xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Rheoliad 33(2)

ATODLEN 7Symiau cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr

RHAN 1

Lwfansau personol

1.—(1Y symiau a bennir yng ngholofn (2) isod mewn perthynas â phob person neu gwpl a bennir yng ngholofn (1) yw’r symiau sydd i’w pennu at ddibenion paragraffau 1(1)(a) a 2(2)(a) a (b) o Atodlen 6.

Colofn (1)

Person neu gwpl

Colofn (2)

Swm

(2Ceisydd sengl—

(a)

sydd â hawl i gael lwfans cyflogaeth a chymorth prif wedd;

£71.70;
(b)

nad yw’n iau na 25;

£71.70;
(c)

nad yw’n iau na 18 ond sy’n iau na 25.

£56.80.

(3Unig riant.

£71.70.

(4Cwpl.

£112.55.

2.  At ddibenion paragraff 1, mae hawl gan geisydd i gael lwfans cyflogaeth a chymorth prif wedd—

(a)os bodlonir paragraff 18 mewn perthynas â’r ceisydd; neu

(b)os oes hawl gan y ceisydd i gael lwfans cyflogaeth a chymorth a droswyd.

3.—(1Y symiau a bennir yng ngholofn (2) isod mewn perthynas â phob person a bennir yng ngholofn (1), ar gyfer y cyfnod perthnasol a bennir yng ngholofn (1), yw’r symiau a bennir at ddibenion paragraffau 1(1)(b) a 2(2)(c) o Atodlen 6—

Colofn (1)

Plentyn neu berson ifanc

Colofn (2)

Swm

Person mewn perthynas â’r cyfnod—
(a)

sy’n cychwyn ar ddyddiad geni’r person hwnnw ac yn diweddu ar y diwrnod cyn y dydd Llun cyntaf ym Medi sy’n dilyn unfed pen-blwydd ar bymtheg y person hwnnw;

£65.62;

(b)

sy’n cychwyn ar y dydd Llun cyntaf ym Medi sy’n dilyn unfed pen-blwydd ar bymtheg y person hwnnw ac yn diweddu ar y diwrnod cyn ugeinfed pen-blwydd y person hwnnw.

£65.62.

(2Yng ngholofn (1) o’r tabl yn is-baragraff (1), ystyr “y dydd Llun cyntaf ym Medi” (“the first Monday in September”) yw’r dydd Llun sy’n digwydd gyntaf yn ystod mis Medi mewn unrhyw flwyddyn.

RHAN 2Premiwm teulu

4.—(1Y swm at ddibenion paragraffau 1(1)(c) a (2)(d) o Atodlen 6 mewn perthynas â theulu y mae o leiaf un aelod ohono’n blentyn neu’n berson ifanc fydd—

(a)pan fo’r ceisydd yn unig riant y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo, £22.20;

(b)mewn unrhyw achos arall, £17.40.

(2Bydd y swm yn is-baragraff (1)(a) yn gymwys i unig riant—

(a)yr oedd hawl ganddo i gael budd-dal treth gyngor ar 5 Ebrill 1998 ac yr oedd ei swm cymwysadwy ar y dyddiad hwnnw yn cynnwys y swm cymwysadwy dan baragraff 3(1) o Atodlen 1 i Reoliadau Budd-dal Treth Gyngor (Personau a gyrhaeddodd yr oedran cymwys ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth) 2006(1), fel yr oedd mewn grym ar y dyddiad hwnnw; neu

(b)pan gaiff yr hawl i gael budd-dal treth gyngor os oedd yr unig riant hwnnw—

(i)wedi ei drin fel pe bai hawl ganddo i gael y budd-dal hwnnw yn unol ag is-baragraff (3) ar y diwrnod cyn dyddiad yr hawliad am y budd-dal hwnnw; a

(ii)hawl ganddo i gael budd-dal tai ar ddyddiad yr hawliad am fudd-dal treth gyngor, neu byddai hawl wedi bod ganddo i gael budd-dal tai ar y dyddiad hwnnw pe na bai’r diwrnod wedi digwydd yn ystod cyfnod di-rent, yn yr ystyr a roddir i “rent free period” fel y’i diffinnir gan reoliad 81 o Reoliadau Budd-dal Tai 2006(2),

ac os yw’r holl amodau a bennir yn is-baragraff (3) wedi parhau’n gymwys mewn perthynas â’r unig riant hwnnw.

(3Yr amodau a bennwyd at ddibenion is-baragraff (2) yw, mewn perthynas â’r cyfnod sy’n cychwyn ar 6 Ebrill 1998—

(a)nad yw’r ceisydd wedi peidio bod â hawl, neu ei drin fel pe bai ganddo hawl, i gael—

(i)budd-dal treth gyngor (mewn perthynas â’r cyfnod cyn 1 Ebrill 2013), a

(ii)gostyngiad o dan gynllun awdurdod (mewn perthynas â’r cyfnod sy’n cychwyn ar 1 Ebrill 2013);

(b)nad yw’r ceisydd wedi peidio â bod yn unig riant;

(c)os oedd hawl gan y ceisydd i gael cymhorthdal incwm neu lwfans ceisio gwaith ar sail incwm ar 5 Ebrill 1998, bod y ceisydd, yn ddi-dor ers y dyddiad hwnnw, wedi bod â hawl i gael cymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm neu gyfuniad o’r budd-daliadau hynny;

(d)os nad oedd hawl gan y ceisydd i gael cymhorthdal incwm neu lwfans ceisio gwaith ar sail incwm ar 5 Ebrill 1998, nad yw’r ceisydd wedi ennill yr hawl wedyn i gael cymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm; ac

(e)nad oes premiwm o dan baragraff 9, neu elfen o dan baragraff 21 neu 22, wedi dod yn gymwysadwy i’r ceisydd.

