xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
46.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 272(1) neu (2)(a) o Ddeddf 1985 (cais mewn cysylltiad ag adennill treuliau ATLl wrth gyflawni gorchymyn dymchwel o dan adran 271 o Ddeddf 1985 gan gynnwys penderfynu'r cyfraniadau gan gydberchnogion).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a)copi o'r gorchymyn dymchwel a wnaed o dan adran 265 o Ddeddf 1985 (gan gynnwys unrhyw atodlen i'r gorchymyn);
(b)y datganiad o resymau; ac
(c)datganiad o'r canlynol—
(i)y treuliau a dynnwyd gan yr ATLl o dan adran 271 o Ddeddf 1985 (gweithredu gorchymyn dymchwel);
(ii)y swm (os oes un) a dderbyniwyd drwy werthu defnyddiau; a
(iii)y swm y mae'r ATLl yn ceisio'i adennill oddi wrth unrhyw berchennog y fangre.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw perchennog y fangre(1).
Gweler adran 322 o Ddeddf 1985, sy'n diffinio “owner” mewn perthynas â mangre. Diwygiwyd adran 322 gan adran 65(1) o Ddeddf 2004 a pharagraff 26 o Atodlen 15 i'r Ddeddf honno.