36.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 2(3)(d) neu baragraff 10(3)(d) o Atodlen 7 i Ddeddf 2004 (cais gan ATLl am orchymyn o dan baragraff 22 o'r Atodlen honno i derfynu les neu drwydded tra bo GRhAG interim neu derfynol mewn grym).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a)copi o'r GRhAG interim neu derfynol (gan gynnwys unrhyw gynllun rheoli);
(b)copi o'r les neu'r drwydded berthnasol, neu os nad oes copi ohoni ar gael, tystiolaeth o fodolaeth y les neu'r drwydded; ac
(c)datganiad yn cynnwys y manylion canlynol—
(i)enw a chyfeiriad, os ydynt yn hysbys, unrhyw lesydd, lesddeiliad, is-lesydd, is-lesddeiliad, neu drwyddedai;
(ii)tystiolaeth o'r materion y mae'n rhaid bodloni'r tribiwnlys yn eu cylch o dan baragraff 22(1)(b) o Atodlen 7 i Ddeddf 2004; a
(iii)swm y digollediad (os oes rhywfaint) y mae'r ATLl yn fodlon ei dalu mewn perthynas â therfynu'r les neu'r drwydded, gan gynnwys manylion o'r modd y cyfrifwyd swm y digollediad hwnnw.
(3) Yr ymatebwyr penodedig yw'r partïon i'r les neu'r drwydded.