xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2013 Rhif 2750 (Cy. 267)

Bwyd, Cymru

Rheoliadau Suddoedd Ffrwythau a Neithdarau Ffrwythau (Cymru) 2013

Gwnaed

25 Hydref 2013

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

28 Hydref 2013

Yn dod i rym

20 Tachwedd 2013

Mae’r Rheoliadau a ganlyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(1) ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i unrhyw gyfeiriadau yn y Rheoliadau a ganlyn at un o offerynnau’r UE a restrir yn Atodlen 1 gael ei ddehongli fe pe bai’n gyfeiriad at yr offeryn fel y’i diwygiwyd o dro i dro.

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi (2) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 o ran bwyd (gan gynnwys diod) gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol bwyd.

I’r graddau y mae’r Rheoliadau a ganlyn wedi eu gwneud drwy arfer pwerau o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(3), mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn unol ag adran 48(4A)(4) o’r Ddeddf honno.

Ymgynghorwyd yn unol â gofynion Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(5).

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan y canlynol—

(a)

paragraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(6), i’r graddau y mae’n ymwneud â rheoliad 3(3) ac Atodlen 1;

(b)

adran 4(1), (2), (3), (4) ac (8) ac adran 10 o Fesur Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009(7) i’r graddau y mae’n ymwneud â’r canlynol—

(i)

rheoliad 21, i’r graddau y mae’n ymwneud â pharagraff 2 o Atodlen 15, a

(ii)

paragraff 2 o Atodlen 15; ac

(c)

adrannau 6(4)(8), 16(1)(a) ac (e), 17(1), 26(1)(a) a (3)(9) a 48(1)(10) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, sydd bellach wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru(11), i’r graddau y maent yn ymwneud â darpariaethau eraill y Rheoliadau hyn.

Enwi, cymhwyso, cychwyn a dod i ben

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Suddoedd Ffrwythau a Neithdarau Ffrwythau (Cymru) 2013 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 20 Tachwedd 2013.

(3Daw effaith rheoliad 15 i ben ar 13 Rhagfyr 2014.

Diffiniadau o “sudd ffrwythau” a chynhyrchion tebyg

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn ystyr “sudd ffrwythau” (“fruit juice”) (oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall) yw cynnyrch sy’n cydymffurfio â’r fanyleb yn Atodlen 2.

(2Yn y Rheoliadau hyn—

(a)ystyr “sudd ffrwythau o ddwysfwyd” (“fruit juice from concentrate”) yw cynnyrch sy’n cydymffurfio â’r fanyleb yn Atodlen 3;

(b)ystyr “sudd ffrwythau wedi ei ddwysáu” (“concentrated fruit juice”) yw cynnyrch sy’n cydymffurfio â’r fanyleb yn Atodlen 4;

(c)ystyr “sudd ffrwythau y tynnwyd dŵr ohono” (“waterextractedfruit juice”) yw cynnyrch sy’n cydymffurfio â’r fanyleb yn Atodlen 5; a

(d)ystyr “sudd ffrwythau dadhydredig” (“dehydrated fruit juice”) neu “sudd ffrwythau powdr” (“powderedfruit juice”) yw cynnyrch sy’n cydymffurfio â’r fanyleb yn Atodlen 6.

(3Yn y Rheoliadau hyn ystyr “neithdar ffrwythau” (“fruit nectar”) yw cynnyrch sy’n cydymffurfio â’r fanyleb yn Atodlen 7.

Dehongli yn gyffredinol

3.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “blas” (“flavour”), ac eithrio ym mharagraff 1 o Atodlen 2 a Rhan 2 o Atodlen 7, yw blas at adfer—

(a)

a geir wrth i ffrwythau gael eu prosesu drwy ddefnyddio prosesau ffisegol addas (gan gynnwys gwasgu, tynnu, distyllu, hidlo, arsugno, anweddu, ffracsiynu a dwysáu) er mwyn cael, diogelu, preserfio neu sefydlogi ansawdd y blas, a

(b)

sy’n olew sy’n cael ei wasgu yn oer o groen sitrws neu sy’n gyfansoddion o gerrig ffrwythau neu a geir o rannau bwytadwy’r ffrwyth;

ystyr “Cyfarwyddeb 2001/112/EC” (“Directive2001/112/EC”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2001/112/EC sy’n ymwneud â suddoedd ffrwythau a chynhyrchion penodol tebyg a fwriedir i bobl eu hyfed (12);

ystyr “cynhwysyn ychwanegol awdurdodedig” (“authorised additional ingredient”) yw cynhwysyn ychwanegol a restrwyd yn Atodlen 8;

ystyr “cynnyrch rheoleiddiedig” (“regulated product”) yw unrhyw rai o’r canlynol—

(a)

sudd ffrwythau;

(b)

sudd ffrwythau o ddwysfwyd;

(c)

sudd ffrwythau wedi ei ddwysáu;

(d)

sudd ffrwythau y tynnwyd dŵr ohono;

(e)

sudd ffrwythau dadhydredig;

(f)

sudd ffrwythau powdr; a

(g)

neithdar ffrwythau;

ystyr “y Ddeddf” (“theAct”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

ystyr “ffrwyth” neu “ffrwythau” (“fruit”) yw unrhyw fath o ffrwyth (gan gynnwys tomatos) sy’n iach, yn briodol o aeddfed, ac yn ffres neu wedi ei breserfio drwy gyfrwng—

(a)

dull ffisegol, neu

(b)

triniaeth, gan gynnwys triniaeth ar ôl eu cynaeafu;

mae i “mêl” yr ystyr a roddir i “honey” ym mhwynt 1 o Atodiad I i Gyfarwyddeb y Cyngor 2001/110/EC sy’n ymwneud â mêl (13);

mae i “mewn masnach” yr un ystyr ag sydd i “in trade” yng Nghyfarwyddeb 2001/112/EC ac mae ymadroddion cytras i’w dehongli yn unol â hynny

ystyr “mwydion neu gelloedd” (“pulp or cells”) yw—

(a)

o ran ffrwythau sitrws, y codenni sudd a geir o’r endocarp, neu

(b)

o ran unrhyw ffrwythau eraill, y cynhyrchion a geir o’r rhannau bwytadwy o’r ffrwyth heb dynnu’r sudd;

ystyr “piwrî ffrwythau” (“fruit purée”) yw’r cynnyrch eplesadwy ond heb ei eplesu a geir drwy brosesau ffisegol addas megis hidlo, malu neu felino’r rhan fwytadwy o’r ffrwyth cyfan neu’r ffrwyth wedi ei bilio heb dynnu’r sudd;

ystyr “piwrî ffrwythau wedi ei ddwysáu” (“concentrated fruit purée”) yw’r cynnyrch a geir o biwrî ffrwythau drwy dynnu cyfran benodol o’r dŵr sydd ynddo, ac, os oes blas wedi ei adfer iddo, y mae’r blas hwnnw wedi ei adennill o’r un rhywogaeth o ffrwyth;

ystyr “Rheoliad 1935/2004” (“Rheoliad1935/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1935/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch deunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd ac sy’n dirymu Cyfarwyddebau 80/590/EEC a 89/109/EEC(14);

ystyr “Rheoliad 1333/2008” (“Rheoliad 1333/2008”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1333/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch ychwanegion bwyd(15);

ystyr “siwgrau” (“sugars”) yw unrhyw rai o’r canlynol—

(a)

siwgrau fel y’u diffinnir gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2001/111/EC sy’n ymwneud â siwgrau penodol a fwriedir i bobl eu bwyta(16);

(b)

surop ffrwctos;

(c)

siwgrau sy’n deillio o ffrwythau;

ystyr “sylwedd ychwanegol awdurdodedig” (“authorised additional substance”) yw sylwedd ychwanegol a restrwyd yn Atodlen 9; ac

ystyr “triniaeth awdurdodedig” (“authorisedtreatment”) yw triniaeth a restrwyd yn Atodlen 10.

