xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2013 Rhif 1192 (Cy.128)

CYFLOGAETHA HYFFORDDIANT, CYMRU

Gorchymyn Prentisiaethau (Manyleb Safonau Prentisiaethau Cymru) 2013

Gwnaed

20 Mai 2013

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

23 Mai 2013

Yn dod i rym

23 Mehefin 2013

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 28(3) o Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009(1).

Yn unol ag adran 28(5) o'r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod y fanyleb safonau prentisiaethau y rhoddwyd effaith iddi gan y Gorchymyn hwn yn cydymffurfio ag adran 31.

Dyma'r fanyleb safonau prentisiaethau ddrafft gyntaf i gael ei llunio ar ôl i adran 28 o'r Ddeddf honno gychwyn, ac yn unol ag adran 28(4), nid oedd yn ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau sy'n briodol yn eu barn hwy.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Prentisiaethau (Manyleb Safonau Prentisiaethau Cymru) 2013 a daw i rym ar 23 Mehefin 2013.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Manyleb Safonau Prentisiaethau Cymru

2.  Mae'r ddogfen o'r enw "The Specification of Apprenticeship Standards for Wales (SASW)" a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ar 13 Mai 2013 yn cael effaith.

Jeff Cuthbert

O dan awdurdod y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

20 Mai 2013

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn, a wnaed o dan adran 28(3) o Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 ("y Ddeddf"), yn rhoi effaith i fanyleb safonau prentisiaethau Cymru.

Mae'r Gorchymyn yn pennu bod y ddogfen o'r enw "The Specification of Apprenticeship Standards for Wales (SASW)" ("y ddogfen") yn cael effaith. Lluniwyd y ddogfen gan Weinidogion Cymru yn unol â'r gweithdrefnau yn adran 28 o'r Ddeddf..

Mae'r ddogfen yn pennu'r gofynion y mae'n rhaid eu bodloni er mwyn i'r fframweithiau Cymreig cydnabyddedig gael eu dyroddi o dan adran 19(1) o'r Ddeddf.