39.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 14(1) o Atodlen 7 i Ddeddf 2004 (cais gan berson yr effeithir arno am orchymyn bod ATLl i reoli annedd yn unol â chynllun rheoli mewn GRhAG terfynol).
(2) Y ddogfen benodedig yw copi o'r GRhAG terfynol (gan gynnwys y cynllun rheoli).
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r ATLl.