(2Mae i unrhyw ymadrodd arall sydd heb ei ddiffinio yn y Rheoliadau hyn ac a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac y defnyddir yr ymadrodd Saesneg cyfatebol yng Nghyfarwyddeb 2001/112/EC yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd i’r ymadrodd Saesneg cyfatebol hwnnw yn y Gyfarwyddeb honno.

(3Yn y Rheoliadau hyn, mae unrhyw gyfeiriad at un o offerynnau’r UE a restrwyd yn Atodlen 1 yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y’i diwygiwyd o dro i dro.

Defnyddio’r enw sudd ffrwythau

4.—(1Rhaid i berson sy’n masnachu mewn sudd ffrwythau ddefnyddio’r enw “[x] juice” fel enw’r cynnyrch gan osod enw’r ffrwyth y daeth y sudd ohono yn lle “[x]” yn unol â rheoliad 10.

(2Ond nid yw paragraff (1) yn atal enw a restrwyd yng ngholofn 2 o Atodlen 11 rhag cael ei ddefnyddio fel enw ar sudd ffrwythau ar yr amod—

(a)bod yr enw yn yr iaith y darperir ar ei chyfer yng ngholofn 2 yn yr Atodlen honno, a

(b)bod y sudd ffrwythau yn bodloni’r gofynion ynglŷn â’r disgrifiad o’r cynnyrch cyfatebol yng ngholofn 3 yn yr Atodlen honno.

(3Rhaid i berson beidio â defnyddio’r enw “fruit juice”, neu “juice” ynghyd ag enw ffrwyth, mewn masnach, fel enw cynnyrch os nad sudd ffrwythau yw’r cynnyrch.

Defnyddio’r enw sudd ffrwythau o ddwysfwyd

5.—(1Rhaid i berson sy’n masnachu mewn sudd ffrwythau o ddwysfwyd ddefnyddio’r enw “[x] juice from concentrate” fel enw’r cynnyrch gan osod enw’r ffrwyth y daeth y sudd ohono yn lle “[x]” yn unol â rheoliad 10.

(2Rhaid i berson beidio â defnyddio’r enw “fruit juice from concentrate”, neu “juice from concentrate” ynghyd ag enw ffrwyth, mewn masnach, fel enw cynnyrch os nad sudd ffrwythau o ddwysfwyd yw’r cynnyrch.

Defnyddio’r enw sudd ffrwythau wedi ei ddwysáu

6.—(1Rhaid i berson sy’n masnachu mewn sudd ffrwythau wedi ei ddwysáu ddefnyddio’r enw “concentrated [x] juice” fel enw’r cynnyrch gan osod enw’r ffrwyth y daeth y sudd ohono yn lle “[x]” yn unol â rheoliad 10.

(2Rhaid i berson beidio â defnyddio’r enw “concentrated fruit juice”, neu “concentrated juice” ynghyd ag enw ffrwyth, mewn masnach, fel enw cynnyrch os nad sudd ffrwythau wedi ei ddwysáu yw’r cynnyrch.

Defnyddio’r enw sudd ffrwythau y tynnwyd dŵr ohono

7.—(1Rhaid i berson sy’n masnachu mewn sudd ffrwythau y tynnwyd dŵr ohono ddefnyddio’r enw “water extracted [x] juice” fel enw’r cynnyrch gan osod enw’r ffrwyth y daeth y sudd ohono yn lle “[x]” yn unol â rheoliad 10.

(2Rhaid i berson beidio â defnyddio’r enw “water extracted fruit juice”, neu “water extracted juice” ynghyd ag enw ffrwyth, mewn masnach, fel enw cynnyrch os nad sudd ffrwythau y tynnwyd dŵr ohono yw’r cynnyrch.

Defnyddio’r enw sudd ffrwythau dadhydredig a sudd ffrwythau powdr

8.—(1Rhaid i berson sy’n masnachu mewn cynnyrch sy’n cydymffurfio â’r manylebau yn Atodlen 6 ddefnyddio’r enw “dehydrated [x] juice” neu “powdered [x] juice” fel enw’r cynnyrch gan osod enw’r ffrwyth y daeth y sudd ohono yn lle “[x]” yn unol â rheoliad 10.

(2Rhaid i berson beidio â defnyddio’r enw “dehydrated fruit juice” neu “powdered fruit juice”, neu “dehydrated juice” neu “powdered juice” ynghyd ag enw ffrwyth, mewn masnach, fel enw cynnyrch os nad yw’r cynnyrch yn cydymffurfio â’r manylebau yn Atodlen 6.

Defnyddio’r enw neithdar ffrwythau

9.—(1Rhaid i berson sy’n masnachu mewn neithdar ffrwythau ddefnyddio’r enw “[x] nectar” fel enw’r cynnyrch gan osod enw’r ffrwyth y daeth y neithdar ohono yn lle “[x]” yn unol â rheoliad 10.

(2Ond nid yw paragraff (1) yn atal enw a restrwyd yng ngholofn 2 o Atodlen 12 rhag cael ei ddefnyddio fel enw ar neithdar ffrwythau ar yr amod—

(a)bod yr enw yn yr iaith y darperir ar ei chyfer yng ngholofn 2 yn yr Atodlen honno, a

(b)bod y neithdar ffrwythau yn bodloni’r gofynion ynglŷn â’r disgrifiad o’r cynnyrch cyfatebol yng ngholofn 3 yn yr Atodlen honno.

(3Rhaid i berson beidio â defnyddio’r enw “fruit nectar”, neu “nectar” ynghyd ag enw ffrwyth, mewn masnach, fel enw cynnyrch os nad neithdar ffrwythau yw’r cynnyrch hwnnw.

Dangos y mathau o ffrwythau a ddefnyddiwyd

10.—(1Rhaid i berson beidio â masnachu mewn cynnyrch rheoleiddiedig oni bai bod enw’r cynnyrch yn dangos y mathau o ffrwythau y daeth y cynnyrch ohonynt yn unol â pharagraffau (2) i (7).

(2Os gweithgynhyrchir cynnyrch rheoleiddiedig o un fath o ffrwyth, rhaid rhoi enw’r ffrwyth hwnnw yn lle’r “[x]” yn enw’r cynnyrch.

(3Os gweithgynhyrchir cynnyrch rheoleiddiedig o ddau fath o ffrwythau (heb gynnwys defnyddio un neu fwy o blith sudd lemon, sudd leim, sudd lemon wedi ei ddwysáu a sudd leim wedi ei ddwysáu yn unol â pharagraff 3 o Atodlen 8), rhaid rhoi rhestr o enwau’r ffrwythau a ddefnyddiwyd yn lle “[x]” yn enw’r cynnyrch.

(4Os gweithgynhyrchir cynnyrch rheoleiddiedig o dri neu fwy o fathau o ffrwythau (heb gynnwys defnyddio un neu fwy o blith sudd lemon, sudd leim, sudd lemon wedi ei ddwysáu a sudd leim wedi ei ddwysáu yn unol â pharagraff 3 o Atodlen 8), yn lle “[x]” yn enw’r cynnyrch rhaid rhoi—

(a)rhestr o enwau’r ffrwythau a ddefnyddiwyd;

(b)y geiriau “several fruits” neu eiriau tebyg; neu

(c)nifer y mathau o ffrwythau a ddefnyddiwyd.