(4At ddibenion is-baragraffau (2)(b)(i) a (3)(a), rhaid trin ceisydd fel pe bai hawl ganddo i fudd-dal treth gyngor yn ystod unrhyw gyfnod os nad oedd hawl o’r fath gan y ceisydd, neu os oedd hawl o’r fath a fu ganddo wedi dod i ben ac—

(a)os, drwy gydol y cyfnod hwnnw, dyfarnwyd budd-dal tai i’r ceisydd ac os oedd swm cymwysadwy’r ceisydd yn cynnwys y swm cymwysadwy o dan baragraff 3(1)(a) o Atodlen 3 i Reoliadau Budd-dal Tai 2006 (cyfradd premiwm teulu unig riant); neu

(b)os byddid wedi dyfarnu budd-dal tai i’r ceisydd yn ystod y cyfnod hwnnw pe na bai’r cyfnod hwnnw wedi bod yn gyfnod di-rent yn yr ystyr a roddir i “rent free period” fel y’i diffinnir gan reoliad 81 o Reoliadau Budd-dal Tai 2006 ac os byddai swm cymwysadwy’r ceisydd drwy gydol y cyfnod hwnnw wedi cynnwys y swm cymwysadwy o dan baragraff 3(1)(a) o Atodlen 3 i’r Rheoliadau hynny.

RHAN 3Premiymau

5.  Ac eithrio fel y darperir ym mharagraff 6, bydd y premiymau a bennir yn Rhan 4, at ddibenion paragraffau 1(1)(d) a 2(e) o Atodlen 6 yn gymwysadwy i geisydd sy’n bodloni’r amod a bennir ym mharagraffau 9 i 14 mewn perthynas â’r premiwm hwnnw.

6.  Yn ddarostyngedig i baragraff 7, pan fo ceisydd yn bodloni’r amodau mewn perthynas â mwy nag un premiwm yn y Rhan hon o’r Atodlen hon, un premiwm yn unig fydd yn gymwys i’r ceisydd, ac os bydd eu symiau’n wahanol, y swm uwch neu uchaf fydd yn gymwys.

7.  Bydd modd i’r premiymau canlynol—

(a)premiwm anabledd difrifol, y mae paragraff 11 yn gymwys iddo;

(b)premiwm anabledd uwch, y mae paragraff 12 yn gymwys iddo;

(c)premiwm plentyn anabl, y mae paragraff 13 yn gymwys iddo; a

(d)premiwm gofalwr, y mae paragraff 14 yn gymwys iddo,

fod yn gymwysadwy, yn ychwanegol at unrhyw bremiwm arall a allai fod yn gymwys o dan yr Atodlen hon.

8.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), at ddibenion y Rhan hon o’r Atodlen hon, unwaith y bydd premiwm yn gymwysadwy i geisydd o dan y Rhan hon, rhaid trin person fel pe bai’n cael unrhyw fudd-dal—

(a)yn achos budd-dal y mae Rheoliadau Nawdd Cymdeithasol (Budd-daliadau sy’n Gorgyffwrdd) 1979(3) yn gymwys iddo, yn ystod unrhyw gyfnod y byddai’r person hwnnw, oni bai am ddarpariaethau’r Rheoliadau hynny, yn cael y budd-dal hwnnw; a

(b)yn ystod unrhyw gyfnod a dreulir gan berson yn ymgymryd â chwrs o hyfforddiant neu gyfarwyddyd a ddarperir neu a gymeradwyir gan yr Ysgrifennydd Gwladol neu Weinidogion Cymru o dan adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973(4), neu gan Ddatblygu Sgiliau yr Alban, Menter yr Alban neu Fenter yr Ucheldiroedd a’r Ynysoedd o dan adran 2 o Ddeddf Menter a Threfi Newydd (Yr Alban) 1990(5) neu yn ystod unrhyw gyfnod pan fo’r person hwnnw’n cael lwfans hyfforddi.

(2At ddibenion y premiwm gofalwr o dan baragraff 14, ni ddylid trin person fel pe bai’n cael lwfans gofalwr yn rhinwedd is-baragraff (1)(a) ac eithrio pan a chyhyd ag y bo’r person yr hawliwyd y lwfans mewn perthynas â’i ofal yn dal i gael lwfans gweini, neu elfen ofal y lwfans byw i’r anabl ar y gyfradd uchaf neu’r gyfradd ganol a ragnodir yn unol ag adran 72(3) o DCBNC, neu elfen byw dyddiol y taliad annibyniaeth bersonol sy’n daladwy o dan Ran 4 o Ddeddf Diwygio Lles 2012, neu TALlA.

Premiwm anabledd

9.  Yr amod yw—

(a)pan fo’r ceisydd yn geisydd sengl neu’n unig riant, nad yw’r ceisydd wedi cyrraedd yr oedran cymwys ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth ac y bodlonir yr amod ychwanegol a bennir ym mharagraff 10; neu

(b)pan fo gan y ceisydd bartner, naill ai—

(i)nad yw’r ceisydd wedi cyrraedd yr oedran cymwys ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth a bod y ceisydd yn bodloni’r amod ychwanegol a bennir ym mharagraff 10(1)(a) neu (b); neu

(ii)nad yw partner y ceisydd wedi cyrraedd yr oedran cymwys ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth a bod partner y ceisydd yn bodloni’r amod ychwanegol a bennir ym mharagraff 10(1)(a).

