xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Rheoliad 14
1. Yn ddarostyngedig i baragraff 2(2), yn yr Atodlen hon ystyr “corff priodol” (“appropriate body”) yw—
(a)yr awdurdod lleol pan fo’r ysgol ffederal yn ysgol gymunedol, ysgol arbennig gymunedol, ysgol wirfoddol a reolir neu’n ysgol feithrin a gynhelir; neu
(b)corff llywodraethu’r ffederasiwn pan fo’r ysgol ffederal yn ysgol sefydledig neu’n ysgol wirfoddol a gynorthwyir.
2.—(1) Os yr awdurdod lleol yw’r corff priodol mewn perthynas ag ysgol, caiff yr awdurdod lleol hwnnw ddirprwyo i bennaeth yr ysgol, neu i bennaeth y ffederasiwn, unrhyw rai o’i swyddogaethau o dan yr Atodlen hon.
(2) Yr awdurdod lleol fydd y corff priodol mewn perthynas ag ysgol o fewn paragraff 1(b) os bydd corff llywodraethu’r ffederasiwn a’r awdurdod lleol yn cytuno felly.
3. Yn ddarostyngedig i baragraffau 4 i 8 rhaid i’r corff priodol wneud yr holl drefniadau angenrheidiol i ethol rhiant-lywodraethwyr.
4. Rhaid i’r corff priodol benderfynu, at ddibenion ethol rhiant-lywodraethwyr, unrhyw gwestiwn p’un a yw person yn rhiant disgybl cofrestredig yn yr ysgol.
5. Yn achos y ddyletswydd a osodir gan baragraff 3—
(a)nid yw’n cynnwys pŵer i osod unrhyw ofynion ynghylch yr isafswm o bleidleisiau y mae angen eu bwrw i ymgeisydd gael ei ethol, ond
(b)mae’n cynnwys y pŵer i wneud darpariaeth ynghylch dyddiadau cymhwyso.
6. Rhaid cynnal unrhyw etholiad a ymleddir drwy bleidlais gudd.
7.—(1) Rhaid i’r trefniadau a wneir o dan baragraff 3 ddarparu bod pob person sydd â’r hawl i bleidleisio yn cael cyfle i wneud hynny drwy’r post.
(2) At ddibenion is-baragraff (1), mae “post” (“post”) yn cynnwys danfon drwy law.
(3) Caiff y trefniadau a wneir o dan baragraff 3 ddarparu ar gyfer rhoi cyfle i bob person sydd â hawl i bleidleisio wneud hynny drwy gyfrwng dull electronig.
8. Pan ddaw lle’n wag i riant-lywodraethwr, rhaid i’r corff priodol gymryd y camau hynny sy’n rhesymol ymarferol i sicrhau bod pob person y mae’n hysbys i’r corff priodol ei fod yn rhiant disgybl cofrestredig yn yr ysgol—
(a)yn cael gwybod am y lle gwag a’i bod yn ofynnol ei lenwi drwy etholiad;
(b)yn cael gwybod bod gan y person hwnnw hawl i sefyll fel ymgeisydd a phleidleisio yn yr etholiad; ac
(c)yn cael cyfle i wneud hynny.
9. Rhaid sicrhau’r nifer o riant-lywodraethwyr sy’n ofynnol drwy ychwanegu rhiant-lywodraethwyr a benodir gan y corff llywodraethu, os daw un neu ragor o leoedd ar gyfer rhiant-lywodraethwyr yn wag a naill ai—
(a)bod y nifer o rieni sy’n sefyll i’w hethol yn llai na nifer y lleoedd gwag;
(b)bod o leiaf 50 y cant o’r disgyblion cofrestredig yn yr ysgol yn lletywyr ac y byddai, ym marn y corff priodol, yn anymarferol ethol rhiant-lywodraethwyr; neu
(c)yn achos ysgol sy’n ysgol arbennig gymunedol mewn ysbyty, y byddai, ym marn y corff priodol, yn anymarferol ethol rhiant-lywodraethwyr.
10.—(1) Ac eithrio pan fo paragraff 11 yn gymwys, wrth benodi rhiant-lywodraethwr i gynrychioli ysgol ffederal, rhaid i gorff llywodraethu ffederasiwn benodi—
(a)rhiant disgybl cofrestredig yn yr ysgol;
(b)rhiant disgybl cofrestredig mewn ysgol arall o fewn y ffederasiwn; neu
(c)rhiant plentyn sydd mewn oedran ysgol gorfodol, neu, yn achos ysgol feithrin a gynhelir, sydd mewn neu o dan oedran ysgol gorfodol.
(2) Rhaid i’r corff llywodraethu beidio â phenodi person y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(b) neu (c) ac eithrio pan nad oes unrhyw berson arall i’w benodi o baragraff cynharach yn y rhestr a nodwyd yn is-baragraff (1).
11.—(1) Pan fo’r ysgol yn ysgol arbennig gymunedol, wrth benodi rhiant-lywodraethwr, rhaid i gorff llywodraethu’r ffederasiwn benodi—
(a)rhiant disgybl cofrestredig yn yr ysgol;
(b)rhiant plentyn mewn oedran ysgol gorfodol sydd ag anghenion addysgol arbennig;
(c)rhiant person o unrhyw oedran sydd ag anghenion addysgol arbennig; neu
(d)rhiant plentyn mewn oedran ysgol gorfodol.
(2) Rhaid i gorff llywodraethu ffederasiwn beidio â phenodi person y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(b), (c) neu (d) ac eithrio pan nad oes unrhyw berson arall i’w benodi o baragraff cynharach yn y rhestr a nodwyd yn is-baragraff (1).