xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Gwneir y Gorchymyn hwn o dan adran 156(2) o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (“y Mesur”). Mae’n dwyn i rym ddarpariaethau’r Mesur sy’n ymwneud â Thribiwnlys y Gymraeg er mwyn galluogi Gweinidogion Cymru i benodi aelodau’r Tribiwnlys ac i’r Llywydd ddechrau’r gwaith paratoadol. Mae’r darpariaethau o fewn Rhan 7 o’r Mesur ac Atodlen 11 iddo.