Amod ychwanegol ar gyfer y premiwm anabledd

10.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2) a pharagraff 8, yr amod ychwanegol y cyfeirir ato ym mharagraff 9 yw naill ai—

(a)bod y ceisydd neu, yn ôl fel y digwydd, partner y ceisydd—

(i)yn cael un neu ragor o’r budd-daliadau canlynol: lwfans gweini, lwfans byw i’r anabl, taliad annibyniaeth bersonol, TALlA, yr elfen anabledd neu’r elfen anabledd difrifol o’r credyd treth gwaith fel y’u pennir yn rheoliad 20(1)(b) ac (f) o Reoliadau Credyd Treth Gwaith (Hawlogaeth a’r Gyfradd Uchaf) 2002(6), atodiad symudedd, budd-dal analluogrwydd hirdymor o dan Ran 2 o DCBNC neu lwfans anabledd difrifol o dan Ran 3 o’r Ddeddf honno, ond, yn achos budd-dal analluogrwydd hirdymor neu lwfans anabledd difrifol, hynny yn unig pan delir y budd-dal neu’r lwfans mewn perthynas â’r ceisydd; neu

(ii)wedi bod yn cael budd-dal analluogrwydd hirdymor o dan Ran 2 o DCBNC pan beidiodd yr hawlogaeth i’r budd-dal hwnnw oherwydd talu pensiwn ymddeol o dan y Ddeddf honno, a bod y ceisydd yn y cyfamser wedi parhau â hawlogaeth ddi-dor i—

(aa)budd-dal treth gyngor (am y cyfnod hyd at 1 Ebrill 2013), neu

(bb)gostyngiad o dan gynllun awdurdod (am y cyfnod sy’n cychwyn ar 1 Ebrill 2013), ac,

os oedd y budd-dal analluogrwydd hirdymor yn daladwy i bartner y ceisydd, bod y partner yn parhau’n aelod o’r teulu; neu

(iii)wedi bod yn cael lwfans gweini neu lwfans byw i’r anabl ond ataliwyd taliadau o’r budd-dal hwnnw dros dro yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 113(2) o DCBNC neu lleihawyd hwy fel arall oherwydd bod y ceisydd, neu bartner y ceisydd, wedi mynd yn glaf o fewn ystyr paragraff 21(11)(i) o Atodlen 6 (trin costau gofal plant); neu

(iv)wedi bod yn cael taliad annibyniaeth bersonol, ond ataliwyd taliadau o’r budd-dal hwnnw dros dro yn unol ag adran 86 o Ddeddf Diwygio Lles 2012 oherwydd bod y ceisydd wedi mynd yn glaf o fewn ystyr paragraff 21 o Atodlen 6 (trin costau gofal plant); neu

(v)wedi bod yn cael TALlA ond ataliwyd taliadau ohono dros dro yn unol ag unrhyw delerau cynllun digolledu’r lluoedd arfog a’r lluoedd wrth gefn sy’n caniatáu ataliad dros dro oherwydd bod person yn cael triniaeth feddygol mewn ysbyty neu sefydliad cyffelyb; neu

(vi)wedi cael, gan yr Ysgrifennydd Gwladol neu grŵp comisiynu clinigol, gerbyd ar gyfer pobl anabl neu fath arall o gerbyd, a ddarparwyd o dan baragraff 9 o Atodlen 1 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006(7), neu, yn yr Alban, o dan adran 46 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978(8) (darparu gwasanaethau gan Weinidogion yr Alban), neu, yng Nghymru, o dan adran 5 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(9) ac Atodlen 1 i’r Ddeddf honno, neu, yng Ngogledd Iwerddon, wedi cael, gan yr Adran Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Diogelwch y Cyhoedd, gerbyd ar gyfer pobl anabl neu fath arall o gerbyd, a ddarparwyd o dan erthygl 30(1) o Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1972, neu, yn cael taliadau ar ffurf grant, gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan baragraff 10(3) o Atodlen 1 i Ddeddf 2006(10) (darparu cerbydau ar gyfer pobl anabl) neu, yn yr Alban, gan Weinidogion yr Alban o dan adran 46 o Ddeddf 1978; neu

(vii)yn ddall, ac o ganlyniad wedi ei gofrestru mewn cofrestr a gedwir gan awdurdod lleol o dan adran 29 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948(11) (gwasanaethau lles) neu, yn yr Alban, wedi ei ardystio’n ddall ac, o ganlyniad, wedi ei gofrestru mewn cofrestr a gynhelir gan, neu ar ran, cyngor a gyfansoddwyd o dan adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Yr Alban) 1994(12); neu

(b)bod y ceisydd—

(i)yn analluog i weithio, neu’n cael ei drin fel pe bai’n analluog i weithio yn unol â darpariaethau Rhan 12A o DCBNC (analluedd i weithio) a rheoliadau a wnaed o dan y Rhan honno; a

(ii)wedi bod yn analluog i weithio neu’n cael ei drin fel pe bai’n analluog i weithio am gyfnod di-dor o ddim llai nag—

(aa)yn achos ceisydd sy’n derfynol wael yn yr ystyr a roddir i “terminally ill” yn adran 30B(4) o DCBNC, 196 diwrnod;

(bb)mewn unrhyw achos arall, 364 diwrnod.

(2At ddibenion is-baragraff (1)(a)(vi), yn achos person y peidiwyd â’i gofrestru fel person dall wedi iddo adennill ei olwg, rhaid ei drin, er gwaethaf hynny, fel pe bai’n ddall ac yn bodloni’r amod ychwanegol a bennir yn yr is-baragraff hwnnw am gyfnod o 28 wythnos yn dilyn y dyddiad y peidiwyd â chofrestru’r person felly.

(3At ddibenion is-baragraff (1)(b), unwaith y bydd y premiwm anabledd yn gymwysadwy i geisydd yn rhinwedd bodloni ohono’r amod ychwanegol a bennir yn y ddarpariaeth honno, os yw’r ceisydd wedyn, am gyfnod o 8 wythnos neu lai, yn peidio â chael ei drin fel pe bai’n analluog i weithio, neu’n peidio â bod yn analluog i weithio, yna, pan â’n analluog i weithio felly drachefn, rhaid ei drin ar unwaith wedyn fel pe bai’n bodloni’r amod yn is-baragraff (1)(b).

(4At ddibenion is-baragraff (1)(b), unwaith y bydd y premiwm anabledd yn gymwysadwy i geisydd yn rhinwedd bodloni ohono’r amod ychwanegol a bennir yn y ddarpariaeth honno, rhaid parhau i drin y ceisydd fel pe bai’n bodloni’r amod hwnnw am unrhyw gyfnod a dreulir gan y ceisydd yn ymgymryd â chwrs o hyfforddiant a ddarperir o dan adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973 neu adran 2 o Ddeddf Menter a Threfi Newydd (Yr Alban) 1990 neu am unrhyw gyfnod pan fo’r ceisydd yn cael lwfans hyfforddi.

