xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
35. Yn Atodlen 7 nodir o dan ba amgylchiadau y mae person yn gymwys ar gyfer, neu wedi ei anghymhwyso rhag dal neu barhau mewn swydd fel llywodraethwr.
36.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) i (9), mae llywodraethwr yn dal ei swydd am gyfnod penodol o bedair blynedd o’r dyddiad yr etholir neu y penodir y person hwnnw.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw lywodraethwr sy’n bennaeth y ffederasiwn neu’n bennaeth ysgol ffederal, nac i unrhyw lywodraethwr sefydledig ex officio, a gaiff ddal swydd cyhyd ag y bo’r person hwnnw yn parhau yn y swydd y mae swydd y person hwnnw fel llywodraethwr yn deillio ohoni.
(3) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw lywodraethwr sefydledig y pennir cyfnod ei swydd gan y person a benododd y llywodraethwr hwnnw, hyd at bedair blynedd fan hwyraf.
(4) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw lywodraethwr ychwanegol, llywodraethwr sefydledig ychwanegol nac aelod gweithrediaeth interim a benodir o dan adrannau 6, 7, 13 neu 14 o Ddeddf 2013, y pennir cyfnod ei swydd gan y person a benododd y llywodraethwr hwnnw, hyd at bedair blynedd fan hwyaf.
(5) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw athro-lywodraethwr neu staff-lywodraethwr sydd i ddal swydd am gyfnod o ddwy flynedd o ddyddiad penodi’r person hwnnw.
(6) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw riant-lywodraethwr ysgol feithrin a gynhelir sydd i ddal swydd am gyfnod penodol o ddwy flynedd o ddyddiad ethol neu benodi’r person hwnnw.
(7) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw ddisgybl-lywodraethwr cyswllt sydd i ddal swydd am gyfnod o un flwyddyn o ddyddiad penodi’r person hwnnw. Nid oes dim yn y paragraff hwn sy’n rhwystro disgybl-lywodraethwr cyswllt rhag cael ei ailbenodi ar ddiwedd cyfnod y person hwnnw mewn swydd.
(8) Caiff dirprwy lywodraethwr ddal swydd hyd y cynharaf o’r canlynol—
(a)diwedd pedair blynedd o’r dyddiad y daw penodiad y person hwnnw i rym;
(b)y dyddiad y bydd y llywodraethwr gwreiddiol (onid yw wedi ei ddiswyddo o dan reoliad 38(2)) yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig i glerc y corff llywodraethu yn nodi y gall y person hwnnw weithredu fel llywodraethwr sefydledig a’i fod yn fodlon gwneud hynny; neu
(c)y dyddiad y bydd person ar wahân i’r llywodraethwr gwreiddiol yn cymryd y swydd y mae swydd y llywodraethwr sefydledig ex officio yn bodoli o’i herwydd.
(9) Nid yw’r rheoliad hwn yn rhwystro llywodraethwr rhag—
(a)cael ei ethol neu ei benodi am gyfnod pellach, ac eithrio fel y darperir fel arall yn y Rheoliadau hyn;
(b)ymddiswyddo yn unol â rheoliad 37(1);
(c)cael ei ddiswyddo o dan reoliadau 38 i 40; neu
(d)cael ei anghymhwyso, yn rhinwedd unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn, rhag dal neu barhau i ddal swydd.
(10) Yn y rheoliad hwn ystyr “y llywodraethwr gwreiddiol” (“the original governor”) yw’r llywodraethwr sefydledig ex officio y penodir y dirprwy lywodraethwr i weithredu yn ei le.
37.—(1) Caiff llywodraethwr ymddiswyddo ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i glerc y corff llywodraethu.
(2) Caiff y pennaeth dynnu ei ymddiswyddiad yn ôl ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i glerc y corff llywodraethu.
(3) Caiff llywodraethwr sefydledig ex officio ymddiswyddo fel llywodraethwr naill ai’n barhaol neu dros dro, ond ni fydd ymddiswyddiad y person hwnnw yn rhagfarnu swydd llywodraethwr ex officio olynydd y person hwnnw yn y swydd y mae ei swydd fel llywodraethwr ex officio yn deillio ohoni.
38.—(1) Caiff y person a benododd y llywodraethwr hwnnw ddiswyddo unrhyw lywodraethwr awdurdod lleol, llywodraethwr sefydledig neu lywodraethwr cynrychiadol, a rhaid i’r person hwnnw roi hysbysiad ysgrifenedig o hynny i glerc y corff llywodraethu ac i’r llywodraethwr a ddiswyddir felly.
(2) Caiff y person a enwir yn yr offeryn llywodraethu fel y person sydd â’r hawl i ddiswyddo’r llywodraethwr hwnnw, ddiswyddo unrhyw lywodraethwr sefydledig ex officio, a rhaid i’r person hwnnw roi hysbysiad ysgrifenedig o hynny i glerc y corff llywodraethu ac i’r llywodraethwr a ddiswyddir felly.
(3) Caiff y person a enwebodd y llywodraethwr hwnnw ddiswyddo unrhyw lywodraethwr cymunedol ychwanegol neu noddwr-lywodraethwr, a rhaid i’r person hwnnw roi hysbysiad ysgrifenedig o hynny i glerc y corff llywodraethu ac i’r llywodraethwr a ddiswyddir felly.
39. Caiff y corff llywodraethu ddiswyddo unrhyw lywodraethwr cymunedol (ac eithrio llywodraethwr cymunedol ychwanegol) yn unol â’r weithdrefn a nodir yn rheoliad 41.
40. Caiff y corff llywodraethu ddiswyddo unrhyw riant-lywodraethwr a benodwyd gan y corff llywodraethu o dan baragraffau 9 i 11 o Atodlen 2 neu unrhyw lywodraethwr partneriaeth ac unrhyw ddisgybl-lywodraethwr cyswllt yn unol â’r weithdrefn a nodir yn rheoliad 41.
41.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â diswyddo llywodraethwr yn unol â rheoliad 39 neu 40.
(2) Ni fydd penderfyniad a gaiff ei basio mewn cyfarfod o’r corff llywodraethu i ddiswyddo llywodraethwr yn cael effaith oni bai—
(a)bod y llywodraethwr neu’r llywodraethwyr sy’n cynnig diswyddo’r person hwnnw, cyn i’r corff llywodraethu benderfynu diswyddo’r llywodraethwr, yn nodi yn y cyfarfod hwnnw eu rhesymau dros wneud hynny ac y rhoddir cyfle i’r llywodraethwr y cynigir ei ddiswyddo wneud datganiad i ymateb; a
(b)y pennir mater diswyddo’r llywodraethwr fel eitem o fusnes ar agenda’r cyfarfod.
(3) Ar ôl pasio penderfyniad i ddiswyddo llywodraethwr rhaid i’r corff llywodraethu hysbysu’r person a ddiswyddir, mewn ysgrifen, o’r rhesymau dros y diswyddo.