Rheoliadau Gweithdrefnau a Ffioedd Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) 2012

Tynnu cais yn ôl

36.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (3), caiff ceisydd (“y parti sy'n tynnu'n ôl”) (“the withdrawing party”) dynnu'n ôl y cyfan neu ran o'r cais a wnaed gan y ceisydd hwnnw, yn unol â pharagraff (2)—

(a)ar unrhyw adeg cyn i'r tribiwnlys ddechrau ystyried y dystiolaeth ynglŷn â'r cais (pa un ai mewn gwrandawiad llafar ai peidio); a

(b)ar unrhyw adeg wedi i'r tribiwnlys ddechrau ystyried y dystiolaeth ynglŷn â'r cais (pa un ai mewn gwrandawiad llafar ai peidio), ar yr amod—

(i)y bodlonir y tribiwnlys fod y partïon eraill yn cydsynio â thynnu'r cais yn ôl; a

(ii)bod y tribiwnlys yn cydsynio â thynnu'r cais yn ôl.

(2Rhaid i'r parti sy'n tynnu'n ôl hysbysu ei fod yn tynnu'r cais yn ôl drwy gyflwyno i'r tribiwnlys hysbysiad wedi ei lofnodi a'i ddyddio, sy'n—

(a)rhoi manylion digonol i alluogi adnabod y cais neu'r rhan o'r cais a dynnir yn ôl;

(b)datgan a oes unrhyw ran o'r cais yn weddill ac eto i'w benderfynu, ac os felly, pa ran; ac

(c)cadarnhau bod copi o'r hysbysiad bod y cais wedi ei dynnu'n ôl wedi ei gyflenwi i bob un o'r partïon eraill, a'i fod yn nodi'r dyddiad y gwnaed hynny.

(3Os bydd unrhyw un o'r amgylchiadau ym mharagraff (4) yn bodoli, ni fydd tynnu'r cais yn ôl yn cael effaith hyd nes cyflawnir un o'r ffyrdd o weithredu ym mharagraff (6).

(4Yr amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff (3) yw—

(a)bod y tribiwnlys wedi gwahodd y partïon yn yr achos—

(i)i gyflwyno sylwadau i'r tribiwnlys ynglŷn ag a ddylid gwneud ad-daliad i unrhyw barti ar ffurf digollediad, iawndal, costau neu ad-daliad ffioedd; a

(ii)i ymateb i unrhyw sylwadau a gafwyd gan y tribiwnlys o dan baragraff (i);

ac ar ôl ystyried unrhyw sylwadau a wnaed i'r tribiwnlys gan unrhyw barti o dan yr is-baragraff hwn, bod y tribiwnlys wedi gwneud pa bynnag orchymyn, o ran talu digollediad, iawndal, costau neu ad-daliad ffioedd, y dylid ei wneud, ym marn resymol y tribiwnlys, ar ôl ystyried holl amgylchiadau'r achos;

(b)bod gorchymyn interim er budd un o'r partïon wedi ei wneud; neu

(c)bod parti wedi rhoi ymrwymiad i'r tribiwnlys.

(5Wrth wahodd sylwadau gan y partïon o dan is-baragraff (4)(a), caiff y tribiwnlys roi cyfarwyddyd i'r partïon ynglŷn â'r amser a ganiateir ar gyfer darparu sylwadau o'r fath.

(6Y ffyrdd o weithredu a grybwyllir ym mharagraff (3) yw—

(a)bod y parti sy'n tynnu'n ôl wedi anfon at y tribiwnlys ddatganiad ysgrifenedig, a lofnodwyd gan bob un o'r partïon eraill, sy'n pennu'r modd yr ymdrinnir ag unrhyw orchymyn a wnaed o dan baragraff (4)(a), unrhyw orchymyn interim a wnaed o dan baragraff (4)(b) neu unrhyw ymrwymiad a roddwyd o dan baragraff (4)(c), sy'n gymwys i'r achos; neu

(b)bod y parti sy'n tynnu'n ôl wedi rhoi hysbysiad o'r bwriad i dynnu'n ôl i bob un o'r partïon, ac—

(i)bod y parti sy'n tynnu'n ôl wedi gofyn i'r tribiwnlys roi cyfarwyddiadau ynghylch o dan ba amodau y ceir tynnu'r cais yn ôl; a

(ii)bod y tribiwnlys wedi rhoi cyfarwyddiadau o'r fath.

(7Wrth roi cyfarwyddiadau o dan baragraff (6)(b)(ii) caiff y tribiwnlys osod pa bynnag amodau a ystyria'n briodol.

(8Caiff aelod cymwysedig unigol o'r panel wneud gorchymyn o dan baragraff (4)(b), neu roi cyfarwyddiadau o dan baragraff (5) neu (6)(b)(ii).