(5At ddibenion is-baragraff (1)(b), pan wahenir unrhyw ddau neu ragor o gyfnodau o analluedd gan doriad o ddim mwy na 56 diwrnod, rhaid trin y cyfnodau hynny fel un cyfnod di-dor.

(6At ddibenion y paragraff hwn, mae cyfeiriad at berson sydd, neu a oedd, yn cael budd-dal analluogrwydd hirdymor yn cynnwys person sydd neu a oedd yn cael budd-dal analluogrwydd byrdymor ar gyfradd hafal i’r gyfradd hirdymor, yn rhinwedd adran 30B(4)(a) o DCBNC (budd-dal analluogrwydd byrdymor i berson sy’n derfynol wael), neu a fyddai’n cael neu wedi cael budd-dal analluogrwydd byrdymor ar gyfradd o’r fath pe na bai cyfradd y budd-dal analluogrwydd byrdymor sydd eisoes yn daladwy i’r person hwnnw yn hafal i’r gyfradd hirdymor neu’n uwch, neu wedi bod yn hafal i’r gyfradd honno neu’n uwch.

(7Yn achos ceisydd sy’n fuddiolwr cynllun ‘o fudd-dal i waith’ (sef person y mae rheoliad 13A(1) o Reoliadau Nawdd Cymdeithasol (Analluedd i Weithio) (Cyffredinol) 1995(13) yn gymwys iddo ac sydd drachefn yn mynd yn analluog i weithio at ddibenion Rhan 12A o DCBNC) rhaid trin—

(a)y cyfeiriad at gyfnod o 8 wythnos yn is-baragraff (3); a

(b)y cyfeiriad at gyfnod o 56 diwrnod yn is-baragraff (5),

ill dau fel cyfeiriad at gyfnod o 104 wythnos.

(8Nid oes hawl gan geisydd i gael y premiwm anabledd os oes gan y ceisydd, neu os trinnir ef fel pe bai ganddo, alluedd cyfyngedig ar gyfer gwaith.

Premiwm anabledd difrifol

11.—(1Yr amod yw fod y ceisydd yn berson ag anabledd difrifol.

(2At ddibenion is-baragraff (1), rhaid trin ceisydd fel pe bai’n berson ag anabledd difrifol—

(a)yn achos ceisydd sengl, unig riant neu geisydd a drinnir fel pe na bai ganddo bartner o ganlyniad i is-baragraff (3) os, ac yn unig os—

(i)yw’r ceisydd yn cael lwfans gweini, neu elfen ofal y lwfans byw i’r anabl ar y gyfradd uchaf neu’r gyfradd ganol a ragnodir yn unol ag adran 72(3) o DCBNC, neu elfen byw dyddiol y taliad annibyniaeth bersonol a delir ar y naill neu’r llall o’r cyfraddau o dan Ran 4 o Ddeddf Diwygio Lles 2012, neu TALlA; a

(ii)yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), nad oes gan y ceisydd unrhyw annibynyddion sy’n 18 oed neu drosodd ac yn preswylio fel arfer gyda’r ceisydd, neu y mae’r ceisydd fel arfer y preswylio gyda hwy; a

(iii)nad oes neb sydd â hawl i gael, ac yn cael, lwfans gofalwr o dan adran 70 o DCBNC mewn perthynas â gofalu am y ceisydd;

(b)yn achos ceisydd sydd â phartner, os ac yn unig os—

(i)yw’r ceisydd yn cael lwfans gweini, neu elfen ofal y lwfans byw i’r anabl ar y gyfradd uchaf neu’r gyfradd ganol a ragnodir yn unol ag adran 72(3) o DCBNC, neu elfen byw dyddiol y taliad annibyniaeth bersonol a delir ar y naill neu’r llall o’r cyfraddau o dan Ran 4 o Ddeddf Diwygio Lles 2012, neu TALlA; a

(ii)partner y ceisydd hefyd yn cael lwfans o’r fath neu, pan fo’r ceisydd yn aelod o briodas amlbriod, pob aelod arall o’r briodas honno’n cael lwfans o’r fath; a

(iii)yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), nad oes gan y ceisydd unrhyw annibynyddion sy’n 18 oed neu drosodd ac yn preswylio fel arfer gyda’r ceisydd, neu y mae’r ceisydd fel arfer y preswylio gyda hwy,

a naill ai mae person sydd â hawl i gael ac yn cael, lwfans gofalwr mewn perthynas â gofalu am un aelod yn unig o’r cwpl, neu, yn achos priodas amlbriod, am un neu ragor ond nid pob un o aelodau’r briodas, neu, yn ôl fel y digwydd, nad oes neb sydd â hawl i gael ac yn cael lwfans o’r fath mewn perthynas â gofalu am y naill na’r llall o aelodau’r cwpl, neu am unrhyw aelod o’r briodas amlbriod.

(3Pan fo gan geisydd bartner nad yw’n bodloni’r amod yn is-baragraff (2)(b)(ii), a’r partner hwnnw’n ddall neu’n cael ei drin fel pe bai’n ddall o fewn ystyr paragraff 10(1)(a)(vii) a (2), rhaid trin y partner hwnnw at ddibenion is-baragraff (2)(b)(ii) fel pe na bai’r person hwnnw’n bartner i’r ceisydd.

(4At ddibenion is-baragraff (2)(a)(ii) a (2)(b)(iii) rhaid peidio â chymryd i ystyriaeth—

(a)person sy’n cael lwfans gweini, neu lwfans byw i’r anabl yn rhinwedd yr elfen ofal ar y gyfradd uchaf neu’r gyfradd ganol a ragnodir yn unol ag adran 72(3) o DCBNC, neu elfen byw dyddiol y taliad annibyniaeth bersonol a delir ar y naill neu’r llall o’r cyfraddau a ragnodir yn unol â Rhan 4 o Ddeddf Diwygio Lles 2012, neu TALlA; neu

(b)person sy’n ddall neu a drinnir fel pe bai’n ddall o fewn ystyr paragraff 10(1)(a)(vii) a (2).

