xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
43.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 143(1) o Ddeddf 2004 (apêl gan berson a dramgwyddwyd gan hysbysiad gorlenwi).
(2) Y ddogfen benodedig yw copi o'r hysbysiad gorlenwi, neu ddatganiad gan y ceisydd yn esbonio'r amgylchiadau sydd wedi peri na all y ceisydd ddarparu copi o'r hysbysiad hwnnw.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r ATLl.
44.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 144(2) o Ddeddf 2004 (apêl gan berson perthnasol yn erbyn gwrthodiad ATLl i ddirymu neu amrywio hysbysiad gorlenwi, neu yn erbyn methiant yr ATLl i ymateb mewn pryd i gais am ddirymu neu amrywio hysbysiad o'r fath).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a)copi o'r hysbysiad gorlenwi; a
(b)os gwrthododd yr ATLl amrywio hysbysiad gorlenwi, copi o benderfyniad yr ATLl.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r ATLl.