xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
51.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 2(2) o Ddeddf 1983 (telerau a grybwyllir yn Rhan 2 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 yn oblygedig).
(2) Y ddogfen benodedig yw datganiad sy'n pennu'r rhesymau pam y mae'r ceisydd yn gwneud cais am gael unrhyw rai o'r materion a grybwyllir yn Rhan 2 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 yn oblygedig yn y cytundeb rhwng perchennog y safle a'r meddiannydd.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw—
(a)os y ceisydd yw perchennog y safle, y meddiannydd; a
(b)os y ceisydd yw'r meddiannydd, perchennog y safle.
52.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 2(3)(a) o Ddeddf 1983 (amrywio neu ddileu unrhyw un o delerau datganedig y cytundeb)—
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a)copi o'r cytundeb; a
(b)datganiad yn pennu—
(i)pa un o delerau datganedig y cytundeb y mae'r ceisydd yn gofyn i'r tribiwnlys ei amrywio neu ei ddileu, neu, yn achos un o'r telerau datganedig y mae adran 1(6) o Ddeddf 1983 yn gymwys iddynt, pa un y mae'r ceisydd yn dymuno rhoi effaith lawn iddo; a
(ii)y rhesymau pam y mae'r ceisydd yn gwneud cais am amrywio neu ddileu unrhyw un o delerau datganedig y cytundeb, neu, yn achos un o'r telerau datganedig y mae adran 1(6) o Ddeddf 1983 yn gymwys iddynt, y rhesymau dros ddymuno rhoi effaith lawn iddo.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw—
(a)os y ceisydd yw perchennog y safle, y meddiannydd; a
(b)os y ceisydd yw'r meddiannydd, perchennog y safle.