(5At ddibenion is-baragraff (2)(b) rhaid trin person—

(a)fel pe bai’n cael lwfans gweini, neu elfen ofal y lwfans byw i’r anabl ar y gyfradd uchaf neu’r gyfradd ganol a ragnodir yn unol ag adran 72(3) o DCBNC neu elfen byw dyddiol y taliad annibyniaeth bersonol sy’n daladwy ar y naill gyfradd neu’r llall o dan Ran 4 o Ddeddf Diwygio Lles 2012, neu TALlA, os byddai’r person hwnnw’n yn cael lwfans neu daliad felly, pe na bai wedi bod yn glaf am gyfnod hwy na 28 diwrnod;

(b)fel pe bai hawl ganddo i gael, ac yn cael, lwfans gofalwr, os byddai ganddo hawl i gael ac y byddai’n cael y lwfans hwnnw pe na bai’r person y mae’r person hwnnw’n gofalu amdano yn glaf mewn ysbyty am gyfnod hwy nag 28 diwrnod.

(6At ddibenion is-baragraff (2)(a)(iii) a (2)(b), rhaid peidio â chymryd i ystyriaeth ddyfarniad o lwfans gofalwr i’r graddau y mae taliad o’r cyfryw ddyfarniad wedi ei ôl-ddyddio ar gyfer cyfnod cyn y dyddiad y talwyd y dyfarniad gyntaf.

(7Yn is-baragraff (2)(a)(iii) a (b), mae cyfeiriadau at berson sy’n cael lwfans gofalwr yn cynnwys cyfeiriadau at berson a fyddai wedi bod yn cael y lwfans hwnnw oni bai am weithredu cyfyngiad o dan adran 6B neu 7 o Ddeddf Twyll Nawdd Cymdeithasol 2001(14) (darpariaethau colli budd-dal).

Premiwm anabledd uwch

12.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), yr amod yw—

(a)bod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi penderfynu bod gan y ceisydd, neu fod y ceisydd i’w drin fel pe bai ganddo, alluedd cyfyngedig ar gyfer gweithgaredd perthynol i waith; neu

(b)bod elfen ofal y lwfans byw i’r anabl yn daladwy ar y gyfradd uchaf a ragnodir o dan adran 72(3) o DCBNC, neu byddai’n daladwy pe na bai budd-dal wedi ei atal dros dro yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 113(2) o DCBNC neu oni bai am leihad oherwydd traddodi i ysbyty, mewn perthynas ag—

(i)y ceisydd; neu

(ii)aelod o deulu’r ceisydd,

nad yw wedi cyrraedd yr oedran cymwys ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth; neu

(c)bod elfen byw dyddiol y taliad annibyniaeth bersonol yn daladwy ar y gyfradd uwch a ragnodir yn unol ag adran 78(2) o Ddeddf Diwygio Lles 2012, neu byddai’n daladwy oni bai am atal budd-dal dros dro yn unol ag adran 86 o Ddeddf Diwygio Lles 2012 mewn perthynas ag—

(i)y ceisydd; neu

(ii)aelod o deulu’r ceisydd,

nad yw wedi cyrraedd yr oedran cymwys ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth; neu

(d)bod TALlA yn daladwy mewn perthynas ag—

(i)y ceisydd; neu

(ii)aelod o deulu’r ceisydd,

nad yw wedi cyrraedd yr oedran cymwys ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth.

(2Os peidir â bodloni’r amod yn is-baragraff (1) oherwydd marwolaeth plentyn neu berson ifanc, yr amod yw fod hawl gan y ceisydd neu bartner i gael budd-dal plant mewn perthynas â’r plentyn neu’r person ifanc o dan adran 145A o DCBNC (hawlogaeth ar ôl marwolaeth plentyn neu berson ifanc cymwys).

(3Ni fodlonir yr amod os yw’r person y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)—

(a)yn geisydd—

(i)nad yw’n aelod o gwpl neu briodas amlbriod; a

(ii)yn glaf o fewn ystyr paragraff 21(11)(g) o Atodlen 6 (trin costau gofal plant) ac wedi bod yn glaf felly am gyfnod hwy na 52 wythnos; neu

(b)yn aelod o gwpl neu briodas amlbriod y mae pob aelod ohono yn glaf o fewn ystyr paragraff 21(11)(g) o Atodlen 6 ac wedi bod yn glaf felly am gyfnod hwy na 52 wythnos.

Premiwm plentyn anabl

13.  Yr amod yw fod plentyn neu berson ifanc, sydd â’r ceisydd neu bartner y ceisydd yn gyfrifol amdano ac sy’n aelod o aelwyd y ceisydd—

(a)yn cael lwfans byw i’r anabl neu daliad annibyniaeth bersonol, neu nad yw bellach yn cael lwfans neu daliad o’r fath oherwydd bod y plentyn neu’r person ifanc yn glaf, ar yr amod bod y plentyn neu’r person ifanc yn parhau’n aelod o’r teulu; neu

(b)yn ddall neu’n cael ei drin fel pe bai’n ddall o fewn ystyr paragraff 10; neu

(c)yn blentyn neu berson ifanc y mae adran 145A o DCBNC (hawlogaeth ar ôl marwolaeth plentyn neu berson ifanc cymwys) yn gymwys mewn perthynas ag ef at ddibenion hawlogaeth i fudd-dal plant, ond yn unig am y cyfnod a ragnodir o dan yr adran honno, ac y cynhwyswyd premiwm plentyn anabl mewn perthynas ag ef yn swm cymwysadwy’r ceisydd yn union cyn marwolaeth y plentyn neu’r person ifanc hwnnw, neu peidiwyd â’i gynnwys yn swm cymwysadwy’r ceisydd oherwydd marwolaeth y plentyn neu’r person ifanc hwnnw; neu

(d)yn cael TALlA.

Premiwm gofalwr

14.—(1Yr amod yw fod hawl gan y ceisydd neu bartner y ceisydd, neu’r ddau ohonynt, i gael lwfans gofalwr o dan adran 70 o DCBNC.

(2Pan fo premiwm gofalwr wedi ei ddyfarnu ond—

(a)bu farw’r person y dyfarnwyd y lwfans gofalwr mewn perthynas â’i ofal; neu

(b)mewn unrhyw achos arall, bod hawl y person, y dyfarnwyd y premiwm gofalwr mewn perthynas ag ef, i gael lwfans gofalwr yn dod i ben,

rhaid trin yr amod ar gyfer dyfarnu’r premiwm fel pe bai wedi ei fodloni am gyfnod o wyth wythnos o’r dyddiad perthnasol a bennir yn is-baragraff (3).

(3Y dyddiad perthnasol at ddibenion is-baragraff (2) fydd y canlynol—

(a)os yw is-baragraff (2)(a) yn gymwys, y dydd Sul sy’n dilyn marwolaeth y person y dyfarnwyd lwfans gofalwr mewn perthynas â’i ofal, neu ddyddiad y farwolaeth os bu farw ar ddydd Sul;

(b)mewn unrhyw achos arall, y dyddiad y daeth i ben hawl y person, yr oedd ganddo hawl i gael lwfans gofalwr, i gael y lwfans hwnnw.

(4Pan fo person, y bu hawl ganddo i gael lwfans gofalwr, yn gwneud cais am ostyngiad wedi i’w hawl i gael y lwfans hwnnw ddod i ben, rhaid trin yr amod ar gyfer dyfarnu’r premiwm gofalwr fel pe bai wedi ei fodloni am gyfnod o wyth wythnos—

(a)o’r dyddiad y bu farw’r person y dyfarnwyd y lwfans gofalwr mewn perthynas â’i ofal;

(b)mewn unrhyw achos arall, o’r dyddiad y daeth i ben hawl y person, yr oedd ganddo hawl i gael lwfans gofalwr, i gael y lwfans hwnnw.

Personau sy’n cael taliadau consesiynol

15.  At y diben o benderfynu a oes premiwm yn gymwysadwy o dan baragraffau 10 i 14, rhaid trin unrhyw daliad consesiynol, a wnaed i ddigolledu’r person hwnnw oherwydd methiant i dalu unrhyw fudd-dal a grybwyllir yn y paragraffau hynny, fel pe bai’n daliad o’r budd-dal hwnnw.

Personau sy’n cael budd-dal ar gyfer rhywun arall

16.  At ddibenion y Rhan hon o’r Atodlen hon, mae person i’w ystyried fel pe bai’n cael unrhyw fudd-dal os, ac yn unig os, telir y budd-dal mewn perthynas â’r person hwnnw, ac mae’r person i’w ystyried felly yn ystod, yn unig, pa bynnag gyfnod y telir y budd-dal hwnnw mewn perthynas ag ef.

RHAN 4Symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3

PremiwmSwm

17.—(1Premiwm Anabledd—

(a)

pan fo’r ceisydd yn bodloni’r amod ym mharagraff 9(a);

£31.00;
(b)

pan fo’r ceisydd yn bodloni’r amod ym mharagraff 9(b)

£44.20.

(2Premiwm Anabledd Difrifol—

(a)

pan fo’r ceisydd yn bodloni’r amod ym mharagraff 11(2)(a);

£59.50;
(b)

pan fo’r ceisydd yn bodloni’r amod ym mharagraff 11(2)(b)—

(i)

mewn achos pan fo rhywun yn cael lwfans gofalwr neu pan fo’r person hwnnw neu unrhyw bartner yn bodloni’r amod hwnnw yn rhinwedd paragraff 11(5) yn unig;

£59.50;
(ii)

mewn achos pan nad oes neb yn cael lwfans o’r fath.

£119.00.

(3Premiwm Plentyn Anabl.

£57.89 mewn perthynas â phob plentyn neu berson ifanc y mae’r amod a bennir ym mharagraff 13 o Ran 3 wedi ei fodloni mewn perthynas ag ef.

(4Premiwm Gofalwr.

£33.30 mewn perthynas â phob person sy’n bodloni’r amod a bennir ym mharagraff 14.

(5Premiwm Anabledd Uwch.

(a)

£23.45 mewn perthynas â phob plentyn neu berson ifanc y bodlonir yr amodau a bennir ym mharagraff 12 mewn perthynas ag ef;

(b)

£15.15 mewn perthynas â phob person—

(i)

nad yw yn blentyn neu berson ifanc, ac

(ii)

nad yw’n aelod o gwpl neu briodas amlbriod;

(iii)

y bodlonir yr amodau a bennir ym mharagraff 12 mewn perthynas ag ef;

(c)

£21.75 pan fo’r ceisydd yn aelod o gwpl neu briodas amlbriod ac y bodlonir yr amodau a bennir ym mharagraff 12 mewn perthynas ag aelod o’r cwpl hwnnw neu’r briodas amlbriod honno.

RHAN 5Yr elfennau

18.  Yn ddarostyngedig i baragraff 20, mae hawl gan y ceisydd i gael un, ond nid y ddwy o’r elfennau ym mharagraff 21 neu 22 os yw—

(a)y ceisydd neu bartner y ceisydd wedi gwneud cais am lwfans cyflogaeth a chymorth;

(b)bod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi penderfynu bod gan y ceisydd neu bartner y ceisydd alluedd cyfyngedig ar gyfer gwaith neu alluedd cyfyngedig ar gyfer gweithgaredd perthynol i waith, neu fod y ceisydd neu bartner y ceisydd i’w drin felly; ac

(c)naill ai bod—

(i)y cyfnod asesu, yn yr ystyr o “assessment phase” fel y’i diffinnir yn adran 24(2) o Ddeddf Diwygio Lles 2007(15), wedi dod i ben; neu

(ii)rheoliad 7 o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008(16) (amgylchiadau pan nad yw’r amod bod y cyfnod asesu wedi dod i ben cyn bod hawlogaeth i’r elfen gymorth neu’r elfen gweithgaredd perthynol i waith yn gymwys) yn gymwys.

19.  Yn ddarostyngedig i baragraff 20, mae hawl gan y ceisydd i gael un, ond nid y ddwy o’r elfennau ym mharagraff 21 a 22 os oes hawl gan y ceisydd neu bartner y ceisydd i gael lwfans cyflogaeth a chymorth a droswyd.

20.—(1Nid oes gan y ceisydd hawlogaeth o dan baragraff 21 neu 22 os oes hawl gan y ceisydd i gael y premiwm anabledd o dan baragraffau 9 a 10.

(2Os yw’r ceisydd a phartner y ceisydd ill dau’n bodloni paragraff 21 neu 22, yr elfen sydd i’w chynnwys yn swm cymwysadwy’r ceisydd yw’r elfen sy’n berthynol i’r ceisydd.

Yr elfen gweithgaredd perthynol i waith

21.  Mae hawl gan y ceisydd i gael yr elfen gweithgaredd perthynol i waith os yw’r Ysgrifennydd Gwladol wedi penderfynu bod gan y ceisydd neu bartner y ceisydd alluedd cyfyngedig ar gyfer gwaith, neu ei fod i’w drin felly.

Yr elfen gymorth

22.  Mae hawl gan y ceisydd i gael yr elfen gymorth os yw’r Ysgrifennydd Gwladol wedi penderfynu bod gan y ceisydd neu bartner y ceisydd alluedd cyfyngedig ar gyfer gweithgaredd perthynol i waith, neu ei fod i’w drin felly.

RHAN 6Symiau’r elfennau

23.  Swm yr elfen gweithgaredd perthynol i waith yw £28.45.

24.  Swm yr elfen gymorth yw £34.80.

RHAN 7Ychwanegiad trosiannol

25.—(1Mae hawl gan y ceisydd i gael yr ychwanegiad trosiannol a gyfrifir yn unol â pharagraff 28 yn yr amgylchiadau canlynol—

(a)pan fo hawl gan ceisydd neu bartner y ceisydd (“y person perthnasol”) i gael lwfans cyflogaeth a chymorth a droswyd; neu

(b)pan fo’r person perthnasol yn apelio yn erbyn penderfyniad trosi yn yr ystyr o “conversion decision” fel y’i disgrifir yn rheoliad 5(2)(b) o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (Darpariaethau Trosiannol, Budd-dal Tai a Budd-dal Treth Gyngor) (Dyfarniadau Presennol) (Rhif 2) 2010(17) ac—

(i)y’i trinnir fel pe bai ganddo alluedd cyfyngedig ar gyfer gwaith yn rhinwedd rheoliad 30 o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008 fel y’i haddaswyd gan Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (Darpariaethau Trosiannol, Budd-dal Tai a Budd-dal Treth Gyngor) (Dyfarniadau Presennol) (Rhif 2) 2010; a

(ii)nad yw’n cael lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm,

oni fyddai swm yr ychwanegiad trosiannol a gyfrifid yn unol â pharagraff 28 yn ddim.

(2Bydd hawlogaeth y ceisydd i gael ychwanegiad trosiannol yn rhinwedd y paragraff hwn yn dod i ben pan ddigwydd unrhyw un o’r canlynol—

(a)gostyngiad yr ychwanegiad trosiannol i ddim yn unol â pharagraff 29;

(b)terfynu’r dyfarniad o ostyngiad i’r ceisydd o dan gynllun awdurdod;

(c)y person perthnasol yn peidio â bodloni gofynion is-baragraff (1)(a) neu (b), yn ôl fel y digwydd;

(d)y ceisydd neu bartner y ceisydd yn ennill yr hawl i gael lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu gymhorthdal incwm;

(e)5 Ebrill 2020.

26.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo—

(a)hawl y ceisydd i gael ychwanegiad trosiannol yn dod i ben yn rhinwedd terfynu’r dyfarniad o ostyngiad i’r ceisydd, o dan—

(i)paragraff 25(2)(b);

(ii)is-baragraff (3)(b) o’r paragraff hwn; neu

(iii)paragraff 27(3)(b);

(b)o fewn 12 wythnos ar ôl y terfyniad hwnnw ond cyn 5 Ebrill 2020, y ceisydd yn ennill yr hawl drachefn i gael gostyngiad o dan gynllun awdurdod;

(c)yn yr wythnos ostyngiad y daw’r ceisydd yn gymwys drachefn i gael gostyngiad o dan gynllun awdurdod, mae hawl gan y person perthnasol i gael lwfans cyflogaeth a chymorth nad yw’n seiliedig ar incwm; a

(d)ar y dyddiad y mae’r ceisydd yn ennill yr hawl drachefn i gael gostyngiad o dan gynllun awdurdod, nid oes hawl gan y ceisydd na phartner y ceisydd i gael lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm na chymhorthdal incwm.

(2Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, mae hawl gan y ceisydd, yn effeithiol o’r diwrnod y mae’r ceisydd yn ennill yr hawl drachefn i gael gostyngiad o dan gynllun awdurdod, i gael ychwanegiad trosiannol o swm yr ychwanegiad trosiannol y byddid wedi ei ddyfarnu pe na bai hawlogaeth y ceisydd i gael ychwanegiad trosiannol wedi dod i ben (ond gan gymryd i ystyriaeth yr effaith y byddai unrhyw newid yn yr amgylchiadau, a ddigwyddodd yn y cyfamser wedi ei gael yn rhinwedd paragraff 29), oni fyddai swm yr ychwanegiad trosiannol yn ddim.

(3Bydd hawlogaeth y ceisydd i gael ychwanegiad trosiannol yn rhinwedd y paragraff hwn yn dod i ben pan ddigwydd unrhyw un o’r canlynol—

(a)gostyngiad yr ychwanegiad trosiannol i ddim yn unol â pharagraff 29;

(b)terfynu’r dyfarniad o ostyngiad i’r ceisydd o dan gynllun awdurdod;

(c)hawl y person perthnasol i gael y lwfans cyflogaeth a chymorth y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(c) yn dod i ben;

(d)y ceisydd neu bartner y ceisydd yn ennill yr hawl i gael lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu gymhorthdal incwm;

(e)5 Ebrill 2020.

