40.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 26(1) o Atodlen 7 i Ddeddf 2004 (apêl yn erbyn penderfyniad ATLl i wneud GRhAG terfynol, neu yn erbyn telerau'r gorchymyn neu'r cynllun rheoli cysylltiedig).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a)copi o'r GRhAG terfynol (gan gynnwys y cynllun rheoli);
(b)pan fo'r cais yn ymwneud â thelerau'r gorchymyn rheoli, datganiad yn pennu pob un o'r telerau a wrthwynebir, ynghyd â'r rhesymau dros y gwrthwynebiad; ac
(c)pan wneir y cais ar y sail a bennir ym mharagraff 26(1)(c) o Atodlen 7 i Ddeddf 2004, datganiad o'r materion ym mharagraff 5(5)(a) a (b) o'r Atodlen honno (sy'n ymwneud â thalu rhenti dros ben etc) sy'n berthnasol i'r sail honno.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r ATLl.