(5At ddibenion paragraff (3) a (4)(a), rhaid i’r rhestr o enwau’r ffrwythau gael ei nodi yn nhrefn ddisgynnol y suddoedd neu’r piwrïau a gynhwyswyd o bob math o ffrwyth, yn ôl eu cyfaint, fel y’u gwelir yn y rhestr cynhwysion.

(6Pan ddefnyddir rhywogaeth o ffrwyth a restrwyd yng ngholofn 2 o Atodlen 13 wrth baratoi sudd ffrwythau, piwrî ffrwythau neu neithdar ffrwythau, yr enw y mae’n rhaid ei roi fel enw’r ffrwyth yn enw’r cynnyrch yn unol â gofynion y rheoliad hwn yw—

(a)enw cyffredin y ffrwyth a bennwyd yng ngholofn 1 o Atodlen 13, neu

(b)enw botanegol y ffrwyth a bennwyd yng ngholofn 2 o Atodlen 13.

(7Yn achos unrhyw rywogaeth arall o ffrwyth a ddefnyddir wrth baratoi sudd ffrwythau, piwrî ffrwythau neu neithdar ffrwythau, yr enw y mae’n rhaid ei roi fel enw’r ffrwyth yn enw’r cynnyrch yn unol â gofynion y rheoliad hwn yw—

(a)enw cyffredin y ffrwyth, neu

(b)enw botanegol y ffrwyth.

(8Yn y rheoliad hwn rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad at “[x]” yn enw cynnyrch gan gymryd i ystyriaeth y darpariaethau ynglŷn ag enwau cynhyrchion yn rheoliadau 4 i 9.

Dangos bod mwydion a chelloedd ychwanegol wedi eu hychwanegu

11.—(1Rhaid i berson beidio â masnachu mewn sudd ffrwythau yr ychwanegwyd mwydion neu gelloedd ychwanegol ato oni bai bod ei label yn dangos ychwanegiad o’r fath.

(2Ym mharagraff (1), mae i “sudd ffrwythau” yr un ystyr ag sydd i “fruit juice” yn ail is-baragraff pwynt 5 o Erthygl 3 o Gyfarwyddeb 2001/112/EC.

Labelu sudd ffrwythau a wnaed yn rhannol o ddwysfwyd

12.—(1Rhaid i berson beidio â masnachu mewn sudd ffrwythau sy’n cynnwys cymysgedd o sudd ffrwythau a sudd ffrwythau o ddwysfwyd oni bai bod ei label yn dwyn y geiriau “partially from concentrate” neu, yn ôl y digwydd, “partially from concentrates”.

(2Rhaid i’r geiriad y mae paragraff (1) yn gofyn amdano ymddangos yn agos i enw’r cynnyrch mewn nodau sy’n eglur i’w gweld ac sy’n cyferbynnu’n dda â’r cefndir y mae’n ymddangos arno.

Labelu sudd ffrwythau wedi ei ddwysáu na fwriedir ei ddosbarthu i’r cwsmer terfynol

13.  Rhaid i berson beidio â masnachu mewn sudd ffrwythau wedi ei ddwysáu na fwriedir ei ddosbarthu i’r cwsmer terfynol oni bai ei fod yn dangos ar ei becyn, ar label sydd ynghlwm wrth ei becyn neu mewn dogfen sy’n cyd-fynd ag ef, fod unrhyw rai o’r canlynol yn bresennol ynddo a faint ohonynt sydd ynddo—

(a)sudd lemon ychwanegol,

(b)sudd leim ychwanegol,

(c)asiantau asideiddio a ganiateir gan Reoliad 1333/2008.

Labelu neithdar ffrwythau

14.—(1Rhaid i berson beidio â masnachu mewn neithdar ffrwythau oni bai bod labeli’r cynnyrch yn cydymffurfio â pharagraffau (2) i (8).

(2Rhaid i labeli neithdar ffrwythau ddangos isafswm cynnwys y sudd ffrwythau, y piwrî ffrwythau neu’r cymysgedd o sudd ffrwythau a phiwrî ffrwythau y mae’n ei gynnwys, gan ddefnyddio’r geiriau “fruit content: [x]% minimum” gan roi’r ffigur priodol yn lle “[x]”.

(3Rhaid i’r geiriad y mae paragraff (2) yn gofyn amdano gael ei leoli yn yr un maes gwelediad ag enw’r cynnyrch.

(4Rhaid i labeli neithdar ffrwythau a gafwyd yn gyfan gwbl o un neu fwy o gynhyrchion wedi eu dwysáu ddwyn y geiriau “from concentrate” neu, yn ôl y digwydd, “from concentrates”.

(5Rhaid i labeli neithdar ffrwythau a gafwyd yn rhannol o un neu fwy o gynhyrchion wedi eu dwysáu ddwyn y geiriau “partially from concentrate” neu, yn ôl y digwydd, “partially from concentrates”.

(6Rhaid i’r geiriad y mae paragraffau (4) a (5) yn gofyn amdano ymddangos yn agos i enw’r cynnyrch mewn nodau sy’n eglur i’w gweld ac sy’n cyferbynnu’n dda â’r cefndir y mae’n ymddangos arno.

(7Ni chaniateir gwneud honiad nad oes siwgrau wedi eu hychwanegu at neithdar ffrwythau, nac unrhyw honiad sy’n debyg o gyfleu’r un ystyr i’r defnyddiwr, oni bai nad yw’r cynnyrch yn cynnwys unrhyw fonosacaridau neu ddeusacaridau ychwanegol nac unrhyw fwyd arall a ddefnyddir oherwydd ei briodoleddau melysu, gan gynnwys melysyddion fel y’u diffinnir yn Rheoliad 1333/2008.

(8Pan wneir honiad sy’n dweud nad oes siwgrau wedi eu hychwanegu at neithdar ffrwythau, neu unrhyw honiad sy’n debyg o gyfleu’r un ystyr i’r defnyddiwr, a bod siwgrau’n bresennol yn naturiol yn y neithdar ffrwythau, rhaid i’r geiriau “contains naturally occurring sugars” ymddangos ar y label hefyd.

Dull marcio neu labelu

15.—(1Mae rheoliadau 35(1), 36(1), (5) a 38 o Reoliadau Labelu Bwyd 1996(17) (sy’n ymwneud â dull marcio neu labelu bwyd) yn gymwys i’r manylion y mae’n rhaid i gynnyrch rheoleiddiedig gael ei farcio neu ei labelu â hwy o dan ddarpariaethau’r Rheoliadau hyn a restrir ym mharagraff (2).

(2Dyma’r darpariaethau—

(a)rheoliad 10(1);

(b)rheoliad 11(1);

(c)rheoliad 12(1);

(d)rheoliad 13;

(e)rheoliad 14(1), fel y’i darllenir gyda rheoliad 14(2), (4), (5) ac (8).

Gorfodi

16.  Dyletswydd pob awdurdod bwyd yw gorfodi’r Rheoliadau hyn yn ei ardal.

Hysbysiad gwella - cymhwyso is-adrannau (1) a (2) o adran 10 o’r Ddeddf

17.—(1Mae is-adrannau (1) a (2) o adran 10 o’r Ddeddf (hysbysiadau gwella) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn â’r addasiadau a ganlyn.

(2Yn lle is-adran (1), rhodder—

(1) If an authorised officer of an enforcement authority has reasonable grounds for believing that a person is failing to comply with a provision of the Fruit Juices and Fruit Nectars (Wales) Regulations 2013 specified in subsection (1A), the authorised officer may, by a notice served on that person (in this Act referred to as an “improvement notice”)—

(a)state the officer’s grounds for believing that the person is failing to comply with the relevant provision;

(b)specify the matters which constitute the person’s failure so to comply;

(c)specify the measures which, in the officer’s opinion, the person must take in order to secure compliance; and

(d)require the person to take those measures, or measures that are at least equivalent to them, within such period (not being less than 14 days) as may be specified in the notice.

(1A) The provisions are—

(a)regulation 4(1), as read with regulation 4(2);

(b)regulation 4(3);

(c)regulation 5(1) or (2);

(d)regulation 6(1) or (2);

(e)regulation 7(1) or (2);

(f)regulation 8(1) or (2);

(g)regulation 9(1), as read with regulation 9(2);

(h)regulation 9(3);

(i)regulation 10(1);

(j)regulation 11(1);

(k)regulation 12;

(l)regulation 13;

(m)regulation 14(1);

(n)regulation 15..

Apelio yn erbyn hysbysiad gwella – cymhwyso is-adrannau (1) a (6) o adran 37, ac adran 39, o’r Ddeddf

18.—(1Mae is-adrannau (1) a (6) o adran 37 o’r Ddeddf (apelio) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn â’r addasiadau a ganlyn—

(a)yn lle is-adran (1), rhodder—

(1) Any person who is aggrieved by a decision of an authorised officer of an enforcement authority to serve an improvement notice under section 10(1), as applied and modified by regulation 17 of the Fruit Juices and Fruit Nectars (Wales) Regulations 2013, may appeal to the magistrates’ court.; a

(b)yn is-adran (6) yn lle “(3) or (4)”, rhodder “(1)”.

(2Mae adran 39 o’r Ddeddf (apelio yn erbyn hysbysiadau gwella) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn â’r addasiadau a ganlyn —

(a)yn lle is-adran (1), rhodder—

(1) On an appeal against a decision of an authorised officer of an enforcement authority to serve an improvement notice under section 10(1), as applied and modified by regulation 17 of the Fruit Juices and Fruit Nectars (Wales) Regulations 2013, the court may either cancel or affirm the notice, and, if it affirms it, may do so either in its original form or with such modifications as the court may in the circumstances think fit.; a

(b)yn is-adran (3), hepgorer “for want of prosecution”.

Cymhwyso darpariaethau eraill yn y Ddeddf

19.  Mae darpariaethau’r Ddeddf a bennir yng ngholofn 1 o Atodlen 14 yn gymwys â’r addasiadau a bennir yng ngholofn 2 o’r Atodlen honno at ddibenion y Rheoliadau hyn.

Dirymu

20.—(1Dirymir y Rheoliadau a ganlyn—

(a)Rheoliadau Suddoedd Ffrwythau a Neithdarau Ffrwythau (Cymru) 2003(18);

(b)Rheoliadau Suddoedd Ffrwythau a Neithdarau Ffrwythau (Cymru) (Diwygio) 2011(19).

(2Dirymir rheoliad 9 o Reoliadau Ensymau Bwyd (Cymru) 2009(20).

Diwygiadau canlyniadol

21.  Mae Atodlen 15 yn effeithiol.

Darpariaethau trosiannol

22.—(1Rhaid i swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi beidio â chyflwyno hysbysiad gwella o dan adran 10(1) o’r Ddeddf, fel y’i cymhwysir ac fel y’i haddasir gan reoliad 17, cyn 28 Ebrill 2015—

(a)pe bai’r hysbysiad gwella’n cyfeirio at fwyd a gâi ei osod ar y farchnad, neu ei labelu, cyn 28 Hydref 2013, a

(b)pe na bai’r materion sy’n creu’r tramgwydd honedig wedi bod yn drosedd o dan Reoliadau Suddoedd Ffrwythau a Neithdarau Ffrwythau (Cymru) 2003 fel yr oeddent yn union cyn 28 Hydref 2013.

(2Cyn 28 Hydref 2016, caniateir i’r gosodiad a ganlyn ymddangos ar label sudd ffrwythau, sudd ffrwythau o ddwysfwyd, sudd ffrwythau wedi ei ddwysáu, sudd ffrwythau y tynnwyd dŵr ohono neu sudd ffrwythau dadhydredig neu sudd ffrwythau powdr, yn yr un maes gwelediad ag enw’r cynnyrch—

from 28 April 2015 no fruit juices contain added sugars(21).

Mark Drakeford

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

25 Hydref 2013

Rheoliad 3(3)

ATODLEN 1Cyfeiriadau newidiadwy

Offerynnau’r UE y mae’n rhaid eu dehongli fel y’u diwygiwyd o dro i dro yw—

(a)Cyfarwyddeb y Cyngor 98/83/EC ynghylch ansawdd dŵr a fwriedir i bobl ei yfed(22);

(b)Cyfarwyddeb y Cyngor 2001/110/EC;

(c)Cyfarwyddeb y Cyngor 2001/111/EC;

(d)Cyfarwyddeb 2001/112/EC;

(e)Rheoliad 1935/2004;

(f)Rheoliad (EC) Rhif 1925/2006 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch ychwanegu fitaminau a mwynau a sylweddau penodol eraill at fwydydd (23);

(g)Rheoliad (EC) Rhif 1332/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch ensymau bwyd ac yn diwygio Cyfarwyddeb y Cyngor 83/417/EEC, Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1493/1999, Cyfarwyddeb 2000/13/EC, Cyfarwyddeb y Cyngor 2001/112/EC a Rheoliad (EC) Rhif 258/97(24); ac

(h)Rheoliad 1333/2008.

Rheoliad 2(1)

ATODLEN 2Manyleb sudd ffrwythau

1.  Sudd ffrwythau yw’r cynnyrch eplesadwy ond heb ei eplesu a gafwyd o’r rhan fwytadwy o ffrwyth sy’n iach ac aeddfed, yn ffres neu wedi ei breserfio drwy ei oeri neu ei rewi, o un math neu fwy nag un math a gymysgwyd ynghyd, y mae ganddo briodoleddau lliw, cyflas a blas nodweddiadol sudd y ffrwyth y daw ohono.

2.  Yn ychwanegol at y cynhwysyn a grybwyllir ym mharagraff 1, ac yn ddarostyngedig i gofnodion 4 a 7 yn Atodlen 11, caiff y cynnyrch gynnwys unrhyw rai o’r canlynol—

(a)cynhwysyn ychwanegol awdurdodedig;

(b)sylwedd ychwanegol awdurdodedig;

(c)cyflas, mwydion a chelloedd wedi eu hadfer (neu unrhyw un neu fwy ohonynt) a gafwyd drwy ddull ffisegol addas o’r un rhywogaeth o ffrwyth;

(d)yn achos sudd grawnwin, halwynau asidau tartarig wedi eu hadfer; ac

(e)yn achos sudd tomatos, halen, sbeisys a pherlysiau aromatig.

3.  Yn achos ffrwythau sitrws, ac eithrio leim, rhaid i’r sudd ffrwythau ddod o’r endocarp.

4.  Yn achos sudd leim, rhaid i’r sudd ffrwythau ddod o’r endocarp neu’r ffrwyth cyfan.

5.  Pan fo sudd yn cael ei brosesu o ffrwyth sydd â dincod, hadau a phil, rhaid peidio ag ymgorffori rhannau neu gydrannau dincod, hadau a phil yn y sudd.

6.  Nid yw paragraff 5 yn gymwys mewn achos lle na ellir tynnu rhannau neu gydrannau dincod, hadau a phil drwy arferion gweithgynhyrchu da.

7.  Caniateir i sudd ffrwythau gael eu cymysgu â phiwrî ffrwythau wrth gynhyrchu’r sudd ffrwythau.

8.  Ni chaniateir defnyddio triniaeth, ac eithrio triniaeth awdurdodedig, wrth weithgynhyrchu cynnyrch.

9.  Rhaid i lefel Brix y cynnyrch fod yr un fath â lefel Brix y sudd fel y’i tynnwyd o’r ffrwyth a rhaid peidio â’i addasu, ac eithrio drwy ei gyfuno â sudd o’r un rhywogaeth o ffrwyth.

Rheoliad 2(2)(a)

ATODLEN 3Manyleb sudd ffrwythau o ddwysfwyd

1.  Sudd ffrwythau o ddwysfwyd yw’r cynnyrch a geir drwy ailgyfansoddi sudd ffrwythau wedi ei ddwysáu â dŵr yfadwy sy’n bodloni’r meini prawf a nodir yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 98/83/EC.

2.  Mewn achos lle mae sudd ffrwythau o ddwysfwyd yn cael ei weithgynhyrchu o ffrwyth a bennir yng ngholofn 2 o Atodlen 13, rhaid i gynnwys solidau toddadwy y cynnyrch gorffenedig fod â lefel Brix sydd o leiaf o’r lefel a bennir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 3 o’r Atodlen honno, fel y’i darllenir ynghyd â Nodiadau’r Atodlen honno.

3.  Mewn achos lle mae sudd ffrwythau o ddwysfwyd yn cael ei weithgynhyrchu o ffrwyth sydd heb ei bennu yng ngholofn 2 o Atodlen 13, rhaid i gynnwys solidau toddadwy y cynnyrch gorffenedig fod â lefel Brix y sudd fel y’i tynnwyd o’r ffrwyth a ddefnyddiwyd i wneud y dwysfwyd.

4.  Rhaid i’r cynnyrch gael ei baratoi drwy brosesau addas sy’n cadw priodoleddau ffisegol, cemegol, organoleptig a maethiadol hanfodol y math arferol o sudd y ffrwyth y daw ohono.

5.  Wrth gynhyrchu’r cynnyrch, caniateir cymysgu sudd ffrwythau wedi ei ddwysáu, neu sudd ffrwythau a sudd ffrwythau wedi ei ddwysáu, â’r canlynol—

(a)piwrî ffrwythau;

(b)piwrî ffrwythau wedi ei ddwysáu; neu

(c)piwrî ffrwythau a phiwrî ffrwythau wedi ei ddwysáu.

6.  Yn ychwanegol at y cynhwysion a grybwyllir ym mharagraffau 1 a 5, caiff y cynnyrch gynnwys unrhyw rai o’r canlynol—

(a)cynhwysyn ychwanegol awdurdodedig;

(b)sylwedd ychwanegol awdurdodedig;

(c)cyflas, mwydion a chelloedd wedi eu hadfer (neu unrhyw un neu fwy ohonynt) a gafwyd drwy ddull ffisegol addas o’r un rhywogaeth o ffrwyth; a

(d)yn achos sudd tomatos o ddwysfwyd, halen, sbeisys a pherlysiau aromatig.

7.  Ni chaniateir defnyddio triniaeth, ac eithrio triniaeth awdurdodedig, wrth weithgynhyrchu cynnyrch.

8.  Mae unrhyw gyfeiriad at lefel Brix yn yr Atodlen hon yn gyfeiriad at lefel Brix sudd heb gynnwys y solidau toddadwy mewn unrhyw gynhwysion ac ychwanegion dewisol a ychwanegir.

Rheoliad 2(2)(b)

ATODLEN 4Manyleb sudd ffrwythau wedi ei ddwysáu

1.  Sudd ffrwythau wedi ei ddwysáu yw’r cynnyrch a geir o sudd ffrwythau un neu fwy o rywogaethau o ffrwythau drwy fynd ati’n ffisegol i dynnu cyfran benodol o’i gynnwys dŵr.

2.  Pan fwriedir y cynnyrch i’w yfed yn uniongyrchol, rhaid i gyfran y cynnwys dŵr a dynnir fod yn 50% o leiaf.

3.  Yn ychwanegol at y cynhwysion a grybwyllir ym mharagraff 1, caiff y cynnyrch gynnwys unrhyw rai o’r canlynol —

(a)cynhwysyn ychwanegol awdurdodedig;

(b)sylwedd ychwanegol awdurdodedig; ac

(c)cyflas, mwydion a chelloedd wedi eu hadfer (neu unrhyw un neu fwy ohonynt) a gafwyd drwy ddull ffisegol addas o’r un rhywogaeth o ffrwyth.

4.  Ni chaniateir defnyddio triniaeth, ac eithrio triniaeth awdurdodedig, wrth weithgynhyrchu cynnyrch.

Rheoliad 2(2)(c)

ATODLEN 5Manyleb sudd ffrwythau y tynnwyd dŵr ohono

1.  Sudd ffrwythau y tynnwyd dŵr ohono yw’r cynnyrch a geir drwy dryledu’r canlynol â dŵr—

(a)ffrwythau cyfan mwydionog na ellir tynnu eu sudd drwy unrhyw ddull ffisegol; neu

(b)ffrwythau cyfan dadhydredig.

2.  Yn ychwanegol at y cynhwysion a grybwyllir ym mharagraff 1, caiff y cynnyrch gynnwys y naill neu’r llall, neu’r ddau, o’r canlynol—

(a)cynhwysyn ychwanegol awdurdodedig; a

(b)sylwedd ychwanegol awdurdodedig.

3.  Ni chaniateir defnyddio triniaeth, ac eithrio triniaeth awdurdodedig, wrth weithgynhyrchu cynnyrch.

Rheoliad 2(2)(d)

ATODLEN 6Manyleb sudd ffrwythau dadhydredig a sudd ffrwythau powdr

1.  Sudd ffrwythau dadhydredig neu sudd ffrwythau powdr yw’r cynnyrch a geir o sudd ffrwythau un neu fwy o rywogaethau o ffrwythau drwy fynd ati’n ffisegol i dynnu bron y cyfan o’u cynnwys dŵr.

2.  Yn ychwanegol at y cynhwysion a grybwyllir ym mharagraff 1, caiff y cynnyrch gynnwys y naill neu’r llall, neu’r ddau, o’r canlynol —

(a)cynhwysyn ychwanegol awdurdodedig; a

(b)sylwedd ychwanegol awdurdodedig.

3.  Ni chaniateir defnyddio triniaeth, ac eithrio triniaeth awdurdodedig, wrth weithgynhyrchu cynnyrch.

Rheoliad 2(3)

ATODLEN 7Manyleb neithdar ffrwythau

RHAN 1Manyleb gyffredinol neithdar ffrwythau

1.  Neithdar ffrwythau yw’r cynnyrch eplesadwy ond heb ei eplesu a geir drwy ychwanegu dŵr at sudd a restrwyd ym mharagraff 2 naill ai gydag un o’r sylweddau a restrir ym mharagraff 3 neu hebddynt.

2.  Dyma’r suddoedd—

(a)sudd ffrwythau;

(b)sudd ffrwythau o ddwysfwyd;

(c)sudd ffrwythau wedi ei ddwysáu;

(d)sudd ffrwythau y tynnwyd dŵr ohono;

(e)sudd ffrwythau dadhydredig;

(f)sudd ffrwythau powdr;

(g)piwrî ffrwythau;

(h)piwrî ffrwythau wedi ei ddwysáu; neu

(i)unrhyw gymysgedd o’r cynhyrchion a grybwyllir yn is-baragraffau (a) i (h).

3.  Dyma’r sylweddau—

(a)siwgrau, a

(b)mêl.

4.  Rhaid i swm y siwgrau neu’r mêl, neu’r siwgrau a’r mêl, a ychwanegir at y cynnyrch yn unol â pharagraff 1 beidio â bod yn fwy nag 20% o gyfanswm pwysau’r cynnyrch gorffenedig.

5.  Rhaid i’r cynnyrch gynnwys yr isafswm cynnwys sudd ffrwythau, piwrî ffrwythau, neu gymysgedd o’r sudd hwnnw a’r piwrî hwnnw, a bennir yn Rhan 2.

6.  Pan fo’r cynnyrch yn cael ei weithgynhyrchu heb siwgr ychwanegol neu â gwerth egni gostyngedig, caniateir i siwgrau gael eu disodli’n gyfan gwbl neu’n rhannol gan felysyddion yn unol â gofynion Rheoliad 1333/2008.

7.  Yn ychwanegol at y cynhwysion a grybwyllir ym mharagraffau 1, 2, 3, 5 a 6, caiff y cynnyrch gynnwys unrhyw rai o’r canlynol—

(a)cynhwysyn ychwanegol awdurdodedig;

(b)sylwedd ychwanegol awdurdodedig;

(c)cyflas, mwydion a chelloedd wedi eu hadfer (neu unrhyw un neu fwy ohonynt) a gafwyd drwy ddull ffisegol addas o’r un rhywogaeth o ffrwyth; a

(d)melysyddion (y caniateir eu hychwanegu ar ben unrhyw siwgr neu fêl a ychwanegir yn unol â pharagraff 1 fel y’i darllenir gyda pharagraff 3).

8.  Ni chaniateir defnyddio triniaeth, ac eithrio triniaeth awdurdodedig, wrth weithgynhyrchu cynnyrch.

RHAN 2Cynnwys gofynnol sudd a phiwrî mewn neithdarau ffrwythau

Neithdarau ffrwythau a wnaed oIsafswm cynnwys sudd, piwrî neu sudd a phiwrî (% yn ôl cyfaint y cynnyrch gorffenedig)
1. Neithdarau ffrwythau a wnaed o ffrwythau â sudd asidig sy’n annymunol yn y cyflwr naturiol
Bricyll40
Llus40
Mwyar duon40
Cyrains duon25
Llugaeron30
Eirin ysgaw50
Eirin Mair30
Lemonau a leimiau25
Mwyar Mair40
Ffrwyth y dioddefaint25
Eirin30
Quetsches30
Afalau cwins50
Quito naranjillos25
Mafon40
Cyrains cochion25
Egroes40
Criafol30
Aeron helygen y môr25
Eirin tagu30
Ceirios sur35
Ceirios eraill40
Mefus40
Cyrains gwynion25
Ffrwythau eraill sy’n perthyn i’r categori hwn25
2. Ffrwythau asid-isel, mwydionog neu gryf eu blas sydd â sudd sy’n annymunol yn y cyflwr naturiol
Azeroles (Merys Neapolitanaidd)25
Bananas25
Afalau cwstard25
Ffrwythau cashiw25
Gwafas25
Lytshis25
Mangos25
Papaias25
Pomgranadau25
Micasau sur25
Eirin Sbaen25
Afalau siwgr25
Wmbw25
Ffrwythau eraill sy’n perthyn i’r categori hwn25
3. Ffrwythau sydd â sudd sy’n ddymunol yn y cyflwr naturiol
Afalau50
Ffrwythau sitrws ac eithrio lemonau a Leimiau50
Eirin gwlanog50
Gellyg50
Pinafalau50
Tomatos50
Ffrwythau eraill sy’n perthyn i’r categori hwn50

Rheoliad 3(1)

ATODLEN 8Cynhwysion ychwanegol awdurdodedig

1.  Unrhyw fitamin neu fwyn a awdurdodwyd yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 1925/2006.

2.  Unrhyw ychwanegyn bwyd a awdurdodwyd yn unol â Rheoliad 1333/2008.

3.  Unrhyw un neu fwy o’r suddoedd a ganlyn (a fynegir fel asid sitrig anhydrus) a ychwanegir er mwyn rheoleiddio blas asidig os na fydd cyfanswm y sudd o’r fath a ychwanegir yn fwy na 3 gram y litr o’r cynnyrch—

(a)sudd lemon;

(b)sudd leim;

(c)sudd lemon wedi ei ddwysáu;

(d)sudd leim wedi ei ddwysáu.

Rheoliad 3(1)

ATODLEN 9Sylweddau ychwanegol awdurdodedig

1.  Y paratoadau ensym a ganlyn sy’n bodloni gofynion Rheoliad (EC) Rhif 1332/2008

(a)pectinasau, at ddadelfennu pectin;

(b)proteinasau, at ddadelfennu proteinau; ac

(c)amylasau, at ddadelfennu startsh.

2.  Gelatin bwytadwy.

3.  Taninau.

4.  Silica sol.

5.  Siarcol.

6.  Nitrogen.

7.  Bentonit fel clai arsugnol.

8.  Cynorthwyon hidlo ac asiantau dyddodi sy’n gemegol anadweithiol, gan gynnwys perlit, diatomit wedi ei olchi, seliwlos, polyamid annhoddadwy, polyfinylpolypyrolidon, a pholystyren, sy’n cydymffurfio â Rheoliad 1935/2004.

9.  Cynorthwyon hidlo dyddodi sy’n gemegol anadweithiol sy’n cydymffurfio â Rheoliad 1935/2004 ac a ddefnyddir i leihau cynnwys limonoid a naringin sudd sitrws heb effeithio’n arwyddocaol ar y gwlcosidau limonoid, yr asid, y siwgrau (gan gynnwys oligosacaridau) neu’r cynnwys mwynol mewn sudd o’r fath.

Rheoliad 3(1)

ATODLEN 10Triniaethau awdurdodedig

1.  Prosesau tynnu mecanyddol.

2.  Y prosesau ffisegol arferol, gan gynnwys tynnu dŵr mewn llinell (tryledu) o’r rhan fwytadwy o’r ffrwyth (ac eithrio tynnu dŵr mewn llinell (tryledu) o ran grawnwin a ddefnyddir wrth weithgynhyrchu sudd ffrwythau wedi ei ddwysáu), os yw’r sudd a geir fel hyn yn cydymffurfio—

(a)yn achos sudd ffrwythau, â gofynion Atodlen 2; a

(b)yn achos sudd ffrwythau o ddwysfwyd, â gofynion Atodlen 3.

3.  Wrth gynhyrchu sudd grawnwin lle mae’r grawnwin wedi eu sylffadeiddio â sylffwr deuocsid, dadsylffiteiddio drwy ddull ffisegol os nad yw cyfanswm y sylffwr deuocsid yn y cynnyrch gorffenedig yn fwy na 10 mg y litr o’r sudd.

Rheoliad 4(2)

ATODLEN 11Dynodiadau amgen sudd ffrwythau

Colofn 1

Y Cofnod

Colofn 2

Y Dynodiad

Colofn 3

Y Cynnyrch

1.“Süßmost”

Caniateir defnyddio’r dynodiad “Süßmost”, ond dim ond ar y cyd â’r enw cynnyrch “Fruchtsaft” neu “Fruchtnektar”, yn achos sudd ffrwythau a geir o’r canlynol—

(a)

afalau;

(b)

gellyg; neu

(c)

gellyg gan ychwanegu afalau os yw’n briodol.

2.“æblemost”Sudd afal.
3.“sur … saft”, ynghyd ag enw (Daneg) y ffrwyth a ddefnyddiwydSuddoedd a geir o gyrains duon, ceirios, cyrains cochion, cyrains gwynion, mafon, mefus neu eirin ysgaw.
4.“sød … saft” neu “sødet … saft” ynghyd ag enw (Daneg) y ffrwyth a ddefnyddiwydSuddoedd a gafwyd o’r ffrwyth a enwyd gyda mwy na 200 gram o siwgr ychwanegol y litr ar ffurf siwgr, mêl neu siwgr a mêl.
5.“äppelmust/äpplemust”Sudd afal.
6.“mosto”Cyfystyr i sudd grawnwin.
7.“smiltsērkšķu sula ar cukuru”, “astelpaju mahl suhkruga” neu “słodzony sok z rokitnika”Suddoedd a gafwyd o aeron helygen y môr gyda dim mwy na 140 gram o siwgr ychwanegol y litr ar ffurf siwgr, mêl neu siwgr a mêl.

Rheoliad 9(2)

ATODLEN 12Dynodiadau amgen neithdar ffrwythau

Colofn 1

Y Cofnod

Colofn 2

Y Dynodiad

Colofn 3

Y Cynnyrch

1.“vruchtendrank”
2.“Süßmost”Caniateir defnyddio’r dynodiad “Süßmost”, ond dim ond ar y cyd â’r enwau cynnyrch “Fruchtsaft” neu “Fruchtnektar”, yn achos neithdar ffrwythau a geir yn unig o suddoedd ffrwythau, suddoedd ffrwythau wedi eu dwysáu neu gymysgedd o’r cynhyrchion hyn, sy’n annymunol yn y cyflwr naturiol yn sgil eu hasidedd naturiol uchel.
3.“succo e polpa” neu “sumo e polpa”Neithdarau ffrwythau a gafwyd yn gyfan gwbl o biwrî ffrwythau neu biwrî ffrwythau wedi ei ddwysáu neu o biwrî ffrwythau a phiwrî ffrwythau wedi ei ddwysáu.

Rheoliad 10(6)

ATODLEN 13Lefelau Brix gofynnol sudd ffrwythau o ddwysfwyd

Colofn 1

Enw Cyffredin y Ffrwyth

Colofn 2

Yr Enw Botanegol

Colofn 3

Isafswm lefel Brix

Nodiadau:
1

Yn achos y cynhyrchion hynny sydd wedi eu marcio â seren (*), ac sydd wedi eu cynhyrchu fel sudd, penderfynir dwysedd cymharol gofynnol fel y cyfryw mewn perthynas â dŵr sy’n 20/20 °C.

2

Yn achos y cynhyrchion hynny sydd wedi eu marcio â dwy seren (**), ac sydd wedi eu cynhyrchu fel piwrî, dim ond darlleniad Brix gofynnol nas cywirwyd (heb ei gywiro ar gyfer asidedd) a benderfynir.

Afal1Malus domestica Borkh.11.2
Bricyll2Prunus armeniaca L.11.2
Banana2Musa x paradisiaca L. (heb gynnwys plantanau)21.0
Cyrains duon1Ribes nigrum L.11.0
Grawnwin1

Vitis vinifera L. neu hybridiau ohono

Vitis labrusca L. neu hybridiau ohono

15.9
Grawnffrwyth1Citrus x paradisi Macfad.10.0
Gwafa2Psidium guajava L.8.5
Lemon1Citrus limon (L.) Burm.f.8.0
Mandarin1Citrus reticulata Blanco11.2
Mango2Mangifera indica L.13.5
Oren1Citrus sinensis (L.) Osbeck11.2
Ffrwyth y dioddefaint1Passiflora edulis Sims12.0
Eirin gwlanog2Prunus persica (L.) Batsch var. persica10.0
Gellyg2Pyrus communis L.11.9
Pinafal1Ananas comosus (L.) Merr.12.8
Mafon1Rubus idaeus L.7.0
Ceirios sur1Prunus cerasus L.13.5
Mefus1Fragaria x ananassa Duch.7.0
Tomato1Lycopersicon esculentum Mill.5.0

Rheoliad 19

ATODLEN 14Cymhwyso darpariaethau eraill yn y Ddeddf

Colofn 1

Y ddarpariaeth yn y Ddeddf

Colofn 2

Yr addasiadau

Adran 3 (rhagdybio bod bwyd wedi ei fwriadu i bobl ei fwyta)Yn is-adran (1), yn lle “this Act” rhodder “the Fruit Juices and Fruit Nectars (Wales) Regulations 2013”.
Adran 20 (troseddau oherwydd bai person arall)Yn lle “any of the preceding provisions of this Part” rhodder “section 10(2), as applied by regulation 17(1) of the Fruit Juices and Fruit Nectars (Wales) Regulations 2013,”.
Adran 21(1) a (5) (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy)Yn is-adran (1), yn lle “any of the preceding provisions of this Part” rhodder “section 10(2), as applied by regulation 17(1) of the Fruit Juices and Fruit Nectars (Wales) Regulations 2013,”.
Adran 30(8) (sy’n ymwneud â thystiolaeth tystysgrifau a roddir gan ddadansoddydd neu archwilydd bwyd)Yn lle “this Act” rhodder “the Fruit Juices and Fruit Nectars (Wales) Regulations 2013”.
Adran 33 (rhwystro etc. swyddogion)Yn is-adran (1), yn lle “this Act” (ym mhob man lle y mae’n digwydd) rhodder “the Fruit Juices and Fruit Nectars (Wales) Regulations 2013”.
Adran 35(1)(25) a (2) (cosbi troseddau)

Yn is-adran (1), ar ôl “section 33(1) above”, mewnosoder “, as applied and modified by regulation 19 of, and Schedule 14 to, the Fruit Juices and Fruit Nectars (Wales) Regulations 2013,”.

Ar ôl is-adran (1), mewnosoder yr is-adran a ganlyn—

(1A) A person guilty of an offence under section 10(2), as applied by regulation 17(1) of the Fruit Juices and Fruit Nectars (Wales) Regulations 2013, shall be liable, on summary conviction, to a fine not exceeding level 5 on the standard scale..

Yn is-adran (2)—

(a)

yn lle “any other offence under this Act”, rhodder “an offence under section 33(2), as applied by regulation 19 of, and Schedule 14 to, the Fruit Juices and Fruit Nectars (Wales) Regulations 2013,”; a

(b)

ym mharagraff (b), yn lle “relevant amount”, rhodder “statutory maximum”.

Adran 36 (troseddau gan gorff corfforaethol)Yn is-adran (1), yn lle “this Act” rhodder “section 10(2), as applied by regulation 17(1) of the Fruit Juices and Fruit Nectars (Wales) Regulations 2013,”.
Adran 36A(26) (troseddau gan bartneriaethau yn yr Alban)Yn is-adran (1), yn lle “this Act” rhodder “section 10(2), as applied by regulation 17(1) of the Fruit Juices and Fruit Nectars (Wales) Regulations 2013,”.
Adran 44 (amddiffyn swyddogion sy’n gweithredu’n ddidwyll)Yn lle “this Act” (ym mhob man lle y mae’n digwydd) rhodder “the Fruit Juices and Fruit Nectars (Wales) Regulations 2013”.

Rheoliad 21

ATODLEN 15Diwygiadau canlyniadol

Diwygio Rheoliadau labelu Bwyd 1996

1.  Mewnosoder y rheoliad a ganlyn ar ôl Rheoliad 17 o Reoliadau Labelu Bwyd 1996(27)

Restoration of fruit juices and similar products

17A.  The restoration of products defined in Part I of Annex I to Council Directive 2001/112/EC relating to fruit juices and certain similar products intended for human consumption to their original state, by means of the substances strictly necessary for this operation, does not entail an obligation to enter on the labels a list of the ingredients used for the purpose of that restoration..

Diwygio Rheoliadau Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Cymru) 2013

2.—(1Diwygir Rheoliadau Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Cymru) 2013 (28) fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1) (dehongli), yn y diffiniad o “sudd ffrwythau”(“fruit juice”), yn lle “Atodlen 1 i Reoliadau Suddoedd Ffrwythau a Neithdarau Ffrwythau (Cymru) 2003”, rhodder “Atodlen 3 i Reoliadau Suddoedd Ffrwythau a Neithdarau Ffrwythau (Cymru) 2013”.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n gymwys i Gymru, yn gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 2001/112/EC sy’n ymwneud â suddoedd ffrwythau a chynhyrchion tebyg penodol a fwriedir i bobl eu hyfed (OJ Rhif L 10, 12.1.2002, t.58), fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 2012/12/EU (OJ Rhif L 115, 27.4.2012, t.1). Maent yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Suddoedd Ffrwythau a Neithdarau Ffrwythau (Cymru) 2003 (O.S. 2003/3041 (Cy. 286)), fel y’u diwygiwyd.

Mae’r Rheoliadau yn rheoleiddio sut y defnyddir yr enwau sudd ffrwythau (rheoliad 4 ac Atodlenni 2 ac 11), sudd ffrwythau o ddwysfwyd (rheoliad 5 ac Atodlenni 3 a 13), sudd ffrwythau wedi ei ddwysáu (rheoliad 6 ac Atodlen 4), sudd ffrwythau y tynnwyd dŵr ohono (rheoliad 7 ac Atodlen 5), sudd ffrwythau dadhydredig a sudd ffrwythau powdr (rheoliad 8 ac Atodlen 6) a neithdar ffrwythau (rheoliad 9 ac Atodlenni 7 a 12).

Maent yn gosod pa gynhwysion a sylweddau ychwanegol y caniateir eu hychwanegu at gynhyrchion rheoleiddiedig (Atodlenni 8 a 9) a pha driniaethau y caniateir i’r cynhyrchion fynd drwyddynt wrth gael eu gweithgynhyrchu (Atodlen 10).

Maent yn ei gwneud yn ofynnol i fanylion penodol gael eu dangos wrth fasnachu cynhyrchion rheoleiddiedig, gan gynnwys—

(a)gofyniad bod rhaid dangos y mathau o ffrwythau, neu (mewn rhai achosion) y nifer o fathau o ffrwythau, a ddefnyddiwyd i wneud cynnyrch rheoleiddiedig (rheoliad 10);

(b)dangos a oes mwydion a chelloedd ychwanegol wedi eu hychwanegu at sudd ffrwythau (rheoliad 11);

(c)gofyniad bod rhaid i sudd ffrwythau a wnaed o gymysgedd o sudd ffrwythau a sudd ffrwythau o ddwysfwyd ddangos ei fod wedi ei wneud yn rhannol o ddwysfwyd neu ddwysfwydydd (rheoliad 12);

(d)gofyniad bod rhaid dangos unrhyw sudd lemon, sudd leim neu asiantau asideiddio ychwanegol mewn sudd ffrwythau wedi ei ddwysáu na fwriedir ei ddosbarthu i’r defnyddiwr terfynol (rheoliad 13); ac

(e)amryw o bethau y mae’n rhaid eu dangos yn achos neithdar ffrwythau, gan gynnwys dangos ei gynnwys ffrwythau (rheoliad 14).

Mae’r Rheoliadau’n gwneud darpariaeth ynglŷn â sut y dylai’r manylion y mae’r Rheoliadau hyn yn gofyn amdanynt gael eu marcio neu eu labelu (rheoliad 15).

Mae’r Rheoliadau hyn yn gosod rhwymedigaeth ar awdurdodau bwyd i orfodi’r Rheoliadau (rheoliad 16).

Mae’r Rheoliadau yn cymhwyso ag addasiadau is-adrannau (1) a (2) o adran 10 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (1990 p.16), sy’n galluogi hysbysiad gwella i gael ei gyflwyno er mwyn mynnu y cydymffurfir â darpariaethau penodedig yn y Rheoliadau hyn (rheoliad 17). Mae’r darpariaethau, fel y’u cymhwysir, yn peri bod methu cydymffurfio â hysbysiad gwella yn drosedd. Hefyd, mae’r Rheoliadau’n cymhwyso, ag addasiadau, is-adrannau (1) a (6) o adran 37, ac adran 39, o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 sy’n galluogi apêl yn erbyn penderfyniad i gyflwyno hysbysiad gwella (rheoliad 18).

Mae’r Rheoliadau hefyd yn cymhwyso darpariaethau penodol eraill yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990, ag addasiadau (rheoliad 19 ac Atodlen 14).

Mae’r Rheoliadau hefyd yn darparu ar gyfer dirymu deddfwriaeth benodol (rheoliad 20), diwygiadau canlyniadol (rheoliad 21 ac Atodlen 15) a darpariaethau trosiannol (rheoliad 22).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol o ran y Rheoliadau hyn. O ganlyniad, mae asesiad rheoleiddiol wedi ei baratoi ynglŷn â chostau a buddion tebygol cydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru, Llawr 11, Tŷ Southgate, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW neu oddi ar wefan yr Asiantaeth yn www.food.gov.uk/wales.

(1)

1972 p. 68. Diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) a Rhan 1 o’r Atodlen i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7).

(2)

O.S. 2005/1971, y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Cafodd swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru eu trosglwyddo wedyn i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p.32).

(4)

Mewnosodwyd adran 48(4A) gan baragraff 21 o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p. 28).

(5)

OJ Rhif L 31, 1.2.2002, t.1, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 596/2009 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 188, 18.7.2009, t.14).

(6)

1972 p. 68. Diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) a Rhan 1 o’r Atodlen i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7).

(8)

Diwygiwyd adran 6(4) gan baragraff 6 o Atodlen 9 i Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (p. 40), paragraff 10(1) a (3) o Atodlen 5, ac Atodlen 6, i Ddeddf Safonau Bwyd 1999, ac O.S. 2002/794.

(9)

Diddymwyd adran 26(3) yn rhannol gan Atodlen 6 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999.

(10)

Diwygiwyd adran 48(1) gan baragraff 8 o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999.

(11)

Trosglwyddwyd swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan “the Ministers” i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672 fel y’i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999, a’u trosglwyddo wedyn i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

(12)

OJ Rhif L 10, 12.1.2002, t.58, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 2012/12/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 115, 27.4.2012, t.1).

(13)

OJ Rhif L 10, 12.1.2002, t.47, fel y’i darllenir gyda’r cywiriad a gyhoeddwyd yn OJ Rhif L 52, 21.2.2007, t.16.

(14)

OJ Rhif L 338, 13.11.2004, t.4, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 596/2009 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 188, 18.7.2009, t.14).

(15)

OJ Rhif L 354, 31.12.2008, t.16, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 913/2013 (OJ Rhif L 252, 24.9.2013, t.11).

(16)

OJ Rhif L 10, 12.1.2002, t.53, y ceir cywiriadau iddo nad ydynt yn berthnasol i fersiwn Saesneg y Gyfarwyddeb.

(17)

O.S 1996/1499, offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1999/747, 2000/1925 (Cy.134) a 2001/1232 (Cy.66).

(21)

O ran y dyddiad 28 Ebrill 2015 yn y gosodiad, gweler y cywiriad i Erthygl 3(2) o Gyfarwyddeb 2012/12/EU a gyhoeddwyd yn OJ Rhif L 31, 31.1.2013, t. 83.

(22)

OJ Rhif L 330, 5.12.1998, t.32, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 596/2009 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 188, 18.7.2009, t.14).

(23)

OJ Rhif L 404, 30.12.2006, t.26, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 304, 22.11.2011, t.18).

(24)

OJ Rhif L 354, 31.12.2008, t.7, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 1056/2012 (OJ Rhif L 313, 13.11.2012, t.9).

(25)

Diwygiwyd adran 35(1) gan baragraff 42 o Atodlen 26 i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (p. 44) o ddyddiad sydd i’w benodi.

(26)

Mewnosodwyd adran 36A gan baragraff 16 o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999.

(27)

O.S 1996/1499, y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.