27.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan ddigwydd yr amgylchiadau canlynol—

(a)hawlogaeth y ceisydd i gael ychwanegiad trosiannol yn dod i ben yn rhinwedd terfynu hawl y person perthnasol i gael lwfans cyflogaeth a chymorth, o dan—

(i)paragraff 25(2)(c);

(ii)paragraff 26(3)(c); neu

(iii)is-baragraff (3)(c);

(b)y person perthnasol, cyn 5 Ebrill 2020, yn ennill yr hawl drachefn i gael lwfans cyflogaeth a chymorth nad yw’n seiliedig ar incwm;

(c)ar y dyddiad y mae’r person perthnasol yn ennill yr hawl drachefn i gael lwfans cyflogaeth a chymorth nad yw’n seiliedig ar incwm, rheoliad 145(1) o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008 yn gymwys i’r person perthnasol; a

(d)ar y dyddiad y mae’r person perthnasol yn ennill yr hawl drachefn i gael lwfans cyflogaeth a chymorth nad yw’n seiliedig ar incwm, nid oes hawl gan y ceisydd na phartner y ceisydd i gael lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm na chymhorthdal incwm.

(2Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, mae hawl gan y ceisydd, yn effeithiol o’r diwrnod y bydd hawlogaeth y person perthnasol i gael lwfans cyflogaeth a chymorth yn cael effaith at ddibenion gostyngiad o dan gynllun awdurdod, i gael ychwanegiad trosiannol o swm yr ychwanegiad trosiannol y byddid wedi ei ddyfarnu pe na bai hawlogaeth y ceisydd i gael ychwanegiad trosiannol wedi dod i ben (ond gan gymryd i ystyriaeth yr effaith y byddai unrhyw newid yn yr amgylchiadau, a ddigwyddodd yn y cyfamser wedi ei gael yn rhinwedd paragraff 29), oni fyddai swm yr ychwanegiad trosiannol yn ddim.

(3Bydd hawlogaeth y ceisydd i gael ychwanegiad trosiannol yn rhinwedd y paragraff hwn yn dod i ben pan ddigwydd unrhyw un o’r canlynol—

(a)gostyngiad yr ychwanegiad trosiannol i ddim yn unol â pharagraff 29;

(b)terfynu’r dyfarniad o ostyngiad i’r ceisydd o dan gynllun awdurdod;

(c)hawl y person perthnasol i gael y lwfans cyflogaeth a chymorth y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(b) yn dod i ben;

(d)y ceisydd neu bartner y ceisydd yn ennill yr hawl i gael lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu gymhorthdal incwm;

(e)5 Ebrill 2020.

RHAN 8Swm yr ychwanegiad trosiannol

28.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff 29, swm yr ychwanegiad trosiannol yw’r gwahaniaeth rhwng y Swm A a’r Swm B (A>B).

(2Pan wneir penderfyniad trosi yn yr ystyr o “conversion decision” fel y’i disgrifir yn rheoliad 5(2)(a) o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (Darpariaethau Trosiannol, Budd-dal Tai a Budd-dal Treth Gyngor) (Dyfarniadau Presennol) (Rhif 2) 2010 (“Rheoliadau 2010”) mewn perthynas â’r person perthnasol—

(a)Swm A yw’r swm sylfaenol y byddid wedi ei gymhwyso ar y diwrnod yr oedd y penderfyniad yn cael effaith, pe na bai’r penderfyniad hwnnw wedi ei wneud; a

(b)Swm B yw’r swm sylfaenol a gymhwyswyd ar y diwrnod hwnnw o ganlyniad i’r penderfyniad.

(3Pan fo’r person perthnasol yn apelio yn erbyn penderfyniad trosi fel y’i disgrifir yn rheoliad 5(2)(b) o Reoliadau 2010 a thrinnir y person perthnasol fel pe bai ganddo alluedd cyfyngedig ar gyfer gwaith yn rhinwedd rheoliad 30 o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008 fel y’i haddaswyd gan Reoliadau 2010—

(a)Swm A yw’r swm sylfaenol y byddid wedi ei gymhwyso ar y diwrnod y triniwyd y person perthnasol gyntaf fel pe bai ganddo alluedd cyfyngedig ar gyfer gwaith, pe na bai’r person perthnasol wedi ei drin felly; a

(b)Swm B yw’r swm sylfaenol a gymhwyswyd ar y diwrnod hwnnw o ganlyniad i drin y person perthnasol felly.

(4Yn y paragraff hwn a pharagraff 29, ystyr “swm sylfaenol” (“basic amount”) yw swm cyfanredol y cyfryw symiau a allai fod yn gymwys yn achos y ceisydd yn unol â pharagraff 1(1)(a) i (e) neu baragraff (2)(2)(a) i (f) o Atodlen 6.

29.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), os digwydd unrhyw newid yn yr amgylchiadau sy’n arwain at gynnydd yn swm sylfaenol y ceisydd, rhaid lleihau’r ychwanegiad trosiannol a oedd yn gymwys yn union cyn y newid yn yr amgylchiadau, o swm sy’n hafal i’r gwahaniaeth rhwng Swm C a Swm D (C>D).

(2Os yw’r gwahaniaeth rhwng Swm C a Swm D yn fwy na swm yr ychwanegiad trosiannol a oedd yn gymwys yn union cyn y newid yn yr amgylchiadau, rhaid lleihau’r ychwanegiad trosiannol hwnnw i ddim.

(3Swm C yw’r swm sylfaenol sy’n gymwys o ganlyniad i’r cynnydd.

(4Swm D yw’r swm sylfaenol a oedd yn gymwys yn union cyn y cynnydd.

(10)

Diwygiwyd is-baragraff (3) gan adran 17 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012 (p.7).

(11)

1948 p.29.

(12)

1994 p.39.

(14)

2001 p.11.

(15)

2007 p.5.