deyrnas Unedig yn ôl y gyfraith mewn grym ar yr adeg yr oedd y ffeithiau a oedd wedi arwain at y drosedd wedi digwydd.

(6Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i berson os yw’r person hwnnw—

(a)o fewn cyfnod o bum mlynedd a ddaw i ben ar y dyddiad yn union cyn y dyddiad y byddai penodi neu ethol y person hwnnw yn llywodraethwr fel arall wedi cymryd effaith neu, yn ôl y digwydd, y dyddiad y byddai’r person hwnnw fel arall wedi dod yn llywodraethwr yn rhinwedd swydd y person hwnnw; neu

(b)ers penodi neu ethol y person hwnnw yn llywodraethwr neu, yn ôl y digwydd, ers i’r person hwnnw ddod yn llywodraethwr yn rhinwedd swydd y person hwnnw;

wedi ei gael yn euog o dan adran 547 o Ddeddf 1996(16) (niwsans neu aflonyddwch ar fangre ysgol) neu o dan adran 85A o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(17) (niwsans neu aflonyddwch ar fangre addysgol) o drosedd ac wedi ei ddedfrydu i dalu dirwy.

Llywodraethwyr mwy na dwy ysgol

11.—(1Ac eithrio yn achos disgybl-lywodraethwyr cyswllt, ni chaiff unrhyw berson ddal swydd llywodraethwr mewn mwy na dau ffederasiwn ar unrhyw adeg.

(2At ddibenion is-baragraff (1) nid ystyrir swyddi llywodraethwyr ex officio, swyddi llywodraethwyr y mae’r Rheoliadau Ysgolion a Gynhelir Newydd yn gymwys iddynt nac unrhyw benodiad o dan adrannau 6, 7, 13 neu 14 o Ddeddf 2013.

Methiant i gwblhau hyfforddiant gofynnol

12.—(1Mae llywodraethwr sydd wedi parhau i fod wedi ei atal o’i swydd, yn rhinwedd rheoliad 4 neu 5 o Reoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Gofynion Hyfforddi ar gyfer Llywodraethwyr) (Cymru) 2013 (“Rheoliadau 2013”), am gyfnod di-dor o 6 mis, ar ôl i’r cyfnod hwnnw ddod i ben, wedi anghymhwyso rhag dal swydd fel llywodraethwr unrhyw ysgol.

(2Nid yw llywodraethwr sydd wedi ei anghymhwyso rhag bod yn llywodraethwr ysgol o dan is-baragraff (1) yn gymwys i gael ei ethol, ei enwebu na’i benodi’n llywodraethwr unrhyw gategori o unrhyw ysgol hyd nes y bydd y llywodraethwr hwnnw wedi cwblhau’r hyfforddiant gofynnol yn rhinwedd rheoliad 4 neu 5 o Reoliadau 2013.

Gwrthod gwneud cais am dystysgrif cofnodion troseddol

13.  Anghymhwysir person rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd llywodraethwr ar unrhyw adeg pan fydd y person hwnnw yn gwrthod cais gan y corff llywodraethu i wneud cais o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997(18) am dystysgrif cofnodion troseddol.

Hysbysu’r clerc

14.  Os yw person—

(a)wedi ei anghymhwyso rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd fel llywodraethwr ffederasiwn yn rhinwedd unrhyw un o baragraffau 6 i 11; a

(b)yn llywodraethwr neu os bwriedir i’r person hwnnw fod yn llywodraethwr;

rhaid i’r person hwnnw hysbysu clerc y corff llywodraethu o’r ffaith honno.

(7)

1999 p.14; ac fel y’i harbedwyd gan erthygl 5 o Orchymyn Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (Cychwyn Rhif 6, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2009, sef O.S. 2009/2611.

(8)

Fe’i dirymwyd at ddibenion benodol gan Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 p.47 (gweler adran 63).

(9)

2000 p.43; dirymwyd adrannau 28, 29 a 29A at ddibenion penodol gan adran 63 o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006.

(10)

1989 p.41. Fe’i dirymwyd gan adran 73 o Fesur Plant a Theuluoeddd (Cymru) 2010 (mccc 1).

(11)

2006 p.21.

(12)

2006 p.47.

(13)

Mewnosodwyd adran 167A gan adran 169 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p.40) ond nid yw eto mewn grym.

(14)

Fe’i dirymwyd gan adran 216 o Ddeddf Addysg 2002.

(16)

Fel y’i diwygiwyd gan baragraff 163 o Atodlen 30 i Ddeddf 1998 a chan adran 206 o Ddeddf 2002 ac Atodlen 20 i’r Ddeddf honno, a chan adran 6 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p.40) ac Atodlen 1 i’r Ddeddf honno.

(17)

1992 p.13; mewnosodwyd gan adran 206 o Ddeddf 2002 ac Atodlen 20 i’r Ddeddf honno.

(18)

1997 p.50; mewnosodwyd gan adran 163 o Ddeddf Troseddu Cyfundrefnol Difrifol a’r Heddlu 2005 (p.15). Cafodd is-adrannau (2A) a (12) eu mewnosod, a chafodd is-adran (6) ei diwygio, gan Orchymyn Deddf yr Heddlu 1997 (Cofnodion Troseddol) (Cyfathrebu Electronig) 2009 (O.S. 2009/203). Disodlwyd paragraffau (a) a (b), fel y’i deddfwyd yn wreiddiol gan baragraff 149 o Atodlen 16 i Deddf y Lluoedd Arfog 2006 (p.52), gan baragraff (a) o is-adran (10).

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill